Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Gorbenion cyffredinol a chostau cysylltiedig

Pan eir i gostau gorbenion perthnasol a chostau cysylltiedig, y swm sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch yw'r gyfran sy'n adlewyrchu defnydd yn ystod yr ymgyrch hon mewn ffordd resymol. Rhaid i'r gyfran honno gael ei chynnwys yn y ffurflen ac mae'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant.1

Mae hyn yn gymwys i eitemau fel:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • biliau trydan
  • darparu llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
  • darparu cyfarpar swyddfa o unrhyw fath

Fel arfer, y gyfran sy'n adlewyrchu defnydd mewn ffordd resymol yw'r swm yr eir iddo sy'n fwy na'r costau arferol mewn cyfnod penodol.
 

Eg

Er enghraifft, mae plaid yn talu swm safonol y mis ar gyfer trydan. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, bydd yn mynd i swm sy'n fwy na'r hyn y byddai'n ei dalu fel arfer. Y swm ychwanegol yw'r swm y mae'n rhaid rhoi gwybod amdano yn eich ffurflen. 

Pa gostau na chânt eu cynnwys?

Pa gostau na chânt eu cynnwys?

Nid oes angen rhoi gwybod am gostau dŵr, nwy, treth gyngor a gofal plant. Nid ystyrir bod ganddynt gysylltiad digon agos â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023