Diweddariad misol - ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:
Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Troseddau wedi'u darganfod | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Grwp Llafur Lambeth (cymdeithas aelodau a chymdeithas anghorfforedig) | Methu â rhoi hysbysiad o roddion i blaid wleidyddol dros £25,000 | Methu â rhoi hysbysiad o roddion i blaid wleidyddol dros £25,000 | £600 o gosb ariannol amrywiol Talwyd ar 18 Mai 2020 |
Llafur dros Bleidlais y Bobl (cymdeithas aelodau) | Methu danfon dau gofnod rhoddion o fewn 30 diwrnod o dderbyn rhoddion | Methu danfon dau gofnod rhoddion o fewn 30 diwrnod o dderbyn rhoddion | 2 x £200 cosbau ariannol sefydlog gwerth cyfanswm o £400. Talwyd ar 14 Mai 2020 |
'Shropshire Party' (plaid wleidyddol gofrestredig) | Dosbarthu adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol yn hwyr ar gyfer UKPGE 2019 | Dosbarthu adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol yn hwyr ar gyfer UKPGE 2019 | 2 x £200 cosbau ariannol sefydlog gwerth cyfanswm o £400. Talwyd ar 29 Ebrill 2020 |
'Cynon Valley' (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr | £200 o gosb ariannol penodol. Taliad yn ddyledus erbyn 19 Mai 2020 |
'Ulster Unionist Party' (uned gyfrifo Fermanagh a De Tyrone) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr | £200 o gosb ariannol penodol. Talwyd ar 17 Ebrill 2020 |
'Kingston Independent Residents Group' (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
"Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae hi wastad yn siom pan fo pleidiau a'u haelodadu cyfirfyddiaeth yn methu â darparu adroddiadau cywir ar amser. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data llawn a chywir ynghylch ble mae eu harian yn dod, a sut maent yn cael eu gwario.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen."
Dyfarnwyr rheoledig Gogledd Iwerddon
Mae'r Comisiwn hefyd wedi cwblhau dau ymchwiliad mewn perthynas â rhoddion a dderbyniwyd gan ddau weithredwr rheoledig cyn 1 Gorffennaf 2017. Ni wnaed unrhyw benderfyniad ar drosedd yn y naill achos na'r llall.
Mae'r Comisiwn yn parhau i fod wedi'i rwystru gan ddeddfwriaeth rhag datgelu unrhyw wybodaeth ynghylch rhoddion i dderbynwyr Gogledd Iwerddon a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2017 (adran 71E Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000).
Wrth sôn am gau ymchwiliadau yn ymwneud â rhoddion yng Ngogledd Iwerddon, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Rydym yn gresynu ein bod yn parhau i fethu â datgelu gwybodaeth am roddion cyn mis Gorffennaf 2017. Rydym yn parhau i alw ar i Lywodraeth y DU ddod â deddfwriaeth gerbron fydd yn ein galluogi i gyhoeddi gwybodaeth ar roddion o fis Ionawr 2014. Byddai hyn yn rhoi tryloywder a hyder i bleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon.”
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk.
Notes to editors
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- heoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.
Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol yn ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.
Tryloywder Rhoddion a Benthyciadau ac ati. Mae Gorchymyn 2018 (Partïon Gwleidyddol Gogledd Iwerddon) yn caniatáu i'r Comisiwn gyhoeddi gwybodaeth am roddion a benthyciadau a adroddwyd gan bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon ac endidau rheoledig eraill o 1 Gorffennaf 2017 ymlaen.
Galluogodd Deddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2014 i'r Ysgrifennydd Gwladol ganiatáu i'r Comisiwn gyhoeddi manylion rhoddion yr adroddwyd amdanynt o 1 Ionawr 2014. Fodd bynnag, dim ond o 1 Gorffennaf 2017 yr oedd y ddeddfwriaeth eilaidd a gyflwynwyd at y diben hwn yn caniatáu cyhoeddi rhoddion a benthyciadau.
Byddai ôl-ddyddio'r gyfraith hon yn caniatáu i ni gyhoeddi manylion rhoddion sy'n ymwneud ag Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU 2015; Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon 2016 a 2017; a Refferendwm yr UE 2016.
Tagiau cysylltiedig
- Campaigner
- Candidate
- Investigations
- Journalist
- Political party
- UK wide
- Voter