Diweddariad misol - ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:
Enw a'r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Plaid Cymru (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â hysbysu'r Comisiwn o newid i'r trysorydd cofrestredig a swyddog cofrestredig uned gyfrifyddu erbyn y dyddiad dyledus | Methu â hysbysu'r Comisiwn o newid i'r trysorydd cofrestredig a swyddog cofrestredig uned gyfrifyddu erbyn y dyddiad dyledus | 2 x £375 cosbau ariannol amrywiol I'w talu erbyn 9 Gorffennaf 2020 |
English National Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Anfon datganiad o gyfrifon 2018 yn hwyr | Anfon datganiad o gyfrifon 2018 yn hwyr | £350 cosb ariannol amrywiol I'w talu erbyn 8 Gorffennaf 2020 |
Ymddiriedolaeth Cymdeithas Unoliaethwyr yr Alban (cymdeithas anghorfforedig a chymdeithas aelodau) | Methu â rhoi gwybod am rodd erbyn dyddiad cau | Methu â rhoi gwybod am rodd erbyn dyddiad cau | £300 cosb ariannol amrywiol Talwyd ar 9 Mehefin 2020 |
Stand up to Racism (ymgyrchydd amhleidiol) | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu yn isetholiad Seneddol 2019 Gorllewin Casnewydd | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu yn isetholiad Seneddol 2019 Gorllewin Casnewydd | £300 cosb ariannol amrywiol Talwyd ar 25 Mai 2020 |
Plaid Geidwadol ac Unoliaethol (uned gyfrifyddu Gogledd Ayrshire ac Arran) | Anfon datganiad o gyfrifon 2018 yn hwyr | Anfon datganiad o gyfrifon 2018 yn hwyr | Dim cosb Cau'r achos heb gamau pellach |
Aontú (plaid wleidyddol gofrestredig) | Dosbarthu adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol yn hwyr ar gyfer 2019 Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU | Dosbarthu adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol yn hwyr ar gyfer 2019 Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU | Dim cosb Cau'r achos heb gamau pellach |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon a roddwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“Mae’r gofynion adrodd yn glir, felly mae bob amser yn siomedig pan fydd pleidiau a chymdeithasau aelodau yn methu â darparu adroddiadau prydlon. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data llawn a chywir ynghylch tarddiad arian y pleidiau.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt."
Mae'r Comisiwn hefyd wedi cwblhau ymchwiliad i Ecotricity (ymgyrchydd amhleidiol anghofrestredig), Mr Dale Vince (cyfarwyddwr Ecotricity) a CR Signs Limited (yr argraffydd) ynghylch methiant posib i gynnwys gwasgnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu yn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU 2019. Penderfynodd y Comisiwn na chyflawnodd Mr Vince unrhyw drosedd, ac ni wnaeth unrhyw benderfyniad ar droseddau mewn perthynas ag Ecotricity a CR Signs (Stroud) Limited.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk.
Notes to editors
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drosti, gan giesio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol hefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.