Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Defnyddio eitemau

Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost.1

Mae hyn yn cynnwys unrhyw eitemau a brynwyd ac y talwyd amdanynt cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Eitemau na chânt eu defnyddio 

Nid oes angen i chi roi gwybod am wariant ar eitemau na chânt eu defnyddio (er enghraifft, taflenni na chânt eu dosbarthu) ac ni fydd yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Dylech gadw'r deunydd na chaiff ei ddefnyddio neu ddangos tystiolaeth o'i ddinistrio. 

Os byddwch yn defnyddio'r eitemau dros ben mewn etholiad arall, rhaid i chi roi gwybod am y gwariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad hwnnw. 

Ailddefnyddio eitemau 

Pan fyddwch wedi talu am eitem, rhaid i chi roi gwybod am y gost lawn pan gaiff ei defnyddio gyntaf, hyd yn oed os byddwch yn bwriadu ei hailddefnyddio mewn etholiad arall yn y dyfodol. 

Os byddwch yn gwneud hynny, nid oes angen i chi roi gwybod am y taliad gwreiddiol eto. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023