Rydym yn deall rhwystredigaeth rhai o ddinasyddion Aelod-Wladwriaethau eraill yr UE, sy'n byw yn y DU, sydd wedi methu â phleidleisio heddiw pan oeddent yn dymuno gwneud hynny.
Mae modd gwneud y broses gyfreithiol hon yn haws i ddinasyddion, a gwnaeth y Comisiwn roi'r ddadl dros wneud hynny ar ôl etholiadau'r UE diwethaf yn 2014. Fodd bynnag, er mwyn gwella'r broses, rhaid newid y gyfraith etholiadol, a dim ond y Llywodraeth a'r Senedd a all wneud hynny.
Ychydig iawn o rybudd a gafwyd gan y llywodraeth y byddai'r DU yn cymryd rhan yn yr etholiadau, ac effeithiodd hyn ar yr amser a oedd ar gael i ddinasyddion ddod yn ymwybodol o'r broses hon a'i chwblhau. Nid yw'r newid yng nghyfranogiad y DU yn effeithio ar hawl dinasyddion yr UE i bleidleisio yn eu Haelod-Wladwriaeth gartref; er mwyn gwneud hynny, byddai angen iddynt fod wedi'u cofrestru yn y wlad honno yn unol â phroses ac amserlen y wlad honno.