Return to The Electoral Commission Homepage

Mae ymgyrchwyr yn rhan allweddol o ddemocratiaeth iach. Dylech allu cyflwyno eich dadleuon i bleidleiswyr heb ddioddef camdriniaeth na bygythiadau. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad ydych chi'n ymddwyn mewn ffordd sy'n niweidio uniondeb y broses etholiadol.

Rydym wedi datblygu chwe egwyddor i sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r broses ddemocrataidd yn cael eu cefnogi a'u diogelu rhag camdriniaeth a bygythiadau. Maent yn gosod safon ymddygiad gofynnol ar gyfer pob ymgeisydd ac ymgyrchydd.

Er bod yr egwyddorion hyn yn gynghorol, wrth i chi ymgyrchu yn etholiadau mis Mai sydd ar y gorwel, rydym yn eich annog i'w dilyn, gan nodi bod rhai yn ymwneud â chyfreithiau etholiadol presennol a throseddau ehangach.

Y chwe egwyddor

1. Ymgyrchu sy'n seiliedig ar faterion

  • Mae dadl gref a safbwyntiau gwahanol yn rhan o ddemocratiaeth iach. Mae gan bobl hawl i ddal a mynegi barn y gallai eraill anghytuno'n gryf â hi.
  • Disgwylir i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr barchu, a goddef, unigolion sydd â safbwyntiau gwahanol iddynt.
  • Dylai ymgyrchoedd ganolbwyntio ar bolisïau a materion, hanes a gweithredoedd gwleidyddol gwrthwynebydd, nid ymosodiadau personol.

2. Parch i bawb sy'n cymryd rhan

  • Mae parch yn golygu cwrteisi a moesgarwch mewn ymddygiad, wrth siarad ac wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig.
  • Mae parch yr un mor berthnasol i ymddygiad ar-lein ac all-lein a dylid ei ddangos i bawb sy'n ymwneud â'r broses ddemocrataidd, gan gynnwys ymgeiswyr, ymgyrchwyr, asiantiaid, gwirfoddolwyr, pleidleiswyr a staff sy'n gweithio i gynnal yr etholiadau.

3. Diogelwch pawb sy'n cymryd rhan

  • Dylai pawb sy'n rhan o'r broses ddemocrataidd deimlo'n ddiogel.
  • Dylid cynnal ymgyrchoedd yn rhydd rhag camdriniaeth ac ni ddylent effeithio ar lesiant corfforol na meddyliol unrhyw berson.
  • Mae unrhyw fath neu fygythiad o drais, gorfodi, aflonyddu, bygwth, neu annog i achosi aflonyddwch cyhoeddus yn annerbyniol.

4. Cyfathrebu parchus  

  • Dylai ymgeiswyr ac ymgyrchwyr gyfathrebu â thôn o barch at y bobl dan sylw, hyd yn oed wrth drafod, anghytuno, neu ddwyn eraill i gyfrif.
  • Mae difenwi cymeriad, defnyddio iaith casineb, neu iaith ymfflamychol neu wahaniaethol yn annerbyniol.
  • Dylai pawb ystyried effaith yr iaith maen nhw'n ei defnyddio ar eraill a'r broses ddemocrataidd ehangach, ar-lein ac all-lein.

5. Ymgyrchu gonest

  • Dylai ymgyrchoedd fod yn onest ac yn gywir.
  • Mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth fwriadol yn annerbyniol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg i gamliwio barn neu weithredoedd eraill drwy dwyllwybodaeth a gynhyrchir gan AI.
  • Ni ddylai pleidiau ac ymgeiswyr ddefnyddio na mwyhau gwybodaeth, sy'n ffug neu a allai gamarwain pleidleiswyr, gan gynnwys ffugiadau dwfn.
  • Dylid cynnal ymgyrchoedd mewn modd agored a thryloyw, gan osgoi unrhyw gamau a allai arwain pleidleisiwr i gwestiynu cymhellion neu fwriadau.

6. Derbyn canlyniadau cyfreithlon

  • Dylai ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr gynnal parch at drefn y gyfraith a chyfreithlondeb y broses etholiadol.
  • Rhaid i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr ymrwymo i barchu canlyniadau ardystiedig a mynd ar drywydd unrhyw anghydfodau drwy sianeli cyfreithlon yn unig.

Mae'r egwyddorion yn gynghorol ac yn nodi arfer da. Nid ydynt wedi'u bwriadu i fod yn ganllawiau ffurfiol ac ni fyddwn yn dyfarnu achosion unigol lle rydych chi'n credu nad yw ymgyrchwyr eraill wedi dilyn yr egwyddorion.

Yr egwyddorion yw dechrau, nid pwynt diwedd, dull cydweithredol o ymgyrchu ar draws pleidiau gwleidyddol. Ar ôl etholiadau mis Mai, byddwn yn asesu ac yn gwerthuso sut y gweithiodd yr egwyddorion yn ymarferol. Gan ddefnyddio'r canfyddiadau hyn, byddwn yn datblygu dull manwl o ehangu'r egwyddorion yn god ymddygiad llawn.