Gweld y canllawiau

Rydym yn darparu canllawiau ac adnoddau i helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u staff i gynnal y broses cofrestru etholiadol a'r canfasiad blynyddol. Gallwch weld ein holl ganllawiau ac adnoddau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol drwy glicio ar y botwm Nesaf isod.

Link to instructions

Rydym wedi llunio canllaw a ddylai ateb unrhyw ymholiadau cychwynnol sydd gennych ynglŷn â sut i hidlo a chwilio am ganllawiau.

Ystyriaethau allweddol ar gyfer rhoi Deddf Etholiadau 2022 ar waith

Rydym wedi cyhoeddi dau ganllaw sy’n tynnu sylw at feysydd cynllunio allweddol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o ran Deddf Etholiadau 2022. Yn y canllaw cyntaf rydym yn cwmpasu’r gofynion newydd o dan y darpariaethau ID Pleidleisiwr a hygyrchedd, ac yn yr ail ganllaw rydym yn cwmpasu’r darpariaethau amrywiol sydd wedi’u cynnwys yng Ngham 2, a fydd yn cael eu rhoi ar waith trwy gydol 2023 a 2024. Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar ein gwybodaeth gyfredol am gynlluniau gweithredu Llywodraeth y DU a byddant yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen. Byddwn yn tynnu sylw at bryd y gwneir unrhyw newidiadau mewn rhifynnau o’r Bwletin Gweinyddu Etholiadol yn y dyfodol.

 

Cynnwys cysylltiedig arall

Gallwch ddefnyddio'r dolenni isod i ddod o hyd i ffurflenni, llythyrau ac amlenni enghreifftiol ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol neu i ddod o hyd i ganllawiau i Swyddogion Canlyniadau.