Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safle neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir i:
baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall
eg1
Er enghraifft, cost defnyddio banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys datblygu sgriptiau i gyflogeion banciau ffôn eu defnyddio y bwriedir iddynt ddylanwadu ar bleidleiswyr.
Market research 2
Costau cael neu gynnal data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu neu gynnal:
meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
setiau data, gan gynnwys defnyddio dadansoddeg data
i hwyluso neu gynnal ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio.
eg2
Er enghraifft, mae'n cynnwys cost ymgymryd â gweithgarwch gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi'r canlyniad er mwyn canfod bwriad pleidleiswyr. Mae'n cynnwys costau yr aed iddynt cyn y cyfnod a reoleiddir lle mae'r data yn cael eu defnyddio wedyn yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Market research 3
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar sydd ei angen i:
baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall
Er enghraifft:
gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio
ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydlynydd y gweithgarwch canfasio lle mae'r blaid neu drydydd parti yn talu neu'n ad-dalu'r costau am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig.
Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
sy'n gysylltiedig ag ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio.
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r ymchwil i'r farchnad neu ganfasio i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.