Momentum yn cael ei ddirwyo gan y Comisiwn Etholiadol am dorri cyfraith etholiadol sawl gwaith
Datganiad o ganlyniad
Cafodd Momentum ddirwy o £16,700 i gyd gan y Comisiwn Etholiadol, sef y rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol, am dorri cyfraith etholiadol sawl gwaith. Mae’r dirwyon yn ymwneud â ffurflen gwariant anghywir ar gyfer etholiad cyffredinol 2017 a methiant i roi gwybod am roddion a dderbyniwyd fel ‘cymdeithas aelodau’ y tu allan i gyfnod etholiadol.
Mae hyn yn cynnwys y ddirwy fwyaf a roddwyd i ymgyrchydd nad yw’n blaid am beidio â chyflwyno ffurflen gwariant gyflawn a chywir i’r Comisiwn Etholiadol. Dyma’r tro cyntaf i Momentum fod yn destun ymchwiliad. Er mwyn bodloni eu rhwymedigaethau adrodd yn y dyfodol, mae’n rhaid iddynt sichrhau bod gyda nhw’r staff a’r prosesau cywir yn eu lle.
Troseddau sy’n ymwneud â ffurflen gwariant etholiad cyffredinol 2017
Cofrestrodd Momentum fel ymgyrchydd nad yw’n blaid cyn etholiad cyffredinol 2017 – fel yr oedd yn ofynnol i unrhyw unigolyn neu sefydliad a oedd yn bwriadu gwario mwy na’r trothwy cofrestru ar gyfer ymgyrchu. Yna, cyflwynodd ffurflen gwariant i’r Comisiwn ym mis Medi 2017. Nodwyd nifer o faterion ynglŷn â’r ffurflen a lansiodd y Comisiwn ymchwiliad ym mis Tachwedd 2017.
Rydym bellach wedi dod i’r casgliad bod Momentum
- wedi methu â chyflwyno ffurflen gwariant a oedd yn gyflawn ac yn gywir. Cafodd ddirwy o £12,150 am y drosedd hon
- wedi methu â chynnwys rhoddion cofnodadwy gwerth £22,958.46 mewn adroddiad ar roddion ar ôl y bleidlais. Cafodd ddirwy o £2,700 am y drosedd hon
- wedi methu â darparu’r datganiad gofynnol i ategu’r adroddiad ar roddion ar ôl y bleidlais. Cafodd ddirwy o £250 am y drosedd hon
- wedi methu â darparu’r holl anfonebau gofynnol ar gyfer ei ffurflen gwariant. Cafodd ddirwy o £250 am y drosedd hon
Meddai Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Comisiwn Etholiadol:
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn hanfodol er mwyn sicrhau democratiaeth iach. Ond mae’r un mor bwysig sicrhau y gall pleidleiswyr weld data gwariant cyflawn a chywir ar ôl pleidlais. Mae’r dirwyon a roddwyd gennym yn adlewyrchu diwygiadau mynych gan Momentum i’w ffurflen gwariant, cofnodion gwael a methiant i ddilyn cyngor a roddwyd gan y Comisiwn cyn yr etholiad.
Troseddau fel cymdeithas aelodau
Cymdeithas aelodau oedd Momentum fel y’i diffiniwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac mae’n parhau i fod felly. Mae hyn ei gwneud yn ofynnol i roi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol am unrhyw roddion gwerth mwy na £7,500 o fewn 30 diwrnod i’w derbyn.
Yn ystod ein hymchwiliad i ffurflen gwariant etholiad cyffredinol Momentum, mae’r Comisiwn wed dod i’r casgliad canlynol
- Methodd Michael Chessum, y person cyfrifol yn Momentum ar y pryd, â rhoi gwybod am rodd o £10,000 gan y Gymdeithas Staffau Cyflogedig Trafnidiaeth (TSSA) o fewn 30 diwrnod i’w derbyn. Derbyniwyd y rhodd ar 21 Gorffennaf 2016, ond ni chawsom wybod amdani tan 19 Ionawr 2019. Cafodd Momentum ddirwy o £900 am y drosedd hon.
- Methodd Mohammed Afridi, y person cyfrifol yn Momentum ar y pryd, â rhoi gwybod am rodd o £8,000 gan y Gymdeithas Staffau Cyflogedig Trafnidiaeth (TSSA) o fewn 30 diwrnod i’w derbyn. Derbyniwyd y rhodd ar 3 Mai 2017, ond ni chawsom wybod amdani tan 17 Gorffennaf 2018. Cafodd Momentum ddirwy o £450 am y drosedd hon.
Wrth nodi rhwymedigaethau cyfreithiol Momentum, ychwanegodd Louise Edwards:
Mae rhwymedigaethau cyfreithiol ar ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ceisio darbwyllo pobl i bleidleisio mewn ffordd benodol, a hynny’n gyfiawn; mae dyletswydd arnynt fuddsoddi’n briodol er mwyn sicrhau bod ganddynt y prosesau a’r staff priodol i gyflawni eu rhwymedigaethau. Mae Momentum yn wahanol i’r rhan fwyaf o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn yr ystyr mai ymgyrchu gwleidyddol yw ei waith llawn amser, felly mae’n siomedig iawn ei fod wedi methu â bodloni gofynion y gyfraith.
Mae adroddiad y Comisiwn ar ei ymchwiliad i Momentum ar gael ar ein gwefan.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi’r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth a dadlau o’u plaid, gyda’r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae gan unigolyn neu sefydliad sydd wedi cael cosb gan y Comisiwn Etholiadol 28 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Caiff unrhyw apêl o’r fath ei chyflwyno i’r Llys Sirol.
- Bydd dirwyon heb eu talu yn cynyddu 50% os na chânt eu talu o fewn 56 diwrnod i’w rhoi. Ar ôl 28 diwrnod arall, mae’n bosibl y gallwn gymryd camau i sicrhau y cânt eu talu drwy’r llys drwy ddefnyddio’r broses adennill dyled.
- Ystyrir unrhyw achos o dorri’r rheolau ynglŷn â chyllid gwleidyddol yn unol â Pholisi Gorfodi y Comisiwn.
- Mae cosbau gan y Comisiwn yn mynd at y Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid gan y Comisiwn Etholiadol.
- Roedd yn ofynnol i unrhyw ymgyrchydd nad yw’n blaid a oedd yn bwriadu gwario £20,000 yn Lloegr neu £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod cyfnod a reoleiddir Etholiad Cyffredinol 2017 Senedd y DU (9 Mehefin 2016 - 8 Mehefin 2017) gofrestru â’r Comisiwn Etholiadol a dilyn y rheolau ar ymgyrchu fel y nodir yn y ddeddfwriaeth.