Diweddariad misol - ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau a rhoddwyd cosbau
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Troseddau wedi'u darganfod | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
GO Movement Ltd (cyfranogwr a ganiateir yn refferendwm yr UE) | Methu â chyflwyno ffurflen wariant refferendwm gywir; methu â chyflwyno datganiad o wariant tybiannol; methu ag adrodd am gostau refferendwm a dynnwyd fel rhan o gynllun cyffredin | Methu â danfon cofnod gwariant cywir refferendwm | Cosb ariannol amrywiol o £400 yn ddyledus erbyn 12 Chwefror 2020 |
Plaid Werdd (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â rhoi gwybod i'r Comisiwn am newid o swyddog uned gyfrifo cofrestredig erbyn y dyddiad perthnasol | Methu â rhoi gwybod i'r Comisiwn am newid o swyddog uned gyfrifo cofrestredig erbyn y dyddiad perthnasol | Cosb ariannol amrywiol o £400 wedi'i thalu ar 13 Ionawr 2020 |
The Entertainment Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon datganiad o gyfrifon 2018 yn hwyr | Danfon datganiad o gyfrifon 2018 yn hwyr | Cosb ariannol amrywiol o £350 yn ddyledus erbyn 10 Chwefror 2020 |
Black Country Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr | Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr | Cosb ariannol sefydlog o £200 wedi'i thalu ar 9 Ionawr 2020 |
Quote
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
"Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan fo pleidiau ac ymgyrchwyr yn methu â chyflwyno adroddiadau yn gywir ac yn amserol. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data llawn a chywir ynghylch o ble mae arian y pleidiau ac ymgyrchwyr yn dod, a sut maent yn cael eu gwario.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen."
Ymchwiliadau lle na rhoddwyd cosbau
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Troseddau wedi'u darganfod | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
'Carlton Club' (cymdeithas aelodau) | Methu â dychwelyd rhodd i roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod o'i dderbyn; methu â chyflwyno adroddiad rhodd o fewn 30 diwrnod i'w dderbyn. | Dim troseddau wedi'u darganfod. | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
'Sovereign Republic' (plaid gwleidyddol gofrestredig) | Methu â darparu cyfrifon ar gyfer 2018. | Dim penderfyniad o drosedd | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.
Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol yn ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.