Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben

Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben

Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd

Enw a’r math o endid a reoleiddir

Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo

Troseddau a gafwyd

Penderfyniad a wnaed

Plaid Cymru (plaid wleidyddol gofrestredig)

 

Methu â danfon anfonebau gyda ffurflenni gwariant ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019

Methu â danfon anfonebau gyda ffurflenni gwariant ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019

Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach

Talu anfonebau gwariant ymgyrchu yn hwyr ar ôl Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019

Ni chafwyd bod trosedd

 

Cau'r achos heb gamau pellach

 

Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:

“O ran tryloywder, mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir ynghylch cyllid pleidiau gwleidyddol.

“Lle cafwyd bod troseddau wedi’u cyflawni, nid ydym yn gosod cosbau yn awtomatig. Rydym yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth ddod i’n penderfyniad terfynol.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected].

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.

  1. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolar gael ar wefan y Comisiwn.
  2. Mae cosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol, yr un fath â rhoddion a fforffedwyd. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.