Key dates

Fel rhan o reoleiddio cyllid plaid a chynnal tryloywder, rhaid i bartïon gyflwyno adroddiadau ariannol ar roddion, benthyciadau a gwariant erbyn dyddiadau penodol.

Mae partïon hefyd dan ddyletswydd i gadarnhau eu manylion ac adnewyddu eu cofrestriad bob blwyddyn.

Isod gallwch ddod o hyd i'r dyddiadau cau ar gyfer y prif ofynion ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn 2024.

19 Ionawr 2024 (5pm)

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau i

  • gofrestru plaid wleidyddol newydd
  • diwygio enw ar gyfer plaid sy'n bodoli
  • diwygio neu ychwanegu arwyddlun, neu
  • ychwanegu disgrifiad

i'w gynnwys ar bapurau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau a gynhelir ar 2 Mai 2024. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cofrestru a chynnal plaid

30 Ionawr 2024Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar roddion a benthyciadau Chwarter 4 (1 Hydref 2023 - 31 Rhagfyr 2023)
30 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar roddion a benthyciadau Chwarter 1 (1 Ionawr 2024 - 31 Mawrth 2024)

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad o gyfrifon (incwm a gwariant £250mil neu lai) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2023

2 Mai 2024

Y diwrnod pleidleisio:

  • Etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr
  • Etholiadau maerol awdurdodau lleol
  • Etholiadau maerol awdurdodau cyfun
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
4 Gorffenaf 2024Diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU
7 Gorffenaf 2024Dyddiad cau ar gyfer datganiad o gyfrifon (incwm neu wariant dros £250mil) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2023
30 Gorffenaf 2024Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar roddion a benthyciadau Chwarter 2 (1 Ebrill 2024 - 30 Mehefin 2024)
5 Awst 2024 (6 Awst yn yr Alban)Dyddiad cau ar gyfer derbyn anfonebau ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU
2 Medi 2024Dyddiad cau ar gyfer talu anfonebau ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU
4 Hydref 2024Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen wariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU (gwariant o £250,000 neu lai)
30 Hydref 2024Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar roddion a benthyciadau Chwarter 3 (1 Gorffennaf 2024 - 30 Medi 2024)
4 Ionawr 2025Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen wariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU (gwariant dros £250,000)