Diweddariad misol - ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau a rhoddwyd cosbau
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
---|---|---|---|
Wandsworth Planning Reform Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr | £600 o gosb ariannol amrywiol | Taliad yn ddyledus erbyn 30 Hydref 2019 |
Plumstead Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr | £300 o gosb ariannol amrywiol | Talwyd 30 Medi 2019 |
Y Blaid Werdd (uned gyfrifo Bryste) | Dosbarthu cyfrifon blynyddol yn hwyr | £200 o gosb ariannol penodol | Talwyd ar 3 Hydref 2019 |
Quote from Louise Edwards
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
"Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae hi wastad yn siom pan fo pleidiau a'u canolfannau cyfirfyddiaeth yn methu â darparu adroddiadau cywir. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data llawn a chywir o ble mae arian y pleidiau yn dod.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen."
Other investigations
Ymchwiliadau lle na rhoddwyd cosbau:
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
---|---|---|---|
Mossley Independent Community Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr | Dim cosb | Troseddau wedi'u darganfod. Cau'r achos heb gamau pellach |
Independent Alliance (Kent) (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr | Dim cosb | Troseddau wedi'u darganfod. Cau'r achos heb gamau pellach |
Scotland – Unhyphenated (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr | Dim cosb | Troseddau wedi'u darganfod. Cau'r achos heb gamau pellach |
British Centre Left Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiad trafodion chwarterol yn hwyr | Dim cosb | Troseddau wedi'u darganfod. Cau'r achos heb gamau pellach |
Centrum Campaign Ltd | Gwario gwariant sy'n fwy na'r trothwy cofrestru ar gyfer ymgyrchydd trydydd parti | Dim cosb | Dim troseddau wedi'u darganfod. Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.
Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol yn ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.