Etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig ym Mhrydain Fawr
Canllawiau a'n hadnoddau ar gyfer ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Mae dogfen drosolwg yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i ddefnyddio'r canllawiau a phwy sy'n gwneud beth yn yr etholiadau hyn.
Rydym wedi cynhyrchu amserlen gyda'r dyddiadau cau perthnasol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.
Canllawiau ynghylch aflonyddu a bygwth
Mae dadl wleidyddol gadarn yn rhan o ddemocratiaeth iach, ond weithiau gall pethau fynd yn rhy bell.
Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gan weithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Comisiwn Etholiadol, wedi cynhyrchu dwy ddogfen ganllaw ar gyfer ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, i'ch helpu chi i ddeall pan fydd ymddygiad yn mynd y tu hwnt i ddadl wleidyddol ac y gallai fod yn anghyfreithlon.
Mae yna ganllaw byr o'r enw 'Pan fydd pethau'n mynd yn rhy bell' sy'n darparu cyngor cyffredinol, a 'Canllaw ar y cyd i ymgeiswyr mewn etholiadau' hirach sy'n rhoi mwy o fanylion am natur troseddau posib.
Os ydych chi'n teimlo y gallai ymddygiad tuag atoch chi fod yn anghyfreithlon neu'n poeni am eich diogelwch chi neu ddiogelwch eraill, dylech chi gysylltu â'r heddlu bob amser.
Notional spending update Elections Act
O dan Ddeddf Etholiadau 2022 mae dau newid wedi’u gwneud i’r ddeddfwriaeth ar reolau gwariant ymgeiswyr:
- Diffiniad ‘defnydd ar ran ymgeisydd’ mewn gwariant tybiannol
- Gwneud taliadau ar gyfer ymgyrchu lleol
Daeth y newidiadau i rym ar 24 Tachwedd 2022. Am ragor o fanylion, gweler Deall newidiadau i’r rheolau gwariant.
Allwch chi sefyll mewn etholiad?
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Y cymwysterau ar gyfer sefyll mewn etholiad
- Elfennau sy'n eich gwahardd rhag sefyll mewn etholiad
Sefyll fel ymgeisydd annibynnol
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Cwblhau a chyflwyno eich papurau enwebu
- Beth sy'n digwydd ar ôl cau'r enwebiadau?
- Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill
- Beth fydd yn digwydd os bydd ymgeisydd yn marw?
Sefyll fel ymgeisydd dros blaid
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Cwblhau a chyflwyno eich papurau enwebu
- Beth sy'n digwydd ar ôl cau'r enwebiadau?
- Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill
- Beth fydd yn digwydd os bydd ymgeisydd yn marw?
Gwariant a rhoddion
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Faint y gallwch ei wario
- Y gweithgareddau y mae’r rheolau’n ymwneud â nhw
- Pa roddion y gallwch eu derbyn
- Sut i wirio’r rhoddion a dderbyniwch
- Pa wybodaeth y mae angen ei chofnodi a’i hadrodd
Yr ymgyrch
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Y pethau i’w gwneud a pheidio eu gwneud wrth ymgyrchu
- Defnyddio’r gofrestr etholiadol a'r rhestri pleidleiswyr absennol
- Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus
- Rhadbost
- Gwasgnodau ar ddeunydd cyhoeddusrwydd
- Y pethau i’w gwneud a pheidio eu gwneud ar y diwrnod pleidleisio
- Rhoi gwybod am honiadau o gamymddygiad etholiadol
Eich hawl i fynychu digwyddiadau etholiadol allweddol
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Mynd i sesiwn agor pleidleisiau post a beth i’w ddisgwyl
- Mynd i orsafoedd pleidleisio a beth i’w ddisgwyl
- Mynd i’r broses gyfrif a beth i’w ddisgwyl
Ar ôl datgan y canlyniad
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Llw Seneddol neu gadarnhad teyrngarwch
- Dychwelyd ernes
- Cael gafael ar waith papur yr etholiad
- Cyflwyno eich ffurflenni gwariant a datganiadau
- Cwestiynu’r canlyniad drwy ddeiseb etholiad