Diweddariad misol – ymchwiliadau a gwblhawyd
Diweddariad yr ymchwiliad
Heddiw, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi manylion yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf. Mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau tryloywder cyllid gwleidyddol yn y DU.
Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac y rhoddwyd sancsiynau:
Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Penderfyniad | Canlyniad |
---|---|---|---|
Y Democratiaid Rhyddfrydol (Uned gyfrifyddu Kensington a Chelsea) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Talwyd ar 25 Ebrill 2019 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol (Uned gyfrifyddu Camborne, Redruth a Hayle) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Talwyd ar 25 Ebrill 2019 |
‘Scottish Democratic Alliance’ (plaid gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Cosb ariannol benodedig o £200 | Yn ddyledus erbyn 12 Mehefin 2019 |
Wrth roi sylwadau ar y dirwyon, dywedodd Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn, Louise Edwards:
Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae bob amser yn siomedig gweld pleidiau a’u hunedau cyfrifyddu yn methu â chydymffurfio. Mae'r gyfraith yn nodi pryd a sut i gyflwyno data ariannol i'r Comisiwn yn glir.
Rhaid i bob plaid wleidyddol ac uned gyfrifyddu gofrestredig gydymffurfio â'r un cyfreithiau. Byddwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704, (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.