Pan fyddwch yn cysylltu â ni
Trosolwg
Rydym yn gweithredu llinell gwybodaeth gyhoeddus er mwyn helpu'r cyhoedd gydag ymholiadau am etholiadau a'r modd y caiff cyllid gwleidyddol ei reoleiddio. Y sail gyfreithiol dros brosesu'r wybodaeth hon yw bod angen i ni wneud hynny er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus fel y nodir mewn deddfwriaeth.
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, llythyr, dros y ffôn, drwy ein gwefan neu drwy Facebook neu Twitter.
Yr hyn y gallwn ei gofnodi
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, gallwn gofnodi'r wybodaeth ganlynol:
- enw
- manylion cyswllt
- cyfeiriadau ar gyfryngau cymdeithasol
- lleoliad
- manylion eich ymholiad
Byddwn yn cadw'r wybodaeth hon am flwyddyn o ddyddiad y cyswllt diwethaf, oni bai bod rheswm rheoleiddiol dros gadw'r wybodaeth am gyfnod hwy. Gall hyn fod yn gymwys i gysylltiadau â phleidiau gwleidyddol neu weinyddwyr etholiadol.
Gallwn hefyd ddefnyddio canolfan gyswllt allanol yn y DU i reoli galwadau a chaiff ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu rheoli drwy adnodd trydydd parti. Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu o dan gontractau sy'n cydymffurfio â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a deddfwriaeth diogelu data'r DU.
Caiff y wybodaeth hon ei storio mewn system rheoli cwsmeriaid a chysylltiadau y gellir cael mynediad iddi drwy reolaethau rhwydwaith. Mae'r rheolaethau hyn yn sicrhau mai dim ond yr aelodau hynny o staff y mae angen iddynt gael mynediad i'r system sy'n gallu gwneud hynny. Caiff hyn ei fonitro drwy gofnodion archwilio er mwyn i ni allu priodoli unrhyw newidiadau i'r data a ddelir gennym i aelod penodol o staff. Caiff dyddiad y newid ei gofnodi hefyd.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn am rannu'r wybodaeth a roddwyd gennych â sefydliadau eraill. Er enghraifft, os ydych yn codi mater ynghylch prosesau cofrestru etholiadol mewn ardal awdurdod lleol, efallai y byddwn am siarad â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol hwnnw am hyn. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn rhannu cyn lleied o ddata personol â phosibl ac yn canolbwyntio ar ffeithiau cyffredinol eich ymholiad. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw wybodaeth a rennir gennym cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn ymateb i unrhyw geisiadau i weld y wybodaeth hon, ei chywiro, ei dileu, neu i wrthwynebu neu gyfyngu ar waith prosesu. Byddwn yn ymateb i bob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.