Adolygiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus o reoleiddio etholiadol: Ymateb i’r ymgynghoriad
Overview of response
Mae'r ymateb hwn yn gosod allan ein safbwyntiau ar Adolygiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus o reoleiddio etholiadol.
Trosolwg
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a refferenda, ac mae’n rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU ers 2000. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Rydym yn croesawu’r adolygiad, sy’n cynnig cyfle pwysig i ddysgu oddi wrth brofiad ymgyrchwyr, yr heddlu, erlynwyr a’r Comisiwn, a chael argymhellion i wella rheoleiddio cyfreithiau cyllid gwleidyddol y DU.
Mae’r fframwaith rheoleiddio cyfredol yn gweithio’n iawn, yn fras, i gefnogi hyder y cyhoedd yn unionder etholiadau a refferenda yn y DU. Yn gyffredinol, mae yna lefelau uchel o gydymffurfiaeth â’r gyfraith, ac mae’r fframwaith wedi ei ddiweddaru dros amser.
Fodd bynnag, mae dal i fod le am welliant sylweddol. Mae’r ymateb hwn yn nodi ein blaenoriaethau argymelledig ar gyfer diwygio mewn tri maes:
- Mae argymhellion pwysig ar gyfer moderneiddio cyfraith etholiadol eisoes wedi eu gwneud mewn adroddiadau a gomisiynwyd gan y llywodraeth, gan bwyllgorau dethol Seneddol a chan y Comisiwn. Gan hynny, mae cyfleoedd i lywodraethau gyflawni trefn fwy tryloyw, teg a chynaliadwy sy’n fwy eglur a chyson ar gyfer gwahanol ymgyrchwyr, er mwyn cefnogi’r system ddemocrataidd ar draws y DU.
- Mae’r awdurdodaeth ddeuol gyfredol ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â’r drefn pleidiau ac ymgyrchwyr rhwng y Comisiwn a’r heddlu wedi peri peth ansicrwydd i'r rheiny rydym yn eu rheoleiddio, a hefyd i bleidleiswyr. Gellir mynd i’r afael â hyn yn rhwydd gan yr heddlu a’r Comisiwn, a chyda CPS, gan gyflwyno rhagor o dryloywder ac eglurder o ran pa gorff a fydd yn arwain gwahanol agweddau erlyniol ar y drefn orfodi. Byddai hyn yn gam arferol a chyffredin ar gyfer rheoleiddio, a byddai’r materion mwyaf difrifol yn dal i gael eu cyflwyno i’r llysoedd gan yr heddlu a’r CPS.
- Mae’r system dirwyon sifil rydym yn ei gweinyddu wedi cefnogi cydymffurfiaeth gan bleidiau ac ymgyrchwyr, gan wella tryloywder cyllid gwleidyddol. Byddai trefn debyg ar draws cyfreithiau cyllid etholiadol ar gyfer ymgyrchwyr ac asiantiaid yn decach iddynt hwy, a gellid ei gweinyddu hefyd gan y Comisiwn.
Rhesymoli’r fframwaith rheoleiddio cyfredol
Mae’r adran hon yn ymateb i Gwestiynau 1,4,5, a 6 y Pwyllgor
C1: Pa werthoedd rydych chi’n credu y dylent fod yn sail i reoleiddio rhoddion a benthyciadau, a gwariant ymgyrchu ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr di-blaid yn y DU, a pham? Gallai gwerthoedd o’r fath gynnwys cysyniadau megis tryloywder, tegwch, ac atebolrwydd, er nad ydynt yn gyfyngedig i’r rhain.
Mae rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU wedi ei seilio ar dryloywder. Mae’r gyfraith yn gofyn am adrodd gwybodaeth yn gywir ac yn brydlon yng nghyswllt cyllid a gwariant ymgyrchwyr, fel y gall pleidleiswyr fod yn hyderus bod cyllid yn dod o ffynonellau a ganiateir, ac nad yw gwariant yn uwch na’r terfynau y cytunwyd arnynt gan y Senedd. Rydyn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon a’i defnyddio i ganfod p’un a oes angen cymryd camau gorfodi yn erbyn y rheiny a allai fod wedi torri’r gyfraith. Mae yna le o hyd i wella tryloywder o ran yr arian a werir ar ymgyrchu gan bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, ac ymgyrchwyr eraill, yn arbennig mewn perthynas â gweithgarwch ymgyrchu digidol.
Mae trefn y DU ar hyn o bryd yn adlewyrchu dwy egwyddor bwysig yn llai effeithiol: cymesuredd a gorfodadwyedd. Dylai cyfreithiau cyllid gwleidyddol fod yn hawdd i’w deall a’u cymhwyso heb osod biwrocratiaeth ddiangen ar y rheiny sydd ynghlwm wrthynt. Dylai offerynnau gorfodi hefyd fod yn gymesur a diamwys, gyda chosbau eglur ar gyfer unrhyw dorcyfraith. Mae ein hymateb yn esbonio sut a pham y dylai hyn gael ei wella.
Dylai’r gyfraith a’r dull rheoleiddio hefyd hyrwyddo cynaliadwyedd a thegwch ar gyfer ymgyrchwyr. Mae angen i ymgyrchwyr fod yn ariannol hyfyw, fel y gall pleidiau weithredu yn effeithiol yn y llywodraeth neu fel gwrthbleidiau, ac fel y gall pleidleiswyr barhau i dderbyn gwybodaeth a dadleuon perthnasol gan ystod eang o safbwyntiau. Dylai diwygiadau yn y dyfodol gydnabod y gwahanol fathau o ymgyrchwyr, ac ni ddylent rwystro yn ddiangen ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol neu ymgyrchwyr eraill rhag cymryd rhan.
C4: A oes agweddau ar rôl y Comisiwn Etholiadol sy’n tynnu oddi wrth ei swyddogaeth fel rheoleiddiwr cyllid etholiadol?
Mae gan y Comisiwn ddwy brif rôl statudol: goruchwylio cyflawni etholiadau a chofrestru etholiadol (a chyflawni yn uniongyrchol y rhan fwyaf o refferenda yn y DU); a rheoleiddio cyllid gwleidyddol.
Mae’r rôl ddeuol hon yn gwella ein gwybodaeth sefydliadol, a’r modd rydym yn gweithio fel rheoleiddiwr. Rydym yn gallu rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn fwy effeithiol ar gownt ein gwybodaeth ehangach a’n profiad o’r modd y cynhelir etholiadau. Edmygir model y DU yn rhyngwladol, ac fe’i hadlewyrchir mewn ffyrdd tebyg mewn rhai gwledydd, megis Awstralia a Chanada er enghraifft, fel y bo’n gweddu orau i’w hanghenion. Mae hefyd arnom gyfrifoldeb dros gynghori llywodraethau a deddfwrfeydd y DU ynghylch gwelliannau i’r system, ac mae ein rôl ddeuol yn galluogi i ni wneud hyn yn effeithiol.
C5: A oes agweddau ar y rheolau sy’n effeithio neu yn tynnu oddi wrth reoleiddio cyllid gwleidyddol llwyddiannus?
Mae’r rheolau ar gyfer rheoleiddio gwariant a rhoddion ymgeiswyr yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl (RPA) heb newid ond ychydig iawn ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r drefn ychwanegol a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn rheoleiddio cyllid a gwariant pleidiau gwleidyddol ac eraill, ac ar y cyfan mae wedi gweithio’n dda i wella tryloywder cyllid gwleidyddol yn y DU. Byddai rhesymoli’r ddau fframwaith cyfreithiol gwahanol hyn, gan gynnwys ystyried y cydbwysedd rhwng gwahanol derfynau a rheoliadau gwariant, yn cyflawni trefn sy’n fwy eglur ac yn fwy cyson ar gyfer gwahanol ymgyrchwyr.
Yn seiliedig ar ein profiad o fonitro cydymffurfiaeth a gorfodi rheolau PPERA ers 2000, rydym wedi canfod nifer o feysydd lle gallai’r fframwaith gael ei wella. Mae hyn yn cynnwys argymhellion oddi wrthadolygiad rheoleiddio eang a gyhoeddasom yn 2012, ac adolygiad ffocysedig o reoleiddio ymgyrchu digidol yn 2018. Mae adolygiadau eraill hefyd wedi canfod meysydd sylweddol ar gyfer gwella, gan gynnwys adolygiad ymgyrchu etholiadol trydydd parti yr Arglwydd Hodgson yn 2016, adolygiad diweddar Comisiynwyr y Gyfraith o’r gyfraith etholiadol, ac adroddiadau pwyllgorau dethol Seneddol ar dwyllwybodaeth a ‘newyddion ffug’, a democratiaeth a thechnolegau digidol. Amlygir ein hargymhellion allweddol isod mewn ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor.
C6: Beth yw cryfderau a gwendidau’r Comisiwn Etholiadol fel rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol?
Mae’r ffaith bod gan y DU Gomisiwn Etholiadol annibynnol sy’n atebol i ddeddfwyr ym mhob un o dri Senedd y DU yn gryfder sylweddol. Mae rheoleiddiwr gwirioneddol annibynnol yn elfen hanfodol o ran sicrhau hyder yn unionder y drefn cyllid gwleidyddol. Rydym yn atebol i Bwyllgor Llefarydd Senedd y DU ers 2000, ac rydym nawr hefyd yn dod yn atebol i Senedd yr Alban a Senedd Cymru. Nid oes cyfrifoldeb deddfwriaethol dros reoleiddio cyllid gwleidyddol ar Gynulliad Gogledd Iwerddon.
Cryfder arall yw ein penderfyniad i ymagweddu at reoleiddio trwy weithio i sicrhau cydymffurfiaeth cyn digwyddiad etholiadol, yn hytrach na gorfod cymryd camau gorfodi wedyn. Croesewir ein canllawiau ynghylch y gyfraith gan ymgyrchwyr ac asiantiaid ar gownt eu bod yn eglur a defnyddiol, mae pleidiau yn dibynnu arnynt, ac mae eu gwerth a’u hawdurdod hefyd wedi eu cydnabod gan y llysoedd. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ffyrdd newydd o gefnogi endidau a reoleiddir. Esbonnir hyn isod.
Rydym wedi cadarnhau ein rôl fel rheoleiddiwr arbenigol, ac rydym hefyd wedi datblygu perthynas gref gyda rheoleiddwyr eraill sy’n gweithio ar draws maes ehangach democratiaeth a bywyd cyhoeddus. Rydym hefyd yn defnyddio ein harbenigedd i weithio’n adeiladol gyda Gweinidogion a gweision sifil ar draws llywodraethau’r DU i sicrhau bod eu blaenoriaethau polisi yn effeithiol a gweithredadwy.
Mae gan y Comisiwn 20 mlynedd o brofiad a gwybodaeth ym maes cyfraith etholiadol a rheoleiddio trefn cyllid gwleidyddol y DU. Mae gennym ddeng mlynedd o brofiad o ymchwilio i dor-rheolau a gosod cosbau o dan y drefn honno. Ond mae’r drefn yn cael ei phrofi o hyd, gan dechnegau ymgyrchu digidol a rhai newydd eraill, gan achosion a ddygir gerbron y llysoedd, a chan oblygiadau cynyddol y datblygiad hanesyddol a amlinellir uchod, lle mae sawl trefn wahanol a chyfrifoldebau rheoleiddio deuol. Mae gan ein cymuned reoledig yn gyffredinol ddiwylliant o gydymffurfio, ac mae’n gweithio gyda ni i ganfod ffyrdd trwy’r heriau hyn. Ond gyda rheolau cymhleth a hen-ffasiwn, nid yw pob un a reoleiddir yn croesawu neu yn derbyn y ffordd y mae’r drefn yn gweithio, neu’r ffordd rydym yn ei chymhwyso, gan drosi’r safbwynt hwnnw yn feirniadaeth arnom ni fel rheoleiddiwr.
Gwella rheoleiddio a gorfodi PPERA
Mae’r adran hon yn ymateb i Gwestiynau 2, 3, 7, 8 a 9 y Pwyllgor
C2: A oes gan y Comisiwn Etholiadol y pwerau sydd eu hangen arno i gyflawni ei rôl fel rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol o dan PPERA? Byddai’n ddefnyddiol pe bai ymatebion yn ystyried rôl y Comisiwn o ran a) monitro; a b) ymchwilio i’r rheiny y mae’n eu rheoleiddio.
Mae sawl maes lle byddai pwerau gwell yn helpu’r Comisiwn i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith parthed cyllid gwleidyddol. Mae ein hadolygiadau blaenorol o’r fframwaith rheoleiddio wedi canfod ystod o argymhellion, ac rydym wedi amlygu dau faes blaenoriaeth isod.
Byddem yn croesawu’r gallu i ddatrys materion rheoleiddio yn gyflym ac yn effeithiol y tu allan i ymchwiliad ffurfiol lle nad oes rheswm da dros gynnal un. Pe byddai modd i ni gael gwybodaeth y tu allan i ymchwiliad ffurfiol (gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol neu gyflenwyr i ymgyrchwyr, er enghraifft), byddem yn gallu asesu honiadau yn gynt a phennu p’un a yw archwiliad yn angenrheidiol mewn gwirionedd.
Byddem hefyd yn croesawu pwerau penodol i rannu gwybodaeth gyda’r heddlu neu reoleiddwyr eraill megis y Comisiynydd Gwybodaeth, er enghraifft. Ar hyn o bryd, rydym yn dibynnu ar bwerau cyffredinol a chyfraith diogelu data, sy’n gwneud gweithio gyda asiantaethau partner yn gymhleth ac, ar adegau, yn araf.
Byddai’r gwelliannau hyn yn helpu’r Comisiwn i ymateb yn gynt ac mewn modd mwy cymesur wrth ymdrin â honiadau. Byddai hyn yn well ar gyfer unrhyw un a allai fod yn destun ymchwiliad, unrhyw un sy’n gwneud honiad, ac ar gyfer y cyhoedd ehangach o ran dod i gasgliadau yn gyflym a darparu sicrwydd yn brydlon.
C3: Beth gallai’r Comisiwn Etholiadol ei wneud yn wahanol i’w alluogi i gyflawni ei rôl fel rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol yn fwy effeithiol?
Credwn y dylai rheoleiddiwr llwyddiannus allu dibynnu’n fwy ar annog cydymffurfio i atal drwg-weithredu yn hytrach na chymryd camau gorfodi ar ôl i ddrwg-weithredu ddigwydd. Rydym yn cefnogi’r rheiny sydd am gydymffurfio, ond dylai fod cosbau atal effeithiol ar gyfer y rheiny nad ydynt am gydymffurfio.
Mae ein cynllun corfforaethol cyfredol, a gymeradwywyd gan Bwyllgor Llefarydd Senedd y DU yn gynharach eleni, yn nodi dwy weithred newydd i ddatblygu ymhellach ein dull. Yn gyntaf, rydym yn buddsoddi mewn cefnogi cydymffurfio trwy offeryn ar-lein hawdd ei ddefnyddio a gwasanaeth rheoleiddio mwy ymatebol. Byddwn yn crynhoi’r cyngor a’r canllawiau ansawdd uchel rydym eisoes yn eu cynhyrchu ar gyfer pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr o dan strategaeth newydd sy’n cynnig offerynnau newydd mwy effeithiol i gefnogi cydymffurfio â’r gyfraith.
Yn ail, i atal pobl rhag troseddu yn fwriadol, ac i sicrhau ein bod yn gallu ymateb mewn modd cymesur os gwnânt felly, byddwn yn creu’r cynhwysedd i erlyn troseddau honedig llai, tra bydd troseddau mwy difrifol yn parhau i fod yn fater i’r heddlu. Ymhelaethwn isod.
C7: A yw pwerau cosbau sifil y Comisiwn Etholiadol i roi dirwyon hyd at £20,000 yn ddigonol?
Nid yw’r gosb fwyaf, sydd wedi bod ar gael ers 2009 fel cosb sifil ar gyfer troseddau o dan PPERA, yn gymesur â’r troseddau mwyaf difrifol. Mae dirwy uchaf o £20,000 yn annhebygol o atal cydymffurfio annigonol gan ymgyrchwyr gyda rhoddion a gwariant sy’n gallu cynnwys degau o filiynau o bunnoedd.
Dylid codi’r ddirwy uchaf er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ymateb mewn modd cymesur i’r ystod o droseddau rydym yn eu rheoleiddio. Rydym ond yn rhoi y ddirwy uchaf mewn achosion difrifol a fyddai’n cael effaith ar hyder y cyhoedd, megis mynd dros y terfyn gwario, neu hepgoriadau gwariant o ddegau neu gannoedd o bunnoedd o adroddiadau ymgyrchwyr. Ond nid yw dirwy uchaf o £20,000 yn ataliad digonol ar gyfer troseddau difrifol, ac nid yw’n cymell ymgyrchwyr i fuddsoddi mewn gweithdrefnau cydymffurfio cadarn.
Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod y cyhoedd yn credu bod dirwyon ar gyfer torri rheolau cyllid gwleidyddol yn rhy drugarog, o ystyried faint o arian a allai gael ei wario ar ymgyrchu. Fe ddywedodd dros hanner o’r ymatebwyr (52%) i’n hymchwil dracio a gynhaliwyd yn gynnar yn 2020 nad oedd dirwy uchaf o £20,000 yn ddigon uchel. Dim ond 27% a ddywedodd mai dyna oedd y swm addas.
Dylai’r ddirwy uchaf gael ei gosod ar lefel hygred ar gyfer pob etholiad a refferendwm ar draws y DU, fel yr argymhellwyd gan sawl pwyllgor dethol Seneddol. Fe wnaeth Senedd yr Alban yn ddiweddar godi’r ddirwy uchaf i £500,000 ar gyfer refferenda yn yr Alban, ac rydym yn credu y byddai hyn yn feincnod rhesymol ar gyfer y ddirwy uchaf mewn perthynas â rhannau eraill rheoliadau cyllid gwleidyddol y DU.
C8: A yw trefn cosbau sifil y Comisiwn yn rhyngweithio â threfn erlyn troseddol yr heddlu i ffurfio system effeithiol ac eglur ar gyfer atal a chosbi torri’r rheolau cyllid gwleidyddol?
Mae’r drefn cosbau sifil yn gweithio’n dda, ond nid yw’r rhyngweithio â’r drefn erlyn troseddol. Yn ymarferol, mae’r ddwy drefn yn gweithredu ar wahân. Mae’r drefn cosbau sifil ar gyfer gofynion cyfreithiol penodol a throseddau sy’n ymwneud â phleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr di-blaid ac ymgyrchwyr refferenda. Mae trefn yr heddlu a’r drefn erlyn troseddol yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer pob trosedd etholiadol, a dyma’r unig opsiwn gorfodi ar gyfer troseddau sy’n ymwneud ag anonestrwydd bwriadol.
Mae hyn yn golygu ei bod yn system awdurdodaeth ar y cyd rhwng y Comisiwn a’r heddlu, gan weithio gydag awdurdodau erlyn presennol: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru a Lloegr; Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Ffisgal yn yr Alban; a’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon. Gallwn ofyn i’r heddlu ystyried tystiolaeth yn ein meddiant, neu gall unrhyw heddlu benderfynu ymchwilio ar ei liwt ei hunan, gan amlaf yn dilyn cwyn gan unrhyw unrhyw a wnaed iddynt hwy. Rydym yn cynnal perthynas waith dda gyda phrif gyrff yr heddlu: Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC); y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd, a’r awdurdodau erlyn. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r NPCC a heddlu Dinas Llundain i ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i rwydwaith o arbenigwyr yr heddlu ym maes troseddau etholiadol.
Yn ymarferol, fodd bynnag, nid yw’r system ar y cyfan yn gydlynol, ac nid yw’n ataliad effeithiol. Ar gyfer troseddau sy’n cynnwys bwriad neu ddiofalwch, yr unig opsiwn yw ymchwiliad yr heddlu ac yna erlyniad troseddol. Mae hyn yn golygu bod ‘bwlch gorfodi’ o hyd ar gyfer achosion sy’n fwriadol, ond nad ydyw mynd ymhellach gyda nhw o fudd i’r cyhoedd, o safbwynt yr heddlu. Fel y gellir yn hawdd ddeall, mae pwysau ar adnoddau’r heddlu a blaenoriaethir yn aml waith heddlu mwy traddodiadol ac, yn bwysig, droseddau difrifol sy’n ymwneud â dioddefwyr.
Mae’r drefn PPERA yn cynnwys dros 100 o droseddau. Hyd y gwyddom, ni ddaethpwyd ag unrhyw droseddau ymlaen gan yr heddlu neu’r CPS yn ystod yr 20 mlynedd ers 2000. Dylai pleidleiswyr ac ymgyrchwyr allu gwybod y caiff diffyg cydymffurfiaeth ei ganfod, ac yr eir i’r afael ag ef yn gyflym ac mewn modd cymesur. Mae absenoldeb unrhyw erlyniadau troseddol yn tanseilio’r gallu i atal neu gosbi troseddau.
C9: Ym mha amgylchiadau y byddai’r drefn reoleiddio yn cael ei chyfnerthu gan y Comisiynydd yn dwyn erlyniadau gerbron y llysoedd ar gyfer troseddau posib o dan gyfreithiau cyllid gwleidyddol?
Rhoddodd Senedd y DU bwerau i’r Comisiwn ymchwilio i dor-rheol mewn perthynas â PPERA yn 2009 trwy’r Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Crëwyd y drefn cosbau sifil yn 2010 fel dewis amgen i erlyn troseddol. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn creu swyddogaeth erlyn i fynd i’r afael â’r bwlch sy’n weddill rhwng y drefn cosbau sifil a threfn ymchwilio ac erlyn troseddol gyfredol yr heddlu.
Byddwn yn ymgynghori ar y ffactorau y byddem yn eu hystyried wrth benderfynu p’un a ddylid erlyn, ac fe fydd yn agwedd gyfyngedig ar ein gwaith rheoleiddio yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio cosbau sifil i ymdrin â’r mwyafrif helaeth o droseddau rydym yn eu canfod, ac nad oeddent yn ddiofal neu yn fwriadol. Byddai dwyn erlyniadau gerbron y llys yn ein galluogi i ymdrin â throseddau llai cymhleth sy’n ymwneud â diofalwch neu anonestrwydd bwriadol, ac nad ydynt yn ddarostyngedig i’r drefn cosbau sifil. Er enghraifft, lle mae ymgyrchydd yn peidio â chydymffurfio â gorchymyn datgelu yn fwriadol, neu lle mae methiannau parhaus yr aed i’r afael â nhw trwy’r drefn cosbau sifil heb arwain at gydymffurfio. Byddai’r achosion hyn fel arfer yn cael eu dwyn gerbron llys ynadon yn hytrach nag ar lefel llys y goron.
Mae’n arferol ac yn gyffredin i reoleiddwyr arbenigol gyflwyno erlyniadau. Maent yn dod ag arbenigedd i’r testun dan sylw; ac mae meddu ar y pŵer i erlyn yn galluogi’r rheoleiddiwr i ddangos canlyniadau diffyg cydymffurfiaeth. Mae hefyd yn rhyddhau’r heddlu ac erlynwyr cyhoeddus o faich dwyn troseddau gerbron llys lle nad oes o reidrwydd ddioddefwyr canfyddadwy, ac nad ydynt o’r herwydd yn flaenoriaeth iddynt. Lle’r amheuir bod troseddau mwy sylweddol a chymhleth, bydd erlyniadau yn parhau i fod yn fater i’r heddlu a’r awdurdodau erlyn.
Gwella rheoleiddio a gorfodi RPA
C10: A ddylai pwerau rheoleiddio’r Comisiwn Etholiadau gael eu hehangu i gynnwys gorfodi cyfreithiau cyllid ymgeiswyr?
Byddai ehangu ein rôl i gynnwys gorfodi cyfreithiau cyllid ymgeiswyr yn dod â gorfodi mwy cymesur i’r rhan hon o’r system cyllid gwleidyddol, gyda buddion i ymgyrchwyr, pleidleiswyr, a hyder y cyhoedd. Rydym wedi gweld bod y posibiliad o ddirwy gyflym wedi cymell cydymffurfio gan bleidiau ac ymgyrchwyr, ac mae wedi bod yn llwyddiant o ran cyflawni tryloywder i gyllid gwleidyddol ers 2010.
Nid yw’r rheolau cyfredol ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn cynnig unrhyw hyblygrwydd nac unrhyw ddewis amgen parthed ymchwiliadau’r heddlu ac erlyn troseddol. Mae erlyn troseddol yn gam sylweddol ac mae’n anghymesur ar gyfer llawer o achosion o dor-rheolau megis cyflwyno cofnod gwariant yn hwyr, neu fethu â chofnodi eitemau bychain. Gellir disgrifio hyn fel ‘bwlch gorfodi’ ar gyfer tor-rheolau gweinyddol, neu rai’n deillio o ddiofalwch, a byddai cyflwyno trefn cosbau sifil ar gyfer ymgeiswyr yn mynd i’r afael â’r bwlch hwnnw.
Byddai ymchwiliad gan yr heddlu ac erlyniad troseddol yn parhau i fod yr unig ffordd i ymdrin â throseddau difrifol gyda bwriad i dorri’r rheolau. Byddai erlyniadau troseddol ar gyfer troseddau difrifol a gyflawnwyd gan ymgeiswyr ac asiantiaid y tu hwnt i gwmpas y Comisiwn, gyda’r pwerau hyn wedi eu cadw at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.
Pe bai gan y Comisiwn bwerau i ymchwilio i ddau hanner y drefn pleidiau ac ymgeiswyr, byddem yn gallu darparu goruchwyliaeth fwy cydlynol dros y trefnau presennol yn yr RPA a’r PPERA. Gallem edrych mewn mwy o fanylder p’un a yw ymgeiswyr yn dosrannu gwariant yn gywir yn ôl prawf allweddol sy’n pennu llwyddiant etholiadol pwy sy’n cael ei hyrwyddo, a sicrhau bod terfynau gwariant yn bodloni eu diben. Byddai’r heddlu yn gallu canolbwyntio ar y troseddau mwyaf difrifol sy’n cynnwys bwriad i dorri’r gyfraith, a gallem sicrhau bod yna ddull atal cymesur ar gyfer pob trosedd arall.
Y canlyniad cyffredinol fyddai system symlach i’w hesbonio i bleidleiswyr ac ymgyrchwyr. Byddai’n dal i fod yn awdurdodaeth ar y cyd rhwng y rheoleiddiwr a’r heddlu, ond byddai’r ffactorau sy’n pennu pwy sydd â’r pŵer neu’r cyfrifoldeb dros fynd i’r afael â honiadau yn fwy eglur o lawer nag ydynt ar hyn o bryd.