Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru: Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru
Cyflwyniad
Hydref 2017
Mae'r ymateb hwn yn nodi safbwyntiau'r Comisiwn Etholiadol ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2017 gwnaethom ymateb i'r Papur Gwyn: Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad, ac mae'r ymateb hwn yn adeiladu ar hynny. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos yn gyffredinol bod lefel uchel o foddhad a hyder ymysg y cyhoedd yn ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yng Nghymru. Dengys ein hymchwil i farn y cyhoedd, a gynhaliwyd ar ôl etholiadau llywodraeth leol 2017, er enghraifft, fod pobl o'r farn eu bod wedi cael eu cynnal yn effeithiol - roedd 81% yn hyderus bod yr etholiadau a gynhaliwyd ar 4 Mai wedi cael eu cynnal yn effeithiol, o gymharu â 77% yn 2012.
Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen gwneud newidiadau i'r system bresennol. Yn yr adroddiadau y mae'r Comisiwn wedi'u cyhoeddi ar etholiadau diweddar rydym wedi nodi bod rheolau etholiadau yn gymhleth a hen ffasiwn o hyd a bod angen diwygio etholiadol. Mae Comisiynau'r Gyfraith hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion ar ddiwygio cyfraith etholiadol, yn cynnwys datblygu fframwaith deddfwriaethol cyson wedi'i ad-drefnu sy'n rheoli'r modd y cynhelir pob etholiad yn y DU, yn cynnwys etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Rydym yn cefnogi argymhellion Comisiynau'r Gyfraith ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w hystyried wrth ddatblygu cynigion ar gyfer diwygio etholiadol ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru.
Ymgynghorwyd â ni ar newidiadau i'r ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yr Alban ac ar y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer etholiadau Maerol Awdurdodau Cyfunol Wrth gwrs, mae risgiau yn gysylltiedig â chyflwyno sawl newid mawr ar yr un pryd neu dros gyfnod byr o amser, ac mae'n bwysig gofyn ym mha drefn y dylid cyflwyno unrhyw newidiadau er mwy osgoi dryswch ymhlith leidleiswyr ac er mwyn sicrhau profiad boddhaol i bleidleiswyr. Byddai hefyd angen cynnal gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd cynhwysfawr ar gyfer unrhyw newidiadau. Byddai'r Comisiwn yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn trafod y maes hwn yn fanylach.
Os gwneir unrhyw newidiadau i'r broses o ganlyniad i'r gwaith hwn, bydd angen trefnu bod digon o adnoddau ar eu cyfer er mwyn sicrhau y gellir eu gweithredu er budd gorau pleidleiswyr.
Rydym yn parhau i argymell y dylai pob deddfwriaeth fod yn glir o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y daw'n ofynnol ei rhoi ar waith neu y daw'n ofynnol i ymgyrchwyr, Swyddogion Canlyniadau neu Swyddogion Cofrestru Etholiadol gydymffurfio â hi.
Mae rhai agweddau ar yr ymgynghoriad sydd y tu hwnt i gylch gwaith y Comisiwn Etholiadol ac felly ni allwn roi sylwadau. Rydym wedi nodi hyn yn ein hymateb.
Ceir meysydd eraill hefyd nad aethpwyd i'r afael â nhw yn yr ymgynghoriad hwn yr hoffem i Lywodraeth Cymru eu hystyried fel rhan o'i phroses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol. Rydym wedi gosod y rhain yn ein hymateb i gwestiwn 46.
Creu'r etholfraint
Cred y Comisiwn mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn y pen draw yw penderfynu ar yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Felly, rydym wedi cyfyngu ein hymateb i amlygu'r goblygiadau ymarferol y bydd angen eu hystyried os caiff yr etholfraint ei diwygio.
Pe byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu cynigion o'r fath, byddem yn croesawu'r cyfle i roi sylwadau manwl ar y cynigion hynny.
Barn y Comisiwn yw y dylai unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer unrhyw newidiadau i'r etholfraint ar gyfer refferendwm fod yn glir o leiaf chwe mis cyn y disgwylir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau unrhyw weithgarwch canfasio blynyddol a drefnir. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynllunio a gweithredu'r newidiadau yn effeithiol a sicrhau y gall pob un sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio gymryd y camau angenrheidiol i gofrestru'n llwyddiannus a chymryd rhan yn yr etholiadau.
Pleidleisiau ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed
C1 – A ydych yn cytuno y dylai’r oed i gael hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru gael ei ostwng i 16?
Nid yw'r Comisiwn yn mynegi barn ar ymestyn yr etholfraint. Fodd bynnag, fel y nodir uchod eisoes, dylid gwneud unrhyw newidiadau i'r etholfraint yn glir chwe mis cyn y disgwylir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau unrhyw weithgarwch canfasio blynyddol a drefnir er mwyn galluogi pob un sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio i gymryd y camau angenrheidiol i gofrestru'n llwyddiannus a chymryd rhan yn yr etholiadau.
Cafodd pobl ifanc 16 a 17 oed yn yr Alban yr hawl i bleidleisio yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 2014, ac maent wedi cael pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac yn etholiadau Senedd yr Alban ers mis Mai 2016. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban a phartneriaid eraill yn yr Alban, fel Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Aseswyr yr Alban, Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban, Education Scotland, School Leaders Scotland a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yr Alban, i gynnal gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd penodol er mwyn targedu pobl ifanc 16 a 17 oed. Nod y gweithgareddau hyn oedd hysbysu pobl ifanc 16 a 17 oed y gallent bleidleisio a dweud wrthynt beth roedd angen iddynt ei wneud i'w galluogi i bleidleisio.
Cynhaliwyd ein hymgyrchoedd #ReadytoVote drwy gydol mis Mawrth yn 2016 a 2017 cyn etholiadau Senedd yr Alban a Chynghorau'r Alban. Roedd y rhan hon o'r gwaith yn cynnwys gwahodd ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid i gynnal sesiynau cofrestru lle y byddent yn annog pobl ifanc 16 ac 17 oed i wneud cais i gofrestru ar-lein. Lluniwyd pecyn adnoddau gennym a oedd yn cynnwys popeth yr oedd ei angen arnynt i gymryd rhan, y ceir manylion amdanynt ar ein gwefan yma - pecyn offer #ReadyToVote Senedd yr Alban. Ymrwymodd cyfanswm o 282 o ysgolion uwchradd i gynnal ymgyrchoedd cofrestru ym mis Mawrth 2016 a 294 yn 2017, sef mwy nag 80% o'r holl ysgolion uwchradd yn yr Alban.
Byddem am ddatblygu'r dull gweithredu hwn yng Nghymru pe byddai'r etholfraint yn cael ei gostwng. Mae ein profiad yn yr Alban yn egluro ei bod yn bwysig ymgysylltu â phobl ifanc 16 a 17 oed a chynnal gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd penodol. Felly, byddem am weithio gyda phartneriaid addysgol a chynghorau yng Nghymru er mwyn nodi cyfleoedd i gefnogi llythrennedd gwleidyddol parhaus mewn ysgolion ac annog pobl ifanc i gofrestru pan fyddant yn cyrraedd yr oedran i wneud hynny.
Dinasyddion yr UE a dinasyddion gwledydd eraill
C2 A ddylai dinasyddion yr UE sy’n symud i Gymru ar ôl i’r DU adael yr UE barhau i gael yr hawl i bleidleisio?
C3 A ddylai hawliau pleidleisio gael eu hestyn i’r holl drigolion cyfreithlon yng Nghymru, heb ystyried eu cenedligrwydd na’u dinasyddiaeth?
Nid ydym yn mynegi barn ar b'un a ddylai pawb sy'n byw yng Nghymru, ni waeth beth fo'u cenedligrwydd na'u dinasyddiaeth, gael yr hawl i bleidleisio. Y ffocws i'r Comisiwn fyddai bod unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt yn cael eu gweithredu gan ddarparu adnoddau ar eu cyfer yn effeithiol a bod pobl yn deall p'un a allant bleidleisio a beth sydd angen iddynt ei wneud i bleidleisio.
Os byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu gweithredu ar yr awgrymiadau hyn, byddem yn disgwyl gwneud gwaith er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth gyhoedduseffeithiol ymysg y grwpiau hyn fel eu bod yn ymwybodol y gallant gofrestru i bleidleisio a sut i wneud hynny.
C4 – Caiff dinasyddion yr UE a’r Gymanwlad sefyll i gael eu hethol i lywodraeth leol yng Nghymru. A ddylai hyn barhau a chael ei estyn i bob cenedl sy’n dod yn gymwys i bleidleisio?
Nid yw'r Comisiwn yn mynegi barn ar b'un a ddylai dinasyddion unrhyw genedl benodol fod yn gymwys i sefyll i gael eu hethol i lywodraeth leol yng Nghymru. Pa benderfyniad bynnag a wneir, bydd angen diweddaru'r holl wybodaeth a'r canllawiau a roddir i ymgeiswyr a'u cyfleu'n glir iddynt.
Gwella'r broses gofrestru
Rhannu data a Chofrestru Awtomatig
C5 – A ddylai swyddogion cofrestru etholiadol fod â mwy o ddewis o ffynonellau ar gael iddynt i helpu dinasyddion i gael eu hychwanegu i’r gofrestr?
C6 – Yn eich barn chi, pa ffynonellau data y dylai swyddogion cofrestru etholiadol eu defnyddio?
Rhannu data
Yn ein Hadroddiad ar gofrestru etholiadol ym mis Gorffennaf 2017, gwnaethom drafod y posibilrwydd o wneud mwy o ddefnydd o ddata cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae data a ddelir yn lleol gan awdurdodau lleol ac eraill ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Mae Pennod 5 o Ran 4: 'Cynnal y gofrestr drwy gydol y flwyddyn' o'n canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn rhoi arweiniad ar sut i nodi ffynonellau data priodol a sut i reoli a defnyddio'r data hynny.
Rydym am weld camau pellach yn cael eu cymryd gan holl lywodraethau'r DU er mwyn archwilio buddiannau posibl darparu data cyhoeddus nad yw'n lleol i bleidleiswyr a Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Byddem yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gwella cyfleoedd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gafael ar ddata oddi wrth ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill – yn enwedig lle caiff y data hynny eu cadw gan ddarparwyr cenedlaethol yn hytrach na darparwyr lleol – er mwyn eu galluogi i dargedu eu gweithgareddau gydag etholwyr newydd neu'r sawl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar. Bydd defnydd gwell o ddata cyhoeddus yn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi darpar etholwyr a gwella cywirdeb a chyflawnrwydd y gofrestr etholiadol.
Yn gynharach eleni cafodd Deddf yr Economi Ddigidol Gydsyniad Brenhinol ar ôl iddi gael ei chymeradwyo gan Senedd y DU. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau y bwriedir iddynt ei gwneud hi'n haws i gyrff cyhoeddus rannu data a gedwir ganddynt er mwyn gwella'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion. Byddwn yn ystyried ymhellach gyda Rhaglen Moderneiddio Trefniadau Cofrestru Etholiadol Swyddfa'r Cabinet pa gyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r darpariaethau hyn i wella'r broses o lunio a chynnal cofrestri etholiadol, yn arbennig ddefnyddio data sy'n ddigon dibynadwy er mwyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol allu nodi pobl nas cofrestrwyd yn gywir yn well. Byddem yn fodlon gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn ffordd debyg.
Cofrestru awtomatig
Fel y nodir yn ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ym Mawrth, eglurodd ein hadroddiad ym mis Mawrth 2017 ar gofrestri etholiadol Rhagfyr 2016 ein barn ei bod yn bryd symud oddi wrth system sy'n dibynnu ar etholwyr i gymryd camau i gofrestru eu hunain ac, yn lle hynny, ddatblygu prosesau cofrestru awtomatig neu uniongyrchol a all greu cofrestri etholiadol mwy cywir a chyflawn mewn ffordd fwy effeithlon na'r prosesau canfasio presennol sy'n defnyddio adnoddau helaeth.
Mae sawl gwlad eisoes wedi gweithredu mathau o gofrestru etholiadol uniongyrchol neu awtomatig er mwyn helpu i ateb heriau sy'n debyg i'r rhai sydd bellach yn wynebu Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, gan gynnwys Awstralia, Canada a thaleithiau amrywiol yn yr UD. Mae'r systemau hyn yn galluogi'r rheini sy'n gyfrifol am gadw'r gofrestr etholiadol i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi o ffynonellau cyhoeddus eraill, neu i ddiweddaru eu manylion pan fyddant yn symud tŷ heb i'r etholwr orfod "ailgofrestru" yn ei gyfeiriad newydd.
Cydnabyddwn y byddai cyflwyno prosesau cofrestru awtomatig neu fwy uniongyrchol yn newid sylweddol i bolisi cofrestru etholiadol yng Nghymru, ac y gall fod pryderon hefyd ynghylch goblygiadau rhoi'r gorau i'w gwneud yn ofynnol i ddinasyddion unigol fod yn uniongyrchol gyfrifol am eu cofrestru etholiadol eu hunain. Bydd hefyd angen ystyried sut y gallai cofrestru awtomatig weithio yn ymarferol o ystyried y gwahaniaethau posibl a allai godi mewn perthynas â llunio'r gofrestr llywodraeth leol a'r gofrestr seneddol.
Fel yr amlinellir yn ein hadroddiad ym mis Gorffennaf 2017, ar gofrestru etholiadol yn etholiad cyffredinol y DU, rydym yn credu ei bod yn bwysig parhau i archwilio goblygiadau, buddiannau posibl a chostau gwneud newidiadau mwy sylfaenol i fframwaith cofrestru etholiadol y DU.
Galluogi amrywiaeth ehangach o Swyddogion Cyngor i helpu pobl i gofrestru
C7 – A ddylai ystod ehangach o staff awdurdodau lleol gael yr hawl i helpu dinasyddion i gofrestru drwy gael mynediad i’r gofrestr llywodraeth leol a bod â’r gallu i’w diwygio?
C8 – Pa fesurau rheoli y dylid eu defnyddio i sicrhau bod y swyddog cofrestru etholiadol yn cadw’r rheolaeth gyffredinol dros y gofrestr?
Mae'r fframwaith deddfwriaethol presennol yn nodi mai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am y gofrestr etholiadol. Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn swyddog statudol annibynnol a benodir gan y cyngor, y mae ei ddyletswyddau ar wahân i'w ddyletswyddau fel swyddog llywodraeth leol. Dim ond y rhai sydd wedi'u nodi yn y ddeddfwriaeth all weld a darparu'r gofrestr etholiadol. Mae'n ofynnol i'r cyngor ddarparu'r cymorth a'r adnoddau angenrheidiol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn iddo lunio cofrestr gyflawn a chywir o etholwyr a chyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 9A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Rhaid i'r cyngor ddarparu swyddogion i helpu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i gyflawni ei swyddogaethau statudol.
Er mai'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddylai gymryd cyfrifoldeb cyfreithiol am y gofrestr, dylid ystyried gwella hygyrchedd y gofrestr er mwyn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynyddu nifer y bobl sy'n cofrestru i bleidleisio a hyrwyddo cyfranogiad yn y broses etholiadol. Dylai unrhyw newidiadau gynnal diogelwch a chywirdeb y system a ddarperir o dan y fframwaith deddfwriaethol presennol.
Llacio rheolau cofrestru unigolion
C9 –A ddylai rheolau cofrestru unigolion gael eu llacio i ganiatáu ar gyfer cofrestriadau bloc mewn amgylchiadau penodol, gan ddiogelu hawliau pleidleisio poblogaethau a fyddai fel arall mewn perygl o gael eu heithrio?
Drwy ddileu'r gallu i gofrestru etholwyr mewn bloc, pan gyflwynwyd y cofrestriad etholiadol unigol, cyflwynwyd heriau newydd ar gyfer rhai grwpiau mewn perthynas â'r broses gofrestru, gan fod angen cysylltu ag etholwyr yn unigol bellach a'u gwahodd i wneud cais i gofrestru.
Yn ein hadroddiad ar gofrestru etholiadol ym mis Gorffennaf (2017) gwnaethom ddweud bod argaeledd llwyfannau ar-lein i ddefnyddio ystod fwyfwy eang o wasanaethau cyhoeddus yn cynnig cyfleoedd i wneud y broses gofrestru etholiadol hyd yn oed yn symlach i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Gan gyfeirio'n benodol at gofrestru swyddogion, mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol eisoes wedi gweithio gyda darparwyr addysg uwch lleol i integreiddio ceisiadau cofrestru etholiadol o fewn prosesau cofrestru myfyrwyr.
Wrth i Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 fynd ar ei hynt drwy Senedd y DU yn gynharach eleni, gallodd Llywodraeth y DU gynnwys pwerau a fydd yn galluogi'r Swyddfa Myfyrwyr newydd i benderfynu p'un a ddylid ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr fod wedi cofrestru i bleidleisio er mwyn gallu cofrestru gyda darparwyr Addysg Uwch yn Lloegr. Byddem yn croesawu'r broses o gyflwyno darpariaethau cyfatebol yng Nghymru.
Yng Nghymru, rydym yn ymwybodol bod Ceredigion a Chaerdydd wedi sefydlu cytundebau rhannu data gyda phrifysgolion er mwyn annog myfyrwyr i wneud cais i gofrestru. Rydym yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn cysylltu â Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Ngheredigion a Chaerdydd er mwyn cael rhagor o wybodaeth am eu trefniadau rhannu data.
Byddai unrhyw ystyriaeth i lacio'r rheolau er mwyn galluogi cofrestriadau bloc mewn rhai amgylchiadau, byddai angen cydnabod bod angen diogelu gwybodaeth bersonol a sensitif am unigolion yn ogystal â sicrhau y byddai unrhyw newidiadau yn dal i roi sicrwydd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol bod unigolyn yn bodoli, a gyflawnir ar hyn o bryd, er enghraifft, drwy ei gwneud yn ofynnol i rifau yswiriant gwladol gael eu darparu a'u dilysu.
Ymgyrchoedd cofrestru wedi'u targedu
C10 – A ddylem roi dyletswydd ar swyddogion cofrestru etholiadol i ystyried a ddylai unrhyw grwpiau unigol yn eu hardal etholiadol gael eu targedu’n
benodol mewn ymgyrchoedd cofrestru?
Mae gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddyletswydd o dan Adran 9A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd o dan Ddeddf Cofrestru Etholiadol a Gweinyddu 2013) i gymryd y camau angenrheidiol i gydymffurfio â'u dyletswydd i gynnal y gofrestr etholiadol, a sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod pawb sy'n gymwys (a neb arall) wedi'u cofrestru.
Mae gan bob Swyddog Cofrestru Etholiadol strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd leol sy'n cydnabod yr heriau penodol yn eu hardal leol, a ph'un a ddylid targedu unrhyw grwpiau unigol o fewn eu hardal etholiadol yn eu hymgyrchoedd cofrestru. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn cwmpasu pob agwedd ar broses y Swyddog Cofrestru Etholiadol o ryngweithio â thrigolion lleol, yn cynnwys cysylltu â sefydliadau fel ysgolion, prifysgolion, landlordiaid, cymdeithasau tai, gwestai a sefydliadau digartrefedd. Felly, nid ydym yn credu bod angen dyletswydd ychwanegol.
Nodi pobl sy'n symud i mewn ac allan o ardal
C11 – A ddylem gyflwyno trefniadau sy’n golygu bod gan asiantaethau sy’n ymwybodol o bobl yn symud ddyletswydd i roi gwybod i’r swyddogion cofrestru etholiadol?
Byddem yn cefnogi ac yn annog opsiynau newydd er mwyn annog cofrestru drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill, yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac adrannau tai a phrifysgolion er enghraifft.
Rydym eisoes yn ymwybodol o waith helaeth sy'n mynd rhagddo gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn annog pobl i gofrestru, fel gweithio gyda gwerthwyr tai i ddarparu gwybodaeth am bobl sy'n symud i mewn i'r ardal a all fod yn gymwys i gofrestru i bleidleisio. Byddwn yn parhau i weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn sicrhau yr adeiledir ar y gwaith da hwn.
Datblygu cofrestr electronig i Gymru gyfan
C12 – Beth yw eich barn am ddatblygu un gofrestr electronig i Gymru?
Mae cyflwyno'r system gofrestru etholiadol unigol a chofrestru ar-lein wedi trawsnewid y broses gofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr dros y tair blynedd diwethaf. Nawr mae angen i holl lywodraethau'r DU, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, adeiladu ar hyn, a pharhau i foderneiddio'r broses gofrestru etholiadol er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn fwy hygyrch i bleidleiswyr.
Yn ein hadroddiad ar Gofrestru Etholiadol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017, ac mewn adroddiadau blaenorol ar y broses o weithredu'r Gofrestr Etholiadol Unigol, rydym wedi argymell ei bod yn bryd i'r DU ddatblygu'r system bresennol er mwyn sicrhau bod y broses gofrestru etholiadau yn gysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Gallai hynny olygu prosesau cofrestru uniongyrchol neu awtomatig a allai greu cofrestri etholiadol mwy cywir a chyflawn mewn ffordd fwy effeithlon na'r prosesau canfasio presennol sy'n defnyddio adnoddau helaeth.
Ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017, dywedodd gweinyddwyr etholiadol fod nifer sylweddol o'r ceisiadau a ddaeth i law yn geisiadau dyblyg, lle'r oedd pleidleiswyr wedi cyflwyno cofrestriadau newydd heb sylweddoli eu bod eisoes wedi'u cofrestru i bleidleisio. Cyn hyn rydym wedi argymell y dylai cyfleuster ‘chwilio’ ar-lein gael ei gynnig ledled y DU i etholwyr weld a ydynt eisoes wedi'u cofrestru, ac rydym yn awyddus i ystyried opsiynau ar gyfer gwella'r gwasanaeth cofrestru ar-lein presennol.
Yn dilyn hyn, gallai un gofrestr neu gofrestr unedig ei gwneud yn haws i SwyddogionCofrestru Etholiadol rannu gwybodaeth am eu cofrestri etholiadol. Mae natur wasgaredig ddigyswllt y cofrestri etholiadol ledled Prydain Fawr yn golygu nad yw'n bosibl archwilio cofrestri gyda'i gilydd ar hyn o bryd er mwyn nodi cofnodion dyblyg. Gallai un gofrestr yng Nghymru gyflwyno system i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gymharu gwybodaeth am gofnodion ar gofrestri etholiadol ar bob un o'r 22 o gofrestri a byddai'n helpu i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestri etholiadol ymhellach.Gallai hyn hefyd helpu i sicrhau y gellid nodi cofnodion dyblyg, gan wella cywirdeb y gofrestr etholiadol.
Fodd bynnag, byddai cyflwyno un gofrestr electronig yng Nghymru yn galw am adnoddau helaeth i'w gweithredu a byddai'n cael effaith sylweddol ar staff gweinyddu etholiadau. Rydym yn argymell y dylid rhoi ystyriaeth ofalus i'r gwersi a ddysgwyd gan Lywodraeth y DU drwy brosiect blaenorol Cofnod Etholwyr Ar-lein wedi'i Gydlynu1 ac y dylid cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o risgiau mewn perthynas â seiberddiogelwch posibl.
Y system bleidleisio
Cynnig dewis: System y Cyntaf i'r Felin neu Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy
C13 – A ydych yn cytuno y dylai prif gynghorau fod yn gallu dewis eu system bleidleisio?
Mae penderfyniadau ynghylch pa system bleidleisio y dylid ei defnyddio ar gyfer etholiadau gwahanol yn faterion cyfansoddiadol sylweddol, ac yn faterion i Lywodraethau a Seneddau. Ein rôl ni yw sicrhau y gwneir gwaith cynllunio gweinyddol priodol gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol a bod pleidleiswyr yn deall y systemau a ddefnyddir yn yr amrywiaeth o etholiadau a gynhelir yn y DU, er mwyn sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais yn y ffordd y bwriadwyd ganddynt.
Fodd bynnag, yn yr achos hwn, rydym o'r farn y gallai caniatáu i gynghorau benderfynu pa system etholiadol i'w defnyddio yn eu hardal eu hunain greu risgiau a heriau sylweddola fyddai'n unigryw i Gymru.
Gallai effaith cael dwy system etholiadol ar waith ar gyfer un set o etholiadau lleol yng Nghymru fod yn sylweddol ar etholwyr a gallai arwain at risg wirioneddol o ddryswch ymysg pleidleiswyr, yn enwedig mewn perthynas â dealltwriaeth pleidleiswyr o sut i fwrw eu pleidlais. Mae'n debygol y byddai'n her fawr cynnal
ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd effeithiol yng Nghymru cyn un set o etholiadau llywodraeth leol sy'n effeithio ar ddwy system etholiadol wahanol.
Ynghyd â'r math hwn o ymgyrch gymhleth, gall fod angen rhoi gwybodaeth ychwanegol i bleidleiswyr ar gyfer newidiadau eraill a gyflwynir, fel gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Felly, mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyflwyno nifer o newidiadau mawr mewn un set o etholiadau.
Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried sut y bydd Swyddogion Canlyniadau a'u staff yn gallu cynllunio'n effeithiol ar gyfer newid etholiadol mawr yn eu hetholiadau lleol a darparu adnoddau ar eu cyfer. Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i roi dull cyson newydd ar waith ar gyfer trefniadau etholiadau yng Nghymru a'r ffordd y maent yn cael eu rheoli drwy sefydlu Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Y Bwrdd hwn ddylai fod yn gyfrifol am gynllunio a rheoli newid etholiadol mawr ledled Cymru yn effeithiol.
Yn ychwanegol at hyn, byddai angen i'r Comisiwn ystyried sut mae'n cefnogi'r etholiad a'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer hyn. Er enghraifft:
- Rhoi cyngor ac arweiniad i Swyddogion Canlyniadau a'u staff
- Rhoi cyngor a hyfforddiant i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid
- Sut byddai unrhyw ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd genedlaethol yn cael ei threfnu a sut y darperir adnoddau ar ei chyfer cyn unrhyw etholiad.
C14 – A ydych yn cytuno y dylid cael mwyafrif dau draean ar gyfer newid cyfansoddiadol fel hwn?
Nid yw'r Comisiwn yn mynegi barn ar b'un a ddylid cael mwyafrif o ddau draean ar gyfer newid cyfansoddiadol.
Cyfnod pum mlynedd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol
C15 – A ydych yn cytuno y dylai cyfnod llywodraeth leol yng Nghymru gael ei bennu’n gyfnod pum mlynedd?
Nid yw'r Comisiwn yn mynegi barn ar b'un a ddylai cofnod llywodraeth leol yng Nghymru gael ei bennu'n gyfnod pum mlynedd.
Y broses bleidleisio
C16 – A ydych yn cytuno mewn egwyddor y byddai’n fuddiol diwygio’r system bleidleisio i annog mwy o bobl i gymryd rhan?
Rydym yn cytuno â'r egwyddor o annog mwy o bobl i gymryd rhan. Byddai angen i unrhyw newidiadau i'r broses bleidleisio sicrhau bod pobl yn ei chael hi'n hawdd cymryd rhan a'u bod yn gwybod popeth sydd ei angen arnynt ynghylch y broses o fwrw eu pleidlais. Dylai pleidleiswyr hefyd fod yn hyderus y caiff eu pleidlais ei chyfrif, bod mesurau diogelwch yn rhan o'r system er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel, ac y caiff twyll ei rwystro neu ei atal.
Mae ein hymchwil ar farn y cyhoedd ar ôl etholiad yn dangos bod lefel hyder a boddhad y cyhoedd yn y system bresennol yn uchel. Fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar yr etholiadau llywodraeth leol diweddar yng Nghymru:
- roedd 95% o'r farn ei bod yn hawdd cwblhau'r papur pleidleisio
- roedd 96% o bleidleiswyr gorsaf bleidleisio yn fodlon ar y broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
- roedd 100% o bleidleiswyr post yn fodlon ar eu profiad
Byddai angen cyflwyno llwyfannau pleidleisio newydd yn seiliedig ar dystiolaeth chyfiawnhad cadarn cyn gweithredu unrhyw newidiadau.
Ar hyn o bryd, mae gan bleidleiswyr mewn etholiadau a refferenda statudol yng Nghymru ddewis o ran dulliau pleidleisio: gallant bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio, neu wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Yn aml, credir bod ehangu neu newid y ffyrdd y gall pobl bleidleisio (er enghraifft, drwy systemau pleidleisio electronig (e-bleidleisio), pleidleisio ymlaen llaw neu bleidleisio ar benwythnos) yn cynnig y posibilrwydd o wella lefel cyfranogiad gwleidyddol, yn enwedig ymysg grwpiau a dangynrychiolir.
Canfu ein gwerthusiad o gynlluniau e-bleidleisio peilot a gynhaliwyd mewn etholiadau lleol yn Lloegr rhwng 2002 a 2007 ei bod yn debygol y byddai'r mwyafrif o'r rhai a bleidleisiodd yn electronig wedi gwneud hynny beth bynnag drwy lwyfan arall. mae ymchwil wyddonol wleidyddol hefyd yn awgrymu nad yw pleidleisio dros y rhyngrwyd fel arfer yn annog pobl nad ydynt yn pleidleisio i bleidleisio. Yn hytrach, defnyddir systemau pleidleisio dros y rhyngrwyd fel cyfleustra i unigolion sydd eisoes wedi penderfynu pleidleisio.2
Daeth ein gwerthusiad o gynlluniau pleidleisio ymlaen llaw peilot (pleidleisio traddodiadol ar bapur mewn gorsafoedd pleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio) i gasgliadau tebyg: defnydd cyfyngedig a wnaed o'r cyfleuster, ac, yn bennaf, roedd wedi'i gyfyngu i'r rhai oedd yn tueddu i bleidleisio yn barod. Yn ogystal, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu mai oherwydd mai ar ddydd Iau y cynhelir etholiadau nad yw pobl yn pleidleisio mewn etholiadau yn y DU ar hyn o bryd, nac y byddai symud i bleidleisio ar benwythnos yn dileu rhwystr sylweddol at bleidleisio. Er ein bod yn gwerthfawrogi mai tystiolaeth gyfyngedig a geir, ni chanfu ein gwaith ymchwil ar farn y cyhoedd ar ôl etholiad a gynhaliwyd ar ôl etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015 unrhyw dystiolaeth gref i awgrymu y byddai pleidleisio ar benwythnos na phleidleisio ymlaen llaw yn arwain at newid ymddygiad.
C17 – A oes unrhyw gynlluniau eraill na roddir sylw iddynt y gellid eu
defnyddio i alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru?
Yn 2016, cynhaliodd y Comisiwn adolygiad strategol a oedd yn cynnwys holi rhanddeiliaid allanol am eu barn ar amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys cymryd rhan mewn etholiadau. O'r 120 o ymatebion i'n hymgynghoriad, soniodd sawl un bod gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn her benodol, yn enwedig ymysg pobl
ifanc, ac y byddai rhaglenni addysg (er mwyn helpu pobl i ddeall sut mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar eu bywydau a dysgu beth mae cynrychiolwyr etholedig yn ei wneud) yn helpu i gyflawni'r her hon.
Felly, mae'r Comisiwn wedi dechrau prosiect i gwmpasu a diffinio ymgysylltiad democrataidd cyhoeddus yn y DU. Bydd y prosiect hwn yn archwilio beth mae sefydliadau gwahanol eisoes yn ei wneud, yn nodi ble y ceir gorgyffwrdd neu fylchau, ac yn sicrhau y gellir ystyried beth arall y gallai'r sector ei wneud er mwyn gwella ymgysylltiad democrataidd. Rydym yn anelu at gwblhau'r ymchwiliad hwn erbyn dechrau 2019.
Pleidleisio drwy’r post yn unig
C18 – A ddylai cynghorau gael dewis defnyddio system bleidleisio drwy’r post yn unig mewn etholiadau cyngor?
Yn ein hadroddiad Delivering Democracy yn 2004, gwnaethom argymell na ddylid defnyddio system bleidleisio drwy'r post yn unig mewn etholiadau neu refferenda statudol yn y DU yn y dyfodol. Mynegodd pleidleiswyr ffafriaeth gref dros gael dewis o ddulliau pleidleisio. Daethom i'r casgliad y dylem barhau i gael dewis ynghylch pa ddull pleidleisio i'w ddefnyddio, boed hynny yn ddull gorsafoedd pleidleisio, pleidleisio drwy'r post neu ddulliau pleidleisio electronig eraill a allai fod ar gael yn y dyfodol os bydd technoleg yn caniatáu hynny. Dyma ein barn o hyd.
Yn fwy cyffredinol, rhaid derbyn, os na fydd pleidleisio'n digwydd mewn lleoliad pleidleisio wedi'i oruchwylio - boed hynny drwy'r post neu'n electronig - na ellir cael sicrwydd pendant y bydd pleidleiswyr yn gallu diogelu cyfrinachedd eu pleidlais yn yr un modd â phe byddent wedi pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Yn yr un modd, ni ellir cael sicrwydd pendant y bydd pleidleisiwr yn gallu pleidleisio heb wynebu pwysau neu ddylanwad amhriodol gan berson arall.
C19 – A ddylid cynnal ymarferiadau treialu i ddechrau?
C20 – A ddylai cynghorau gael defnyddio system bleidleisio drwy’r post yn unig mewn ward unigol neu mewn nifer o wardiau o fewn ardal y cyngor?
Fel y nodir uchod, cred y Comisiwn y dylai pleidleiswyr gael dewis ynghylch sut i fwrw eu pleidlais ac, oherwydd hyn, ni fyddem yn cefnogi pleidleisio drwy'r post yn unig.
Pleidleisio electronig a phleidleisio o bell
C21 – A ddylai pleidleisio electronig fod ar gael mewn etholiadau lleol?
C22 – A ddylai pleidleisio o bell fod ar gael mewn etholiadau lleol?
Ni ddylid diystyru'r ffaith bod gennym systemau etholiadol diogel a hygyrch eisoes sy'n ysbrydoli hyder pleidleiswyr a rhaid i hyn fod yn ffactor allweddol i'w ystyried wrth edrych ar unrhyw newidiadau i'r system bleidleisio bresennol.
Byddai angen cyflwyno unrhyw lwyfannau pleidleisio newydd yn seiliedig ar dystiolaeth a chyfiawnhad cadarn cyn gweithredu unrhyw newidiadau.
Rhwng 2002 a 2007, gwnaethom werthuso nifer o gynlluniau pleidleisio electronig (e-bleidleisio) peilot mewn etholiadau llywodraeth leol. Roedd y treialon e-bleidleisio yn cynnwys profi nifer o ddatrysiadau, yn cynnwys pleidleisio o bell dros y rhyngrwyd, pleidleisio o bell dros y ffôn, pleidleisio mewn ciosg a rhwydwaith o orsafoedd pleidleisio "pleidleisio unrhyw le". Mae ein sylwadau yn seiliedig yn bennaf ar ganfyddiadau ein gwerthusiad o ran y datrysiadau pleidleisio electronig a phleidleisio o bell dros y rhyngrwyd a dreialwyd mewn etholiadau llywodraeth leol yn ystod y cyfnod hwn.
Er ein bod yn gwerthfawrogi y gwelwyd newid sylweddol tuag at ddefnydd digidol drwy ddyfeisiau symudol dros y blynyddoedd diwethaf, drwy werthuso'r cynlluniau peilot hyn roedd yn bosibl nodi a dadansoddi materion pwysig yn ymwneud â phleidleisio o bell dros y rhyngrwyd, yn cynnwys rheoli risg, diogelwch a hyder, achredu ac ardystio, caffael, rheoli prosiect, sicrhau ansawdd a chost. Daethom i'r casgliad hefyd, er bod y cynlluniau'n hwyluso'r broses bleidleisio (er nad oeddent yn effeithio'n sylweddol ar y nifer sy'n pleidleisio), bod lefel y risg i weithrediad a diogelwch ar y pryd yn sylweddol ac yn annerbyniol.
Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried y cyd-destun ehangach ar gyfer cynnal y drafodaeth ar y defnydd o bleidleisio dros y rhyngrwyd, yn cynnwys y posibilrwydd y gallai ymosodiadau seiber dargedu gwefannau allweddol. Yn y DU, cyhoeddodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'r Ganolfan Diogelu Seilwaith
Genedlaethol ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU ar 8 Mehefin 2017. Roedd hyn yn cynnwys negeseuon atgoffa ynghylch arferion seiberddiogelwch da ar gyfer y systemau sy'n cefnogi'r broses o gynnal etholiadau ledled y DU.
Credwn ei bod yn bwysig rhoi dewis i bleidleiswyr, ac rydym yn cydnabod y gall fod gan systemau pleidleisio o bell dros y rhyngrwyd y potensial o gynyddu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd. Rydym o'r farn y byddai angen i'r materion hyn gael eu hasesu'n briodol cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch y defnydd posibl ohonynt yn y dyfodol mewn etholiadau neu refferenda statudol yn y DU. Un peth sy'n ganolog i unrhyw benderfyniad yw bod yn rhaid i bleidleiswyr ymddiried yn y system etholiadol. Byddem yn fodlon gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn archwilio'r cyfleoedd digidol newydd hyn ymhellach.
Cyfrif electronig
C23 – A ddylid cyflwyno cyfrif electronig ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru?
Rydym yn cydnabod bod gan systemau cyfrif electronig (e-gyfrif) y potensial o wella cyflymder cyfrif o gymharu â chyfrif dynol, yn enwedig lle y defnyddir systemau pleidleisio a chyfrif mwy cymhleth. Fodd bynnag, mae e-gyfrif yn ei gwneud yn haws i sicrhau tryloywder prosesau cyfrif ac mae ganddo'r potensial i leihau gallu ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr i graffu ar y broses.
Ar hyn o bryd, cyfrifir etholiadau Maerol Llundain, Cynulliad Llundain a Chyngor yr Alban yn electronig. Rydym wedi asesu'r defnydd o e-gyfrif yn yr etholiadau hyn yn ein hadroddiadau diweddaraf ar etholiadau: Adroddiad ar etholiadau cynghorau lleol yr Alban 2017; Etholiadau Maer Llundain a Chynulliad Llundain Mai 2017
Ers 2007, defnyddiwyd cyfrif electronig yn y tri set o etholiadau cynghorau pob sedd yn yr Alban, ac mewn llawer o isetholiadau lleol. Yn ein hadroddiad diweddar ar etholiadau cynghorau lleol yn yr Alban, rydym yn argymell:
- y dylid cynnal a chyhoeddi dadansoddiad cost a budd manwl cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gefnogi'r defnydd parhaus o e-gyfrif.
- y dylai Llywodraeth yr Alban a'r EMB adolygu'r defnydd o beiriannau e-gyfrif yn rheolaidd, yn cynnwys asesu effeithiolrwydd, gwerth am arian a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r dull gweithredu hwn, yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â thryloywder y broses a hyder yn y canlyniadau.
Rydym hefyd yn argymell yn ein hadroddiad ar etholiadau cynghorau'r Alban ym mis Mai 2017 y dylai'r EMB arwain adolygiad, mewn ymgynghoriad â phleidiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill, o dryloywder y prosesau e-gyfrif yn y ganolfan gyfrif, yn cynnwys y defnydd a wneir o sgriniau gwybodaeth a'u cynnwys er mwyn sicrhau'r lefelau uchaf o dryloywder a hyder yn y cyfrif.
Yn ddiweddar hefyd, gwnaethom ymateb i ymgynghoriad London Elects: Counting Options for the 2020 Mayor of London and London Assembly Elections. Mae hyn yn cyfeirio at egwyddorion allweddol y Comisiwn ar gyfer proses ddilysu a chyfrif effeithiol fel y nodir yn ein canllawiau a gyhoeddwyd cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym mis Mehefin 2017.
- Mae pob proses yn dryloyw, gyda thrywydd archwilio clir a diamwys.
- Mae'r broses ddilysu yn arwain at ganlyniad cywir. Golyga hyn fod nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch naill ai'n cyfateb i nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd fel y'i nodwyd ar y cyfrif papurau pleidleisio neu, os nad felly y mae:
- fod tarddiad yr amrywiad wedi cael ei nodi ac y gellir ei esbonio; a/neu
- mae'r blwch wedi cael ei ailgyfrif o leiaf ddwywaith, nes bod yr un nifer o bapurau pleidleisio yn cael eu cyfrif ar ddau achlysur olynol.
- Mae'r broses gyfrif yn arwain at ganlyniad cywir:
- lle mae cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd i bob ymgeisydd a chyfanswm y pleidleisiau a wrthodwyd yn cyfateb i gyfanswm y papurau pleidleisio a roddwyd ar y datganiad dilysu ar gyfer yr etholaeth.
- Mae'r broses dilysu a chyfrif yn amserol.
- Cedwir cyfrinachedd y bleidlais bob amser.
- Diogelir papurau pleidleisio a deunyddiau ysgrifennu eraill bob amser.
- Caiff gwybodaeth yn ystod y broses dilysu a chyfrif ei chyfleu mewn ffordd glir ac amserol.
Byddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal dadansoddiad cost a budd manwl o system cyfrif electronig cyn ei chyflwyno ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru. Byddem hefyd yn awyddus i sicrhau bod unrhyw system cyfrif electronig wedi ystyried gwersi a ddysgwyd o'r profiad o e-gyfrif yn yr Alban ac yn Llundain, ac i ddangos sut y gellir cyflawni pob un o'n hegwyddorion allweddol fel y nodir uchod.
Gorsafoedd pleidleisio symudol
C24 – A ddylai gorsafoedd pleidleisio symudol fod ar gael mewn etholiadau lleol?
Ni chafodd gorsafoedd pleidleisio symudol eu cynnwys yn rhaglen cynllun peilot Llywodraeth y DU ar gyfer 2000-2007 ac felly nid oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o ran y graddau y gallent fod o fudd i bleidleiswyr na gwella cyfranogiad.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y caiff gorsafoedd pleidleisio symudol eu defnyddio'n rhyngwladol. Er enghraifft yng Nghanada, mae gan etholwyr cymwys sy'n byw mewn ysbytai a chyfleusterau sy'n cynnig gofal hirdymor yr opsiwn o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio symudol yn eu preswylfa.
Yn Awstralia, mae timau pleidleisio symudol Comisiwn Etholiadol Awstralia yn ymweld â llawer o etholwyr na allant fynd i orsaf bleidleisio. Caiff cyfleusterau pleidleisio symudol eu sefydlu mewn rhai ysbytai, cartrefi nyrsio, carchardai ac ardaloedd anghysbell o Awstralia. Caiff dulliau pleidleisio symudol eu cynnal ledled Awstralia cyn ac ar y diwrnod pleidleisio.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am archwilio goblygiadau ymarferol a logistaidd gweithredu cyfleusterau gorsafoedd pleidleisio symudol gyda Elections Canada a Chomisiwn Etholiadol Awstralia, yn cynnwys asesu'r cysylltiadau rhwng y broses o reoli cofrestri etholiadol a'r dull o bleidleisio. Byddem yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu unrhyw gynigion posibl.
Pleidleisio mewn mannau heblaw gorsafoedd pleidleisio
C25 – A ddylem alluogi swyddogion canlyniadau i ddefnyddio mannau pleidleisio eraill yn ogystal â’r gorsafoedd pleidleisio sefydlog?
Yn 2003, arbrofodd Windsor a Maidenhead gynllun i alluogi pleidleiswyr i bleidleisio mewn nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys gorsafoedd trenau ac archfarchnadoedd. Daethom i'r casgliad ei bod yn anodd asesu i ba raddau roedd y bobl a ddefnyddiodd y cyfleusterau yn bleidleiswyr presennol neu'n bobl na fyddent wedi pleidleisio fel arall. Nid oes cynlluniau peilot tebyg wedi'u cynnal yn y DU ers hynny, felly mae'r gronfa dystiolaeth bresennol yn gyfyngedig.
Felly, ni allwn roi barn bendant ar p'un a ddylai Swyddogion Canlyniadau ddefnyddio mannau pleidleisio yn ogystal â gorsafoedd pleidleisio sefydlog. O ran gorsafoedd pleidleisio symudol, byddai hefyd angen ystyried y dull y dylid rhoi system ar waith yn ymarferol ac yn logistaidd, yn cynnwys asesu'r cysylltiadau rhwng y broses o reoli cofrestri etholiadol a'r dulliau o bleidleisio mewn lleoliadau gwahanol.
Pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol ac ar fwy nag un diwrnod
C26 – A ddylem ei gwneud yn bosibl i etholiadau lleol gael eu cynnal ar fwy nag un diwrnod ac ar ddyddiau heblaw dydd Iau?
Caniateir pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol eisoes mewn rhai amgylchiadau - er enghraifft, gellir cynnal isetholiad ar unrhyw ddiwrnod, heblaw am dies non. Yn yr Alban, cafwyd rhai achosion yn ddiweddar lle y cynhaliwyd isetholiadau llywodraeth leol ar ddiwrnodau gwahanol oherwydd gwyliau cyhoeddus lleol. Yn yr achosion hyn, cafodd Swyddogion Canlyniadau eu hannog gan y Comisiwn Etholiadol i sicrhau eu bod yn gwneud gwaith ymwybyddiaeth lleol ychwanegol er mwyn hysbysu'r etholaeth o'r diwrnod pleidleisio yn hytrach na dibynnu ar y cerdyn pleidleisio'n unig i wneud hyn. Byddem yn disgwyl gweld ymdrechion ymwybyddiaeth gyhoeddus ychwanegol tebyg pe byddai etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu cynnal ar ddiwrnod heblaw dydd Iau.
Arbrofwyd drwy gynnal etholiadau ar ddiwrnodau gwahanol ar ffurf pleidleisio ymlaen llaw yn etholiadau lleol Mai 2007 yn Lloegr. Roedd ein gwerthusiad o'r cynlluniau peilot hyn yn cynnwys adborth gan staff etholiadau a rhanddeiliaid lleol eraill, ynghyd â thystiolaeth o ymchwil arolygon lleol, a awgrymodd y byddai'r mwyafrif (74%) o ddefnyddwyr pleidleisio ymlaen llaw wedi pleidleisio hyd yn oed heb y cyfleuster. Yn fras, roedd y nifer a bleidleisiodd yn yr ardaloedd â chynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw yn gyson â'r etholiadau cymaradwy diwethaf yn yr ardaloedd hynny.
Yn ychwanegol, nid oedd arbrofi gyda threialu pleidleisio ymlaen llaw yn fynych o reidrwydd yn arwain at lefelau defnydd uwch, a barhaodd yn isel. Daethom i'r casgliad ei bod yn annhebygol iawn bod y cynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw yn cael mwy nag effaith gyfyngedig iawn ar nifer y pleidleiswyr, er ei bod yn debygol iddo fod yn fwy cyfleus i rai pleidleiswyr.
Cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar bleidleisio ar y penwythnos yn 2008. Mewn egwyddor, nid ydym yn gwrthwynebu pleidleisio ar y penwythnos, er mai dim ond os oes tystiolaeth glir y byddai o fudd sylweddol i'r etholwyr y dylid gwneud unrhyw newid. Rydym yn gwerthfawrogi bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers hyn ond, ar hyn o bryd, mae'r dystiolaeth sydd ar gael ar y mater yn rhoi sail annigonol i gyrraedd casgliad penodol, felly rydym o'r farn bod angen rhagor o waith, er enghraifft, er mwyn cadarnhau goblygiadau ymarferol unrhyw newid, gan gynnwys i ba raddau y gallai effeithio'n wahanol ar bobl, nifer y pleidleiswyr ac adnoddau. Nes i'r holl faterion hyn gael eu harchwilio a'u hasesu'n briodol, rydym yn argymell y dylid parhau i gynnal y diwrnod pleidleisio yn ystod yr wythnos, er y byddem yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn archwilio'r maes hwn yn fanylach.
Gweithdrefnau pleidleisio drwy’r post symlach
C27 – A ddylid ystyried symleiddio’r deunydd darllen a’r trefniadau ar gyfer pleidleisio drwy’r post?
Yn yr etholiadau llywodraeth leol diweddaraf yng Nghymru ym mis Mai 2017, nifer y pleidleisiau post a wrthodwyd oedd 8,695 neu 3.2% o'r holl bleidleisiau post a ddychwelwyd, o gymharu â 4.4% yn 2012. Mae hyn yn cymharu 2.4% a wrthodwyd yn etholiad cyffredinol y DU a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2017 ledled y DU.
Mae tystiolaeth a gasglwyd i lywio ein hadroddiadau ar ôl pob etholiad wedi dangos mai'r rhesymau mwyaf cyffredin pam na chafodd pleidleisiau post a ddychwelwyd eu cynnwys yn y cyfrif yw am na wnaeth pleidleiswyr ddychwelyd y papur pleidleisio drwy'r post neu am nad oedd y llofnod neu'r dyddiad geni a ddarparwyd gan y pleidleisiwr neu'r ddau ohonynt yn cyfateb i'r cofnodion a oedd gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Ar ôl etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai 2014, cafodd y ddeddfwriaeth ei diwygio. Roeddem yn falch, am y tro cyntaf, ei bod yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban hysbysu etholwyr pan oedd y llofnod a/neu y dyddiad geni a roddwyd ganddynt ar y datganiad pleidleisio drwy'r post wedi methu â chyfateb i'r rhai a nodwyd ar gofnod y Swyddog Cofrestru Etholiadol neu eu bod wedi'u gadael yn wag.
C28 – Yn eich barn chi, sut y dylai’r broses gael ei symleiddio?
Mae tystiolaeth a gasglwyd i lywio ein hadroddiadau ar ôl etholiad wedi dangos mai'r rhesymau mwyaf cyffredin pam na chaiff pleidleisiau post a ddychwelwyd eu cynnwys yn y cyfrif oedd am nad yw'r llofnod neu'r dyddiad geni a ddarparwyd gan y pleidleisiwr neu'r ddau ohonynt yn cyfateb i'r cofnodion a oedd gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Mae adborth gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn awgrymu bod y rhesymau dros hyn yn cynnwys: pobl yn rhoi'r dyddiad y cafodd y bleidlais bost ei chwblhau yn hytrach na'u dyddiad geni; newid enw, fel wrth briodi; a newidiadau yn ansawdd y llofnodion dros amser ers gwneud y cais gwreiddiol.
Un newid posibl i leihau nifer yr achosion hyn fyddai cynnwys gofod ar gyfer dyddiad cwblhau'r bleidlais bost fel y gallai pobl gynnwys hynny yn ogystal â'u dyddiad geni.
Dylid cynnal profion defnyddwyr cynhwysfawr gyda phleidleiswyr ar gyfer unrhyw newidiadau o'r fath i symleiddio'r gweithdrefnau pleidleisio drwy'r post.
Cyflwyno dogfen adnabod mewn gorsaf bleidleisio
C29 – A ddylai etholwyr sy’n mynd i orsaf bleidleisio orfod dangos dogfen adnabod cyn cael pleidleisio? Os felly, pa fathau o ddogfennau adnabod ddylai fod yn dderbyniol?
C30 – A yw manteision mynnu gweld dogfen adnabod yn fwy na’r perygl o rwystro pleidleiswyr?
Ym mis Ionawr 2014, yn dilyn ein hadolygiad o wendidau twyll etholiadol, rydym yn argymell y dylai fod yn ofynnol i etholwyr ddangos prawf ffotograffig o bwy ydynt cyn y gellir rhoi papur pleidleisio iddynt mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau a refferenda ym Mhrydain Fawr. Mae hyn eisoes yn ofyniad yng Ngogledd Iwerddon.
Ym mis Rhagfyr 2015, gwnaethom gyhoeddi adroddiad arall yn nodi'n fanylach sut y gallai cynllun o'r fath weithio'n ymarferol. Gwnaethom argymell cynllun prawf adnabod ar gyfer pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio sy'n seiliedig ar y dull a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus yng Ngogledd Iwerddon ers 2003, lle:
- Mae'n ofynnol i bleidleiswyr ddangos math penodol o ddogfen adnabod ffotograffig sy'n bodoli eisoes a;
- Gellir rhoi 'Cerdyn Adnabod Etholiadol' i bleidleiswyr nad oes ganddynt un o'r mathau penodol o ddogfen adnabod y gallant ei ddefnyddio i brofi pwy ydynt.
Yn ein barn ni, dyma fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol a chymesur o fynd i'r afael â'r gwendidau presennol yn y broses o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain Fawr oherwydd y risg o gam-bersonadu. Canfu ein hymchwil mai dim ond 1% o bobl na wnaethant bleidleisio yn etholiadol Cynulliad Gogledd Iwerddon yn 2016 a ddywedodd fod hynny am nad oedd ganddynt ddogfen adnabod.
Nid yw dogfennau nad ydynt yn rhoi prawf hunaniaeth ffotograffig, fel biliau cyfleustod, yn cynnig yr un lefel o ddiogelwch, a gallai cam-bersonadu ddigwydd yn gymharol hawdd o hyd.
Yr her mewn unrhyw ddemocratiaeth yw cyflawni'r cydbwysedd priodol rhwng hygyrchedd a diogelwch y system etholiadol. Mae diogelwch yn golygu sicrhau y gall pawb fod yn hyderus bod eu pleidlais yn cael ei chyfrif ac na all unrhyw un ddwyn eu pleidlais nac ymyrryd â hi. Mae hygyrchedd yn golygu sicrhau bod pawb sy'n gymwys i bleidleisio'n cael y cyfle i bleidleisio heb wynebu rhwystrau diangen neu anghymesur.
Mae angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r cydbwysedd hwn mewn perthynas ag unrhyw ofyniad i bleidleiswyr ddangos dogfennau adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio, gan fod angen ystyried yr effaith debygol ar hygyrchedd y broses bleidleisio, naill ai i bob etholwr neu i grwpiau penodol o etholwyr, a dylai gynnwys mesurau i leihau unrhyw effaith andwyol.
Cred y Comisiwn fod yn rhaid i unrhyw gynllun sy'n ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos dogfennau adnabod fod yn hygyrch i bawb; oherwydd hyn, rydym yn argymell y dylai unrhyw gynllun gael ei gefnogi gan gerdyn adnabod ffotograffig sydd ar gael yn rhwydd, y gall etholwyr ei gael yn hawdd os nad oes ganddynt unrhyw ddull derbyniol arall o ddogfen adnabod ffotograffig. Yn ogystal â sicrhau bod y ddogfen hon ar gael am ddim, rhaid i'r broses gwneud cais fod mor hygyrch â phosibl, gan gynnig ceisiadau ar-lein yn ogystal â cheisiadau personol a cheisiadau drwy'r post.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi cyhoeddi y bydd pum awdurdod lleol yn Lloegr yn treialu'r gofyniad i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod yn yr orsaf bleidleisio yn yr etholiadau lleol fis Mai nesaf. Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am gynnal gwerthusiad annibynnol, statudol o'r cynlluniau peilot a byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ôl etholiadau mis Mai, yn ystod haf 2018.
Byddem yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn archwilio goblygiadau ymarferol unrhyw gynllun sy'n ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod yng Nghymru.
Sefyll etholiad
Dileu'r angen i gyhoeddi cyfeiriad post ymgeisydd
C31– A ydych yn cytuno na ddylai fod yn angenrheidiol bellach i gyhoeddi cyfeiriad cartref ymgeisydd mewn deunydd etholiadol, gan gynnwys unrhyw beth a gyhoeddir yn electronig?
Yn ystod yr etholiadau lleol yng Nghymru ym mis Mai, cysylltodd nifer o ymgeiswyr â'r Comisiwn i fynegi eu pryder y byddai eu cyfeiriad cartref yn cael ei gynnwys ar y papur pleidleisio ar gyfer yr etholiadau dan sylw. Roedd llawer o'r farn bod hyn yn peri risg sylweddol i'w diogelwch personol a gwnaethom gyfeirio at y mater hwn yn ein hadroddiad ar yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn 2017.
Daeth adborth tebyg i law yn ystod y cyfnod enwebu gan nifer fach o asiantiaid a phleidiau gwleidyddol yn etholiadau cynghorau'r Alban ac yn etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Mae diogelwch ymgeiswyr yn fater pwysig a chyfoes iawn, a amlygwyd yn 2016 drwy farwolaeth Jo Cox ac, yn fwy diweddar, gan gynnydd yn nifer y bygythiadau personol i ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad. Fodd bynnag, mae tryloywder gwybodaeth i bleidleiswyr, y mae llawer ohonynt am wybod ble mae eu hymgeiswyr yn byw, hefyd yn ystyriaeth bwysig.
Wrth gynnig unrhyw newidiadau, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried pa opsiynau sydd ar gael sy'n sicrhau bod y system yn dryloyw ond ei bod hefyd yn hyrwyddo diogelwch ymgeiswyr. Er enghraifft, gallai fod yn ofynnol rhoi cyfeiriad cartref ar ffurflenni enwebu perthnasol (a allai gael ei weld ar adegau penodol) ond na chaiff ei gynnwys yn llawn ar y papur pleidleisio ei hun, fel mewn etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Senedd y DU.
Cyhoeddi datganiad ymgeisydd ar-lein
C32 – A ydych yn cytuno y dylid gofyn i bob ymgeisydd ddarparu datganiad personol i’w gynnwys ar wefan a ddarperir gan yr awdurdod y maent yn gobeithio cael eu hethol iddo?
Rydym yn cytuno y byddai cyhoeddi datganiadau ymgeiswyr ar-lein o fudd i bleidleiswyr yng Nghymru a gallai wella amlygrwydd ymgeiswyr i bleidleiswyr. Fodd bynnag, o ystyried nifer yr ymgeiswyr mewn etholiadau lleol, gallai hyn fod yn her ymarferol i Swyddogion Canlyniadau y byddai angen ei ystyried yn ofalus.
Ym mis Ionawr 2015, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar Sefyll Etholiad Gwnaeth hyn nifer o argymhellion i ddiweddaru'r rheolau ynghylch sefyll etholiad a'u gwneud yn gliriach ac yn decach.
Fel rhan o'n hymgynghoriad, wrth feddwl am dechnegau cyfathrebu mwy modern, gofynnwyd am farn ar wneud mwy o ddefnydd o anerchiadau ymgeiswyr ar-lein mewn etholiadau yn hytrach nag anfon negeseuon gwahanol gan nifer fawr o ymgeiswyr at bob etholwr3
.
.
Er bod rhywfaint o gefnogaeth i anerchiadau ymgeiswyr ar-lein, codwyd pryderon nad oedd gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd ac efallai y byddai amharodrwydd, ar ran rhai etholwyr, i ddod o hyd i wybodaeth am ymgeiswyr ar-lein. Dylai unrhyw symud i negeseuon ymgeiswyr ar-lein ystyried y defnydd o'r rhyngrwyd a'r tebygolrwydd y gellir cael gafael ar wybodaeth ymgeiswyr ar-lein.
Ein profiad o etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2012 a 2016 yw nad yw datganiad ymgeisydd yn hygyrch i bawb os mai dim ond ar-lein y caiff ei gyhoeddi. Yn yr etholiad diwethaf ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2016, dywedodd 28% o ymatebwyr i'n harolwg ar ôl yr etholiad eu bod wedi cael gafael ar ddigon o wybodaeth am yr ymgeiswyr oedd yn sefyll yn yr etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i allu gwneud penderfyniad hyddysg ynghylch sut i bleidleisio. Roedd hyn yn cymharu â 76% a oedd yn cytuno yn Llundain lle yr anfonwyd llyfryn yn cynnwys anerchiadau
ymgeiswyr i bob cartref ledled Llundain ar gyfer etholiad Maer Llundain.
Fel y nodwyd yn ein hadroddiad etholiad ar yr etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai llyfryn gwybodaeth am ymgeiswyr gael effaith sylweddol ar helpu pleidleiswyr i gael gafael ar wybodaeth am yr ymgeiswyr sy'n sefyll, a sicrhau bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad hyddysg.
Atal aelod Cynulliad rhag sefyll fel ymgeisydd cyngor
C33 – A ydych yn cytuno na ddylid caniatáu i neb wasanaethu fel Aelod Cynulliad a chynghorydd ar yr un pryd?
Er nad oes barn benodol gan y Comisiwn am fandadau lluosog, byddem yn ystyried y dylai unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â'r cwestiwn hwn roi blaenoriaeth i les y pleidleisiwr neu'r pleidleiswyr. Er enghraifft, beth yw disgwyliad y pleidleiswyr o ran eu cynrychiolwyr etholedig ac a ellir cyflawni hyn drwy gynrychioli pleidleiswyr mewn amrywiaeth o lefelau gwahanol neu a yw'r gwaith ychwanegol hwn yn rhoi'r pleidleisiwr dan anfantais.
Gofyniad i ddatgan ymlyniad gwleidyddol
C34 – A ydych yn cytuno y dylai fod yn ofynnol i ymgeiswyr ddatgelu unrhyw ymlyniad gwleidyddol sydd ganddynt?
Q35 – Pa fath o dystiolaeth y dylai fod ei hangen i awgrymu bod ymlyniad gwleidyddol sydd heb ei ddatgelu?
Rydym yn ystyried ei bod yn dderbyniol i aelod o blaid wleidyddol sefyll fel ymgeisydd Annibynnol mewn unrhyw etholiad, ond rydym o'r farn y dylid datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol sy'n ymwneud ag aelodau o blaid i bleidleiswyr mewn da bryd fel rhan o'r broses hon. Mae hyn yn sicrhau tryloywder yn y system etholiadol a bod pleidleiswyr yn glir o ran sut maent yn bwrw eu pleidlais.
Fodd bynnag, byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus sut yn union y byddai pleidleiswyr yn cael eu hysbysu am hyn cyn unrhyw etholiad. Byddai nifer yr ymgeiswyr yn ei gwneud yn anodd cynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol ar y papur pleidleisio ond gellid cyflwyno hysbysiad ychwanegol, neu ddatgeliad wedi'i gynnwys yn neunyddiau'r pecyn enwebu sy'n bodoli eisoes.
Pe byddai datgeliad yn cael ei gynnwys fel rhan o'r broses enwebu, yna dylid ystyried sut y cyflawnwyd ac y gorfodwyd hyn.
Caniatáu staff y cyngor i sefyll i'w cyngor eu hunain
C36 – A ddylai unrhyw rai o staff y cyngor islaw’r lefel uwch fod yn gallu sefyll mewn etholiad i’w hawdurdod eu hunain?
C37 – A oes cyfiawnhad o hyd i gynghorau gadw rhestr o’r swyddi, heblaw am swyddi uwch-swyddogion, a ddylai fod dan gyfyngiadau gwleidyddol?
Yn ein hadroddiad Sefyll Etholiad, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, rydym yn argymell y dylid newid y gyfraith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn gwahaniaethu’n amlwg rhwng swyddfeydd neu gyflogaeth a fyddai'n atal rhywun rhag sefyll etholiad, a'r rhai a fyddai'n atal rhywun rhag dal swydd pe
byddai'n cael ei ethol. Yn yr adroddiad hwn, gwnaethom hefyd nodi fframwaith o gwestiynau a all fod yn ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru gyfeirio ato os bydd yn penderfynu adolygu ei rheolau ei hun ar anghymhwyso.
Yn yr Alban, newidiwyd y rheolau sy'n atal y sawl sy'n gyflogedig neu'n dal swydd â thâl mewn awdurdod lleol rhag sefyll etholiad i'r awdurdod hwnnw yn 2005 er mwyn sicrhau y gallai cyflogai awdurdod lleol sefyll etholiad i'r awdurdod hwnnw, ac mai dim ond pe byddai'n cael ei ethol y byddai'n rhaid iddo ymddiswyddo.
Credwn fod achos cryf dros alw ar Lywodraeth Cymru (yn ogystal â llywodraethau eraill) i adolygu'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli achosion o ddatgymhwyso er mwyn penderfynu a yw'n briodol, yn gyfiawnadwy ac yn cael ei deall o hyd. Gallai hyn gynnwys ystyried y risgiau y gallai unrhyw newid eu hachosi. Mae angen diweddaru rhai o'r rheolau sy'n cynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyflogeion neu ddeiliaid swyddi mewn awdurdodau lleol ac nid ydynt yn adlewyrchu strwythur presennol gweinyddu llywodraeth leol sy'n aml yn cynnwys cydberthnasau â chyrff hyd braich.
Swyddogion Canlyniadau
Cael gwared ar hawl Swyddog Canlyniadau i ffioedd personol
C38 – A ydych yn cytuno y dylai rôl y prif weithredwr statudol gynnwys rôl swyddog canlyniadau?
Nid ydym yn cytuno y dylai rôl y prif weithredwr statudol gynnwys rôl swyddog canlyniadau. Rydym yn parhau i gefnogi'r egwyddor y dylai Swyddogion Canlyniadau fod yn annibynnol ar lywodraethau lleol a chenedlaethol wrth ymgymryd â'u dyletswyddau gweinyddu etholiadol statudol.
Ym mis Tachwedd 2016, gwnaethom roi tystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban. Roedd ei ymholiad yn ystyried diben a phriodoldeb rhoi taliadau neu ffioedd i Swyddogion Canlyniadau yn yr Alban mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol, Senedd yr Alban, Senedd y DU a Senedd Ewrop, a Swyddogion Cyfrif mewn perthynas â refferenda.
Cydnabuom y rôl ganolog y mae Swyddogion Canlyniadau'n ei chwarae yn y broses ddemocrataidd a'u bod yn hanfodol er mwyn darparu etholiadau a refferenda a reolir yn dda sy'n cynhyrchu canlyniadau y gall pleidleiswyr fod yn hyderus ynddynt. Ni chyflogir Swyddogion Canlyniadau gan gynghorau pan fyddant yn ymgymryd â dyletswyddau etholiad neu refferendwm. Maent yn ddeiliaid swyddfa statudol annibynnol ac maent yn atebol i'r llysoedd am ddarparu eu dyletswyddau swyddogol.
Credwn ei bod yn bwysig y dylai gweinyddu etholiadol fod yn nwylo'r Swyddog Canlyniadau a'i staff yn unig, yn hytrach nag awdurdodau lleol. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod etholiadau'n cael eu gweinyddu'n effeithiol ac er budd gorau pleidleiswyr, er mwyn sicrhau gweinyddu etholiadau'n ddiduedd ac osgoi unrhyw ganfyddiad o duedd a hybu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses.
Yn ein hymateb i'r Papur Gwyn ym mis Ebrill, gwnaethom argymell y byddai angen i unrhyw newidiadau i'r fframwaith rheoli presennol ar gyfer darparu etholiadau a refferenda yng Nghymru, gan gynnwys unrhyw newidiadau i ariannu Swyddogion Canlyniadau, gael eu hystyried yn ofalus er mwyn sicrhau bod annibyniaeth ac atebolrwydd y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu digwyddiadau pleidleisio yn cael eu hatgyfnerthu, nid eu gwanhau.
C39 – A ydych yn cytuno y dylai unrhyw ychwanegiad at gyflog i gydnabod dyletswyddau swyddog canlyniadau fod yn fater i’r awdurdod lleol benderfynu arno?
Er nad yw'n fater i'r Comisiwn Etholiadol, mae'n bwysig bod person priodol sy'n meddu ar y set sgiliau priodol yn cyflawni rôl Swyddog Canlyniadau a dylid ei dalu yn unol â hynny.
Symleiddio system ffioedd a thaliadau
C40 – A ddylai Llywodraeth Cymru symud at system o gyfrifo costau etholiadau Cynulliad yn ôl fformiwla y cytunwyd arni, wedi’i seilio ar faint yr etholaeth?
Os caiff trefniant fformiwla ei gyflwyno ar gyfer cyfrifo costau etholiad, mae'n hanfodol bod y cyllid ar gael yn ddigonol i weinyddu etholiadau yn effeithiol heb effeithio ar ofynion statudol ac arfer gorau a gydnabyddir. Bydd angen i'r system sicrhau bod costau a chyllid etholiadau yn hollol dryloyw hefyd.
Carcharorion
C41 – A ddylid caniatáu i garcharorion Cymreig gofrestru i bleidleisio a chymryd rhan mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru? Os felly, a ddylid cyfyngu hyn i rai sydd wedi’u dedfrydu i lai na deuddeg mis, pedair blynedd, neu ddedfryd o unrhyw hyd?
Nid ydym yn mynegi barn ar b'un a ddylai carcharorion fod yn gymwys i bleidleisio ai peidio, na ph'un a ddylid cyfyngu'r etholfraint i rai carcharorion sy'n bwrw dedfryd o hyd penodol. Efallai y byddwch am gyfeirio at ein sylwadau ar garcharorion yn pleidleisio a nodwyd yn ddiweddar yn y dystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol Senedd yr Alban.
Mae carcharorion ar remand eisoes yn gymwys i gofrestru a phleidleisio ac felly dim ond i garcharorion a ddedfrydwyd y mae ein sylwadau'n berthnasol.
C42 – Drwy ba ddull y dylai carcharorion fwrw pleidlais?
C43 – Ym mha gyfeiriad y dylai carcharorion gael eu cofrestru i bleidleisio?
Os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu caniatáu i garcharorion yng Nghymru bleidleisio yna byddem yn disgwyl cael ein holi ymhellach ynghylch sut y byddai hyn yn cael ei weithredu. Ymysg rhai o'r materion y byddai angen eu hystyried mae:
- y meini prawf cymhwysedd i garcharorion gofrestru, o ystyried mai preswylio yw un o'r prif feini prawf ar gyfer cofrestru. Er enghraifft, os bydd carcharorion yn cofrestru i bleidleisio yng nghyfeiriad y carchar, yna byddai hyn yn golygu y byddai carcharorion sydd wedi'u cofrestru yn cael effaith anghymesur ar yr etholaeth yn y ward y lleolir y carchar. O ystyried mai dim ond o ganlyniad i'w dedfryd y mae carcharorion yn bresennol yng nghyfeiriad y carchar, opsiwn arall fyddai i garcharorion gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad blaenorol neu gyfeiriad bwriadedig.
- sut y byddai pleidleiswyr o Gymru sydd wedi'u carcharu mewn carchardai yn Lloegr yn cael eu cofrestru.
- y dull y byddai carcharorion yn bwrw eu pleidlais. Byddai'n anodd iawn trefnu gorsafoedd pleidleisio mewn carchardai yn logistaidd a gall fod yn haws cyfyngu carcharorion i system bleidleisio absennol.
- yr hawl i bob carcharor bleidleisio'n gyfrinachol ni waeth sut maent yn bwrw eu pleidlais.
- yr hawl i bleidleisio drwy ddirprwy heb fod angen ardystio eu cais (fel sy'n wir ar gyfer pleidleiswyr tramor a phleidleiswyr sy'n aelodau o'r lluoedd arfog). Gan eu bod yn y carchar, mae gan y pleidleiswyr reswm digonol dros beidio â gallu mynd i'w gorsaf bleidleisio.
- rhaglen ymwybyddiaeth i dynnu sylw at y broses er mwyn galluogi carcharorion i gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidlais.
- sut y gallai carcharorion gael gwybodaeth am bolisïau ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr eraill.
C44 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai diwygio etholiadol yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai? Sut y gellid cynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?
Fel y mae'r Comisiwn wedi argymell yn flaenorol, dylai unrhyw ddeddfwriaeth neu ddogfennaeth fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd. Mae hyn yn arbennig o wir am ddeddfwriaeth digwyddiadau etholiadol. Mae hyn yn sicrhau bod pob Swyddog Canlyniadau yn cael yr un ddogfennaeth ddwyieithog i'w dilyn ac yn sicrhau cysondeb rhwng y ddwy iaith. Dylid cynnal unrhyw ymgynghoriad pellach ar y materion hyn yn ddwyieithog, gan sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg ymateb.
Yn ein hadroddiad ar yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016, gwnaethom argymell y dylai Llywodraethau â chymhwysedd deddfwriaethol ddiwygio diffiniadau plaid wleidyddol a gwariant ymgeiswyr fel y gellir eithrio costau sy'n gysylltiedig â chyfieithu deunydd o'r Saesneg i'r Gymraeg (ac i'r gwrthwyneb) rhag rheolau gwariant perthnasol ar ymgyrchu (fel sy'n digwydd gyda rheolau PPERA ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn blaid). Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys darpariaethau cyfreithiol a fyddai'n cyfeirio'r broses o eithrio costau cyfieithu ar gyfer gwariant ar etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol.
Rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad i Swyddogion Canlyniadau a'u staff drwy gydol y flwyddyn. Mae ein holl ddogfennau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog, ynghyd â'n gwasanaeth cyngor dros y ffôn neu e-bost.
Rydym hefyd yn rhoi canllawiau a chyngor i ymgeiswyr ac asiantiaid cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad etholiadol. Darperir y dogfennau hyn yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae cyngor ar gael yn y ddwy iaith dros y ffôn pan fydd ei angen ar ymgeisydd neu asiant.
C45 - Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall yr opsiynau arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Fel yr argymhellir yn ein hadroddiad ar etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016, gwnaethom sefydlu a darparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth y Gymraeg i drafod a rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â deddfwriaeth y Gymraeg sy'n gysylltiedig ag etholiadau. Mae'r grŵp, sy'n cynnwys aelod sy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru, wedi cwrdd ddwywaith ac mae eisoes wedi cyflwyno ymateb i orchymyn ffurfiau drafft ar gyfer yr etholiadau cynghorau lleol a chymuned ym mis Mai 2017 ac wedi llunio'r agenda ar gyfer y gwaith sydd ar y gweill gan y grŵp. Ei gamau nesaf fydd ystyried dogfennaeth ar gyfer pleidleiswyr mewn deddfwriaeth ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru ac asesu safon ac argaeledd y dogfennau hyn yn Gymraeg. Yn yr hirdymor, nod y grŵp fydd ystyried dogfennaeth debyg mewn deddfwriaeth ar gyfer etholiadau a refferenda eraill.
Materion cysylltiedig eraill i'w hystyried
C46- Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny
Cyfarfu Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2017 er mwyn dechrau ei waith cyn yr etholiadau llywodraeth leol. Ymhlith yr aelodau mae Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, swyddogion o Swyddfa'r Cabinet a Swyddfa Cymru, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (Cymru) a'r Comisiwn Etholiadol.
Wrth baratoi ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2017, trafododd y Bwrdd amrywiaeth o faterion gan gynnwys cynllunio prosiectau, rheoli risg, enwebiadau, amseriad y cyfrif, ymwybyddiaeth y cyhoedd a phartneriaethau, uniondeb etholiadol a delio â chwynion.
Er nad yw'r Bwrdd yn grŵp statudol, credwn fod ganddo rôl bwysig i'w chyflawni o ran dwyn ynghyd yr amryw randdeiliaid, a chynnig barn gydgysylltiedig a chydlynol ar faterion etholiadol yng Nghymru. Credwn fod datblygiad y grŵp hwn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cysondeb ym maes rheoli etholiadol ledled y wlad, mewn ffordd debyg i weithrediad y Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer yr Alban.
Mae'r Comisiwn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gymryd rhan ym Mwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Dylai hefyd ystyried sut y gellid datblygu rôl y Bwrdd yn y tymor canolig i'r hirdymor er mwyn cefnogi rhaglen moderneiddio etholiadol gyffredinol Llywodraeth Cymru. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ystyried p'un a ddylai'r Bwrdd ddod yn grŵp statudol, fel yn yr Alban.
- 1. Yn 2005, ystyriodd Adran Materion Cyfansoddiadol Llywodraeth y DU roi un gofrestr electronig ar waith drwy'r Cofnod Etholwyr Ar-lein wedi'i Gydlynu. Fodd bynnag, ni sefydlwyd yr un cynllun Cofnod Etholwyr Ar-lein wedi'i Gydlynu ac ni sefydlwyd un ers hynny, ac mae'r ddeddfwriaeth wedi'i diddymu ers hynny. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Gweler http://www.internetvotingpanel.ca/docs/recommendations-report.pdf t.12. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Gall ymgeiswyr bostio taflenni am ddim yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Senedd Ewrop ac mewn etholiadau i Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Yng Ngogledd Iwerddon, rhoddir yr un cyfle i ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol. Yn etholiadau Maerol Llundain, mae Swyddog Canlyniadau Llundain Fwyaf yn llunio llyfryn sy'n cynnwys anerchiadau etholiadol ymgeiswyr. ↩ Back to content at footnote 3