Papur Gwyn Llywodraeth Cymru Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad

Gweithdrefnau pleidleisio drwy’r post

Yn y Papur Gwyn, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried adolygiad o'r gweithdrefnau pleidleisio drwy’r post a defnyddio etholiadau drwy'r post yn unig. Cynhwysir y wybodaeth ganlynol er mwyn rhoi cefndir a chyd-destun i helpu i gynorthwyo Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu ei chynigion.

Ers 2001, mewn ymateb i bryderon ynghylch gostyngiad yn y cyfraddau cyfranogiad, mae unrhyw un sydd ar y gofrestr etholiadol ym Mhrydain Fawr wedi gallu gwneud cais i bleidleisio drwy'r post yn lle pleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, heb roi rheswm nag ardystiad.

Mae pleidleisio drwy’r post yn ddull cynyddol boblogaidd i etholwyr gymryd rhan ledled Prydain Fawr. Er enghraifft, yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mis Mai 2016, rhoddwyd pleidleisiau drwy'r post i oddeutu 396,000 o etholwyr, sy'n cynrychioli 17.6% o gyfanswm yr etholwyr. Mae'r nifer sy'n pleidleisio ymhlith pleidleiswyr drwy'r post yn gyson uwch na phobl sy'n pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio: dychwelwyd 74% o bleidleisiau post yn yr etholiadau etholaethol a rhanbarthol o'i chymharu â chanran o 40% ymhlith a rhai a oedd yn pleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Yn gyffredinol, roedd pleidleisiau post yn cyfrif am 28% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd yn etholiadau mis Mai 2016 yng Nghymru.

Yn etholiad cyffredinol diweddaraf Senedd y DU ym mis Mai 2015, anfonwyd pecynnau pleidleisio drwy'r post at oddeutu 7.6 miliwn o etholwyr ledled Prydain Fawr, yn cynrychioli 16% o'r holl etholwyr cofrestredig. Dychwelodd 85.6% o bleidleiswyr post eu pleidleisiau, o'i chymharu â chanran o 63% ymhlith a rhai a oedd yn pleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio.

Ers 2007, mae wedi bod yn ofynnol i'r rhai sy'n gwneud cais i bleidleisio drwy'r post roi eu dyddiad geni a llofnod sampl ar eu cais. Hefyd, mae'n rhaid rhoi'r manylion adnabod personol hyn ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelir gyda'r papur pleidleisio wedi'i gwblhau drwy'r post. Yna, mae'r rhain yn cael eu cymharu â'r manylion adnabod a gofnodwyd, gan ddarparu gwiriad bod y papur pleidleisio wedi'i lenwi gan yr etholwr ei hun. Yn y pen draw, mae'r gwiriadau hyn yn golygu na fydd Swyddogion Canlyniadau yn cyfrif pleidleisiau post lle nad ydynt yn fodlon bod y datganiad pleidleisio drwy'r post wedi'i gwblhau gan yr etholwr y cafodd ei roi iddo.

Rydym wedi awgrymu cyfleoedd i atgyfnerthu pleidleisio drwy’r post ymhellach yn ein hymateb i Syr Eric Pickles ac fel rhan o'n hymateb i adolygiad Comisiwn y Gyfraith o gyfraith etholiadol.

Awgrymwyd gennym y dylai'r gweithgareddau canlynol (pwy bynnag sy'n eu cyflawni) fod wedi'u diffinio'n gliriach fel troseddau dan gyfraith etholiadol:

  • Dylai fod yn drosedd cymell rhywun i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy (neu ei atal rhag gwneud hynny) yn erbyn ei ewyllys.
  • Dylai fod yn drosedd i rywun newid ffurflen cais am bleidlais absennol etholwr wedi'i chwblhau. 
  • Dylai fod yn drosedd i unrhyw un gymryd pecyn pleidleisio drwy'r post etholwr heb ei gwblhau oddi wrtho.
  • Dylai fod yn drosedd i unrhyw un (ac eithrio at ddiben cyfreithlon e.e. i'r Post Brenhinol gyfeirio'r amlen at y Swyddog Canlyniadau cywir) neu newid cynnwys pecyn pleidleisio drwy'r post sydd wedi'i gwblhau, gan gynnwys y papur pleidleisio neu'r datganiad pleidleisio drwy'r post, cyn iddo gael ei dderbyn gan y Swyddog Canlyniadau.

Byddai'r troseddau hyn yr un mor berthnasol i ymgyrchwyr ac eraill (gan gynnwys aelodau o deulu, er enghraifft) a'r llysoedd fyddai'n penderfynu ar y math priodol o gosb a'r lefel, gan ystyried amgylchiadau penodol pob achos unigol. Er enghraifft, rydym yn disgwyl y byddai hyn yn golygu y byddai ymgyrchwyr, asiantiaid neu ymgeiswyr yn cael cosb fwy sylweddol gan gynnwys, os byddai'n briodol, eu gwahardd rhag sefyll mewn etholiad am gyfnod, gan adlewyrchu'r cyfrifoldeb sydd gan ymgyrchwyr.

Rydym hefyd yn cefnogi Comisiynau'r Gyfraith, ac yn gweithio gyda nhw, er mwyn egluro diffiniad y gyfraith ar ddylanwad gormodol, ac er mwyn sicrhau bod y diffiniad o droseddau sy'n diogelu cyfrinachedd y bleidlais yn cael ei estyn i bapurau pleidleisio drwy'r post.

Pleidleisio drwy’r post yn unig

Yn dilyn cynlluniau peilot pleidleisio drwy’r post yn unig mewn pedwar rhanbarth etholiadol yn Lloegr yn etholiadau llywodraeth leol a Senedd Ewrop 2004, nodwyd bod y ganran a bleidleisiodd wedi bod ychydig dros bum pwynt canran yn uwch yn y rhanbarthau hynny â phleidleisiau drwy’r post yn unig na'r rhanbarthau lle roedd modd pleidleisio drwy’r post ar gais, yn ogystal ag mewn gorsafoedd pleidleisio.

Serch hynny, canfu ein hymchwil gyda phleidleiswyr a phobl nad oeddent yn pleidleisio mewn ardaloedd lle cynhaliwyd cynlluniau peilot 2004 gefnogaeth gref y cyhoedd dros gadw'r gallu i bobl ddewis pleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio.

Felly, ein hargymhelliad yn 2004 oedd na ddylid defnyddio pleidleisio drwy’r post yn unig yn etholiadau statudol y DU yn y dyfodol a dyna yw ein barn o hyd.