Dylai deisebau i adalw ASau adlewyrchu cyfrinachedd y bleidlais, yn ôl adroddiad newydd
Summary
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi gwneud argymhellion heddiw i wella'r broses o adalw ASau presennol, gan gynnwys yr angen i ddiogelu cyfrinachedd unigolion sy'n dewis llofnodi'r ddeiseb.
Mae'r adroddiad yn ystyried tystiolaeth o'r dair deiseb adalw gyntaf a gynhaliwyd - yn etholaethau Peterborough, Brycheiniog a Sir Faesyfed a Gogledd Antrim - ers iddynt gael eu cyflwyno yn 2015. Daw i'r casgliad i'r deisebau hyn gael eu cynnal yn dda, ond mae'n argymell newidiadau y mae angen i Lywodraeth y DU eu hystyried i wella proses sy'n newydd i ddinasyddion, gwleidyddion, pleidiau, ymgyrchwyr a gweinyddwyr.
Mae'r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad i Lywodraeth y DU eu hystyried, gan gynnwys yr angen i ystyried sut y gellir sicrhau bod proses y ddeiseb yn gyfrinachol; ac mae'r Comisiwn yn cynnig un ffordd o wneud hyn, sef rhoi'r cyfle i etholwyr cymwys nodi eu bod yn gwrthwynebu'r ddeiseb.
Quote from Craig Westwood, Director of Communications, Policy and Research
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil:
"Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad, caiff y ffordd rydych wedi dewis pleidleisio ei diogelu gan gyfrinachedd y bleidlais. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am ddeiseb adalw; pan fyddwch yn cyrraedd man llofnodi, mae'n amlwg eich bod yno i lofnodi'r ddeiseb i adalw eich AS. Mae cyfrinachedd yn egwyddor bwysig yn ein democratiaeth, ac felly rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried ffyrdd o liniaru'r broblem. Gallai hyn gynnwys cyflwyno dull sy'n cyfateb i'r daflen lofnodi ar gyfer y rhai sy'n gwrthwynebu'r ddeiseb.
"Rydym yn barod i gydweithio â'r Llywodraeth i ddatblygu unrhyw gynigion a fyddai'n diogelu cyfrinachedd y bleidlais. Nod ein holl argymhellion yw ceisio gwella'r profiad i'r rhai sy'n penderfynu llofnodi deisebau yn y dyfodol, a hwyluso'r broses i swyddogion deisebau gynnal y broses yn effeithiol.
"Er gwaethaf y gwelliannau rydym wedi'u hargymell i'r rheolau, dylai Swyddogion Deisebau y deisebau adalw hyn gael eu canmol am gynnal deisebau adalw llwyddiannus wedi'u trefnu'n dda drwy gydol y cyfnod llofnodi o chwe wythnos."
Further information
Mae argymhellion eraill yn cynnwys lleihau hyd cyfnod deiseb, o chwe wythnos i bedair wythnos, gan gynyddu oriau mannau llofnodi er mwyn galluogi pobl i'w cyrraedd ar adegau sy'n fwy cyfleus yn ystod y diwrnod. Mae gwaith ymchwil gan y Comisiwn yn dangos bod 79% o'r rhai a wnaeth lofnodi'r ddeiseb yn Peterborough a 70% o'r rhai a wnaeth lofnodi ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wedi gwneud hynny yn ystod pythefnos cyntaf y cyfnod llofnodi.
Mae'r argymhellion pellach i Lywodraeth y DU eu hystyried yn cynnwys egluro amseroedd cau mannau llofnodi ar ddiwrnod olaf y ddeiseb yn well yn ogystal â'r dyddiad cau ar gyfer derbyn papurau llofnodi drwy'r post.
Diwedd
Other information
Mae adroddiad llawn ar gael ar wefan y Comisiwn. Mae taflenni ffeithiau hefyd ar gael ar gyfer y ddwy ddeiseb adalw – Peterborough, Brycheiniog a Sir Faesyfed
Mae taflen ffeithiau sy'n darparu gwybodaeth am reolau deisebau adalw hefyd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg yn y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid,
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r Ddeddf Adalw ASau (2015) yn nodi nifer o droseddau a allai arwain at ddeiseb adalw. Os bydd o leiaf 10% o'r etholaeth yn llofnodi'r ddeiseb, bydd yr AS yn colli ei sedd a chaiff isetholiad ei gychwyn. Ar ôl i Swyddog Deisebau agor deiseb adalw, rhaid iddi fod ar agor i'w llofnodi am chwe wythnos.
Mae rôl y Swyddog Deisebau yn cynnwys:
- Agor deiseb adalw
- Goruchwylio'r gwaith o weinyddu'r ddeiseb, yn cynnwys cyhoeddi cofrestr o etholwyr a all lofnodi'r ddeiseb a hysbysu'r etholwyr hynny am y ddeiseb
- Cyhoeddi’r canlyniad, yn cynnwys hysbysu Llefarydd Tŷ'r Cyffredin
- Derbyn ffurflenni rhoddion a gwariant a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio
Rhaid i ymgyrchwyr sy'n bwriadu gwario mwy na £500 mewn deiseb adalw gofrestru â'r Swyddog Deisebau perthnasol. Yna rhaid iddynt gyflwyno ffurflenni gwariant i'r Swyddog Deisebau o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y caiff canlyniad y ddeiseb ei gyhoeddi.
Roedd tri ymgyrchydd cofrestredig ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Gwnaethant nodi cyfanswm gwariant o £13,365.87.
Roedd pum ymgyrchydd cofrestredig yn Peterborough. Gwnaeth y tri ymgyrchydd cofrestredig sydd wedi cyflwyno eu ffurflenni gwariant nodi cyfanswm gwariant o £6,988.79.
Roedd dau ymgyrchydd cofrestredig yng Ngogledd Antrim. Gwnaethant nodi cyfanswm gwariant o £4,178.
Mae gan y Comisiwn Etholiadol gyfrifoldeb statudol i adrodd yn ôl ar ddeisebau adalw.