Diweddariad misol – ymchwiliadau a gwblhawyd
Diweddariad yr ymchwiliad
Gwnaeth y Comisiwn Etholiadol gyhoeddi'r manylion am yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf heddiw. Mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU.
Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac y rhoddwyd sancsiynau:
Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Penderfyniad | Canlyniad |
---|---|---|---|
British Resistance (plaid gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Cosb ariannol amrywiadwy o £300 | Yn ddyledus erbyn 24 Ebrill 2019 |
The Entertainer Party (plaid gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Yn ddyledus erbyn 24 Ebrill 2019 |
'Taking the Initiative' (plaid gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr; Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Yn ddyledus erbyn 3 Mai 2019 |
Y Blaid Lafur (Uned gyfrifyddu Watford) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Talwyd ar 7 Ebrill 2019 |
Wrth roi sylwadau ar y dirwyon, dywedodd Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn, Louise Edwards:
Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae'n siomedig gweld pleidiau yn methu â chydymffurfio. Mae'r gyfraith yn nodi pryd a sut i gyflwyno data ariannol i'r Comisiwn yn glir.
Rhaid i bob plaid wleidyddol gofrestredig gydymffurfio â'r un cyfreithiau, ni waeth beth fo'i maint. Byddwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac na roddwyd sancsiynau:
Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Penderfyniad | Canlyniad |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Uned gyfrifyddu Wells) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Dim sancsiwn | Wedi cau heb gamau pellach |
Y Democratiaid Rhyddfrydol (Uned gyfrifyddu Dinas Bradford) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Dim sancsiwn | Wedi cau heb gamau pellach |
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.