Gorchymyn Drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020
Summary
Mae’r ymateb hwn yn amlinellu ein safbwyntiau ar Orchymyn Drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020.
Rydym yn croesawu y gwahanol drafodaethau sy’n digwydd ymysg Llywodraeth Cymru ac eraill o ran ymateb i’r argyfwng COVID-19 a sicrhau y gall etholiadau mis Mai 2021 gael eu cyflawni yn effeithiol er budd pleidleiswyr, ymgyrchwyr, a gweinyddwyr. Cydnabyddwn fod y trafodaethau hyn yn gallu esgor ar ddeddfwriaeth bellach, a byddai eglurhad cynnar o ran eich bwriadau yn ddefnyddiol er mwyn i ni allu dwyn hyn i ystyriaeth yn ein cynllunio.
Rydym hefyd wedi cynnwys sylwadau ar ddarpariaeth sydd heb ei chynnwys yn y Gorchymyn drafft hwn ond y teimlwn y byddai’n ofyniad pwysig ar gyfer pob etholiad: argraffnodau digidol.
Byddwn yn hapus i drafod y pwyntiau a amlinellir yn yr ymateb hwn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, pe bai hynny’n ddefnyddiol.
Ffurflenni
Yn ein hadolygiad o’r Gorchymyn drafft, canfuom nifer o anghysondebau technegol yn y drafftio mewn perthynas â’r ffurflen cyfeiriad cartref rhwng ymgeiswyr rhestrau plaid rhanbarthol ac ymgeiswyr etholaethau.
Rydym wedi darparu rhagor o fanylion ynghylch yr anghysondebau technegol hyn i swyddogion.
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym, byddwn yn gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r ffurflenni enwebu a chydsyniad i enwebu. Bydd y diwygiadau hyn yn adlewyrchu’r newid i’r gyfraith mewn perthynas ag ymgeiswyr yn cael cadw eu cyfeiriad cartref yn ôl, a newid geiriad y ffurflen cydsynio i enwebu i adlewyrchu’r diwygiadau anghymhwyso.
Taliadau i Swyddogion Canlyniadau (Rhan 6)
Rydym yn cefnogi ac yn cydnabod yn llawn rôl bwysig Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru. Maent yn hanfodol er mwyn darparu etholiadau a refferenda llwyddiannus sy'n cynhyrchu canlyniadau y gall pleidleiswyr ac ymgyrchwyr fod â hyder ynddynt. Fel mater o egwyddor, credwn y dylai ROs fod yn annibynnol ar lywodraethau lleol a chenedlaethol wrth gyflawni eu dyletswyddau gweinyddol etholiadol statudol.
Mae annibyniaeth ROs yn angenrheidiol i sicrhau bod etholiadau yn cael eu gweinyddu yn effeithiol, ac y cânt eu cynnal er budd pleidleiswyr. Mae hefyd yn osgoi unrhyw ganfyddiad o ragfarn ac yn helpu i hyrwyddo hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses.
Mae perygl hefyd y gallai hyder yn nidueddrwydd ROs gael ei ddifrodi pe caent eu hunig dâl am ymgymryd â’r gwaith trwy eu contract cyflogaeth gyda’r awdurdod lleol a wnaeth eu penodi i’w rôl parhaol.
Dyma safbwyntiau a fynegwyd gennym ym mis Rhagfyr 2019 fel rhan o’n tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ac yn ein hymateb cynharach i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru ym mis Hydref 2017.
Rhaid i unrhyw newidiadau i'r fframwaith rheoli cyfredol ar gyfer cyflawni etholiadau yng Nghymru, gan gynnwys y rheiny i'r trefniadau cyfredol ar gyfer ariannu etholiadau a thalu ROs am eu gwasanaethau, beidio â gwanhau annibyniaeth ac atebolrwydd y rhai sy'n gyfrifol am gyflawni etholiadau, neu beri canfyddiad o’r fath ymysg pleidleiswyr ac ymgyrchwyr.
Gallai’r cynnig i gyfnewid ffi ROs am swm sy’n daladwy i bob tîm etholiadol sydd ynghlwm wrth gynnal etholiadau’r Senedd yn 2021 fwrw amheuaeth ar eu hannibyniaeth, pe câi hwn ei dalu gan yr awdurdod lleol, fel y cynigiwyd.
Credwn ei bod yn bwysig egluro nad yw ROs wedi eu cyflogi gan gynghorau pan fyddant yn cyflawni dyletswyddau etholiadol neu refferenda swyddogol, a’u bod yn swydd-ddeiliaid statudol annibynnol sy’n atebol o’r llysoedd am gyflawni eu dyletswyddau swyddogol. Megis yn ôl y system gyfredol, mae rhyw fath o daliad i ROs yn helpu i ddynodi statws gwahanol ac annibynnol y rôl.
Mae hefyd yn bwysig taw unigolion priodol â'r set sgiliau gywir sydd yn cyflawni rôl Swyddog Canlyniadau a Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol, a dylid eu talu yn unol â hynny. Mae’n bosib y byddai cael gwared â’r ffi personol yn rhwystro uwch swyddogion profiadol a galluog rhag ymgynnig i ymgymryd â rôl bwysig Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol o’u gwirfodd.
Codau Ymarfer (Rhan 7)
Rydym yn fodlon â’r ddarpariaeth hon. Rydym, fodd bynnag, wedi canfod yr hyn a allai fod yn wall drafftio bychan, lle gall fod, o bosib, gromfach gau ar goll o’r 13(1)(b) newydd ‘.... (yn ychwanegol at y diffiniad yn erthygl 63(3)) .....’.
Materion eraill nas cynhwysir yn y Gorchymyn drafft
Ymddangosiad dynodwyr pleidiau gwleidyddol ar bapurau enwebu a phapurau pleidleisio
Fel rhan o’r ymgynghoriad ar Orchymyn Drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020, cynigiwyd bod ymgeiswyr sy’n sefyll yn etholiadau’r Senedd yn cael defnyddio’r rhagddodiad “Welsh” (wrth ddefnyddio enw Saesneg), neu’r ôl-ddodiad “Cymru” (wrth ddefnyddio enw Cymraeg), os ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig. Yn ôl a ddeallwn, diben hyn yw sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu adnabod “canghennau datganoledig pleidiau gwleidyddol y DU gyfan” yn rhwydd er mwyn osgoi dryswch.
Teimlwn fod angen eglurhad pellach ar y cynnig, ac yn benodol bod angen dangos sut y bydd yn helpu i osgoi drysu pleidleiswyr.
Fel y gwyddoch, mae’r gofynion o ran cofrestru plaid wleidyddol wedi eu hamlinellu yn adran 28(4) a pharagraff 2 Atodlen 4 PPERA, ac mae’r gofynion o ran disgrifiadau wedi eu hamlinellu yn adran 28A(2) PPERA. Byddwn yn croesawu eglurhad o ran sut bydd cynnig Llywodraeth Cymru yn debygol o ymwneud â’r rheolau hyn.
Er enghraifft, oherwydd y gall pleidiau yng Nghymru gofrestru gydag enw Saesneg ac enw Cymraeg, neu dim ond gydag enw unigol, bydd angen i’r gorchymyn ymddygiad nodi o dan ba amgylchiadau y gellid atodi “Welsh” neu “Cymru” at enw plaid. Mae hyn yn arbennig o wir lle bo enw plaid heb ei fynegi nac yn Gymraeg nac yn Saesneg (megis plaid o’r enw “Britannica”) neu lle bo’r enw wedi ei fynegi’n ddwyieithog (“Llais Gwynedd - The Voice of Gwynedd”).
Gwnaed darpariaeth debyg cyn etholiadau Senedd yr Alban yn 2015, a gallai Llywodraeth Cymru ei chael yn ddefnyddiol ystyried y modd y gwnaed y newid hwnnw wrth iddi ddatblygu ei darpariaethau ei hun at etholiadau’r Senedd yn 2021.
Ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban, lle nad yw’r enw “Scottish” yn rhan o’r enw plaid cofrestredig, ceir cynnwys y gair “Scottish” o flaen enw’r blaid ar y ffurflen enwebu. Os yw’r enw plaid cofrestredig yn dechrau gyda’r gair “the”, ceir gosod y gair “Scottish” ar ôl y gair “the” ar y ffurflen enwebu. Fel hyn y mae ar gyfer ymgeiswyr etholaeth ac ymgeiswyr y rhestrau rhanbarthol fel ei gilydd. Efallai y byddai Llywodraeth Cymru am ystyried rhywbeth tebyg wrth ychwanegu’r gair “Welsh” neu “Cymru” at enw plaid.
Argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu anargraffedig
Mae ymgyrchu digidol yn agwedd gynyddol bwysig ar ymgyrchu etholiadol yn y DU, ond, fel y byddwch yn ymwybodol, nid yw’r rheolau ynghylch argraffnodau yn gymwysedig at ddeunydd ymgyrchu digidol ar hyn o bryd. Mae hyn yn effeithio ar allu pleidleiswyr i weld pwy sydd y tu ôl i’r deunydd ymgyrchu maent yn ei weld ar-lein, ac mae’n effeithio ar allu’r Comisiwn Etholiadol, yr heddlu a chyrff erlyn i orfodi’r gyfraith. O’r herwydd, dylai estyn y rheolau parthed argraffnodau i gwmpasu deunydd ymgyrchu ar-lein fod yn flaenoriaeth i bob un o lywodraethau’r DU.
Mae’n siomedig gennym nad yw’r Gorchymyn drafft yn cynnwys darpariaeth i estyn y rheolau parthed argraffnodau i ddeunydd ymgyrchu anargraffedig ac na fydd gofynion o’r fath ar waith ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021.
Pasiodd Senedd yr Alban Ddeddf Refferenda (Yr Alban) (RSA) ym mis Ionawr eleni. Mae’r Ddeddf hon yn galluogi Senedd yr Alban i gynnal refferenda ar faterion sydd wedi eu datganoli i’r Alban. Mae’r RSA yn cynnwys darpariaethau ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd refferendwm argraffedig a digidol fel ei gilydd. Bydd angen argraffnod ar ddeunydd sy’n hyrwyddo canlyniad penodol mewn refferendwm yn yr Alban, ond mae unigolion wedi eu heithrio o’r gofynion i gynnwys argraffnodau os ydynt yn mynegi eu safbwyntiau personol ac yn cyhoeddi’r deunydd ar eu rhan nhw eu hunain mewn modd anfasnachol. Fodd bynnag, ni all unigolion sydd â rolau cydymffurfio a phenderfynu uwch mewn sefydliadau ymgyrchu refferendwm elwa o’r eithriad hwn. Bydd angen iddynt hwythau gynnwys argraffnodau ar ddeunydd digidol.
Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cyflwyno rheolau parthed argraffnodau digidol ar gyfer etholiadau datganoledig yr Alban, ac mewn pryd ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban. Rydym yn trafod eu cynigion gyda nhw.
Ar 12 Awst, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion ar gyfer trefn argraffnodau digidol ar gyfer yr etholiadau y mae’n gyfrifol amdanynt. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn i ddarllenwyr ateb cyfres o gwestiynau ynghylch y cynigion. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 11:45pm ar 4 Tachwedd. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ymateb iddo.
Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y darpariaethau sydd wedi eu rhoi ar waith, neu sy’n cael eu hystyried gan ddeddfwrfeydd eraill y DU, ac ystyried cyflwyno darpariaethau tebyg ar gyfer etholiadau yng Nghymru yn y dyfodol.