Mae adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn dod i'r casgliad bod etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal yn dda
Gwybodaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar weinyddiaeth etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 heddiw a gynhaliwyd ym mis Mai.
Mae'r adroddiad yn dangos bod yr etholiadau wedi eu rhedeg yn dda, gyda nifer fechan o broblemau.
Mae ymchwil barn y cyhoedd, a gynhaliwyd ar ôl yr etholiad, yn dangos bod 83% o'r rhai ymatebodd yn hyderus bod etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei gynnal yn dda. Nododd 81% o bobl ei bod hi'n hawdd cael gwybodaeth ar sut i fwrw eu pleidlais gyda 93% o ymatebwyr yn dweud ei bod hi'n hawdd neu'n gymharol hawdd i lenwi eu papurau pleidleisio.
Er bod y profiad i bleidleiswyr yn gadarnhaol gan mwyaf mae'r adroddiad yn nodi bod cyfuno'r etholiadau hyd gydag etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi bod yn her sylweddol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, eu staff a'r rheiny sy'n rhan o ymgyrchu yn yr etholiadau.
Sefydlwyd Grŵp Cyflawni Cymru gan y Comisiwn i fynd i'r afael â'r heriau cyn mis Mai 2016. Roedd aelodaeth y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Comisiwn, Uwch Swyddogion Canlyniadau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, AEA Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r adroddiad yn argymell bod y grŵp yn parhau i gyfarfod i wella a symleiddio digwyddiadau etholiadol yng Nghymru.
Dywedodd Gareth Halliwell, Comisiynydd Etholiadol, Cymru:
Yn dilyn etholiadau Mai 2016, ry'n ni'n falch i gyhoeddi bod etholiadau'r Cynulliad wedi eu rhedeg yn dda, a hoffem ddiolch i bawb oedd yn rhain o'u gweinyddu. Profiad pleidleiswyr sy'n bwysig, ac mae ein hadroddiad yn dangos bod cymryd rhan yn yr etholiadau yn bositif iddyn nhw.
Ry'n ni'n gwybod bod yn rhaid cael rhwydweithiau a systemau cyfathrebu da yn eu lle i etholiad redeg yn dda. Ry'n ni felly yn argymell y dylai Grŵp Cyflawni Cymru barhau i fodoli i gynorthwyo gyda chynllunio digwyddiadau etholiadol y dyfodol yn llwyddiannus. Bydd y Comisiwn nawr yn ceisio barn rhanddeiliaid ynghylch rôl y grŵp yma tua'r dyfodol.
Mae'r Comisiwn hefyd yn gofyn bod Llywodraeth y DU yn ystyried effaith cynnal etholiad cyffredinol Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar yr un pryd yng Nghymru yn 2020. Bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn wynebu dau bapur pleidleisio gwahanol gyda dwy system bleidleisio wahanol yn debyg i'r sefyllfa a welwyd yng Nghymru gydag etholiadau Mai 2016. Bydd parhau i gynnal yr etholiadau fel y maent wedi'u trefnu ar hyn o bryd yn her enfawr, ond gobeithiwn y bydd sefydlu Grŵp Cyflawni Cymru yn helpu i liniaru'r risgiau.
Bydd y Comisiwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad clir o gostau'r etholiad. Mae hyn yn seiliedig ar argymhellion a wnaed o ran tryloywder costau etholiadau a refferenda oedd yn gynwysedig yn adroddiad y Comisiwn ar gostau refferendwm Mai 2011 ar system Bleidleisio Senedd y DU.
Argymhellion allweddol eraill i wella profiad pleidleiswyr yng Nghymru
- Y Comisiwn i weithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu grŵp i ystyried rheoliadau Cymraeg yn ystod y cyfnod drafftio i sicrhau gwell cywirdeb a bod dogfennaeth ar gael yn amserol.
- Dylai Grŵp Cyflawni Cymru ystyried lliw'r papurau pleidleisio i'w defnyddio ymhob etholiad a sut i wella gweithio yn rhanbarthol a rhwng awdurdodau.
- Dylai Llywodraeth y DU ddatblygu system ar-lein fyddai'n caniatáu i bleidleiswyr wirio os ydynt wedi cofrestru i bleidleisio eisoes cyn iddynt gyflwyno cais newydd.
- Dylai bod gofyn i Swyddogion Canlyniadau gyhoeddi cofnodion gwariant ymgeiswyr ar-lein i wella tryloywder y system.
- Mae'r Comisiwn yn cefnogi gwaith Comisiynau'r Gyfraith i symleiddio a gwell cyfraith etholiadol yn y DU fydd yn galluogi i etholiadau gael eu rhedeg yn fwy effeithlon a chost effeithiol. Bydd hefyd yn sicrhau bod y gyfraith yn addas i'r pwrpas ac yn wy hygyrch i'r rheiny sydd angen ei ddefnyddio, gan gynnwys ymgeiswyr a phleidleiswyr. Rydym yn parhau i annog Llywodraethau’r DU a'r Alban i roi'r caniatâd sydd ei angen i alluogi'r prosiect i symud ymlaen i'r cam nesaf ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi hyn.
Diwedd
Cyswllt
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Daneka Norman, Swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol, Cymru :
- 029 2064 6803 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- dnorman@electoralcommission.org.uk.
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a grëwyd gan Senedd y DU. Ein hamcan yw hygrededd a hyder y cyhoedd ym mhroses ddemocrataidd y DU. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda, ac rydym yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio refferenda a gynhelir yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (2000).
- Ddydd Iau 5 Mai cynhaliwyd etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru.
- Mae'r adroddiad yn edrych yn benodol ar weinyddiaeth etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. I gael mwy o wybodaeth ar yr etholiadau hyn, gweler ein llawlyfr i'r cyfryngau yma
- Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi adroddiad ar weinyddiaeth etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 5 Mai 2016 yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd mewn rhannau o Loegr. Mae hwn ar gael ar ein gwefan.Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiadau pellach ar yr holl etholiadau hyn a gynhaliwyd ledled y DU ddydd Iau 5 Mai 2016. Ar gyfer gwybodaeth o ran adroddiadau etholiadol eraill, cysylltwch â swyddfa'r wasg y Comisiwn Etholiadol neu gweler gwefan y Comisiwn Etholiadol.