Estyn dyddiad cau cofrestru - Cyfle olaf i gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE
Diweddariad ar y refferendwm
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn annog pleidleiswyr sydd heb gofrestru eto i wneud cais cyn canol nos Iau 9 Mehefin.
Galwodd y Comisiwn bore yma i'r Llywodraeth ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl fyddai'n estyn y dyddiad cau, ar ôl i broblemau effeithio gwefan cofrestru'r Llywodraeth neithiwr (nos Fawrth).
Mae'r Llywodraeth bellach wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth fyddai'n caniatáu i bobl sy'n gwneud cais i gofrestru ddydd Mercher 8 a hyd nes canol nos Iau 9 Mehefin bleidleisio yn Refferendwm yr UE ar 23 Mehefin.
Atgoffir pleidleiswyr hefyd, os ydynt eisoes wedi cofrestru, nid oes angen iddynt wneud cais newydd.
Dywedodd Alex Robertson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r Comisiwn Etholiadol:
Ni ddylai unrhyw un golli allan ar bleidleisio yn y refferendwm oherwydd y broblem gyda gwefan gofrestru'r Llywodraeth neithiwr. Fe ddywedom bore 'ma y dylid cyflwyno deddfwriaeth i estyn y dyddiad cau cofrestru ac ry'n ni'n falch y bydd y Llywodraeth bellach yn gwneud y newid hwn.
Ry'n ni'n annog pawb sydd heb gofrestru i bleidleisio eisoes i gymryd y cyfle olaf hwn i wneud hynny cyn diwedd dydd Iau (9 Mehefin).
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a grëwyd gan Senedd y DU. Ein hamcan yw hygrededd a hyder y cyhoedd ym mhroses ddemocrataidd y DU. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda, ac rydym yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio refferenda a gynhelir yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (2000).
- Gwnaeth y Comisiwn ddatganiad bore yma yn galw ar i'r Llywdoraeth ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl fyddai'n estyn y dyddiad cau.
- Mae'r dyddiad cau estynedig yn berthnasol i holl bleidleiswyr ledled Prydain Fawr, nid yn unig y pleidleiswyr nad oeddent yn gallu cofrestru neithiwr.
- Nid yw'r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost wedi newid.
- Mae'r safle cofrestru ar-lein yn wefan Swyddfa'r Cabinet ac felly byddai angen cael unrhyw fanylion pellach o ran natur y problemau technegol a welwyd ganddyn nhw.
- I fonitro'r nifer o geisiadau i gofrestru i bleidleisio, ewch i https://www.gov.uk/performance/register-to-vote