Hysbysiad Adolygu Diwethaf Tra'n Aros i fod yn Anghymwys
Llythyr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd 4
Cais am Ragor o Wybodaeth
Llythyr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd 5
Cadarnhad o gymhwysedd a gynhelir (ar sail gohebiaeth)
Llythyr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd 6
Cadarnhad o anghymhwysedd sydd ar ddod
Llythyr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd 7
Cadarnhad o anghymhwysedd sydd wedi dod i ben (ar sail dim ateb)
Canllawiau
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dylunio cyfres o dempledi llythyron Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd i gefnogi Gweinyddwyr Etholiadol gyda chynnal y broses Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ar gyfer dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.
Dylech adolygu’r templedi ynghyd â’n canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru.
Dylunio a golygu
Mae templedi’r llythyron ar gael mewn fformat Word yn unig.
Bydd angen i chi olygu tudalen 1 y llythyron i ychwanegu enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, y dyddiad, a’ch manylion cyswllt a logo.
Mae llythyron Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd 1, 2 a 3 yn cynnwys y ‘ffurflen’ gyda’r cwestiwn ynghylch statws mewnfudo. Bydd angen i chi olygu’r ffurflen i ychwanegu enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, y dyddiad, a’ch manylion cyswllt.
Mae yna feysydd ‘personoli’ eraill sydd wedi’u hamlygu yng nghorff y llythyron. Bydd angen i chi olygu’r rhain fel y bo’n briodol.
Angen rhagor o help?
Os oes gennych ymholiadau am y llythyron hyn, cysylltwch â’ch swyddfa Comisiwn Etholiadol leol.