Safonau Perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Overview
Mae ein hadroddiadau yn asesu pa mor effeithiol mae'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cyflawni eu dyletswydd o gynnal cofrestrau etholiadau cywir a chyflawn.
Safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Ynghyd â'r canllawiau a'r adnoddau a ddarparwyd gan y Comisiwn, mae'r safonau perfformiad yn rhan o becyn sy'n ceisio cefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynllunio a darparu gwasanaethau cofrestru etholiadol effeithiol ledled Prydain Fawr.
Lawrlwytho’r safonau perfformiad
Gweld fersiwn hygyrch y safonau
Pa fewnbwn sydd ei angen?
Dealltwriaeth Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chyflawni'r rôl a'r cyfrifoldebau
Rheoli a goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r gwasanaeth cofrestru etholiadol, gan gynnwys swyddogaethau statudol y Swyddog Cofrestru Etholiadol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
Cynllunio
Cynnal cynllun ar gyfer cofrestru drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau y caiff ei adolygu'n gyson a'i werthuso, gan fwydo'r gwersi a ddysgwyd yn ôl, a chofrestr risgiau a phroblemau, gan nodi unrhyw risgiau i weithrediad effeithiol eich cynllun cofrestru a chamau gweithredu lliniarol cyfatebol
Adnoddau
Nodi a dyrannu cyllideb a staff ar gyfer gweithgareddau cofrestru etholiadol
Hyfforddiant
Nodi a darparu hyfforddiant i ddiwallu anghenion staff dros dro a staff parhaol
Pa weithgareddau yr ymgymerir â nhw?
Nodi'r rhai nad ydynt wedi cofrestru, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd
- Defnyddio'r data sydd ar gael a ffynonellau gwybodaeth, nodi'r rhai nad ydynt wedi cofrestru, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd
- Datblygu a chynnal strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd, gan sicrhau bod gweithgareddau cynlluniedig wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion grwpiau gwahanol o etholwyr
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
- Dadansoddi cwmpas a defnyddioldeb y data a'r wybodaeth
- Dadansoddi'r ardal gofrestru ar lefel ward
- Nodi ardaloedd â blaenoriaeth er mwyn targedu gweithgarwch cofrestru
- Gwerthuso sianeli a dulliau cyfathrebu, gan gynnwys dadansoddiad cost a budd o weithgarwch blaenorol, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu strategaeth ymgysylltu a gweithgareddau
Ymgymryd â gweithgarwch cofrestru drwy'r flwyddyn
- Cynnal y gronfa ddata eiddo
- Cysylltu ag etholwyr cymwys posibl, gan gynnwys cynnal gwaith i dargedu grwpiau anodd eu cyrraedd
- Sicrhau bod y rhai nad ydynt yn gymwys i gael eu cofrestru mwyach yn cael eu nodi a'u tynnu oddi ar y gofrestr
- Datblygu a gweithredu prosesau i nodi a mynd i'r afael â materion uniondeb posibl
- Rheoli etholwyr categori arbennig
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
- Nifer yr eiddo â rhif cyfeirnod eiddo unigryw (UPRN)/fel canran o'r eiddo
- Dadansoddi unrhyw faterion y rhoddir gwybod amdanynt o ran dyrannu eiddo i ddosbarthiadau pleidleisio er mwyn adlewyrchu ffiniau etholiadol perthnasol
- Cywirdeb a defnyddioldeb y ffynonellau data a ddefnyddir
- Dadansoddi cyfraddau ymateb yn ôl sianel er mwyn deall effaith gwahanol ddulliau gweithredu
- Nifer y Gwahoddiadau i Gofrestru a anfonwyd (yn ôl sianel)
- Nifer y Gwahoddiadau i Gofrestru y dilynwyd eu trywydd
- Nifer y gwahoddiadau i gofrestru nad ymatebwyd iddynt ar ôl y camau atgoffa ac ymweliad personol
- Nifer yr etholwyr nad yw eu manylion adnabod wedi'u dilysu ac nad ydynt wedi darparu tystiolaeth ddogfennol eto yn ôl math e.e. etholwyr cyffredin, etholwyr tramor ac ati Nifer y ceisiadau cofrestru a gafwyd yn ôl math e.e. etholwyr cyffredin, etholwyr tramor ac ati Nifer yr ychwanegiadau at y gofrestr yn ôl math e.e. etholwyr cyffredin, etholwyr tramor ac ati
- Nifer yr adolygiadau cofrestru a'r nifer y cafodd eu henwau eu dileu o ganlyniad i hynny
- Nifer y dileadau nad oeddent o ganlyniad i adolygiad, yn ôl math
- Nifer y ceisiadau cofrestru a ailgyfeiriwyd at yr heddlu
- Nifer y ceisiadau adnewyddu a anfonwyd yn ôl math o etholwr
- Nifer y ceisiadau etholwyr categori arbennig (ceisiadau newydd a cheisiadau adnewyddu) a broseswyd, gan grwpiau etholwyr gwahanol (tramor, gwasanaeth ac ati)
- Nifer yr etholwyr categori arbennig a adnewyddwyd yn ôl math o etholwr
Gweinyddu'r canfasiad
- Defnyddio data a gwybodaeth, nodi'r dull mwyaf priodol i ganfasio eiddo yn eich ardal
- Gwneud trefniadau i ddarparu'r gweithgareddau canfasio a gynlluniwyd
- Ymgymryd â'r gweithgareddau canfasio a gynlluniwyd
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
- Cywirdeb a defnyddioldeb y ffynonellau data lleol a ddefnyddir
- Canlyniadau paru data (cenedlaethol a lleol)
- Nifer yr aelwydydd a fwriadwyd ar gyfer pob llwybr
- Dadansoddi'r sianeli cyfathrebu sydd ar gael (e-gyfathrebu, ffôn, post ac ati), er mwyn llywio'r cyswllt ag eiddo unigol
- Nifer yr aelwydydd a ganfasiwyd, yn ôl llwybr a sianel
- Nifer yr ohebiaeth a anfonwyd, yn ôl llwybr a sianel
- Nifer yr ymatebion, yn ôl llwybr a sianel
- Asesu llwyddiant y sianeli cyfathrebu canfasio a ddefnyddiwyd
- Nifer y canfaswyr a recriwtiwyd ac a hyfforddwyd
- Gwerthusiad o berfformiad canfaswr
Gweinyddu’r broses Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
- Datblygu a chynnal strategaeth ymgysylltu ar gyfer y rheiny sy’n llai tebygol o fod â cherdyn adnabod gofynnol, ar sut i gael Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
- Prosesu ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
- Rheoli cynhyrchiad a dosbarthiad Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr dros dro
- Prosesu ceisiadau dogfen Etholwr Dienw
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
- Adnabod y rheiny sy’n llai tebygol o fod â cherdyn adnabod, gan gefnogi targedu gweithgarwch
- Gwerthuso sianeli a dulliau cyfathrebu, gan gefnogi datblygiad a darpariaeth strategaeth a gweithgareddau ymgysylltu
- Nifer y ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a gafwyd yn ôl sianel
- Nifer y ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a broseswyd
- Nifer y ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a wrthodwyd
- Nifer y Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a anfonwyd
- Nifer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro a anfonwyd
- Nifer y ceisiadau dogfen Etholwyr Dienw a dderbyniwyd ac a broseswyd
- Nifer y ceisiadau dogfen Etholwr Dienw a wrthodwyd
- Nifer y dogfennau Etholwyr Dienw a gyhoeddwyd
Pa wahaniaeth sy'n cael ei wneud?
- Deall demograffeg yr ardal gofrestru ac anghenion grwpiau o etholwyr yn yr ardal honno, gan alluogi gwasanaethau i gael eu targedu a'u cynllunio i ddiwallu anghenion trigolion
- Rhwystrau i gofrestru wedi'u lleihau, gan alluogi pob unigolyn cymwys, yn cynnwys y rhai o grwpiau etholwyr gwahanol, i gofrestru
- Nodi etholwyr newydd posibl a sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i gofrestru i bleidleisio
- Nodi newidiadau yn statws cofrestru unigolion a'u cymhwyso at y gofrestr mewn modd amserol
- Caiff etholiadau eu cefnogi'n effeithiol gan y gofrestr
- Gall pleidleiswyr heb gerdyn adnabod cael Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr i’w galluogi i fwrw eu pleidlais yn bersonol
Sut gallwn benderfynu ar lwyddiant ein gwaith?
- Nodi perfformiad yn erbyn y DPAau/amcanion yn eich cynlluniau cofrestru
- Gwerthuso gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yr ymgymerwyd â nhw, gan gynnwys newidiadau a wnaed i'r gofrestr o ganlyniad i'r gweithgarwch
- Newidiadau yn y lefelau cofrestru yn yr ardal gofrestru yn gyffredinol ac o fewn grwpiau a nodwyd, lle na cheir lefelau cofrestru digonol
- Asesiad o lefelau'r ychwanegiadau a dileadau, yn ystod y canfasiad a thrwy gydol y flwyddyn
- Dadansoddiad o flwyddyn i flwyddyn o'r ychwanegiadau a'r dileadau
- Asesu nifer yr etholwyr cymwys a oedd wedi ceisio pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, ond nad oeddent wedi gallu gwneud hynny am nad oeddent wedi cofrestru i bleidleisio neu nad oeddent wedi gallu pleidleisio oherwydd nad oedd ganddynt gerdyn adnabod priodol (mewn etholiadau perthnasol)
Pa fewnbwn sydd ei angen?
Dealltwriaeth Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chyflawni'r rôl a'r cyfrifoldebau
Rheoli a goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r swyddogaeth pleidleisio absennol, gan gynnwys cyfrifoldebau statudol Swyddog Cofrestru Etholiadol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
Cynllunio
Cynnal cynllun drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys trefniadau ar gyfer rheoli'r broses pleidleisio absennol, a chofrestr risgiau a phroblemau, gan nodi unrhyw risgiau i'r broses o gyflawni eich cynllun cofrestru a chamau lliniaru cyfatebol yn effeithiol.
Adnoddau
Nodi a dyrannu cyllideb ar gyfer staff ac ar gyfer gweithgareddau pleidleisio
Hyfforddiant
Nodi a darparu hyfforddiant i ddiwallu anghenion staff dros dro a staff parhaol
Pa weithgareddau yr ymgymerir â nhw?
Cefnogi etholwyr i ymgysylltu â'r broses pleidleisio absennol
- Datblygu a gweithredu cynllun cyfathrebu er mwyn sicrhau bod etholwyr yn ymwybodol o'r opsiynau pleidleisio absennol sydd ar gael iddynt
- Sicrhau y gall yr holl etholwyr ddefnyddio'r broses pleidleisio absennol
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
- Gwerthuso gwybodaeth sydd ar gael i etholwyr eraill am y broses pleidleisio absennol er mwyn eu helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt
- Nifer y ceisiadau pleidleisio absennol gan grwpiau gwahanol o etholwyr (tramor, gwasanaeth ac ati), yn ôl math (pleidlais bost neu drwy ddirprwy)
- Nifer a math o gwynion a gafwyd am y gallu i ddefnyddio'r broses pleidleisio absennol gan grwpiau etholwyr gwahanol (arferol, tramor, gwasanaeth ac ati.)
Gweinyddu prosesau pleidleisio absennol
- Prosesu ceisiadau newydd
- Prosesu newidiadau y gofynnwyd amdanynt i'r dewisiadau pleidleisio absennol
- Cynnal cofnodion a rhestrau pleidleisio absennol
- Ymgymryd â’r broses adnewyddu/ailymgeisio pleidleisiau post (pan yn berthnasol)
- Datblygu a gweithredu prosesau i nodi a mynd i'r afael â materion uniondeb posibl
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
- Nifer y ceisiadau pleidlais absennol a gafwyd yn ôl sianel
- Nifer y ceisiadau pleidlais absennol a gafwyd yn ôl math (pleidlais bost neu drwy ddirprwy)
- Nifer y ceisiadau pleidlais absennol a wrthodwyd
- Nifer y cofrestriadau pleidlais absennol a gadarnhawyd
- Nifer y newidiadau i'r trefniadau pleidleisio a broseswyd
- Nifer yr hysbysiadau adnewyddu pleidlais absennol a anfonwyd ac y dilynwyd eu trywydd, a nifer yr ymatebion a broseswyd yn ôl math e.e. etholwyr cyffredin, etholwyr tramor ac ati Nifer y ceisiadau pleidlais bost i bleidleisiau post cael eu hailgyfeirio i un cyfeiriad
- Nifer y ceisiadau post o un cyfeiriad
- Nifer y ceisiadau pleidlais drwy ddirprwy o un cyfeiriad
- Nifer y ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng yn ôl math
- Nifer y ceisiadau a ailgyfeiriwyd at yr heddlu i ymchwilio iddynt
Pa wahaniaeth sy'n cael ei wneud?
- Gall etholwyr wneud penderfyniad hyddysg o ran pa ddull pleidleisio sydd orau iddynt
- Rhwystrau i bleidleisio absennol wedi'u lleihau, gan alluogi pob unigolyn cymwys, yn cynnwys y rhai o grwpiau etholwyr gwahanol, i wneud cais
- Nodi newidiadau i drefniadau pleidleisio a'u cymhwyso at y rhestr mewn modd amserol
- Cynnal uniondeb cofnodion pleidleisio absennol
Sut gallwn benderfynu ar lwyddiant ein gwaith?
- Nodi perfformiad yn erbyn y DPAau/amcanion yn eich cynlluniau
- Dadansoddi cwynion ac adborth a gafwyd am y gallu i ddefnyddio'r broses pleidleisio absennol
- Asesu nifer a mathau o wallau yn y rhestrau pleidleiswyr absennol
Pa fewnbwn sydd ei angen?
Dealltwriaeth Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chyflawni'r rôl a'r cyfrifoldebau
Rheoli a goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r cofrestrau etholiadol, gan gynnwys swyddogaethau statudol Swyddog Cofrestru Etholiadol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
Cynllunio
Cynnal cynllun drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys manylion cyhoeddi a chyflenwi'r gofrestr a threfniadau ar gyfer rheoli systemau'n ddiogel, a chofrestr risgiau a phroblemau, gan nodi unrhyw risgiau i'r broses o gyflawni eich cynllun cofrestru a chamau lliniaru cyfatebol yn effeithiol
Adnoddau
Nodi a dyrannu cyllideb a staff ar gyfer gweithgareddau cofrestru etholiadol
Hyfforddiant
Nodi a darparu hyfforddiant i ddiwallu anghenion staff dros dro a staff parhaol
Pa weithgareddau yr ymgymerir â nhw?
Cyhoeddi a chyflenwi'r gofrestr etholiadol
- Cynnal cofnod o'r rhai sy'n gymwys i gael y rhestr etholiadol
- Cyflenwi'r gofrestr etholiadol yn ddiogel i dderbynwyr
- Cyflenwi cofrestrau etholiadol mewn modd amserol a chywir i'r Swyddog Canlyniadau i gefnogi'r broses o gynnal etholiadau
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
- Gwerthuso trefniadau i gyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig a diweddaru'r gofrestr bob mis
- Gwerthuso trefniadau i gyflenwi'r gofrestr i'r rhai sy'n gymwys i'w chael
- Nifer y ceisiadau a gafwyd, nifer y ceisiadau a gymeradwywyd a phryd y cawsant eu cyflenwi
- Llwybrau archwilio sy'n dangos sut a phryd y cafodd data eu trosglwyddo
- Gwerthuso dulliau o drosglwyddo data
- Prosesau i sicrhau seiberddiogelwch
- Amseru'r broses o ddarparu'r cofrestrau
- Darparu gwybodaeth i'r sawl sy'n derbyn y gofrestr am sut i'w defnyddio'n briodol
Pa wahaniaeth sy'n cael ei wneud?
- Mae pawb sy'n gymwys i gael y gofrestr yn cael y data yn brydlon ac mewn fformat priodol
- Mae gan etholwyr hyder yn y ffordd y mae eu data yn cael eu llunio, eu cyrchu a'u defnyddio
- Caiff data personol eu prosesu'n gyfreithlon ac yn dryloyw
Sut gallwn benderfynu ar lwyddiant ein gwaith?
- Nodi perfformiad yn erbyn y DPAau/amcanion yn eich cynlluniau
- Dadansoddi cwynion a gafwyd mewn perthynas â darparu'r cofrestrau
- Dadansoddi cwynion gan etholwyr am y ffordd y caiff eu data eu prosesu
Ynghylch y safonau
Mae'r safonau newydd arfaethedig yn canolbwyntio o ran y canlyniadau y dylid eu cyflawni, yn hytrach na'r prosesau sy'n cael eu dilyn, gyda'r nod o helpu EROs a'u timau i ddeall effaith eu gweithgareddau cofrestru etholiadol. Dylai hyn helpu EROs i wneud penderfyniadau gwybodus ar ba weithgareddau sy'n cael eu cyflawni, sut mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflawni a sut y gellir defnyddio eu hadnoddau cyfyngedig yn effeithlon ac yn effeithiol.
Amcanion y safonau perfformiad
- Cefnogi EROs a’u timau i gyflawni gwasanaethau cofrestru etholiadol effeithlon ac effeithiol, a’u galluogi i ddangos effaith eu gweithgaredd cofrestru etholiadol
- Darparu sicrwydd i’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol (megis pleidiau gwleidyddol ac aelodau etholedig) bod EROs yn gwneud popeth a allant i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio ac yn dymuno pleidleisio yn gallu gwneud hynny
Beth mae'r safonau yn eu cynnwys?
Canlyniad:
Mae hwn yn datgan yr amcan bras y dylai EROs geisio ei gyflawni. Mae’r safonau perfformiad yn gosod tri amcan bras y dylai EROs geisio eu cyflawni.
- Mae cofrestrau etholiadol mor gywir a chyflawn â phosib, gan sicrhau bod pawb sy'n gymwys i bleidleisio ac yn dymuno pleidleisio yn gallu gwneud hynny
- Mae pleidleisio absennol yn hygyrch gan sicrhau bod pawb sy’n gymwys am bleidlais absennol ac yn bwriadu ei defnyddio wedi eu cynnwys ar y rhestr bleidleisio absennol berthnasol
- Mae rhanddeiliaid ac etholwyr yn hyderus y caiff cofrestrau etholiadol eu rheoli mewn modd diogel
Pa fewnbwn sydd ei angen?
Mae hyn yn nodi'r adnoddau y bydd angen eu darparu ar gyfer y gwasanaeth fel y gellir cyflawni'r gweithgareddau angenrheidiol.
Pa weithgareddau yr ymgymerir â nhw?
Nid yw hwn yn darparu rhestr gyflawn o’r gweithgareddau, ond yn hytrach grynodeb o’r prif weithgareddau y mae’n debygol y byddai angen i EROs eu cyflawni er mwyn bodloni’r amcan. Mae ein canllawiau ac adnoddau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi eu dylunio i’w cynorthwyo nhw wrth iddynt bennu’r gweithgareddau penodol y bydd angen ymgymryd â nhw yn eu hamgylchiadau neilltuol.
Pa wybodaeth sydd ei hangen i ddeall effaith ein gweithgareddau?
Mae hwn yn amlygu’r data a’r wybodaeth ansoddol a fydd yn helpu i ddangos effaith y gweithgareddau, ac a ddylai fod yn sail i’r modd y mae EROs a’r Comisiwn yn gallu pennu llwyddiant eu gwaith. Eto, nid rhestr gyflawn yw hon, a gellid ategu’r wybodaeth a geir yma gan ddata ychwanegol neu wybodaeth y mae’r ERO yn credu ei bod yn berthnasol i’w berfformiad.
Pa wahaniaeth a wneir?
Mae hwn yn crynhoi’r effeithiau cyfun y mae’r gweithgareddau yn eu cael ac a fyddai, gyda’i gilydd, yn cyfrannu at gyflawniad y canlyniad yn y pen draw.
Sut gallem benderfynu ar lwyddiant ein gwaith?
Mae hyn yn pennu'r mesurau a fydd yn helpu i ddangos pa wahaniaeth y mae'r gwaith yn ei wneud. Mewn rhai achosion, ni fydd y gwahaniaeth yn syml i'w feintioli na'i fesur fel arall, ac felly efallai bydd yn rhaid dibynnu ar gyfuniad o sawl mesur er mwyn dangos yr hyn y mae'r gwaith yn ei gyflawni.
Defnyddio’r Safonau Perfformiad ERO
Rydym am sicrhau bod EROs a’u timoedd yn cael y safonau’n ddefnyddiol wrth ddeall, gwella, ac adrodd am eu perfformiad.
Mae’r safonau wedi eu dylunio i helpu EROs i ddeall effaith eu gweithgareddau ar gyflawniad cyffredinol eu gwasanaethau cofrestru. Dylent hefyd helpu i ganfod lle y gellir gwneud gwelliannau, a chynorthwyo EROs i adrodd am eu perfformiad yn lleol.
Dylai EROs fod yn defnyddio’r data a’r wybodaeth ansoddol a osodwyd allan yn y safonau i’w helpu i ddeall effaith eu gweithgareddau fel y gallant ganfod beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio a lle y gellir gwneud gwelliannau. Mae’r fframwaith wedi ei ddylunio i gynorthwyo’r dadansoddi hwn a pheri i EROs ganolbwyntio ar y data a’r wybodaeth allweddol a fydd yn dangos beth sy’n gweithio’n dda a beth nad yw’n gweithio cystal.
Dylai’r safonau hefyd helpu EROs i ddangos yn lleol - p’un ai o fewn awdurdod lleol ERO, i aelodau etholedig, neu yn fwy eang - sut mae’r gweithgareddau y maent yn ymgymryd â nhw yn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cofrestru effeithlon ac effeithiol, ac, yn y pen draw, sut y byddant yn helpu i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio ac yn bwriadu pleidleisio yn gallu gwneud felly.
Adnoddau ychwanegol i ategu'r safonau
Adnoddau ychwanegol i ategu'r safonau
Ochr yn ochr â’r safonau, cefnogaeth barhaus oddi wrth eich tîm Comisiwn lleol a’n canllawiau ar gyfer EROs yn Lloegr, yr Alban, a Chymru - sy’n gosod allan sut mae cynnal gwasanaethau cofrestru yn unol â deddfwriaeth ac arferion da fel ei gilydd - rydym hefyd nawr yn cyhoeddi cyfres o offerynnau a thempledi pellach i gynorthwyo EROs wrth iddynt ddefnyddio’r safonau perfformiad ac adrodd am eu perfformiad yn lleol.
Mae’r offerynnau hyn yn cynnwys:
- Adnodd ar ddefnyddio data, gan gynnwys gwybodaeth ar sut mae cyrchu, dadansoddi ac asesu data i helpu EROs i wneud defnydd llawn o’r wybodaeth sydd ar gael iddynt.
- Canllawiau gosod dangosydd perfformiad allweddol (KPI), sy’n cynnwys gwybodaeth ymarferol ar sut mae datblygu, monitro a gwerthuso yn erbyn KPIs, a dylai gynorthwyo EROs wrth iddynt bennu gwaelodlin ar gyfer eu perfformiad a gosod targedau sy’n dwyn i ystyriaeth eu hamgylchiadau neilltuol. Mae hefyd yn cynnwys templed sy’n cynnig enghreifftiau o sut y gellir defnyddio KPIs ac adrodd amdanynt.
Cofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr yn 2021
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y cynhaliwyd canfasiad 2021 ym Mhrydain Fawr ac yn ystyried effaith barhaus y newidiadau i broses y canfas blynyddol, a gyflwynwyd yn 2020, ar y cofrestrau etholiadol.
Cynnydd gyda'r canfasiad: Gorffennaf – Medi 2021
Heddiw rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar gynnydd canfasiad 2021. Mae’r adroddiad yn amlygu prif ganfyddiadau ein hymgysylltu ag EROs rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021; mae hefyd yn tynnu sylw at rai enghreifftiau o arferion da a ddaeth i’r amlwg.
Cofrestrau etholiadol 2020
Heddiw rydym wedi cyhoeddi ar gofrestrau blynyddol 2020 a'r broses ganfasio, sy'n cynnwys dadansoddiad o'r data a'r wybodaeth a gasglwyd gennym gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ystod canfasiad y llynedd ac ar ôl hynny.