Diweddariad misol - ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Diweddariad yr ymchwiliad
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau a rhoddwyd cosbau:
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
---|---|---|---|
Friends Party (plaid wedi dadgofrestru) | Methu â danfon cofnodion rhoddion chwarterol ar amser | 4 x £600 cosbau ariannol amrywiol | Taliad yn ddyledus erbyn 11 Mawrth 2019 |
Scotland's Independence Referendum Party (plaid gofrestredig) | Methu â darparu datganiad cyfrifon ar gyfer 2017 | £1,000 o gosb ariannol amrywiol | Taliad yn ddyledus erbyn 11 Mawrth 2019 |
Women's Equality Party (plaid gofrestredig) | Adroddiadau cyn y bleidlais wythnosol gwallus cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 ac adroddiad rhoddion chwarterol gwallus | £600 a £250 cosbau ariannol amrywiol | Talwyd ar 23 Ionawr 2019 |
Trade Unionists Against The European Union (cyfranogwr a ganiateir yn Refferendwm yr UE) | Talu treuliau ymgyrch tu allan i'r 60 diwrnod | £250 o gosb ariannol amrywiol | Talwyd ar 7 Ionawr 2019 |
Matriarchal Party United Kingdom Great Britain (plaid gofrestredig) | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | £200 o gosb ariannol benodol | Talwyd ar 7 Ionawr 2019 |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan fo pleidiau ac ymgyrchwyr yn methu â chydymffurfio. Mae'r gyfraith yn nodi'n glir pryd bod gofyn cyflwyno data i'r Comisiwn a sut.
Byddwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.