Tystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Introduction

Rhagfyr 2019

Mae'r ymateb hwn yn nodi barn y Comisiwn Etholiadol ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Rydym wedi ymateb i'r darpariaethau yn y Bil hwn sy'n uniongyrchol berthnasol i'n gwaith, ac rydym hefyd wedi tynnu sylw at agweddau ar ddiwygio'r gyfraith etholiadol yr ydym wedi'u hargymell o'r blaen nad ydynt yn ymddangos yn y Bil.

Yn y gorffennol, rydym wedi nodi ein barn ar lawer o'r materion sydd bellach wedi'u cynnwys yn y Bil yn ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Etholiadol Llywodraeth Leol ym mis Hydref 2017.

Rydym yn parhau i argymell y dylai'r holl ddeddfwriaeth fod yn glir o leiaf chwe mis cyn ei bod yn ofynnol ei gweithredu neu gydymffurfio â hi. Mae hyn yn cynnwys y Bil hwn, yn ogystal ag unrhyw ddeddfwriaeth eilaidd sy'n ofynnol wedi hynny i nodi manylion sut y bydd y darpariaethau'n gweithio'n ymarferol. Felly bydd angen ystyried amserlen y ddeddfwriaeth hon yn ofalus o ystyried y darpariaethau hynny y disgwylir iddynt fod ar waith cyn yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ym mis Mai 2022.

Cyflwynir y Bil hwn yng nghyd-destun agenda diwygio etholiadol ehangach yng Nghymru gyda newidiadau i'w cael eu deddfu ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru/Seneddol. Disgwyliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chomisiwn y Cynulliad i sicrhau nad yw unrhyw ddiwygiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu gwneud ar wahân, ond yn ystyried y cyd-destun ehangach hwn.

Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn mynd i'r afael â nifer o bryderon yr ydym wedi tynnu sylw atynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynghylch cyflwyno etholiadau. Croesewir hyn. Serch hynny, mae cyfraith etholiadol yn parhau i fod yn dameidiog ac wedi dyddio. Rydym yn cefnogi'n gryf yr argymhellion a wnaed gan Gomisiynau Cyfraith y DU sy'n ceisio cydgrynhoi, symleiddio a moderneiddio'r nifer fawr o ffynonellau cyfraith etholiadol sy'n bodoli eisoes. Ymhellach i'r Bil hwn, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'u hargymhellion ac i gydgrynhoi a  symleiddio'r rheolau ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol a llywodraeth leol, lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Key points

Pwyntiau allweddol

Dylai'r holl ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd sydd ei hangen i newid yr etholfraint ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol a drefnwyd ar gyfer Mai 2022 fod yn glir chwe mis cyn y bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ddechrau gweithgareddau canfasio blynyddol yn haf 2021 i sicrhau fod pawb sy'n newydd gymhwyso i bleidleisio fod yn gallu cofrestru a chymryd rhan yn yr etholiadau.

Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu adnoddau digonol i Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac awdurdodau lleol i sicrhau y gellir gweithredu unrhyw newidiadau i'r broses etholiadol o ganlyniad i'r darpariaethau yn y Bil er budd gorau'r pleidleiswyr.

Mae unrhyw wyro yn yr etholfraint ar gyfer gwahanol setiau o etholiadau, sydd yn defnyddio cofrestr Etholiadol a’r gofrestr Llywodraeth Leol yn cyflwyno’r posibilrwydd o ddryswch i bleidleiswyr, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, yn ogystal â heriau gweinyddol.

Yn yr un modd, gallai dargyfeiriad posibl yn y system etholiadol ledled Cymru ar gyfer etholiadau llywodraeth leol achosi dryswch sylweddol ymhlith pleidleiswyr a bydd unrhyw waith ymwybyddiaeth gyhoeddus i fynd i'r afael â hyn yn heriol.

Dylid ymgynghori â Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru ar unrhyw gynigion sy'n ymwneud â materion etholiadol sydd wedi'u cynnwys yn y Bil a dylent chwarae rhan lawn wrth weithredu unrhyw newidiadau newydd yn effeithiol.