Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Y Blaid Werdd (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion chwarterol cywir; cyflwyno adroddiad trafodion chwarterol yn hwyr | Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion chwarterol cywir; cyflwyno adroddiad trafodion chwarterol yn hwyr | Dwy gosb ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £1,950 (£800 a £1,150 fel ei gilydd). Talwyd ar 23 Gorffennaf 2020 |
Manchester Labour Group (cymdeithas anghorfforedig) | Methu â rhoi: hysbysiad o roddion i blaid wleidyddol dros £25,000, a hysbysiad o roddion a dderbyniwyd erbyn y dyddiad dyledus | Methu â rhoi: hysbysiad o roddion i blaid wleidyddol dros £25,000, a hysbysiad o roddion a dderbyniwyd erbyn y dyddiad dyledus | £1,800 cosb ariannol amrywiol I’w thalu erbyn 21 Awst 2020 |
Compass (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â rhoi gwybod i'r Comisiwn am newid i arweinydd cofrestredig y blaid | Methu â rhoi gwybod i'r Comisiwn am newid i arweinydd cofrestredig y blaid | £700 cosb ariannol amrywiol I’w thalu erbyn 21 Awst 2020 |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon a roddwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“Mae’r gofynion adrodd yn glir, felly mae bob amser yn siomedig pan fydd pleidiau a chymdeithasau anghorfforedig yn methu â’u bodloni. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data cywir a phrydlon ynghylch tarddiad eu harian.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt."
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â chofnodi rhodd gan roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod | Dim trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
John Stevenson AS (rhoddwr a reoleiddir) | Methu â chofnodi rhodd gan roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod | Dim trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy:
- alluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- reoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- ddefnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drosti, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.
Yn yr ymchwiliad i’r Blaid Geidwadol, canfu’r Comisiwn fod y swm a roddwyd yn is na’r trothwy cyfreithiol lle cymhwysir rheolau ynghylch yr hyn a ganiateir.
Yn yr ymchwiliad i Mr Stevenson, canfu’r Comisiwn nad oedd y swm a roddwyd yn rhodd yn ôl y diffiniad cyfreithiol.