Latest figures for political party donations and loans in Great Britain published
Ffeithiau a ffigurau
Adroddodd tair plaid ar ddeg sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr iddynt dderbyn dros £10,401,823 mewn rhoddion rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2018, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw. Mae hyn yn £1.9m yn fwy na'r swm adroddwyd yn y chwarter blaenorol rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2018 (£8,470,582).
Yn 2018, adroddodd 18 o bleidiau gwleidyddol sydd wedi cofrestru ym Mhrydain Fawr dderbyn cyfanswm o £34.5 miliwn ac eithrio cronfeydd cyhoeddus. Mae hyn yn £28.1 miliwn yn llai nag yn 2017 (£62.6 miliwn) pan oedd etholiad cyffredinol.
Y 13 plaid adroddodd rhoddion yn chwarter olaf 2018 oedd:
Plaid | Rhoddion ac eithrio cronfeydd cyhoeddus | Cronfeydd cyhoeddus | Cyfanswm a dderbyniwyd yn chwarter 4 2018 |
---|---|---|---|
Ashfield Independents | £7,200 | - | £7,200 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £7,396,361 | £65,845 | £7,462,205 |
Y Blaid Gydweithredol | £44,705 | - | £44,705 |
Duma Polska = Polish Pride | £8,700 | - | £8,700 |
Y Blaid Werdd | £73,870 | £27,611 | £101,481 |
Y Blaid Lafur | £1,606,597 | £2,131,978 | £3,738,575 |
Democratiaid Rhyddfrydol | £950,272 | £249,937 | £1,200,209 |
Plaid Cymru | £10,722 | £24,928 | £35,649 |
Renew | £53,000 | - | £53,000 |
Plaid Werdd yr Alban | £48,541 | - | £48,541 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £15,240 | £197,772 | £213,012 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) | £13,000 | - | £13,000 |
Women's Equality Party | £173,616 | - | £173,616 |
Cyfanswm | £10,401,823 | £2,698,071 | £13,099,894 |
Yn ogystal â'r rhoddion hyn, yn ystod pedwerydd chwarter 2018, derbyniodd chwe phlaid gyfanswm cyllid o dros £2.6 miliwn o gronfeydd cyhoeddus (manylion yn y tabl uchod).
Mae'r cyfansymiau a gyhoeddwyd heddiw ac sydd wedi'u gosod uchod yn cynrychioli cyfanswm y rhoddion hynny sy'n ddigon mawr i fod yn fwy na'r trothwyon cyfreithiol. Mae'n debygol bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan unigolion neu gyrff gwahanol sydd yn llai na'r trothwyon cyfreithiol ar gyfer adrodd i'r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau sylweddol o incwm i bleidiau.
Methodd naw o bleidiau fodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y chwarter yma. Bydd y Comisiwn yn ystyried y materion hyn i gyd yn unol â'r Polisi Gorfodi a chyhoeddi unrhyw gosbau a roddir yn hwyrach.
Benthyca
Gwerth y benthyciadau sy'n ddyledus i bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr ar 31 Rhagfyr 2018 oedd £3,492,124 sy'n lleihad o bron i £5,000 o'i gymharu â 31 Rhagfyr 2017 (£3,497,076).
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
Mae cyhoeddi data am roddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar ein cronfa ddata ar-lein yn golygu gall pleidleiswyr weld yn glir o ble mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu cyllid. Mae hyn yn arwain at system gyllid gwleidyddol tryloyw ac mae'n helpu sicrhau cydymffurfiaeth.
Lle bo pleidiau'n methu â chyflwyno eu cofnod ar amser, ac nad oes esboniad rhesymol am fethiant o'r fath byddwn yn cymryd agwedd gadarn at ddelio â hyn yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o roddion a adroddwyd gan bleidiau Prydain Fawr ym mhedwerydd chwarter 2018, gan gynnwys y prif roddwyr, a manylion adroddiadau hwyr ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau o arian a ddim yn arian yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd holl roddion a benthyciadau o dros £7,500 i'r blaid ganolog, neu dros £1,500 i uned cyfrifo. Mae hyn yn cynnwys cydgrynhoad o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn calendr.
- Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn y mae pleidiau yn eu hadrodd, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
- Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Byr' a 'Cranborne' ar gael i bleidiau'r wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi yn ôl eu trefn.
- Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Rhain yw'r Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu fwy o aelodau yn eistedd yn Nhŷ'r cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 2006, o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
- Roedd 356 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr yn ystod chwarter pedwar 2018. Roedd gofyn bod 72 ohonynt yn cyflwyno eu cofnodion gwariant chwarterol a 66 yn cyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill (heblaw iddynt dderbyn rhoddion) gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol.
- Mae'r ffigyrau a adroddwyd ar gyfer rhoddion a benthyca chwarterol wedi'u talgrynnu i'r £ agosaf. Mae'r union ffigyrau ar gael ar ein gwefan.