Llythyr: Coronafeirws a'i effaith ar etholiadau mis Mai

Summary of the letter

Dyddiad: 12 Mawrth 2020

At: Chloe Smith AS, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad a Datganoli 

CC Y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet

Cyfeiriad: Swyddfa'r Cabinet, 70 Whitehall, Llundain, SW1A 2AS 

Oddi wrth: Bob Posner, Prif Weithredwr

Fformat: Anfonwyd drwy e-bost

Full letter

Annwyl Weinidog, 

O ystyried y sefyllfa bresennol, sy'n datblygu o hyd, o ran Covid-19 yn y DU, roeddwn am ysgrifennu atoch i nodi pryderon y Comisiwn ynghylch y risgiau gwirioneddol i'r gwaith o gynnal yr etholiadau a drefnwyd ar gyfer 7 Mai 2020 yn llwyddiannus.

Rydym wedi bod mewn cysylltiad agos ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol ym mhob rhan o'r gymuned etholiadol – gan gynnwys Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, Solace, Swyddog Canlyniadau Llundain Fwyaf, Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, ac wrth gwrs eich swyddogion chi – er mwyn asesu'r risgiau, a nodi a datblygu mesurau lliniaru priodol i sicrhau y gellir cynnal yr etholiadau. Er bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, mae eisoes wedi dod yn amlwg bod y risgiau mor sylweddol, y codir pryderon difrifol ynghylch parhau i gynnal yr etholiadau yn unol â'u hamserlen bresennol. 

Er nad yw'r diwrnod pleidleisio tan 7 Mai, mae paratoadau ar gyfer yr etholiadau eisoes yn mynd rhagddynt, ac yn wir caiff yr hysbysiad etholiad – sy'n nodi dechrau'r amserlen ffurfiol – ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth, a'r Senedd fel y bo'n briodol, wneud penderfyniad nawr ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r etholiadau a drefnwyd ar gyfer 7 Mai. 

Er mwyn i bleidleiswyr allu bwrw eu pleidlais, mae'n rhaid trefnu lleoliadau gorsafoedd pleidleisio, eu gosod, eu staffio a sicrhau mynediad iddynt; rydym yn gwybod yn barod bod gan awdurdodau lleol bryderon ynghylch eu gallu i sicrhau hyn, yn benodol wrth barhau i reoli gwasanaethau allweddol eraill o dan yr amgylchiadau presennol. Mae hefyd yn hollbwysig bod pleidleiswyr yn gallu clywed safbwyntiau ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr cyn iddynt fwrw eu pleidlais; fodd bynnag, efallai na fydd yn bosibl ymgymryd â sawl math o waith ymgyrchu, ac o ganlyniad ni fydd digon o gyfleoedd i bobl glywed y dadleuon. 

Rydym hefyd yn rhagweld y bydd niferoedd sylweddol o etholwyr cofrestredig na fyddant, yn ymarferol, yn cael y cyfle i fwrw eu pleidlais, neu na fyddant am wneud hynny, o ganlyniad i effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19. Er y byddai'n bosibl datrys y broblem yn rhannol i rai etholwyr drwy gynnig mwy o gyfleoedd i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy, byddai hynny'n creu pwysau a risgiau pellach ac ychwanegol mewn rhannau eraill o'r system. 
Mae'n amlwg bod unrhyw benderfyniad i ohirio etholiadau a drefnwyd yn arwyddocaol, ac fel arfer ni fyddai'n ddymunol; fodd bynnag, rydym yn wynebu sefyllfa hollol newydd. Mae'r risgiau i'r gwaith o gynnal yr etholiadau a nodwyd yn golygu na allwn fod yn hyderus y bydd pleidleiswyr yn gallu cymryd rhan yn yr etholiadau yn ddiogel nac yn hyderus, nac y bydd ymgyrchwyr na phleidiau yn gallu ymgysylltu ag etholwyr. Felly rydym yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i ddarparu eglurder cynnar i bawb sy'n ymwneud â'r broses etholiadol; ac ar sail y wybodaeth sydd ar gael a'r sefyllfa, rydym yn argymell y dylai'r Llywodraeth ohirio etholiadau 7 Mai tan yr hydref. Yn y cyd-destun hwn, rydym hefyd yn ymwybodol bod Prif Weithredwyr awdurdodau lleol a'u staff ledled y wlad yn canolbwyntio, o reidrwydd, ar y gwaith parhaus o reoli'r effeithiau y mae Covid-19 yn eu cael ar eu hardaloedd. 

Gellid disgwyl effeithiau tebyg ar y gwaith o gynnal is-etholiadau yn effeithiol yn y cyfamser hefyd, a byddem yn gobeithio y byddai'n bosibl mynd i'r afael â hyn ar yr un pryd ar yr amod y gellid gohirio'r rhain hefyd. Ymhellach i'r dyfodol, efallai y bydd effaith bosibl ar weithgarwch canfasio blynyddol ledled y DU, a bydd yn bwysig i'r Llywodraeth ddychwelyd at y mater hwn gyda ni maes o law. 

Mae'r Comisiwn yn barod i roi mwy o gyngor ac i gymryd neu gydlynu'r camau angenrheidiol hynny a all fod o ddefnydd i'r Llywodraeth yn hyn o beth.