Newidiadau’r Ddeddf Etholiadau i’r rheolau gwariant - Tachwedd a Rhagfyr 2022

Deall newidiadau i’r rheolau gwariant

Mae Deddf Etholiadau 2022 yn gwneud dau newid i’r ffordd y mae’r rheolau gwariant yn gweithio mewn etholiadau, o ran pan fydd rhywun arall yn helpu’r ymgeisydd a’r asiant gyda’u hymgyrch – er enghraifft plaid wleidyddol.

Mae’r newidiadau hyn yn gymwys o 24 Tachwedd 2022 neu 6 Rhagfyr 2022 ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu1 .

Y rheolau cyn y newidiadau

Gwariant tybiannol

Os rhoddir rhywbeth i’r ymgeisydd yn rhad ac am ddim neu am ostyngiad anfasnachol bris, a’i fod yn cael ei ddefnyddio gan ymgeisydd neu ar ei ran, yna mae gwerth yr hyn a ddarperir yn cyfrif fel gwariant tuag at derfyn yr ymgeisydd. ‘Gwariant tybiannol’ yw’r enw a roddwn ar y math hwn o wariant.

Mae gwerth yr hyn a roddir hefyd yn cyfrif fel rhodd i’r ymgeisydd.

Ymgyrchu yn lleol

Os, yn hytrach na darparu rhywbeth at ddefnydd neu fuddiant yr ymgeisydd, mae rhywun yn gwario arian yn hyrwyddo’r ymgeisydd, gelwir hyn yn ‘ymgyrchu lleol’. Mae mynd i wariant ar ymgyrchu lleol wedi’i wahardd y tu hwnt i derfyn penodol ar gyfer pob etholiad, oni bai bod y gwariant hwnnw wedi’i awdurdodi yn ysgrifenedig gan asiant yr ymgeisydd.

Mae gwariant awdurdodedig yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. Gall y person sydd wedi’i awdurdodi fynd i wariant, ond cyn y newid i’r ddeddfwriaeth, mae’n dal yn rhaid i’r asiant wneud y taliadau.

Mae mynd i wariant yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario’r arian.

Y newidiadau 

Bydd y newidiadau’n berthnasol i’r etholiadau canlynol:

  • Etholiadau Senedd y DU
  • Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
  • Etholiadau lleol yn Lloegr
  • Etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon
  • Etholiadau i Awdurdod Llundain Fwyaf
  • Etholiadau maerol awdurdodau cyfun
  • Etholiadau maerol awdurdodau lleol
  • Etholiadau cynghorau plwyf
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Y cyfnod a reoleiddir yw’r adeg pan fydd y rheolau gwariant yn gymwys.

Ar gyfer rhai ymgeiswyr, bydd y newidiadau’n digwydd yn ystod eich cyfnod a reoleiddir. bydd hyn yn digwydd os yw eich cyfnod a reoleiddir yn cwmpasu 24 Tachwedd 2022, neu 6 Rhagfyr 2022 (ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu).

Mae’r newidiadau fel a ganlyn:

(1) ‘Defnydd ar ran ymgeisydd’ mewn gwariant tybiannol

Yn y rheolau ar wariant tybiannol, mae’r ymadrodd ‘defnydd ar ran ymgeisydd’ wedi’i ddiffinio fel bod rhywun ond yn defnyddio rhywbeth ar ran ymgeisydd os yw’r defnydd hwnnw wedi’i gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgeisydd neu’r asiant.

Bydd y diffiniad newydd yn gymwys pryd bynnag y defnyddir eitem ar ôl y newidiadau i’r gyfraith. Yn ymarferol efallai na fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar drefniadau sydd gennych eisoes.

(2) Gwneud taliadau ar gyfer ymgyrchu lleol 

Yn y rheolau ymgyrchu lleol, os yw’r asiant wedi rhoi awdurdodiad ysgrifenedig i rywun fynd i wariant ar ran yr ymgeisydd, yna mae’r person sydd wedi’i awdurdodi i fynd i wariant hefyd yn gallu gwneud y taliadau ar gyfer y gwariant hwnnw.

Bydd unrhyw un y mae’r asiant yn ei awdurdodi yn ysgrifenedig i fynd i wariant yn gallu gwneud y taliadau ar gyfer y gwariant hwnnw os ydyw’n mynd i wariant ar ôl i’r gyfraith newydd.

Os yw asiant yn rhoi awdurdodiad ysgrifenedig i rywun arall fynd i wariant, dylai’r asiant ei gwneud hi’n glir beth a ddisgwylir ynghylch pwy fydd yn talu.

Nid yw’r ail newid yn gymwys i etholiadau plwyf, lle nad oes asiantiaid etholiadol

Canllawiau a chyngor pellach

Gellir dod o hyd i’n canllawiau ar reolau gwariant ar gyfer etholiadau ar ein tudalen canllawiau Ymgeiswyr ac Asiantiaid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid mewn deddfwriaeth, neu am unrhyw nodwedd arall o’r rheolau gwariant a rhoddion, cysylltwch â Sam Nicholson drwy e-bostio [email protected], neu ffonio 020 7271 0527.