Mae ymgeiswyr yn fodlon â'r ffordd y caiff etholiadau eu gweinyddu ond ceir pryderon o hyd mewn perthynas â thwyll
Pryderon twyll etholiadol
Canfu gwaith ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o adroddiad y Comisiwn 'Sefyll etholiad yn 2017' fod 89% o'r ymgeiswyr yn fodlon â'r ffordd y cafodd yr etholiad cyffredinol ei weinyddu - cynnydd o bum pwynt canran ers 2015. Roedd y mwyafrif helaeth o ymgeiswyr hefyd o'r farn nad oedd unrhyw achosion o dwyll na chamddefnydd yn gysylltiedig â phleidleisio yn yr etholiad. Fodd bynnag, mae canfyddiadau o dwyll yn parhau'n broblem a dywedodd lleiafrif sylweddol wrthym eu bod o'r farn bod rhai achosion o dwyll wedi digwydd.
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymchwil y Comisiwn Etholiadol:
Rydym yn falch bod y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn fodlon â'u profiad o sefyll etholiad yn 2017, ond yn nodi'r pryderon a godwyd mewn perthynas â thwyll yn ystod yr astudiaeth hon. Mae twyll, a chanfyddiadau o dwyll, yn tanseilio ein democratiaeth; felly mae'n broblem y mae'r Comisiwn wir yn ei chymryd o ddifrif. Fel un ffordd o liniaru pryderon, rydym wedi argymell yn y gorffennol y dylid cyflwyno gofyniad i bleidleiswyr gyflwyno prawf adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain Fawr, ac rydym yn croesawu cynlluniau peilot llywodraeth y DU ar gyfer profion adnabod i bleidleiswyr y disgwylir iddynt gael eu rhoi ar waith mewn rhai ardaloedd yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2018. Byddwn yn cyhoeddi gwerthusiad llawn, annibynnol o hyn erbyn haf 2018.
Mae adroddiad heddiw hefyd yn nodi bod un o bob pump o bobl a ymatebodd i waith ymchwil y Comisiwn wedi dweud eu bod wedi ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r ernes o £500 sydd ei hangen er mwyn sefyll etholiad cyffredinol. Roedd y Comisiwn Etholiadol wedi argymell yn flaenorol y dylid cael gwared ar y rhwystr ariannol hwn a diddymu ernesau ym mhob etholiad.
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at brofiadau ymgeiswyr yn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau cynghorau lleol yr Alban eleni, yn ogystal â'r rheini a safodd yn yr etholiad cyffredinol. Roedd bygylu yn fater pwysig i rai ymgeiswyr yn yr holl etholiadau hyn ac, yn arbennig, codwyd pryderon gan rai ymgeiswyr yn yr etholiadau i gynghorau a Chynulliad Gogledd Iwerddon am y ffaith bod eu cyfeiriad wedi'i gyhoeddi ar bapurau pleidleisio - nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol mewn etholiadau cyffredinol.
Mae'r Comisiwn yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru na ddylai fod angen cyhoeddi cyfeiriad cartref ymgeiswyr bellach mewn llenyddiaeth etholiadau ac mae wedi argymell yn flaenorol y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r rheolau ar gyhoeddi cyfeiriadau cartref ymgeiswyr.
Ychwanegodd Craig Westwood:
Ni ddylai fod unrhyw rwystr i sefyll etholiad ac mae'r Comisiwn wedi argymell y dylid dileu'r gofyniad i ymgeisydd dalu ernes mewn etholiad. Mae sicrhau na fydd pryderon ynghylch diogelwch personol yn atal pobl rhag sefyll etholiad o fudd o ran democratiaeth fwy amrywiol a chynhwysol. Rydym yn croesawu adolygiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus o fygylu ymgeiswyr Seneddol a bydd gennym ddiddordeb mawr yn ei adroddiad terfynol.
Gellir darllen adroddiad heddiw ar ein gwefan yma.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae'r cyfrifoldeb am rai etholiadau yn yr Alban wedi'i ddatganoli i Senedd yr Alban. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am bolisi a deddfwriaeth mewn perthynas â hygyrchedd y broses etholiadol.
- Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol adroddiad ar gofrestru etholiadol yn yr etholiad cyffredinol y gellir ei weld yma. Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi adroddiadau pellach ar hygyrchedd a phrofiad pleidleiswyr. Caiff adroddiadau ar y broses o weinyddu'r etholiad a rheoleiddio cyllid gwleidyddol eu cyhoeddi'n ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.
- I gael rhagor o fanylion am ein hargymhellion mewn perthynas â chyhoeddi cyfeiriadau ymgeiswyr, gweler ein hadroddiad The administration of the Scottish council elections held on 4 May 2017, adroddiad The 2016 Scottish Parliament election ac adroddiad Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn 2017.
- Ym mis Medi 2017, ymatebodd y Comisiwn Etholiadol i gais y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus am dystiolaeth ar fygylu ymgeiswyr Seneddol gan nodi ein safbwyntiau ar nifer o gwestiynau penodol a godwyd gan y Pwyllgor. Gellir darllen ein hymateb yma.