Gwerthusiad annibynnol o gynlluniau peilot prawf adnabod pleidleiswyr Mai 2019 wedi'i gyhoeddi
Summary
Cafodd y cynlluniau peilot prawf adnabod pleidleiswyr, a gynhaliwyd mewn deg awdurdod lleol yn ystod etholiadau lleol mis Mai, eu rhedeg yn dda ond mae sawl cwestiwn pwysig yn bodoli o hyd am sut y byddai gofyniad prawf adnabod yn gweithio yn ymarferol. Rhain yw canfyddiadau allweddol gwerthusiad statudol y Comisiwn Etholiadol o'r cynlluniau peilot a gyhoeddwyd heddiw.
Mae'r deg cynllun peilot wedi darparu rhagor o dystiolaeth ynghylch yr hyn y byddai'n ei olygu i bobl ddangos prawf adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain Fawr, gan adeiladu ar y pum cynllun peilot a gynhaliwyd yn 2018. Fodd bynnag, nid ydynt yn ein galluogi i lunio casgliadau pendant ynglŷn ag effaith gofyniad prawf adnabod ar rai grwpiau o bobl mewn etholiadau yn y dyfodol.
Quote
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil:
Roedd bron pawb yn ardaloedd y cynlluniau peilot a aeth i bleidleisio yn eu gorsaf bleidleisio yn gallu dangos y prawf adnabod cywir heb anhawster. Fodd bynnag, mae cwestiynau pwysig yn bodoli o hyd am sut y byddai gofyniad prawf adnabod yn gweithio yn ymarferol, yn enwedig yn ystod digwyddiad pleidleisio cenedlaethol lle ceir mwy o bobl yn pleidleisio. Am fod y cynlluniau peilot wedi'u cynnal mewn nifer gyfyngedig o ardaloedd ac mewn etholiadau lleol, ni allwn lunio casgliadau pendant ohonynt.
“Nawr mae angen i'r Llywodraeth a'r Senedd ystyried yn ofalus y dystiolaeth sydd ar gael am effaith gwahanol ddulliau ar argaeledd a diogelwch y broses bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Yn ogystal â'r cynlluniau peilot a gynhaliwyd yn Lloegr, bydd yn bwysig myfyrio ar brofiadau pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon, lle mae prawf adnabod pleidleiswyr wedi bod yn ofynnol ers sawl blwyddyn.
Key areas to consider
Mae'r Comisiwn wedi nodi tri maes allweddol i'r Llywodraeth a'r Senedd eu hystyried:
- Dylai unrhyw ofyniad prawf adnabod gyflwyno gwelliannau clir i lefelau diogelwch presennol
- Dylai unrhyw ofyniad prawf adnabod fod yn hygyrch i bob pleidleisiwr
- Dylai unrhyw ofyniad prawf adnabod allu cael ei fodloni'n realistig, gan ystyried yr adnoddau sydd eu hangen i'w roi ar waith
Canfyddiadau allweddol o'r cynlluniau peilot
- NRoedd bron pawb a ddaeth i'w gorsaf bleidleisio ac a oedd am bleidleisio ym mhob un o'r ardaloedd peilot yn gallu dangos y prawf adnabod cywir a chael papur pleidleisio. Allan o bawb a aeth i'w gorsaf bleidleisio mewn ardal beilot, amrywiodd y gyfran o bobl na allent ddangos prawf adnabod ac na wnaethant ddychwelyd i bleidleisio rhwng 0.03% a 0.7%
- Gall rhai grwpiau o bobl ei chael hi'n anoddach nag eraill i ddangos prawf adnabod, yn enwedig prawf adnabod â llun arno. Mae hyn yn cynnwys pobl â gofynion hygyrchedd, yn ogystal â rhai grwpiau o bobl na wnaethant geisio pleidleisio yn etholiadau lleol mis Mai ond sy'n fwy tebygol o bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y DU
- Ymddengys fod y profiad o gymryd rhan yn y cynllun peilot wedi cael effaith gadarnhaol ar ganfyddiad pobl o ddiogelwch y broses bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
- Roedd staff gorsafoedd pleidleisio yn fodlon ar y ffordd yr oedd y diwrnod pleidleisio wedi mynd ac roeddent yn hyderus y gallent reoli'r broses lle byddai pobl yn dangos prawf adnabod mewn etholiad yn y dyfodol
Er mwyn sicrhau bod y dystiolaeth a gasglwyd yn drylwyr a chadarn, casglodd y Comisiwn wybodaeth gan wahanol ffynonellau, gan gynnwys:
- arolwg yn gofyn i bobl ym mhob ardal am eu barn ar y cynllun
- arolwg o'r bobl a oedd yn gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio
- data am y math o brawf adnabod y dangosodd pobl i bleidleisio (a nifer y bobl a gafodd eu gwrthod am nad oedd ganddynt y math cywir o brawf adnabod)
- barn a thystiolaeth gan sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau gwahanol o bleidleiswyr
- gwybodaeth am faint y gwnaeth gostio i gynnal y cynllun peilot
- adolygiad arbenigol o ddiogelwch y modelau prawf adnabod pleidleiswyr gwahanol
Mae'r adroddiad llawn sef ‘May 2019 voter identification pilot schemes – our evaluation’ ar gael ar ein gwefan.
Ends
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid,
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Rôl statudol y Comisiwn yn y cynlluniau peilot oedd darparu gwerthusiad annibynnol o'r cynllun.
- Cymerodd deg awdurdod lleol ran yn y cynlluniau peilot prawf adnabod pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio yn eu hetholiadau lleol ddydd Iau 2 Mai 2019. Yr awdurdodau lleol hyn oedd: Pendle, Woking, Braintree, Broxtowe, Craven, Derby, Gogledd Kesteven, Canol Sussex, Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr a Watford.
- Roedd angen i bobl yn Pendle a Woking ddod â phrawf adnabod â llun arno i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Roedd angen i bobl yn Braintree, Broxtowe, Craven, Derby a Gogledd Kesteven ddod â naill ai un math o brawf adnabod â llun arno, neu ddau fath o brawf adnabod heb lun i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Roedd angen i bobl yng Nghanol Sussex, Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr a Watford ddod â'u cardiau pleidleisio i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
- Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon wedi gorfod dangos prawf adnabod â llun arno i bleidleisio ers 2003.