Leave.EU dirwywyd am sawl achos o dorri cyfraith etholiadol yn dilyn ymchwiliad
Diweddariad - 11 Hydref 2019
Apeliodd Leave.EU yn erbyn y cosbau a nodwyd yn yr adroddiad canlynol.
Rhoddwyd dyfarniadau ar yr apêl gan Lys Sirol Canol Llundain: yn gyntaf ar atebolrwydd am y troseddau, ar 21 Mawrth 2019, ac yn ail ar faint y cosbau, ar 8 Ebrill 2019. Gwrthododd y Llys yr apêl yn sylweddol a chadarnhaodd bob trosedd, ond caniataodd rannau o'r apêl. Cadarnhaodd dair o'r cosbau a roddwyd, cyfanswm o £50,000, ond gostyngodd un o'r cosbau o £20,000 i £16,000. Felly cafodd Leave.EU ddirwy o £66,000. Mae dirwyon hyn wedi cael eu talu.
Canlyniadau ymchwiliad Leave.EU
Mae Leave.EU wedi cael dirwy o £70,0000 gan y Comisiwn Etholiadol am droseddau o dan gyfraith etholiadol, yn dilyn ei ymchwiliad i gyllid a gwariant yr ymgyrchydd yn ystod Refferendwm yr UE.
Casgliad yr ymchwiliad oedd bod Leave.EU wedi adrodd beth wariodd yn Refferendwm yr UE yn anghywir. Fe wnaeth wario mwy na'i derfyn gwario statudol a chyflwyno cofnodion gwariant a thrafodion anghyflawn a gwallus.
Methodd Leave.EU â chynnwys o leiaf £77,380 yn ei gofnod gwariant, ac felly gwariodd yn fwy na'r terfyn gwariant ar gyfer ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau gan o leiaf 10%. Mae'r Comisiwn hefyd yn ystyried ei bod hi'n bosib fod y gorwariant anghyfreithlon cryn lawer yn fwy na hynny. Ni chynhwyswyd gwasanaethu dderbyniodd y grŵp gan y cwmni strategaeth ymgyrchu o America, Goddard Gunster, yn y cofnod gwariant, er gwaethaf bod nifer o'r gwasanaethau wedi eu defnyddio yn ystod ymgyrch refferendwm Leave.EU.
Canfu'r Comisiwn fod Leave.EU wedi adrodd tri benthyciad a dderbyniodd yn anghywir. Roedd hyn yn cynnwys diffyg tryloywder ac adrodd gwallus o ran pwy roddodd y benthyciad, y dyddiadau y cafwyd y benthyciadau, y dyddiad ad-dalu a'r gyfradd llog. Yn olaf, methodd Leave.EU â rhoi'r anfoneb neu'r dderbynneb gywir ar gyfer 97 taliad dros £200, gyda chyfanswm o £80,224.
Fel rhan o'r ymchwiliad, edrychodd y Comisiwn ar p'un a bod Leave.EU wedi derbyn gwasanaethau Cambridge Analytica ddylai fod wedi eu hadrodd ar y cofnod gwariant. Ni ddangosodd yr ymchwiliad bod tystiolaeth bod Leave.EU wedi derbyn rhoddion na gwasanaethau a dalwyd amdanynt gan Cambridge Analytica am yr ymgyrch refferendwm, ac ni ddatblygodd y berthynas ymhellach na gwaith cwmpasu cychwynnol.
Trwy'r ymchwiliad hefyd, roedd gan y Comisiwn sail resymol i amau bod y person cyfrifol am Leave.EU wedi cyflawni troseddau ac mae hi felly wedi ei chyfeirio at yr Heddlu Metropolitan.
Dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol:
"Mae'r rheolau ry'n ni'n eu gorfodi wedi eu rhoi yn eu lle gan Senedd y DU i sicrhau tryloywder a hyder y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd. Felly, mae hi'n siomedig nad oedd Leave.EU, cymeriad allweddol yn Refferendwm yr UE, wedi gallu glynu at y rheolau yma. Gwariodd Leave.EU mwy na'r terfyn gwariant a methodd ddatgan ei gyllid a'i wariant yn gywir. Mae'r rhain yn droseddau difrifol. Mae lefel y ddirwy wedi'i gyfyngu gan y cap sydd ar ddirwyon y Comisiwn."
Cefndir yr ymchwiliad
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) cyfrifoldeb pob ymgyrchydd yw sicrhau bod cofnod gwariant ymgyrchu cyflawn a chywir yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn Etholiadol erbyn y dyddiad cau statudol yn dilyn Refferendwm yr UE.
Ym mis Chwefror 2017, trwy waith monitro rhagweithiol, daeth sylwodd y Comisiwn ar awgrymiadau bod gwasanaethau wedi'u darparu i Leave.EU gan gwmni dadansoddi data o'r America, Cambridge Analytica, a'r cwmni strategaeth ymgyrchu o'r America, Goddard Gunster. Nid oedd cofnod gwariant Leave.EU yn cynnwys gwariant gyda'r naill sefydliad na'r llall. Byddai unrhyw wasanaeth a ddarparwyd heb gost wedi bod yn rhodd gan ffynhonnell nas caniateir. Agorwyd ymchwiliad yn Ebrill 2017 ac estynnwyd cwmpas yr ymchwiliad wrth i fwy o dystiolaeth ddod i'r amlwg.
Cwmpas yr ymchwiliad
Cwmpas yr ymchwiliad:
- Cywirdeb adrodd trafodion cyn y bleidlais o fenthyciadau a reoleiddir, gyda chyfanswm o £6m a roddwyd i Leave.EU mewn perthynas â'r refferendwm.
- Cyfanrwydd cofnod gwariant ymgyrchu refferendwm Leave.EU, gan edrych ar yr un trafodion, y gwariant, a chynnwys anfonebau a derbynebau ar gyfer taliadau dros £200.
- P'un a bod Leave.EU wedi gwario mwy na'r terfyn gwariant statudol ar gyfer gweithgarwch ymgyrchu refferendwm. Fel ymgyrchydd cofrestredig nad oedd yn blaid wleidyddol ac nad oedd yn brif ymgyrchydd ar gyfer un o ganlyniadau'r refferendwm, roedd terfyn gwario o £700,000.
Casgliadau'r ymchwiliad
Canfu'r Comisiwn:
- bod Leave.EU wedi methu â chynnwys o leiaf £77,380 yn ei gofnod gwariant, ac felly gwariodd yn fwy na'r terfyn gwariant gan o leiaf 10%. Mae'r Comisiwn yn fodlon fod y gwir ffigwr yn uwch, oherwydd y methiant i adrodd cyfran briodol o gost gwasanaethau a ddarparwyd gan Goddard Gunster.
- Ni wnaeth Leave.EU adrodd derbyn tri thrafodyn a reoleiddir yn gywir gan Mr Arron Banks, gyda chyfanswm o £6miliwn. Roedd dyddiadau y cafwyd y benthyciadau, y dyddiad ad-dalu, y gyfradd llog, a darparwr y trafodion oll wedi'u hadrodd yn anghywir.
- Talodd Leave.EU am wasanaethau gan gwmni strategaeth ymgyrchu o'r America, Goddard Gunster, y dylid fod wedi eu hadrodd yn y cofnod gwariant, ond nad oeddent wedi.
- Methodd Leave.EU gynnwys gwariant o £77,380 o ffioedd a dalwyd i'r cwmni Betterfor the Country Limited, fel trefnydd yr ymgyrch, yn y cofnod gwariant refferendwm.
- Methodd Leave.EU â rhoi'r anfoneb neu'r dderbynneb gywir ar gyfer 97 taliad dros £200, gyda chyfanswm o £80,224.
Adroddiad ar ymchwiliad i Leave.EU group Limited.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion:
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae gan y Comisiwn Etholiadol amryw bwerau gorfodi yn unol â PPERA. Mae mwy o wybodaeth am waith rheoleiddiol y Comisiwn ar gael ar ein gwefan yma.
- Mae unrhyw achosion o dorri'r rheolau sy'n rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cael eu hystyried yn unol â pholisi gorfodi'r Comisiwn, y gellir ei weld yma, ac mae manylion cosbau a roddir yma.
- Mae gan unigolyn neu sefydliad sy'n derbyn cosb gan y Comisiwn Etholiadol 28 diwrnod i apelio'r penderfyniad. Caiff apêl o'r fath ei wneud i'r Llys Sirol.
- Bydd cosbau heb eu talu yn cynyddu gan 50% os na chânt eu talu gan 56 diwrnod. Ar ôl 28 diwrnod arall gallwn gymryd camau i gael taliad drwy'r llysoedd gan ddefnyddio'r broses adfer dyled.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.