Canllawiau ar sut i gydymffurfio â'r rheolau, gan gynnwys y ffurflenni sydd eu hangen arnoch
Mae rheolau sy'n rheoli gwariant pleidiau gwleidyddol yn ystod cyfnodau a reoleiddir.
Mae yna gyfnodau a reoleiddir ar gyfer pleidiau gwleidyddol cyn yr etholiadau canlynol:
Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Etholiadau Senedd yr Alban
Etholiadau Senedd Cymru
Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
Rydym wedi dileu ein canllawiau i bleidiau o’r etholiadau blaenorol er mwyn osgoi unrhyw ddryswch gyda'r newidiadau i'r gyfraith a wnaed o dan Ddeddf Etholiadau 2022.
Cysylltwch â ni drwy e-bost os hoffech gael mynediad at y canllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer etholiadau blaenorol, gallwn ddarparu hyn ar gais.
Byddwn yn cynhyrchu canllawiau cyn yr etholiadau nesaf sydd wedi’u trefnu.