Ymateb i’r adborth ar yr ymgynghoriad ynghylch y codau ymarfer ar wariant gan ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol

Summary

Ar 21 Ebrill 2020 gwnaethom gyflwyno dau god ymarfer i'r Gweinidog Cyfansoddiad a Datganoli i'w gymeradwyo a'u gosod gerbron Senedd y DU. Maent yn ymwneud â gwariant etholiadol: un ar wariant gan ymgeiswyr ac un ar wariant gan bleidiau.

Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2018 cynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad ar y codau. Roeddem am glywed barn ystod eang o randdeiliaid, ac yn cydnabod mor bwysig oedd hi fod y bobl a fydd yn defnyddio'r codau yn eu cefnogi.   

Mae'r papur hwn yn nodi’r adborth a ddaeth i law a sut y gwnaethom ymateb iddo. Rydym wedi defnyddio’r adborth i sicrhau bod y codau’n gywir ac yn glir.

Mewn rhai achosion doedd dim modd inni wneud y newidiadau a awgrymwyd am y byddai angen newid y gyfraith i ganiatáu inni wneud hynny, neu am fod y newidiadau arfaethedig yn anghyson â’r hyn a geir yn y gyfraith.

Trosolwg

Dogfen o ganllawiau cyfreithiol yw cod ymarfer.  Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn ein galluogi i ddrafftio codau sy’n rhoi canllawiau ar wariant gan ymgeiswyr a phleidiau. Bellach mae angen i'r Llywodraeth ofyn i'r Senedd gymeradwyo’r codau. 

Mae'r ddeddfwriaeth yn defnyddio categorïau cyffredinol megis 'hysbysebu' a 'deunydd digymell i etholwyr' i nodi’r costau y dylid eu cynnwys ym mhob categori.  Mae’r codau’n nodi canllawiau manwl ar yr hyn sydd wedi’i gynnwys, a’r hyn sydd heb ei gynnwys, yn y categorïau gwahanol hyn o wariant.

Mae'r codau’n ymwneud ag etholiadau sy’n dod o dan gyfrifoldeb Senedd y Deyrnas Unedig, sef etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig, Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr. O dan rai amgylchiadau byddant yn gymwys i etholiadau eraill hefyd (ceir rhestr lawn yn Atodiad A). Byddant yn gwella tryloywder, tegwch a chysondeb o ran yr hyn y mae ymgeiswyr, asiantau a phartïon yn rhoi gwybod amdano. Byddant yn ei gwneud yn gliriach i bleidleiswyr a sylwedyddion beth gafodd ei wario ar wahanol weithgareddau yn ystod ymgyrchoedd.

Rydym yn ddiolchgar i’r nifer fawr o randdeiliaid a roddodd adborth ar y codau.  Yn gyffredinol, roedd pobl yn gefnogol i’n nod y dylai’r codau egluro’n well yr hyn a ddylai gael ei gofnodi fel gwariant plaid a gwariant ymgeisydd.  Y themâu allweddol yr oedd yr adborth yn canolbwyntio arnynt oedd:

  • Iaith a strwythur y codau 
  • Tryloywder ynglŷn â gwariant ar ymgyrchu digidol 
  • Rhannu gwariant rhwng y blaid a'r ymgeisydd 
  • Ymdrin â gorbenion 
  • Ymdrin â chostau eitemau a ddefnyddir mewn sawl etholiad
  • Ymdrin â deunydd sy'n cynnwys aelod amlwg o blaid
  • Ymdrin â chostau cyfreithiol
  • Y cydadwaith rhwng y codau a chanllawiau eraill rydym yn eu cyhoeddi 

Y prif newidiadau yn y codau

Mewn ymateb i'r adborth, gwnaethom newidiadau yn y codau drafft. Mae'r prif newidiadau yn cynnwys:

  • newid yr iaith a’r strwythur i'w gwneud yn hawdd i'w ddarllen ac yn symlach i’w defnyddio 
  • egluro bod y rheolau yn gymwys i wariant ar yr holl weithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau digidol, a diweddaru’r enghreifftiau o weithgareddau digidol a ddarperir
  • egluro’n well sut yr ymdrinnir â chostau deunydd etholiad sy’n cael ei ddosbarthu'n ehangach nag yn yr etholaeth y mae rhywun yn sefyll ynddi 
  • cydnabod na fydd cost cyngor cyfreithiol yn cael ei chynnwys mewn gwariant etholiad yn y rhan fwyaf o amgylchiadau 
  • egluro’n well sut mae’r codau’n wahanol i fathau eraill o ganllawiau rydym yn eu cyhoeddi a sut mae'r codau’n eistedd ochr yn ochr â’n canllawiau manwl ar etholiadau penodol 
  • cynnwys mwy o enghreifftiau i ddangos pryd mae’n rhaid rhoi gwybod am wariant 
  • egluro sut y dylid rhoi gwybod am eitemau a ddefnyddir mewn dau neu fwy o etholiadau 

Mewn rhai achosion mae wedi bod yn amhosibl gwneud newidiadau a awgrymwyd. Er enghraifft, awgrymodd rhai pobl y dylid cael categorïau ychwanegol o wariant y dylid rhoi gwybod amdanyn nhw, ond allwn ni ddim gwneud hynny heb newid y ddeddfwriaeth. Mewn achosion eraill doedd yr adborth ddim yn gyson â sut rydyn ni’n darllen y rheolau, neu roedd darnau o adborth yn anghydnaws â'i gilydd.

Pam cafodd y codau eu hysgrifennu

Rydyn ni wedi ysgrifennu’r codau i helpu pleidiau, ymgeiswyr ac asiantau i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac i wella tryloywder i bleidleiswyr.   

Mae’r ddeddfwriaeth ar etholiadau yn caniatáu inni baratoi canllawiau cyfreithiol ar yr hyn sydd wedi’i gynnwys a’r hyn sydd heb ei gynnwys yn y categorïau gwariant a restrwyd yn y ddeddfwriaeth. Pan fydd y codau mewn grym bydd angen i bleidiau ac ymgeiswyr gymryd y codau i ystyriaeth wrth ymgyrchu ac wrth roi gwybod am wariant ar ôl etholiad.

Os caiff y codau eu deddfu, fe fyddan nhw’n rhoi eglurder i ymgeiswyr, asiantau a phleidiau am ba eitemau sy’n cyfrif tuag at wariant a ph'un a ddylid rhoi gwybod am wariant yn ffurflen yr ymgeisydd ynteu yn ffurflen y blaid. Maen nhw hefyd yn nodi sut i roi gwybod am wariant ar ymgyrchu digidol.  

Mae angen diwygio’r gyfraith etholiadol i'w gwneud yn glir ac yn hawdd i'w deall. Yn niffyg diwygio, mae’r codau’n caniatáu inni ddarparu eglurder a chysondeb o ran rhoi gwybod am wariant etholiad. Gan hynny, rydym yn annog y Senedd i gymeradwyo’r codau.
 

Sut cafodd y codau eu datblygu

Buom yn defnyddio’n profiad o reoleiddio etholiadau ac adolygu ffurflenni ariannol i lunio’r codau. Roeddem yn awyddus i weithio ar y cyd â phobl naill ai a fyddai’n defnyddio’r codau neu a oedd yn meddu ar arbenigedd mewn meysydd penodol. Buom yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol yn gynnar yn y prosiect.  Er enghraifft, buom yn siarad â phleidiau mewn cyfarfodydd o Banel Pleidiau’r Senedd a'r paneli ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Cawsom adborth hefyd gan arbenigwyr ar ymgyrchu digidol a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. 

Yn ogystal â gwahodd adborth ysgrifenedig a llafar, yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol fe fuom:

  • yn cynnal cyfarfodydd â phleidiau, ac
  • yn cynnal sesiynau galw heibio yn y Senedd i Aelodau Seneddol

Sicrhaodd hyn ein bod wedi cael barn ystod eang o bobl. Cawsom 42 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Cafodd yr holl adborth ei gofnodi a’i ddidoli yn ôl themâu allweddol.

Wedyn dechreuwyd ailddrafftio elfennau o'r codau. Wrth wneud hyn, buom yn cyfarfod â phleidiau er mwyn casglu rhagor o fanylion a thrafod y prif themâu.

Rhannwyd drafftiau diwygiedig o'r codau a chynnal cyfarfod bwrdd crwn gyda phleidiau Panel Pleidiau Senedd San Steffan. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn gan ein bod yn gallu siarad drwy’r newidiadau yn y drafftiau diwygiedig a phenderfynu sut y gallem wella'r codau terfynol.

Yn dilyn adborth pellach gan Swyddfa'r Cabinet a phleidiau gwleidyddol rydym wedi cynyddu nifer yr enghreifftiau ac wedi cadarnhau y bydd yr enghreifftiau hyn yn rhan o'r codau statudol. Mae'r enghreifftiau ychwanegol yn ymdrin â:

  • pan fydd gwariant yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd neu'r blaid
  • deunydd ymgyrchu sy'n cael ei ddosbarthu ar draws nifer o feysydd etholiadol
  • sefyllfaoedd pan delir staff plaid i hyrwyddo ymgeiswyr penodol
  • pryd y bydd costau sy'n gysylltiedig â ffonau symudol yn cyfrif tuag at derfyn

Rydym hefyd wedi ychwanegu eglurdeb at yr enghreifftiau o 'wariant tybiannol' lle mae ymgeisydd neu asiant yn defnyddio eitemau a ddarperir gan rywun arall.