Ein hymateb i ddogfen ymgynghorol papur gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol – Cyflawni dros ein Pobl
Summary of the letter
Dyddiad: 12 Mehefin 2018
At: Cryfhau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad: Cryfhau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Cathays Park, Caerdydd, CF10 3NQ
O: Elan Closs Stephens CBE, Comisiynydd Etholiadol, Cymru
Full letter
Annwyl Gydweithwyr,
Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl
Diolch am y cyfle i wneud sylwadau ar ddatganiad o fwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau llywodraeth leol gryfach, sy'n fwy grymus yng Nghymru: ‘Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl’.
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn ar y papur gwrdd yng nghyd-destun agenda diwygio etholiadol ehangach yng Nghymru, ar ôl i newidiadau hefyd gael eu cynnig yn ddiweddar i etholiadau llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru ac i etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Gomisiwn y Cynulliad.
Rydym eisoes wedi rhoi barn ar y meysydd hyn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol er mwyn cyfrannu at yr agenda diwygio a moderneiddio yng Nghymru.
Rydym wedi amlinellu barn y Comisiwn Etholiadol ar y cwestiynau hynny sy'n berthnasol i'n gwaith, sef Cwestiynau 4 a 6. Rydym hefyd wedi amlinellu nifer o risgiau ac argymhellion canlyniadol y bydd hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru eu hystyried, yn ein barn ni, cyn gwneud unrhyw newidiadau er mwyn sicrhau bod y newidiadau hynny er budd pleidleiswyr.
Cwestiwn Ymgynghori 4
Mae'r ymgynghoriad yn awgrymu cynnal unrhyw etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2021.
A oes unrhyw reswm pam na fyddai mis Mehefin 2021 yn ddyddiad addas? Os felly, awgrymwch ddyddiad arall gan nodi’r rhesymau pam y byddai’r dyddiad hwnnw yn fwy addas.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried o ddifrif y risgiau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â chynnal yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ym mis Mehefin 2021. Pe bai hynny'n digwydd, câi'r etholiadau hyn eu cynnal yn fuan ar ôl etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd i'w cynnal ym mis Mai yr un flwyddyn. Mae cyfres o ddiwygiadau eisoes wedi cael eu cynnig ar gyfer y ddwy set o etholiadau yng Nghymru a gaiff effaith ar bleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadau ac ymgyrchwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Newidiadau sylweddol i'r etholfraint a'r gofrestr
- Diwygiadau posibl i'r system bleidleisio
- Newidiadau i'r rheolau ar wariant ymgyrchwyr
Byddai cynnal dau etholiad pwysig mor agos at ei gilydd yn peri risg, a byddai'r risg hon yn cynyddu pe bai diwygiadau amrywiol yn cael eu gwneud i'r ddau etholiad ar yr un pryd. Fodd bynnag, byddai cadw at yr amserlen bresennol a chynnal yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022 yn lleihau rhai o'r risgiau hyn. Rydym wedi nodi isod y prif risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal yr etholiadau ym mis Mehefin 2021, yn ein barn ni.
Pleidleiswyr
Byddai dau ddyddiad cau ar gyfer cofrestru yn agos at ei gilydd a allai beri dryswch i bleidleiswyr a'r canlyniad posibl yw na fydd rhai pobl yn cofrestru mewn amser neu, yn wir, na fyddant yn cofrestru o gwbl.
Os ceir etholfraint wahanol ar gyfer pob set o etholiadau, yna gallai negeseuon yr ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd fod yn wahanol ar gyfer pob etholiad hefyd. Gallai hyn olygu na fydd pleidleiswyr yn gwybod a oes hawl ganddynt i bleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr etholiadau llywodraeth leol neu'r ddau etholiad.
Os gwneir newidiadau i'r etholfraint, yna byddai grwpiau newydd o bleidleiswyr yn pleidleisio am y tro cyntaf.
Bydd papurau pleidleisio a systemau pleidleisio gwahanol ar gyfer pob etholiad a gallai pethau newid ymhellach os caiff systemau pleidleisio newydd eu cyflwyno ar gyfer yr etholiadau hyn.
Cyn yr etholiadau yn 2021, byddai angen i ni gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r canlynol:
- yr etholiadau – gan gynnwys pryd y cânt eu cynnal;
- yr angen i gofrestru;
- y dyddiad cau ar gyfer cofrestru;
- sut i bleidleisio yn yr etholiadau;
Os cytunir ar newidiadau i'r etholfraint, byddem hefyd yn cynnal ymgyrchoedd
ymwybyddiaeth y cyhoedd i egluro'r newidiadau hyn.
Gweinyddwyr etholiada
Os cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2021, yna byddai angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan Swyddogion Canlyniadau a'u staff yr adnoddau priodol i'w galluogi i reoli'r risgiau hynny a sicrhau bod y digwyddiadau etholiadol yn llwyddiannus. Byddai cynnal dau etholiad mor agos at ei gilydd yn golygu cymhlethdod a llwyth gwaith sylweddol i weinyddwyr. Yn ogystal, os cytunir ar unrhyw newidiadau i'r etholfraint, byddai gweinyddwyr eisoes yn addasu i systemau a rheolau newydd ac felly byddai effaith ar feddalwedd yr etholiadau a byddai angen mwy o gymorth ar staff etholiadau beth bynnag.
Dylid cydnabod bod Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadau yn gorfod ymdopi â llai o adnoddau ac mae nifer gynyddol o weithwyr proffesiynol medrus yn gadael timau etholiadau awdurdodau lleol. Maent hefyd yn dibynnu fwyfwy ar gronfa fach o gyflenwyr meddalwedd arbenigol a rheoli prosesau argraffu.
Os penderfynir cynnal yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2021, yna bydd hi'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru er mwyn sicrhau bod pawb yn gweithredu mewn ffordd gydlynol a chydgysylltiedig.
Ymgyrchwyr
Bydd cynnal dau etholiad yn agos at ei gilydd yn arwain at negeseuon ymgyrchu gwahanol a chroes, o bosibl, ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai a'r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin, a allai beri dryswch i bleidleiswyr ynghylch pwy sy'n sefyll ym mhob etholiad.
Byddai hyn yn cael effaith ar y pleidiau gwleidyddol hefyd. Gallai rhai pleidiau, yn enwedig y rhai llai, ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r adnoddau i gynnal ymgyrch effeithiol ledled y wlad ar gyfer y ddwy set o etholiadau gwahanol mor agos at ei gilydd.
Cyfnodau a reoleiddir
Os cynhelir etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Mai 2021 a'r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2021, yna mae perygl y bydd yn rhaid i ymgyrchwyr gydymffurfio â rheolau cymhleth ar wariant.
Byddai'r rheolau ar wariant yn fwy cymhleth byth os cynhelir etholiad cyffredinol arfaethedig nesaf Senedd y Deyrnas Unedig ym mis Mai 2022, fel y darperir ar ei gyfer o ganlyniad i'r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol. Y rheswm am hyn yw y byddai'r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig yn gorgyffwrdd â dyddiad yr etholiadau llywodraeth leol. Dyma grynodeb o rai o'r
goblygiadau:
Senario 1: Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2021, etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2021 ac etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig ar 5 Mai 2022
Byddai angen i ffurflen plaid wleidyddol ar gyfer etholiad y Cynulliad gynnwys rhywfaint o'r gwariant yr aed iddo ar ymgyrchoedd ar gyfer yr etholiad
llywodraeth leol.
Ar ôl diwrnod pleidleisio etholiad y Cynulliad, byddai angen i bleidiau nodi unrhyw wariant pellach yn eu ffurflen ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, a ddylai gael ei chyflwyno yn 2022.
- Y canlyniad yw y byddai rhywfaint o wariant ar yr etholiadau llywodraeth leol yn cael ei gofnodi mewn dwy ffurflen wahanol ac o fewn cyfnodau gwahanol. Gallai hyn fod yn ddryslyd i ymgyrchwyr a byddai'r risg o adrodd yn anghywir ar wariant yn cynyddu.
- Byddai effeithiau tebyg i'w gweld yn achos y rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn yr etholiadau llywodraeth leol, a fyddai'n arwain at reolau cymhleth i ymgyrchwyr.
Senario 2: Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2021, etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2021 ond dim etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig yn 2022
- Byddai'r dyddiadau cau i adrodd ar wariant ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad yn agos at ddiwrnod pleidleisio yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2021. Gallai fod gan ymgyrchwyr lai o adnoddau i'w defnyddio i ymgyrchu yn ystod yr etholiadau lleol, os byddent yn llenwi ffurflenni gwariant ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ar yr un pryd.
- Byddai angen i ffurflen plaid wleidyddol ar gyfer etholiad y Cynulliad gynnwys rhywfaint o'r gwariant yr aed iddo ar ymgyrchoedd ar gyfer yr etholiad llywodraeth leol rhwng 6 Ionawr a 6 Mai 2021. Gallai'r rheolau hyn fod yn ddryslyd i bleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid, ac ymgyrchwyr, a byddai risg uwch o adrodd yn anghywir ar wariant.
Argymhellwn y canlynol:
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried o ddifrif y risgiau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â chynnal yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ym mis
Mehefin 2021.
- Dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadol a phartneriaid allweddol eraill, drwy Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, er mwyn mesur yr effaith a lliniaru'r risgiau.
- Dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ag ymgyrchwyr ar oblygiadau cynnal dau etholiad ar ôl ei gilydd ym mis Mai a mis Mehefin 2021.
- Dylai'r rheolau ynghylch sut y caiff yr etholiad ei gynnal fod yn glir o leiaf chwe mis cyn y diwrnod pleidleisio: erbyn dechrau mis Rhagfyr 2020 ar gyfer etholiad ar ddechrau mis Mehefin 2021.
- Dylid gwneud penderfyniad clir ynghylch amseru ymhell o flaen llaw, fel y gall ymgyrchwyr gynllunio sut y bydd eu hymgyrchoedd yn cydymffurfio â'r rheolau ar wariant ac adrodd a fyddai'n gymwys o fis Ionawr 2021.
- Rhaid neilltuo arian priodol ar gyfer gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn sicrhau bod pleidleisiwyr yn deall y broses etholiadol, gan roi pwyslais penodol ar unrhyw newidiadau i'r etholfraint a'r system bleidleisio os caiff y diwygiadau hyn eu cyflwyno.
- Rhaid neilltuo arian priodol ar gyfer gweinyddwyr etholiadau fel y gallant weinyddu'r ddwy set o etholiadau.
Cwestiwn Ymgynghori 6
Beth yw eich barn am y dull y dylid ei ddilyn i benderfynu ar derfynau'r adolygiadau etholiadol?
Bydd angen i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru sicrhau bod unrhyw adolygiadau yn cael eu cwblhau (a bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo gan y Gweinidog) mewn da bryd cyn unrhyw bleidlais y bydd y ffiniau newydd yn dod i rym ar ei chyfer, fel y gall gweinyddwyr, ymgeiswyr a phleidiau gynllunio ar gyfer yr etholiad ar sail y ffiniau newydd. Er enghraifft, byddai sicrhau bod y ffiniau'n cael eu cymeradwyo cyn 1 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn cyn yr etholiad yn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyhoeddi eu cofrestrau 1 Rhagfyr ar sail y ffiniau diwygiedig a'u rhannu â phleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr. Bydd gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol farn hefyd ar ba mor bell cyn cofrestrau 1 Rhagfyr y dylid cynnal adolygiadau er mwyn eu galluogi i wneud y paratoadau angenrheidiol.
Gobeithio y bydd yr ymateb hwn yn ddefnyddiol i chi ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol, Cymru gan ddefnyddio'r cyfeiriad ebost isod: [email protected]