Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Yn dilyn ymchwiliad i’r blaid wleidyddol Renew, mae’r Comisiwn wedi gosod deg dirwy, sef cyfanswm o £5,580. Cafodd yr ymchwiliad bod y blaid:
- Wedi cyflwyno adroddiadau rhoddion ac adroddiadau trafodion chwarterol yn hwyr ar sawl achlysur, trwy gydol 2019
- Wedi cyflwyno adroddiad rhoddion cyn-etholiad hwyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn 2019
- Wedi methu â hysbysu’r Comisiwn ynghylch newidiadau i’w swyddogion cofrestredig o fewn y ffrâm amser statudol
Mae’r cosbau wedi eu gosod ar drysorydd cofrestredig y blaid, Mr David Britten.
Quote from Louise Edwards, director of regulation
Wrth wneud sylw ar y dirwyon a roddwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“Mae’n hanfodol bos pleidleiswyr yn gallu gweld cofnodion ariannol cywir a phrydlon sy’n dangos o ble y daw arian pleidiau gwleidyddol. Pan fo pleidiau’n methu â bodloni eu dyletswyddau cyfreithiol, mae yna golled o ran tryloywder, sy’n fwy siomedig byth pan fo’n ganlyniad i ddiffyg strwythurau mewnol cadarn dros gyfnod estynedig.
“Gall pleidleiswyr fod yn hyderus y byddwn yn cymryd camau gweithredol lle bo pleidiau yn methu â chydymffurfio â’r rheolau heb esboniad rhesymol.”
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Renew (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno sawl adroddiad rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr; methu â darparu datganiad cyfrifon 2018; methu ag adrodd am newidiadau i swyddogion cofrestredig o fewn y ffrâm amser statudol; cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion cyn-etholiad yn hwyr. | 12 trosedd | Deg cosb ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £5,580. Talwyd ar 20 Gorffennaf 2020 |
Duma Polska = Polish Pride (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr; cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr; cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr | £400 cosb ariannol amrywiol I'w thalu erbyn 30 Gorffennaf 2020 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (uned gyfrifyddu Dwyrain Lothian) | Methu â rhoi gwybod i'r Comisiwn am newid i’r uned gyfrifyddu gofrestredig erbyn y dyddiad dyledus | Methu â rhoi gwybod i'r Comisiwn am newid i’r uned gyfrifyddu gofrestredig erbyn y dyddiad dyledus | £300 cosb ariannol amrywiol. Talwyd ar 20 Gorffennaf 2020 |
North East Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn hwyr | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn hwyr | £200 cosb ariannol benodedig Talwyd ar 10 Mehefin 2020 |
Health Campaigns Together (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig), Dr John Lister (hyrwyddwr) a Reach Printing Services (argraffwyr) | Methu â chynnwys gwasgnod ddilys ar ddeunydd ymgyrchu yn ystod Etholiad Cyffredinol Senedd y DU | Methu â chynnwys gwasgnod ddilys ar ddeunydd ymgyrchu yn ystod Etholiad Cyffredinol Senedd y DU | £200 cosb ariannol benodedig wedi ei osod ar Dr John Lister Talwyd ar 29 Mehefin 2020 |
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Church of the Militant Elvis (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno cofnod gwariant ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Dim trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Y Democratiaid Rhyddfrydol (uned gyfrifyddu Haringey Borough) | Methu â chofnodi rhodd gan roddwr nas caniateir o fewn 30 diwrnod | Dim trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd trwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drosti, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol hefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.
Tagiau cysylltiedig
- Campaigner
- Investigations
- Journalist
- Political party
- UK wide
- Voter