Dylai'r Llywodraeth barhau gyda'r newid i'r gyfraith fel bod pleidleiswyr yn gwybod pwy sy'n eu targedu ar-lein yn ôl cyngor gan y Comisiwn Etholiadol.
Dod â newidiadau i'r gyfraith
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn argymell dylai'r Llywodraeth barhau i gymryd camau i gyflwyno newidiadau brys i'r gyfraith fel bod pleidleiswyr yn gallu gweld pwy sy'n gyfrifol am ddeunydd etholiad a refferendwm ar-lein.
Yn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU Protecting the Debate, mae'r Comisiwn Etholiadol yn argymell:
- Dylai unrhyw ddeunydd etholiadol neu refferendwm gynnwys "argraffnod" fe bod pleidleiswyr yn gallu gweld pwy sy'n eu targedu.
- Dylai unrhyw reoliadau newydd fod yn berthnasol i unrhyw blatfform ar-lein, hyd yn oed y rheiny sydd heb eu datblygu eto. Byddai'r ymdriniaeth platfform-niwtral yma yn helpu i sicrhau bod rheoliadau'n addas yn y dyfodol, gydag unrhyw newidiadau i dechnoleg.
- Bod y Comisiwn yn cael mwy o bwerau i gael gwybodaeth o blatfformau digidol - megis pwy yw ymgyrchwyr ar-lein - i helpu monitro, tracio a gorfodi'r rheolau gwariant tu allan i ymchwiliad ffurfiol.
Dywedodd Claire Bassett , Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
Mae estyn y rheolau argraffnod etholiadau a refferenda i ddeunyddiau ymgyrchu digidol yn newid brys sydd ei angen ar bleidleiswyr. Mae'r bwlch mewn tryloywder yn effeithio hyder pleidleiswyr ac yn ei gwneud hi'n anos gorfodi’r rheolau gwario. Ry'n ni'n croesawu ymgynghoriad Llywodraeth y DU ac yn barod i weithio gyda nhw i sicrhau bod rheoliadau newydd yn gallu gweithio ac yn blatfform-niwtral, gan helpu eu gwneud yn addas i'r dyfodol, gyda newidiadau mewn technoleg.
Mwy o ddiwygiadau i amddiffyn ymgyrchwyr a phleidleiswyr rhag bygythiad
Mae ymgynghoriad Llywodraeth y DU hefyd yn gofyn am farn ar beth y gellir ei wneud i ddiogelu ymgyrchwyr a phleidleiswyr rhag cael eu bygwth a'u brawychu.
Ry'n ni'n cytuno y gallai rhoi cosbau etholiadau i droseddau presennol - fyddai'n golygu bod troseddwyr yn cael eu rhwystro rhag sefyll i'w hethol - gryfhau rhwystrau presennol rhag bygwth ymgeiswyr ac ymgyrchwyr.
Ry'n ni hefyd yn cefnogi moderneiddio a symleiddio troseddau sydd wedi'u dylunio i amddiffyn pleidleiswyr rhag eu bygwth. Mae ein hymateb yn croesawu adolygiad Llywodraeth y DU o'r drosedd o ddylanwad gormodol, ond mae'n rhybuddio y dylid gwneud newidiadau fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o droseddau etholiadol i gyd, fel nodwyd yn argymhellion Comisiynau'r Gyfraith y DU yn 2016 a gefnogwyd.
Ychwanegodd Claire Bassett:
Mae'n rhaid bod pobl yn gallu sefyll i'w hethol ac ymgyrchu heb boeni am gael eu bygwth, a dylai pleidleiswyr byth cael eu gorfodi i bleidleisio mewn ffordd benodol neu ddim o gwbl. Mae Comisiynau'r Gyfraith y DU wedi gosod pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau y dylai Llywodraeth y DU weithredu i helpu mynd i'r afael â nifer o'r problemau gyda chyfreithiau etholiadol cymhleth a hynafol y DU.
Y dyddiad olaf i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU yw dydd Llun 22 Hydref. Mae ymateb y Comisiwn ar gael ar y wefan.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad yn gosod nifer o feysydd lle mae angen gwell tryloywder ymgyrchu digidol, gan gynnwys y rhan y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ei chwarae.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth,
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae ymgynghoriad Llywodraeth y DU yn gofyn p'un a dylai trosedd etholiadol newydd dynnu hawl troseddwr i bleidleisio. Nid ydym yn cytuno y dylai unigolyn sydd wedi eu cael yn euog o fygwth ymgeisydd neu ymgyrchydd golli eu hawl i bleidleisio. Mae mwy o wybodaeth ym mharagraffau 1.6-1.10 ein hymateb.
- Mae mwy o wybodaeth ar adolygiad Comisiynau'r Gyfraith o gyfraith etholiadol ar eu gwefan