Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar weinyddu a diwygio etholiadol
Cyflwyniad
Rydym yn croesawu'r papur gwyn hwn. Mae'n cynnig nifer o newidiadau y mae'r Comisiwn ac eraill wedi'u hargymell yn flaenorol er budd pleidleiswyr, ymgyrchwyr, a gweinyddwyr etholiadau. Ymhlith y rhain mae:
- Cynigion i foderneiddio cofrestru etholiadol. Mae angen diwygio prosesau cofrestru etholiadol ledled y DU ar fyrder er mwyn gwella cywirdeb a chyflawnrwydd ein cofrestrau etholiadol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu ei chynigion ynghylch cofrestru awtomatig a newidiadau posibl eraill i gofrestru etholiadol.
- Cynigion i gydgrynhoi a symleiddio cyfraith etholiadol yng Nghymru. Rydym wedi galw yn y gorffennol am ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol cynyddol gymhleth sy'n sail i systemau etholiadol y DU, ac rydym yn barod i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi roi hyn ar waith ar gyfer etholiadau datganoledig.
- Cynlluniau i sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol statudol i Gymru. Rydym wedi galw yn y gorffennol i Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru gael sail statudol er mwyn chwarae rôl fwy wrth gynnal etholiadau yng Nghymru yn y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi roi'r newid pwysig hwn ar waith.
Mae'r papur gwyn hwn yn cydnabod y darpariaethau yn Neddf Etholiadau 2022 Llywodraeth y DU a fydd yn effeithio ar etholiadau a gadwyd yn ôl yng Nghymru, ac yn ystyried yr heriau y gallai rheolau gwahanol ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl ac etholiadau datganoledig eu cyflwyno yn y dyfodol. Rydym yn cefnogi'r cynigion a nodir yn y papur gwyn i sicrhau bod y rheolau'n gyson pan fo polisïau’n cael eu cysoni. O ran y meysydd hynny lle bydd y rheolau rhwng etholiadau a gadwyd yn ôl ac etholiadau datganoledig yn parhau i fod yn wahanol, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i helpu pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadau i ddeall yr hyn y bydd angen iddynt ei wneud yn wahanol ar gyfer mathau gwahanol o etholiadau.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus pa mor gadarn yw gwasanaethau etholiadol lleol wrth iddi ddatblygu ei rhaglen ddiwygio. Mae cynigion y papur gwyn yn sylweddol, a bydd angen amser ar bawb sy'n gysylltiedig â chynnal etholiadau neu gymryd rhan ynddynt i ddeall unrhyw newidiadau a pharatoi ar eu cyfer. Ar gyfer gweinyddwyr etholiadau, y mae llawer ohonynt eisoes wedi mynegi pryderon ynghylch eu gallu, mae hefyd yn debygol y bydd rhoi diwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar waith yn cyd-daro â gwaith parhaus i roi gyflawni newidiadau sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau.
Er mwyn rheoli'r pwysau hyn, bydd angen i Lywodraeth Cymru roi cyllid priodol i awdurdodau lleol a sicrhau bod prosesau cynllunio a chyfathrebu effeithiol ar waith yn y gymuned etholiadol. Gallai methu â gwneud hyn arwain at risgiau sylweddol i'r gwaith o gynnal etholiadau yn dda a hyder y cyhoedd mewn etholiadau. Fel gofyniad sylfaenol, rydym yn parhau i argymell y dylai pob deddfwriaeth fod yn glir o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y daw'n ofynnol ei rhoi ar waith neu y daw'n ofynnol i ymgyrchwyr, Swyddogion Canlyniadau neu Swyddogion Cofrestru Etholiadol gydymffurfio â hi.
Byddem yn croesawu rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru o ran ei hamserlenni bwriadedig ar gyfer cyflwyno'r diwygiadau hyn. Byddai hefyd yn ddefnyddiol cael eglurhad ynghylch pa ddiwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bod wedi'u rhoi ar waith mewn pryd ar gyfer yr etholiadau datganoledig nesaf sydd wedi'u trefnu yn 2026 a 2027.
Gweledigaeth hirdymor ar gyfer etholiadau datganoledig
1
1. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r chwe egwyddor ar gyfer diwygio etholiadol sef tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwella profiad dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb?
Gosododd y chwe egwyddor a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru sylfaen gadarnhaol ar gyfer diwygio yn y dyfodol ac, yn wir, mae sawl un yn cyd-fynd ag amcanion strategol y Comisiwn ei hun.
Fodd bynnag, gallai'r egwyddorion roi mwy o bwyslais ar sicrhau bod gan wasanaethau gweinyddu etholiadau y cadernid a'r gallu i gyflawni diwygiadau yn y dyfodol. Mae gwasanaethau etholiadol lleol eisoes yn gorfod ymateb i bwysau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynyddol heriol, ac mae cryn dasg o'u blaenau wrth iddynt fynd ati i roi Deddf Etholiadau 2022 ar waith. Bydd unrhyw ddiwygiadau a gyflwynir ar gyfer etholiadau datganoledig yn ychwanegu at y llwyth gwaith hwn, a bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod hyn yn cael ei gynllunio a'i reoli'n effeithiol a bod adnoddau digonol ar gael er mwyn osgoi peri risg i'r gwaith o gynnal etholiadau yn dda.
Part 2
2
2. A ddylai Llywodraeth Cymru neilltuo adnoddau i ystyried sut y gallai pleidleisio electronig o bell weithio ar gyfer etholiadau datganoledig?
Fel y noda'r papur gwyn, gwnaethom gyhoeddi ymchwil yn 2021 yn ystyried agweddau'r cyhoedd ledled y DU at opsiynau gwahanol ar gyfer moderneiddio pleidleisio yn y dyfodol. Ar y cyfan, pleidleisio ar-lein oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd o blith y dulliau pleidleisio amgen y gofynnwyd i bobl amdanynt, ac roedd pobl iau yn synnu nad oedd hyn eisoes yn opsiwn. Nododd pobl mai cyfleuster a hygyrchedd oedd y prif resymau yr hoffent i bleidleisio ar-lein gael ei gyflwyno, ond mynegwyd pryderon ynghylch diogelwch, gorfodaeth, ac allgáu digidol. Roedd llawer o ymatebwyr am i opsiynau o bell gael eu cyflwyno'n araf ac ochr yn ochr ag opsiynau presennol, gan roi dewis i bobl yn hytrach na disodli dulliau pleidleisio presennol.
Gwnaethom hefyd gynnal cyfweliadau ag aelodau o'r gymuned etholiadol ledled y DU, a helpodd i gynnig safbwynt ehangach o ran ysgogwyr opsiynau moderneiddio posibl a'u manteision.
Er yr ystyriwyd pleidleisio ar-lein fel opsiwn ar gyfer y dyfodol, awgryma ymatebion gan y cyhoedd a'r gymuned etholiadol fel rhan o'n hymchwil nad oes galw dybryd am hyn. Yn ogystal, mae barn gyffredin ymhlith y cymunedau etholiadol a thechnoleg rhyngwladol fod cryn rwystrau i roi hyn ar waith o hyd. Mae meysydd eraill hefyd, megis gwella prosesau cofrestru etholiadol neu gymryd camau i foderneiddio cyfraith etholiadol, lle dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ei gwaith diwygio.
Rydym yn dechrau gwaith pellach i ystyried opsiynau ar gyfer moderneiddio pleidleisio yn y DU. Mae'r ffocws cychwynnol ar opsiynau moderneiddio yn seiliedig ar bleidleisio ar bapur, megis pleidleisio ymlaen llaw neu bleidleisio symudol (gweler ein hymateb i Gwestiwn 39). Yn y tymor hwy, rydym yn bwriadu ystyried pleidleisio ar-lein, gan gynnwys rhwystrau posibl i roi hyn ar waith ac a fyddai'r manteision yn debygol o orbwyso'r risgiau posibl.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru am y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu a byddwn yn rhannu unrhyw ganfyddiadau wrth iddynt ddod i law.
Part 3
3
3. Pa effeithiau, os o gwbl, rydych chi’n meddwl y byddai cyflwyno cronfa ddata Cymru o ddata cofrestru etholiadol yn eu cael ar y broses etholiadol (fel cofrestru a gwasanaethau etholiadol)?
Yr achos dros ddiwygio cofrestru etholiadol
Mae angen diwygio'r system cofrestru etholiadol yn y DU ar fyrder. Nododd ein hadroddiad yn 2019 ar y cofrestrau etholiadol ym Mhrydain Fawr fod y cofrestrau llywodraeth leol yng Nghymru 81% yn gyflawn ac 89% yn gywir, tra bo'r cofrestrau seneddol 82% yn gyflawn ac 88% yn gywir. Mae hyn yn arwain at amcangyfrif nad oedd rhwng 410,000 a 560,000 o bobl yng Nghymru a oedd yn gymwys i fod ar y cofrestrau llywodraeth leol wedi'u cofrestru'n gywir.
Mae lefelau cyflawnrwydd ym Mhrydain Fawr wedi bod yn gostwng ers sawl degawd, gyda gostyngiad sylweddol rhwng 2001 a 2011. Mae'r gostyngiad hwn wedi cael ei gysylltu â newid yn y boblogaeth, symudedd cynyddol y boblogaeth oherwydd amgylchiadau tai newidiol, llai o ymdrechion i gynnwys y cyhoedd mewn democratiaeth etholiadol, a llai o ymatebion i ffurflenni.
Mae'r data o 2019 yn awgrymu bod cydberthynas barhaus rhwng demograffeg benodol a lefelau is neu uwch o gyflawnrwydd. Nodwyd mai oedran a symudedd oedd y newidynnau â'r effaith fwyaf, gan fod pobl ifanc a'r rhai sy'n fwy tebygol o symud tŷ yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru. Canfuwyd hefyd fod gwahaniaethau o ran lefelau cyflawnrwydd yn ôl ethnigrwydd, cenedligrwydd, anabledd, a grŵp economaidd-gymdeithasol.
Rydym wedi argymell yn y gorffennol y dylai llywodraethau'r DU ystyried diwygio prosesau cofrestru etholiadol, gan gynnwys eu gwneud yn fwy cysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Gallai hyn olygu rhoi mynediad i Swyddogion Cofrestru Etholiadol at ddata gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, ffurflenni cofrestru awtomatig neu awtomataidd, neu integreiddio cofrestru etholiadol i drafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Rydym felly'n cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chronfa ddata bosibl ar gyfer Cymru gyfan a chynigion ehangach ar gofrestru etholwyr cymwys yn awtomatig.
Cronfa ddata Cymru gyfan o ddata cofrestru etholiadol
Yn 2019, gwnaethom gyhoeddi cyfres o astudiaethau dichonoldeb yn ystyried ffyrdd o foderneiddio cofrestru etholiadol yn y DU. Fel rhan o'r gwaith hwn, gwnaethom ystyried a fyddai cofrestr ganolog, neu system o gofrestrau etholiadol cydgysylltiedig, yn cynnig manteision ychwanegol ar gyfer cofrestru etholiadol neu ddiwygio etholiadol yn ehangach.
Daethom i'r casgliad y gallai canoli ar raddfa uwch gynnig manteision gwirioneddol, yn enwedig o ran symleiddio'r seilwaith sydd ei angen i gefnogi diwygio. Yn ogystal, gallai'r cyfuniad o ddynodyddion unigryw a naill ai cofrestr ar gyfer Cymru gyfan neu ryw fath o gofrestrau cydgysylltiedig leihau'r risg y byddai rhai pobl yn pleidleisio fwy nag unwaith. Gallai diwygiadau o'r fath alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wybod faint o bobl sydd wedi'u cofrestru ddwywaith (yn gyfreithiol) a nodi a rheoli ceisiadau dyblyg i gofrestru. Gallent hefyd ddarparu'r sail bosibl i symud tuag at ffyrdd gwahanol o bleidleisio.
Fodd bynnag, gwnaethom nodi hefyd y byddai angen cydbwyso'r manteision hyn yn erbyn y risgiau posibl o ganoli pellach, gan gynnwys colli gwybodaeth leol am grwpiau nad ydynt yn cofrestru ar raddfa ddigonol a risgiau diogelwch ynghylch rheoli data personol. Byddai cyflwyno cofrestr ar gyfer Cymru gyfan hefyd yn galw am adnoddau helaeth a byddai'n cael effaith sylweddol ar staff gweinyddu etholiadau. Byddai angen digon o amser i gyflwyno unrhyw newidiadau ac mae'n bosibl y byddai angen gweithredu dwy system ar yr un pryd am gyfnod wrth i unrhyw system newydd gael ei sefydlu.
Yn olaf, byddai angen ystyried hefyd sut y gallai unrhyw gamau i ganoli cofrestrau llywodraeth leol weithio ochr yn ochr â chofrestrau seneddol presennol a gynhelir ac a gedwir yn lleol, a sut y byddai systemau meddalwedd rheoli etholiadol yn gallu darparu ar gyfer hyn.
Part 4
4
4. Beth yw eich barn am ddefnyddio darpariaethau Deddf Etholiadau 2022 deddfwriaeth bresennol o ran (a) argraffnodau digidol ar gyfer deunydd ymgyrchu digidol, a (b) enwebiadau ar-lein?
A) Argraffnodau digidol ar gyfer deunydd ymgyrchu digidol
Mae ymgyrchu digidol yn cyfrif am gyfran gynyddol fawr o wariant etholiadol a gofnodir gan ymgyrchwyr. Mae'n cynnig cyfleoedd sylweddol i ymgysylltu â phleidleiswyr, ond rhaid iddo hefyd sicrhau'r tryloywder a'r uniondeb y mae gan bobl hawl iddynt. Gwnaethom waith ymchwil yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022 a chanfuwyd y canlynol:
- Dywedodd tri o bob pum oedolyn yng Nghymru (61%) ei bod yn bwysig iddynt wybod pwy sydd wedi cynhyrchu'r wybodaeth wleidyddol y maent yn ei gweld ar-lein.
- Dywedodd bron hanner yr ymatebwyr (49%) y byddent yn ymddiried mwy mewn deunydd ymgyrchu digidol pe baent yn gwybod pwy oedd wedi'i gynhyrchu.
- Roedd 40% yn teimlo na allent ymddiried yn y wybodaeth wleidyddol sydd ar gael ar-lein, a dim ond 14% ddywedodd fod gwybodaeth ar-lein yn ddibynadwy.
Mae'r Comisiwn wedi argymell yn y gorffennol y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod trefn o ran argraffnodau digidol ar waith cyn y gyfres nesaf o etholiadau datganoledig, er mwyn helpu i wella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ymgyrchoedd digidol mewn etholiadau yn y dyfodol. Rydym yn cytuno y bydd sicrhau bod y rheolau ar gyfer etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl yn gyson yn lleihau'r risg o ddryswch i ymgyrchwyr ac asiantiaid.
Wrth ddatblygu'r Ddeddf Etholiadau, gwnaethom nodi y gellid gwella tryloywder ymhellach drwy estyn y cyfreithiau ar argraffnodau i gwmpasu'r holl ddeunydd digidol gan ymgyrchwyr trydydd parti nad ydynt wedi'u cofrestru, ni waeth a oeddent wedi talu i'w hyrwyddo ai peidio. Nodwyd hefyd y bydd y drefn o ran argraffnodau digidol a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau yn caniatáu i ymgyrchwyr, mewn achosion lle nad yw'n rhesymol ymarferol cynnwys argraffnod ar y deunydd ymgyrchu, ei gynnwys mewn lleoliad sy'n “uniongyrchol hygyrch” o'r deunydd yn lle hynny – er enghraifft, ar broffil cyfryngau cymdeithasol neu wefan. Nodwyd y gallai hyn leihau tryloywder i bleidleiswyr.
Byddwn yn monitro'r broses o roi'r gofyniad newydd ar waith er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr gael gafael ar wybodaeth ystyrlon am bwy sy'n talu am ddeunydd ymgyrchu digidol. Rydym hefyd wedi datblygu canllawiau statudol drafft ar argraffnodau digidol, y gwnaethom ymgynghori yn eu cylch rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022. Bydd y canllawiau yn cwmpasu etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl yng Nghymru.
B) Enwebiadau ar-lein
Byddem yn croesawu camau i foderneiddio'r broses enwebu ymhellach er mwyn sicrhau y defnyddir dull cyson ar gyfer enwebiadau papur ac enwebiadau digidol. Gallai hyn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno eu ffurflenni enwebu a lleihau beichiau gweinyddol ar Swyddogion Canlyniadau a'u staff.
Yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022, gallai ymgeiswyr gyflwyno eu ffurflenni enwebu yn electronig am y tro cyntaf. Aeth y broses hon rhagddi'n ddidrafferth ar y cyfan, ond nodwyd rhai materion mewn adborth gan weinyddwyr etholiadau, gan gynnwys:
- Roedd prosesu ffurflenni enwebu a gyflwynwyd yn electronig yn ychwanegu at lwythi gwaith ar adeg pan oedd amser eisoes yn brin. Cymerodd mân wallau, y gellid bod wedi ymdrin â nhw'n gyflym wyneb yn wyneb, sawl diwrnod i'w cywiro dros e-bost.
- Gwnaeth llawer o'r ymgeiswyr a gyflwynodd eu ffurflenni'n electronig wneud hynny'n agos iawn at y terfyn amser, gan olygu ei bod yn anodd ymdrin ag unrhyw faterion mewn pryd.
- Teimlwyd bod y ffurflenni yn ailadroddus ac nad oeddent yn hawdd i'w cwblhau.
Fel y noda'r papur gwyn, mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) wedi sefydlu is-grŵp i nodi gwelliannau i'r broses enwebu y gellid eu cyflwyno mewn etholiadau yn y dyfodol.
Mae'r is-grŵp wedi awgrymu newidiadau i ffurflenni enwebu presennol a allai wella'r broses ar gyfer cyflwyno ar bapur ac ar-lein, ac y gellir eu gwneud heb unrhyw ddiwygiadau deddfwriaethol. Mae hefyd wedi nodi gwelliannau lle gall fod angen newid deddfwriaethol, ystyried opsiynau ar gyfer creu ffurflenni enwebu ar-lein gan ddefnyddio llwyfannau digidol presennol, ac ystyried manteision posibl porth ar-lein i ymgeiswyr. Ysgrifennodd BCEC at Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i amlinellu ei ganfyddiadau.
Part 5
5
5. A ddylai prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned ddychwelyd i gyfnodau o bedair blynedd?
Nid ydym yn mynegi barn ar hyd cyfnodau cynrychiolwyr etholedig. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yr heriau posibl i bleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr pe bai etholiadau gwahanol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod – yn enwedig pe bai ganddynt reolau gwahanol.
Symlhau cofrestru etholiadol yng Nghymru
Part 6 and 7
6. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid ailddatgan yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig mewn un Ddeddf ddwyieithog i Gymru?
7. O’ch safbwynt chi, a ddylai’r etholfraint adlewyrchu’r newidiadau yn statws dinasyddion yr UE gan fod y DU wedi gadael yr UE erbyn hyn?
Byddem yn cefnogi'r cynnig i ailddatgan yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig mewn un Ddeddf gan y Senedd. Byddai cydgrynhoi'r gyfraith yn y ffordd hon yn gwneud yr etholfraint yn haws i'w deall ac yn lleihau cymhlethdod i weinyddwyr.
Rydym hefyd yn croesawu nod ehangach Llywodraeth Cymru i foderneiddio a chydgrynhoi cyfraith etholiadol. Mae'r fframwaith cyfreithiol sy'n sail i systemau etholiadol y DU yn mynd yn fwyfwy cymhleth, gyda chanlyniadau i bleidleiswyr, ymgyrchwyr, a gweinyddwyr etholiadau. Rydym yn parhau i argymell y dylai llywodraethau'r DU gymryd camau ar fyrder i symleiddio a gwella cyfraith etholiadol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu ei chynigion yn y maes hwn.
Mewn perthynas â diweddaru'r etholfraint a hawliau ymgeisyddiaeth i ddinasyddion yr UE, bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw newidiadau yn glir ac yn hawdd eu deall i bleidleiswyr. Gellid tybio y byddai unrhyw newidiadau hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn Neddf arfaethedig y Senedd yn ailddatgan yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig. Byddai gennym rôl o ran helpu'r gymuned etholiadol i ddeall unrhyw newidiadau a pharhau i gefnogi'r rheini sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio drwy ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Part 8
8
8. Sut gallwn ni helpu pobl i ddeall eu bod wedi cael eu cofrestru’n awtomatig a theimlo’n hyderus bod eu data’n cael ei ddiogelu, yn enwedig ar gyfer pobl a allai fod yn agored i niwed neu sy’n dymuno cofrestru’n ddienw?
Sylwadau cyffredinol ar gofrestru awtomatig
Fel y nodwyd yn ein hymateb i Gwestiwn 3, mae angen diwygio prosesau cofrestru etholiadol yn y DU ar fyrder. Rydym wedi galw am ddiwygiadau yn y gorffennol er mwyn gwneud y system bresennol, sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar y disgwyliad y bydd pobl yn cymryd camau i gofrestru eu hunain, yn fwy cydgysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus a data cyhoeddus presennol.
Gwnaethom gyhoeddi astudiaethau dichonoldeb yn 2019 a ddaeth i'r casgliad fod dulliau awtomatig neu fwy awtomataidd o gofrestru yn bosibl o fewn y system bresennol. Fel y noda'r papur gwyn, gallai cofrestru awtomatig hefyd helpu i wella lefelau o gyflawnrwydd ymhlith grwpiau nad ydynt yn cofrestru ar raddfa ddigonol.
Er y gallai newidiadau o'r fath gael effaith gadarnhaol sylweddol, byddai hyn hefyd yn cynrychioli newid mawr â goblygiadau ymarferol i weinyddwyr etholiadau. Wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer cofrestru awtomatig, bydd angen ystyried amrywiaeth o faterion gan gynnwys:
- Yr heriau sydd ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn i'r gofrestr llywodraeth leol heb newidiadau cyfatebol i'r gofrestr seneddol.
- A fyddai'r set ddata ddewisol/setiau data dewisol yn darparu gwybodaeth ddigonol i gofrestru unigolyn yn awtomatig neu a fyddai angen cyfuniad o setiau data. Byddai angen i unrhyw ddata a ddefnyddiwyd fel sail i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig fod yn ddibynadwy, yn gyfredol, ac yn ddigon cyflawn i ddilysu cymhwysedd unigolyn i gofrestru.
- Gwybod pan fydd rhywun eisoes ar y gofrestr.
- Y seilwaith technegol sydd ei angen i gefnogi'r diwygiadau.
Cyfathrebu â phleidleiswyr ac ystyriaethau diogelu data
Byddai angen i unrhyw hysbysiad cofrestru fod yn glir wrth esbonio mai dim ond at y gofrestr llywodraeth leol y mae'r unigolyn yn cael ei ychwanegu ac y gall fod yn gymwys i wneud cais i gofrestru ar gyfer y gofrestr seneddol hefyd. Dylai hefyd nodi'n glir beth y dylai'r unigolyn ei wneud os yw ei fanylion yn anghywir, a phryd y caiff ei ychwanegu at y gofrestr.
Ar gyfer gwladolion tramor cymwys, byddai angen esbonio eu cymhwysedd yn ofalus ac, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw am Gymraeg neu Saesneg.
Rydym yn cytuno y byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus sut y gall amddiffyn pobl agored i niwed hefyd. Byddai angen i unrhyw hysbysiad cofrestru gyfleu'n glir yr opsiynau sydd ar gael i'r rhai a allai fod eisiau cofrestru'n ddienw a rhoi sicrwydd na fyddant yn cael eu hychwanegu at y gofrestr yn groes i'w dymuniadau.
Hefyd, byddai angen cymryd camau i wirio pobl sydd wedi cael eu cofrestru'n awtomatig yn erbyn unigolion sydd eisoes wedi'u cofrestru'n ddienw er mwyn eu hatal rhag cael eu hychwanegu at y gofrestr fel etholwr arferol a chyhoeddi eu manylion. Yn ogystal, efallai y bydd rhai pobl yn ystyried eu bod yn wynebu risg ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf neu nad oes ganddynt y dystiolaeth neu'r gefnogaeth i wneud cais dienw.
Part 9
9
9. I ba raddau rydych chi’n cytuno â dileu'r gofrestr agored mewn perthynas ag etholiadau datganoledig?
Rydym yn cytuno â'r cynnig hwn ac rydym wedi argymell yn y gorffennol na ddylai'r gofrestr agored gael ei llunio mwyach na chael i'w gwerthu. Yn ein barn ni, dim ond at ddibenion etholiadol ac amrywiaeth gyfyngedig o ddibenion diogelwch ac atal troseddau statudol y dylid defnyddio'r gofrestr etholiadol.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus sut y gall sicrhau bod pleidleiswyr yn deall y bydd y gofrestr agored yn dal i fodoli ar gyfer y gofrestr seneddol ac y gall fod angen iddynt gymryd camau er mwyn optio allan o hyn o hyd.
Part 10
10
10. A ddylai Llywodraeth Cymru roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gael cytundebau rhannu data o fewn yr awdurdod ei hun a, lle bo’n berthnasol, gydag awdurdodau neu sefydliadau eraill?
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer rhannu data yn well rhwng Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i nodi pobl sydd wedi symud o un ardal awdurdod lleol i un arall yn ddiweddar.
Gallai Llywodraeth Cymru hefyd wella cyfleoedd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gafael ar ddata gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill – yn enwedig pan fo'r data'n cael eu cadw gan ddarparwyr cenedlaethol yn hytrach na rhai lleol. Byddai defnyddio data cyhoeddus yn well yn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi darpar etholwyr a gwella cywirdeb a chyflawnrwydd y gofrestr. Gallai sicrhau bod y cofrestrau yn gywir ac yn gyflawn drwy gydol y flwyddyn hefyd liniaru'r pwysau ar dimau etholiadau yn ystod y cyfnod yn union cyn etholiadau drwy leihau'r ddibyniaeth ar weithgarwch cofrestru cyn etholiadau.
Fel rhan o astudiaethau dichonoldeb 2019 (gweler ein hymateb i Gwestiwn 3), nodwyd nifer o ffynonellau data cyhoeddus a allai helpu i gynnal cofrestrau etholiadol mwy cywir a chyflawn yn y DU. Roedd y rhain yn cynnwys Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, Swyddfa Basbort EF, Cyllid a Thollau EF, a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Roedd opsiynau ar gyfer defnyddio'r data hyn yn cynnwys caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gafael ar ddata trafodion diweddar er mwyn nodi darpar etholwyr, gan alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ddefnyddio'r data hyn i dargedu grwpiau penodol o etholwyr nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol, a defnyddio'r data hyn i hwyluso dulliau cofrestru etholiadol mwy awtomatig neu uniongyrchol.
Part 11
11
11. A oes unrhyw agweddau penodol ar gofrestru awtomatig y dylid eu treialu cyn symud tuag at gyflwyno system ledled Cymru?
Byddai'n werthfawr gwneud rhywfaint o waith pellach i nodi'r ffynonellau data sydd fwyaf tebygol o fod yn ddefnyddiol cyn ystyried datblygu unrhyw gynlluniau peilot. Mae'n bosibl hefyd y bydd modd profi dryswch ymhlith pleidleiswyr, a nodi mesurau i liniaru hyn, drwy gynnal rhai profion defnyddwyr ar y deunyddiau y byddai pobl yn eu cael cyn eu defnyddio mewn cynllun peilot byw. Bydd yn bwysig sicrhau bod unrhyw gynlluniau peilot wedi'u datblygu'n dda a bod ganddynt amcanion clir er mwyn sicrhau y gellir eu gwerthuso mewn modd ystyrlon.
Gallai unrhyw gynlluniau peilot a roddir ar waith gasglu gwybodaeth am y canlynol:
- Effeithiolrwydd cofrestru awtomatig wrth dargedu grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol (pobl ifanc, gwladolion tramor cymwys, y rhai sydd wedi symud yn ddiweddar a'r rhai sy'n rhentu'n breifat).
- Faint o bobl sy'n cadw eu cofrestriad awtomatig ar gyfer y gofrestr leol ond sy'n dewis peidio â chofrestru ar gyfer y gofrestr seneddol.
- Ansawdd ac argaeledd ffynonellau data gwahanol, a'r math o seilwaith data sydd ei angen, er mwyn cefnogi cofrestru awtomatig.
- Faint o bobl sy'n ymateb i hysbysiad cofrestru er mwyn diwygio manylion anghywir, gwneud cais i gofrestru'n ddienw, neu i ddewis peidio â chofrestru o gwbl.
- Adborth cyffredinol gan weinyddwyr etholiadau a phleidleiswyr ar eu profiad gyda'r cynlluniau peilot – yn enwedig dealltwriaeth pleidleiswyr o'r broses.
Efallai y gallwn helpu i ddatblygu'r cynlluniau peilot, gan ddefnyddio'r dadansoddiad o'r astudiaethau dichonoldeb y cyfeiriwyd atynt yn yr ymateb i Gwestiwn 8, a byddem yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at gynigion maes o law. Yn yr un modd â'r cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw mae'n bosibl hefyd y gallwn chwarae rôl wrth werthuso cynlluniau peilot yn y dyfodol.
Part 12
12
12. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai myfyrwyr gael dewis cofrestru i bleidleisio wrth gofrestru yn y brifysgol?
12a. A ddylid rhannu unrhyw ddata a ddarperir wedyn, drwy gytundeb rhannu data, gyda Thîm Gwasanaethau Etholiadol yr Awdurdod Lleol perthnasol?
Rydym yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o ganiatáu i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio pan fyddant yn cofrestru yn y brifysgol, a dylai cytundebau rhannu data rhwng awdurdodau lleol a phrifysgolion helpu i hwyluso hyn.
O dan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017, mae'n ofynnol i ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr sydd wedi'u cofrestru â'r Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) gydymffurfio â chanllawiau OfS i hwyluso'r broses cofrestru etholiadol ar gyfer myfyrwyr. Byddem yn croesawu camau i gyflwyno darpariaethau cyfatebol yng Nghymru ac rydym wedi argymell yn y gorffennol y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i wneud hyn. Mae Ceredigion a Chaerdydd wedi sefydlu cytundebau rhannu data â phrifysgolion yn llwyddiannus a allai gynnig gwybodaeth ddefnyddiol.
Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried sut y gall wella cyfraddau cofrestru a chyfranogiad pob person ifanc, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn y brifysgol. Dylai ystyried a oes sefydliadau eraill a all helpu i gofrestru pobl ifanc, megis colegau addysg bellach neu gyflogwyr prentisiaid mawr.
Cryfhau gweinyddiaeth etholiadau
13
13. Ydych chi’n cytuno y dylid sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol statudol i Gymru?
Rydym yn croesawu'r cynigion i sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol statudol i Gymru. Rydym wedi argymell yn y gorffennol y dylai Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) gael sail statudol er mwyn chwarae rôl fwy wrth gynnal etholiadau a chyflawni camau diwygio etholiadol.
Mae BCEC wedi chwarae rôl bwysig ers 2017 o ran dwyn rhanddeiliaid ynghyd er mwyn cydlynu gweithgarwch etholiadol. Mae wedi cynnig llwyfan i drafod a helpu i ddatblygu cysondeb wrth gynnal etholiadau. Mae wedi llwyddo i sefydlu a gweithredu cynlluniau megis y rhaglen fentora ar gyfer Swyddogion Canlyniadau – y gyntaf o'i bath yn y DU – ac mae wedi cynhyrchu adnoddau megis yr Eirfa Ddwyieithog o Dermau Etholiadol. Byddai Bwrdd Rheoli Etholiadol statudol yn gallu adeiladu ar y gwaith hwn a chwarae rôl o ran cefnogi'r broses o roi rhaglen diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru ar waith.
Byddai angen cyllid sicr ar Fwrdd Rheoli Etholiadol er mwyn ei alluogi i weithredu yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac ymgymryd â gwaith cynllunio hirdymor i ddatblygu ei raglen waith. Byddai hyn yn galluogi'r Bwrdd i sefydlu ysgrifenyddiaeth, creu gwefan, a rhoi cymorth pellach i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol drwy adnoddau a hyfforddiant ychwanegol.
Mae'r papur gwyn yn awgrymu y byddai'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn atebol yn ffurfiol i'r Senedd. Byddem yn croesawu manylion pellach ynghylch sut y byddai'r trefniadau atebolrwydd hyn yn gweithio yn ymarferol, gan gynnwys sut y gallant sicrhau annibyniaeth y Bwrdd Rheoli Etholiadol.
Part 14
14
14. Os ydych chi wedi rhoi Cytuno’n Gryf neu Cytuno i Gwestiwn 13, beth ddylai swyddogaethau’r Bwrdd fod?
Rydym yn cytuno y dylai'r Bwrdd Rheoli Etholiadol ymgymryd â'r swyddogaethau a gaiff eu cyflawni gan BCEC ar hyn o bryd, gan adeiladu ar y sylfeini cryf a osodwyd ers 2017. O ran swyddogaethau ychwanegol, efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ystyried yr adolygiad o 2019 a ystyriodd waith BCEC a sut y gallai hyn ddatblygu yn y dyfodol. Roedd meysydd gwaith posibl a nodwyd yn cynnwys cyflawni rhai agweddau ar weithgarwch etholiadol mewn modd cyson a chanolog, megis argraffu deunydd perthnasol ar gyfer Cymru gyfan neu gyflwyno cardiau pleidleisio neu becynnau pleidleisio drwy'r post.
Mae'r papur gwyn yn awgrymu y gallai swyddogaethau'r Bwrdd Rheoli Etholiadol gynnwys darparu gwybodaeth i bleidleiswyr, gan gynnwys gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio, bwrw pleidlais, a gwybodaeth berthnasol am ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad. Mae gennym rôl statudol bwysig o ran darparu gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio a phleidleisio, a dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn ofalus sut y gall osgoi'r risg o ddyblygu'r rôl hon drwy'r Bwrdd Rheoli Etholiadol.
Rydym yn cytuno y gallai'r Bwrdd Rheoli Etholiadol chwarae rôl o ran darparu gwybodaeth berthnasol am ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, gan na fyddai hyn yn gorgyffwrdd â swyddogaethau presennol y Comisiwn. Rydym wedi rhoi rhagor o wybodaeth yn yr ymateb i Gwestiwn 45.
Argymhellwn hefyd y dylai'r Bwrdd Rheoli Etholiadol ddatblygu strategaeth gyfathrebu er mwyn sicrhau y cysylltir yn effeithiol â Swyddogion Canlyniadau ledled Cymru ac y cânt eu cynnwys yn fwy. Byddai datblygu gwefan yn werthfawr, fel rhan o hyn, er mwyn lledaenu gwybodaeth ac adnoddau yn effeithiol.
Part 15 and 16
15 and 16
15. A ddylai’r Bwrdd Rheoli Etholiadol gael pwerau i roi cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol?
16. A ddylai’r Bwrdd Rheoli Etholiadol gael y pŵer i roi cyngor i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch cyflawni eu swyddogaethau?
Gallai cyflwyno'r pwerau hyn helpu i sicrhau cysondeb wrth gynnal digwyddiadau etholiadol Cymru gyfan. Fel y noda'r papur gwyn, byddai'r cynigion hyn yn sicrhau bod Cymru yn gyson â'r Alban lle gall Cynullydd y Bwrdd Rheoli Etholiadol roi cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol mewn perthynas â'u dyletswyddau ynghylch etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Senedd yr Alban. Mae hyn wedi helpu i sicrhau cysondeb ledled yr Alban, er enghraifft, o ran dyddiadau dosbarthu pleidleisiau post a chardiau pleidleisio.
Mae'n naturiol y byddai angen i Fwrdd Rheoli Etholiadol i Gymru gyhoeddi cyngor a chanllawiau ymarferol o bryd i'w gilydd wrth geisio sicrhau dull cyson mewn etholiadau Cymru gyfan. Fodd bynnag, bydd angen ystyried yn ofalus y risg o ddyblygu cyfrifoldebau statudol y Comisiwn Etholiadol yn y maes hwn. Dylai unrhyw gyngor a gyhoeddir ategu ac adeiladu ar y canllawiau presennol i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gyflwynwyd gan y Comisiwn.
Part 17
17
17. Beth yw eich barn am bwy ddylai fod yn aelodau o’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a sut y dylid eu penodi?
Byddem yn rhagweld y byddai aelodaeth y Bwrdd Rheoli Etholiadol yn eithaf tebyg i aelodaeth BCEC. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys Uwch-swyddogion Canlyniadau o bob rhan o Gymru, cadeirydd y Grŵp Cynghori’r Gymraeg, a sawl cynrychiolydd o Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y meini prawf penodi er mwyn sicrhau y gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol a chynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru. Yn benodol, bydd angen profiad helaeth ar y cadeirydd o weinyddu etholiadau ar lefel uwch er mwyn sicrhau y gall arwain y Bwrdd Rheoli Etholiadol yn effeithiol.
Gwahoddir nifer o randdeiliaid i fod yn rhan o BCEC mewn rôl gynghori, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru, Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU, a Chomisiwn y Senedd. Mae hyn wedi gweithio'n dda hyd yma a byddem yn argymell bod y sefydliadau hyn yn parhau i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli Etholiadol mewn rôl gynghori.
Part 18 and 19
18 and 19
18. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i roi mwy o sicrwydd etholiadol drwy ymestyn yr amser statudol pan na fydd modd cyhoeddi unrhyw adroddiadau adolygiad etholiadol terfynol ac na fydd modd gwneud unrhyw orchmynion adolygiad etholiadol?
19a. Ar ba bwynt yn y cylch etholiadol y dylid atal y Comisiwn rhag cyhoeddi adroddiadau adolygiadau etholiadol?
19b. Ydych chi’n cytuno y dylai’r Comisiwn, cyn belled ag y bo’n bosibl, orfod trefnu adolygiadau etholiadol o fewn dwy flynedd i gwblhau adolygiad cymunedol?
Byddem yn cefnogi estyniad i'r cyfnod pan na ellir cyhoeddi unrhyw adroddiadau adolygu etholiadol terfynol a phan na all Gweinidogion Cymru wneud unrhyw orchmynion adolygu etholiadol. Byddai hyn yn rhoi gwell sicrwydd i weinyddwyr etholiadau ac ymgyrchwyr cyn etholiadau llywodraeth leol sydd wedi'u trefnu.
Mater i eraill benderfynu arno yw union hyd y cyfnod cyn etholiad cyffredin pan na chaiff Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gyhoeddi adroddiadau adolygu etholiadol, ond byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried barn Swyddog Canlyniadau cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Nid yw'r cwestiynau sy'n weddill sy'n ymwneud â'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn berthnasol i'n cylch gwaith ac nid ydym wedi ymateb iddynt.
Part 37 and 38
37 and 38
37. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig i Gymru gynnal un fframwaith rheoleiddio ar gyfer cyllid gwleidyddol ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl ac etholiadau datganoledig yng Nghymru?
38. Rhowch unrhyw sylwadau eraill ar y mesurau penodol sy’n cael eu hystyried ynghylch cyllid gwleidyddol.
Rydym yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru fod risg y gallai gwahaniaethau o ran rheolau cyllid gwleidyddol rhwng etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl beri dryswch i ymgyrchwyr a chymhlethdod i'r gymuned etholiadol ehangach.
Byddai'n rhaid i ymgyrchwyr gynllunio a rhoi cyfrif am eu gwariant mewn ffordd wahanol ar gyfer etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl, hyd yn oed pe baent wedi ymgymryd â'r un math o weithgarwch yn y ddau. Gallai gwahaniaethau yn y gyfraith hefyd effeithio ar sut y gallai pleidleiswyr a'r cyfryngau gael gafael ar wybodaeth am wariant gan ymgyrchwyr yn ystod etholiadau, oherwydd byddai'n golygu y gellid cofnodi eitem debyg o wariant mewn ffordd ychydig yn wahanol mewn ffurflen gwariant ymgeisydd yn dibynnu ar y rheolau ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Pa ddull bynnag a roddir ar waith, byddwn yn parhau i gynnig arweiniad er mwyn helpu'r gymuned a reoleiddir i ddeall y gyfraith a chydymffurfio â hi.
Part 39
39
39. Pa fathau o ddatblygiadau mewn gweinyddu etholiadol fyddech chi'n hoffi eu gweld yn cael eu treialu yn y dyfodol?
Fel yr amlinellwyd yn ein hymateb i Gwestiwn 2, gwnaethom gyhoeddi ymchwil yn 2021 yn ystyried agweddau'r cyhoedd at opsiynau gwahanol ar gyfer moderneiddio pleidleisio. Canfu'r ymchwil fod pobl yn fodlon ar yr opsiynau presennol sydd ganddynt i bleidleisio ar y cyfan a'u bod yn hawdd eu deall. Wrth fyfyrio ar opsiynau moderneiddio posibl, datblygiadau a fyddai'n gwneud pleidleisio yn gyflym, yn gyfleus, ac yn gorfforol hygyrch oedd fwyaf deniadol i bobl.
Cynhaliwyd cyfweliadau ag aelodau o'r gymuned etholiadol hefyd. Er i amrywiaeth o safbwyntiau gael eu mynegi ynghylch opsiynau ar gyfer moderneiddio'r broses bleidleisio, gwelsom fod dealltwriaeth gyffredin a chlir o'r hyn sy'n ysgogi diwygio: yr angen i gynyddu cyfranogiad a'r angen i wella cadernid y system. Un o'r syniadau a grybwyllwyd fwyaf aml oedd rhoi mwy o ddewis a hyblygrwydd i bleidleiswyr drwy gynnig opsiynau eraill i fwrw pleidlais – megis dewis o leoliad a/neu amser, pleidleisio ar-lein, ac opsiynau gwahanol i etholwyr tramor.
Yn dilyn yr ymchwil hon, rydym wedi dechrau gwaith i ystyried opsiynau ar gyfer moderneiddio pleidleisio yn fanylach. Mae hyn yn canolbwyntio ar opsiynau pleidleisio hyblyg yn y lle cyntaf, gan gynnwys pleidleisio ymlaen llaw, pleidleisio symudol, gorsafoedd pleidleisio ‘pleidleisio unrhyw le’ a hybiau pleidleisio. Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â Llywodraeth Cymru, ac efallai y byddant yn ddefnyddiol i lywio'r gwaith o ddatblygu cynlluniau peilot yn y dyfodol.
Part 40 and 41
40 and 41
40. Sut gallem helpu i gael cymysgedd mwy amrywiol o awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn cynlluniau peilot yn y dyfodol?
41. Beth yw eich barn am bŵer cyfarwyddo i Weinidogion Cymru a fyddai’n eu galluogi i orfodi awdurdod lleol i dreialu datblygiadau etholiadol arloesol?
Dylai unrhyw gynlluniau peilot y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith gael eu dylunio'n ofalus, mewn ymgynghoriad â'r Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau y gallant gynnig tystiolaeth gadarn i gefnogi penderfyniadau polisi yn y dyfodol.
Nid oes barn gennym ynghylch a ddylai Gweinidogion Cymru gael y pŵer i gyfarwyddo awdurdod lleol i gymryd rhan mewn cynllun peilot etholiadol. Rydym yn cytuno y byddai'n fuddiol i gynlluniau peilot yn y dyfodol gynnwys cymysgedd mwy amrywiol o awdurdodau lleol, yn enwedig rhai â chymunedau mwy gwledig, ond byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried hefyd yr effaith andwyol y gallai cyfarwyddo awdurdod lleol i gynnal cynllun peilot ei chael ar gapasiti timau gwasanaethau etholiadol yr awdurdod hwnnw.
Mae'n bosibl y bydd cynllunio a chyfathrebu'n gynnar ag awdurdodau lleol ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â rhoi sicrwydd y byddant yn cael adnoddau digonol i gynnal y cynlluniau peilot, yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n ymrwymo.
Part 42, 43 and 44
42, 43 and 44
42. A ddylai Swyddogion Canlyniadau orfod dilyn gofynion penodol o ran y Gymraeg pan gynhelir etholiadau?
43. A oes unrhyw fathau o wasanaethau yr hoffech chi weld Swyddogion Canlyniadau yn eu darparu yn y Gymraeg?
44. Ydych chi erioed wedi cael unrhyw broblem sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn ystod etholiadau?
Rydym yn cefnogi'r ymrwymiad i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg mewn perthynas ag etholiadau a gynhelir yng Nghymru.
Rydym yn cytuno bod Swyddogion Canlyniadau yn cydymffurfio ag ysbryd Safonau'r Gymraeg ar y cyfan, er nad oes dyletswydd gyfreithiol arnynt i wneud hynny. Fel y noda'r papur gwyn, mae canllawiau'r Comisiwn Etholiadol hefyd yn esbonio i Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru fod yn rhaid iddynt ystyried Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Mae ein safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, a gyhoeddwyd ac a gyflwynwyd gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2022, hefyd yn ymdrin â phwysigrwydd darparu gwybodaeth yn gyfartal yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Fodd bynnag, mae cwestiynau dilys ynghylch a allai diffyg dyletswyddau cyfreithiol mwy penodol ar Swyddogion Canlyniadau arwain at brofiad gwahanol o gofrestru i bleidleisio a phleidleisio i siaradwyr Cymraeg mewn rhai ardaloedd o gymharu â rhai eraill. Mae materion a godwyd yn flaenorol yn cynnwys safon y cyfieithu mewn dogfennau etholiadol ac anawsterau wrth geisio recriwtio siaradwyr Cymraeg mewn gorsafoedd pleidleisio.
Yn dilyn etholiad y Senedd yn 2016, gwnaethom sefydlu Grŵp Cynghori’r Gymraeg, sydd â'r nod o sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal mewn materion sy'n ymwneud â deddfwriaeth a chanllawiau etholiadol. Gallai gynnig fforwm defnyddiol i Lywodraeth Cymru drafod syniadau a chynigion mewn perthynas â'r Gymraeg a'i defnydd mewn etholiadau.
Adeiladu iechyd democrataidd
45 and 46
45. A ddylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu ar gyfer llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein? Pa wybodaeth y dylid ei darparu ar y llwyfan a phwy ddylai ei gynnal?
46. Pwy fyddai angen darparu gwybodaeth i lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein, a sut byddai modd eu cefnogi i wneud hynny?
Fel y noda'r papur gwyn, mae dyletswydd statudol arnom i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o systemau etholiadol a chwarae rôl bwysig o ran darparu gwybodaeth am bleidleisio. Byddai angen i unrhyw lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein yng Nghymru gael ei ddatblygu mewn ffordd sy'n ategu'r swyddogaethau hyn yn hytrach na'u dyblygu.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio'n benodol at ddatganiadau ymgeiswyr ar-lein fel elfen bosibl o unrhyw lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein. Rydym yn cytuno y gallai cyhoeddi datganiadau ymgeiswyr ar-lein helpu i wneud ymgeiswyr yn fwy gweladwy i rai pleidleiswyr.
Byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus ymarferoldeb cyflawni hyn, o ystyried nifer sylweddol y datganiadau ymgeiswyr y byddai'n rhaid eu cynnwys ar unrhyw lwyfan cyn etholiad. Gallai casglu a phrosesu cannoedd o ddatganiadau ymgeiswyr mewn cyfnod cymharol fyr, yn ogystal â gwirio geirwiredd a chynnwys (e.e. iaith dramgwyddus) unrhyw ddatganiadau, beri her sylweddol. Yn ogystal, byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau tegwch peidio â darparu datganiadau pob ymgeisydd ar-lein mewn etholiad penodol. Byddai angen rhoi cymorth ac adnoddau digonol ar waith ar gyfer gwesteiwr unrhyw lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr er mwyn mynd i'r afael â hyn.
Hefyd, bydd angen ystyried hygyrchedd unrhyw lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein a sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn ddwyieithog ac mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, gan gynnwys fersiynau papur os bydd angen.
O ran pwy all letya llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein, byddai'r Bwrdd Rheoli Etholiadol newydd i Gymru yn opsiwn amlwg gan y byddai mynediad gan y Bwrdd at gyllid sicr a byddai'n annibynnol ar y llywodraeth.
Part 47
47
47. Beth ddylid ei wneud i annog pleidiau gwleidyddol i gynhyrchu deunyddiau hygyrch?
Yn ein hadroddiad ‘Elections for Everyone’, a gyhoeddwyd yn 2017, gwnaethom amrywiaeth o argymhellion ar sut y gallai llywodraethau'r DU, gweinyddwyr etholiadau, pleidiau, ac ymgeiswyr wella profiad pobl anabl sy'n cymryd rhan mewn etholiadau. Gwnaethom sawl argymhelliad penodol ar gyfer sut y dylai pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr gyfathrebu â phleidleiswyr, gan gynnwys:
- Sicrhau bod y wybodaeth y maent yn ei llunio yn hawdd ei deall.
- Cyhoeddi maniffestos hawdd eu deall ar yr un pryd fel bod pobl anabl yn cael cymaint o amser â phawb arall i ddeall beth mae'r pleidiau'n sefyll drosto ac i wneud penderfyniad gwybodus.
- Anfon gwybodaeth mewn da bryd fel bod pobl yn cael amser i'w darllen.
Rydym yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i weithio gyda phleidiau, y Comisiwn a sefydliadau perthnasol eraill i lunio canllawiau arferion da a safonau hygyrchedd ar gyfer deunyddiau etholiad hygyrch, ac edrychwn ymlaen at gefnogi'r gwaith hwn.
Part 48
48
48. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r swyddog canlyniadau mewn etholiad datganoledig fod â dyletswydd i ddarparu unrhyw offer sy’n rhesymol fel ei bod yn haws i bobl anabl bleidleisio?
Dylai pawb allu cofrestru a bwrw eu pleidlais heb wynebu unrhyw rwystrau. Er gwaethaf gwelliannau sylweddol, gwyddom fod mwy i'w wneud o hyd i wella profiad pobl anabl o bleidleisio. Yn etholiadau lleol 2022, canfu ein hymchwil bod bron pob pleidleisiwr (97%) yn credu bod y papur pleidleisio yn hawdd ei lenwi a dywedodd tri o bob pedwar (74%) ei fod yn hawdd, ond roedd y ffigur hwn yn is ymhlith pleidleiswyr ag anabledd neu broblem iechyd (67%).
Croesawyd y darpariaethau yn Neddf Etholiadau 2022 i roi dyletswydd ehangach ar Swyddogion Canlyniadau yn lle'r gofyniad penodol i ddarparu dyfais bleidleisio gyffyrddadwy mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae'r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddarparu unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu er mwyn galluogi pobl anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol yn yr orsaf bleidleisio, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny. Yn ein barn ni, bydd hyn yn gwella amrywiaeth y cymorth sydd ar gael ac ansawdd y cymorth hwn, yn ogystal â chyflymu'r broses o ddarparu cymorth ychwanegol pan nodir cyfleoedd neu fylchau – er enghraifft, mewn ymateb i ddatblygiadau mewn technoleg gynorthwyol.
Byddem hefyd yn croesawu pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau deddfwriaethol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, a chefnogi dull tebyg i'r darpariaethau yn y Ddeddf Etholiadau. Byddai cyflwyno rheolau tebyg ar gyfer etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl yn ei gwneud yn haws i bobl ddeall y cymorth y gallant ei ddisgwyl wrth bleidleisio ac yn llai cymhleth i weinyddwyr etholiadau eu cyflawni.
Os gwneir newidiadau i'r gyfraith, byddem yn chwarae rôl bwysig, ochr yn ochr â'n sefydliadau partner, o ran cyfleu'r newidiadau hyn i bleidleiswyr. Byddem hefyd yn llunio canllawiau i helpu Swyddogion Canlyniadau i gyflawni eu dyletswyddau (gweler manylion pellach yn yr ymateb i Gwestiwn 49).
Part 49
49
49. Pa gefnogaeth y dylid ei chynnig i sicrhau bod y swyddog canlyniadau’n gallu cyflawni’r rôl honno’n effeithiol?
Mae'n bwysig bod Swyddogion Canlyniadau yn deall yn glir sut i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â chefnogi pleidleiswyr anabl. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gofyniad i Swyddogion Canlyniadau ddarparu cyfarpar rhesymol mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau datganoledig, byddem yn darparu canllawiau ac enghreifftiau o arferion gorau i'w helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae dyletswydd arnom i ddarparu canllawiau i gefnogi Swyddogion Canlyniadau yn hyn o beth ac ymgynghori ar y canllawiau hyn. Mae ein hymgynghoriad statudol ar y canllawiau hyn ar agor ar hyn o bryd a bydd yn dod i ben ar 16 Ionawr 2023. Er mwyn helpu i lywio a datblygu'r canllawiau, gwnaethom ymgysylltu ag amrywiaeth o gyrff ledled y DU gyfan sy'n cynrychioli pobl ag anableddau, ac ag ystod o gynrychiolwyr o'r sector gweinyddu etholiadau.
Yna gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos yn y lle cyntaf yn gofyn am adborth ar y canllawiau drafft. Gwnaeth y gwaith hwn ein galluogi i ddeall a nodi'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl, atebion posibl i wneud pleidleisio yn fwy hygyrch, a sut y gellid defnyddio'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau i wneud etholiadau yn fwy hygyrch.
Er mai dim ond i etholiadau a gadwyd yn ôl y mae'r canllawiau hyn yn gymwys, rhagwelwn y byddai unrhyw ganllawiau gan y Comisiwn a fyddai'n ofynnol ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru yn cwmpasu ystyriaethau tebyg. Bydd cyfleoedd hefyd i ddysgu o flwyddyn gyntaf y ddyletswydd newydd ar Swyddogion Canlyniadau mewn etholiadau a gadwyd yn ôl, a byddem yn fodlon rhoi gwybodaeth am hyn i Lywodraeth Cymru.
Rydym hefyd yn rhoi canllawiau ehangach i Swyddogion Canlyniadau ar sut i gefnogi pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys drwy ein llawlyfrau ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio. Mae'r rhestr wirio hygyrchedd yn y canllawiau hyn yn tynnu sylw at ystyriaethau hygyrchedd ymarferol, megis dangos arwyddion clir y tu allan i orsafoedd pleidleisio a sicrhau bod golau digonol y tu mewn. Rydym hefyd wedi gweithio gydag RNIB a Mencap i greu fideos i'w defnyddio yn ystod hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio, er mwyn helpu staff i ddeall yr heriau y gall pleidleiswyr anabl eu hwynebu yn well.
Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r ddyletswydd hon ar Swyddogion Canlyniadau, byddai angen iddi nodi pa gyllid fyddai ar gael ar gyfer y cymorth ychwanegol a fyddai'n ofynnol o ganlyniad i unrhyw newid deddfwriaethol, gan fod risg na fydd unrhyw ddyletswydd newydd i Swyddogion Canlyniadau yn effeithiol os na chaiff ei hariannu'n briodol.
Part 50
50
50. Ydych chi’n credu y dylai Llywodraeth Cymru bennu mewn rheoliadau y math o gymorth y mae’n rhaid ei gynnig i bleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio?
Fel y trafodwyd yn ein hymateb i Gwestiwn 48, un o fanteision dyletswydd eang ar Swyddogion Canlyniadau yw ei bod yn caniatáu mwy o hyblygrwydd a gall gyflymu'r broses o wneud newidiadau pan nodir bylchau mewn cymorth. Mae'n bosibl y bydd cael rhestr ragnodedig a nodir yn y gyfraith yn golygu y bydd gwneud newidiadau yn broses ddeddfwriaethol gymhleth a hirfaith, gan ei gwneud yn anos cadw i fyny â datblygiadau mewn technoleg gynorthwyol neu newidiadau yn ein dealltwriaeth o anghenion pobl.
Pe bai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r dull gweithredu hwn, dylai unrhyw ddeddfwriaeth adlewyrchu'r safon ofynnol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio, gan ganiatáu i gyfarpar ychwanegol gael ei ddarparu pan fo angen.
Part 51
51
51. Yn eich barn chi, pa fath o gymorth ddylai gael ei gynnig i bleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio?
Fel y nodwyd uchod, rydym yn ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft ar gyfer Swyddogion Canlyniadau ar hyn o bryd mewn perthynas â chynorthwyo pobl anabl i bleidleisio. Datblygwyd y canllawiau hyn fel rhan o'r broses o roi'r Ddeddf Etholiadau ar waith ac maent yn berthnasol i etholiadau a gadwyd yn ôl yn unig, ond maent yn nodi'r cyfarpar a ddylai fod ar gael yn yr orsaf bleidleisio fel gofyniad sylfaenol, a pha gyfarpar neu gymorth arall a all fod yn ddefnyddiol hefyd.
Yn ogystal, mae camau ehangach y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu pobl anabl i gymryd rhan mewn etholiadau yn hyderus. Fel y nodwyd uchod, amlinellodd ein hadroddiad ‘Elections for Everyone’ nifer o argymhellion i wella profiad pobl anabl, gan gynnwys:
- Newid rhywfaint o'r eirfa ar ffurflenni etholiad er mwyn eu gwneud yn haws eu deall.
- Rhoi mwy o ddewis i bobl anabl o ran pwy y gallant fynd gyda nhw i'r orsaf bleidleisio.
- Ystyried dulliau pleidleisio mwy hyblyg, megis pleidleisio ymlaen llaw neu ddewis o orsafoedd pleidleisio, er mwyn rhoi mwy o ddewis i bobl anabl.
Part 52
52
52. Yn ogystal â darpariaethau yn y Cwricwlwm i Gymru, a oes unrhyw fesurau eraill y dylai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith drwy’r system addysg i sicrhau y gall dysgwyr yng Nghymru gymryd rhan yn hyderus yn etholiadau Cymru?
Canfu ein hadroddiad ar etholiadau llywodraeth leol 2022 fod angen gwneud mwy o waith addysg ac ymgysylltu er mwyn helpu pleidleiswyr ifanc sydd newydd gael yr etholfraint i ddeall etholiadau yng Nghymru a chymryd rhan ynddynt. Dangosodd y canfyddiadau allweddol y canlynol:
- Dim ond tua un o bob pump o bobl ifanc 16-17 oed a oedd newydd gael yr etholfraint oedd wedi cofrestru i bleidleisio cyn yr etholiadau hyn.
- Gwahaniaeth clir yn y nifer a bleidleisiodd ymhlith y rheini dan 35 oed o gymharu â'r holl grwpiau oedran hŷn eraill.
- Diffyg dealltwriaeth ymhlith pobl ifanc o ran sut i gymryd rhan.
- Diffyg cymhelliant ymhlith pobl ifanc i ymgysylltu ag etholiadau am nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am ymgeiswyr, pleidiau, a'r broses yn gyffredinol.
- Cred y rhan fwyaf o'r rhieni a arolygwyd (77%) ei bod yn bwysig bod plant yn dysgu'r hanfodion am wleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol.
- Cred 31% o rieni fod y wybodaeth y mae eu plant yn ei chael am wleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol ar hyn o bryd yn annigonol.
- Mae rhieni mewn aelwydydd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o drafod gwleidyddiaeth gartref.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn drwy sicrhau bod ymwybyddiaeth ddemocrataidd yn rhan gyson o addysg person ifanc. Os caiff ei gyflwyno'n effeithiol, bydd yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i bob person ifanc yng Nghymru gael yr un cyfleoedd i gymryd rhan mewn etholiadau a democratiaeth.
Bydd sawl ystyriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu'r gwaith hwn. Canfu adborth o'n gwaith addysg fod rhai athrawon yn bryderus ynghylch addysgu am ddemocratiaeth oherwydd diffyg gwybodaeth am y pwnc a phryderon o ran dangos tuedd. Gall hefyd fod yn anodd trafod democratiaeth ac etholiadau mewn ystafell ddosbarth mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb pobl ifanc ac yn berthnasol iddynt, a gall dod o hyd i amser yn yr amserlen i gynnal gwersi o'r fath fod yn anodd i athrawon. Mae'n debygol y bydd yr heriau hyn yn fwy dwys i athrawon ac ysgolion sy'n cael trafferth bodloni gofynion y cwricwlwm newydd.
Noda'r papur gwyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu fframwaith ar gyfer cefnogi ysgolion er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Dylai unrhyw fframwaith gynnwys canllawiau clir ar sut y dylai addysg ddemocrataidd gael ei chyflwyno'n effeithiol a sut y caiff ysgolion eu hasesu ar yr agweddau gorfodol ar y cwricwlwm sy'n ymwneud ag addysg ddemocrataidd. Byddem yn croesawu rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn a'r cyfle i gefnogi'r gwaith hwn lle bo'n briodol.
Rydym wedi cynhyrchu ystod o adnoddau addysgol diduedd ac am ddim, gyda'r nod o helpu pobl ifanc i ddeall sut i gymryd rhan mewn democratiaeth a chefnogi athrawon i addysgu llythrennedd gwleidyddol. Rydym hefyd wrthi'n datblygu adnoddau newydd i gefnogi'r broses o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Dylai unrhyw waith i ymgysylltu â phobl ifanc gael ei lywio gan bobl ifanc, ac felly rydym wedi ceisio adborth a mewnbwn ar ein gwaith addysg ganddynt drwy ein partner llais ieuenctid i Gymru, The Democracy Box. Dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r dull cydgynhyrchu hwn wrth iddi ddatblygu cynigion pellach, er mwyn sicrhau bod adnoddau a chynlluniau yn cael eu dylunio mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb pobl ifanc.
Part 53
53
53. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid defnyddio’r diffiniad o drosedd etholiadol Dylanwad Gormodol a ddarperir gan adran 114A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, ar gyfer etholiadau datganoledig?
Rydym yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiweddaru'r diffiniad o drosedd etholiadol dylanwad gormodol yn unol â'r newidiadau a nodir yn y Ddeddf Etholiadau.
Rydym wedi galw’n gyson am eglurder ynghylch trosedd dylanwad gormodol, gan ei bod yn drosedd gymhleth nad yw pleidleiswyr yn ei deall yn hawdd, ac roeddem yn croesawu'r darpariaethau yn y Ddeddf Etholiadau i gyflawni’r newid hwn. Byddai hyn yn rhoi diogelwch mwy ystyrlon i bleidleiswyr rhag camfanteisio ac yn nodi'n glir beth sy'n ymddygiad derbyniol a beth nad yw'n ymddygiad derbyniol. Byddai hefyd yn ei gwneud yn symlach i'r heddlu weithredu pan fo honiadau o ddylanwad gormodol.
Mae'n bwysig na chaiff ymgyrchu dilys ei atal yn anfwriadol drwy newidiadau i'r ffordd y diffinnir y drosedd hon. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth y DU gyflwyno diffiniad ymarferol a chlir o ba weithgarwch y dylid ac na ddylid ei ganiatáu y tu allan i orsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl, a byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyn ar gyfer etholiadau datganoledig hefyd.
Byddwn yn cefnogi'r gymuned etholiadol drwy ddiweddaru ein canllawiau i weinyddwyr etholiadau a staff gorsafoedd pleidleisio, gan nodi'r hyn a ganiateir ac na chaniateir mewn gorsafoedd pleidleisio. Byddwn yn diweddaru ein Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr ynglŷn â'r hyn y dylent ei ystyried wrth ymgyrchu y tu allan i orsafoedd pleidleisio. Byddwn hefyd yn parhau i gynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd fel bod pleidleiswyr yn deall sut i amddiffyn eu pleidlais rhag dylanwad gormodol.
Part 54
54
54. Ydych chi’n meddwl y bydd rhai neu bob un o’r camau gweithredu hyn a gynigir ac a ddisgrifir yn y Papur Gwyn yn helpu i gyfrannu at leihau achosion o gam-drin ymgeiswyr?
Gwnaethom siarad ag ymgeiswyr fel rhan o'n hadroddiadau ar etholiadau lleol 2022 yng Nghymru, a dywedodd cyfran nodedig wrthym eu bod wedi dioddef rhyw fath o gamdriniaeth neu achos o fygylu. Dywedodd tri o bob pum ymgeisydd a ymatebodd i'n harolwg (60%) na chawsant broblem gydag achos o fygwth, cam-drin na bygylu, ond cafodd 40% ryw fath o broblem (gan roi sgôr o 2 neu fwy ar raddfa o 1 i 5) a phrofodd 8% broblem ddifrifol (gan roi 4 neu 5 allan o 5). Canfu ein hymchwil y canlynol:1
- O blith y rheini a nododd eu bod wedi profi rhyw fath o achos o gam-drin, roedd y ffynonellau mwyaf cyffredin ar lafar (69%) ac ar-lein (46%).
- Dywedodd dros ddwy ran o dair (69%) eu bod wedi cael eu cam-drin gan aelodau o'r cyhoedd. Dywedodd bron dau o bob pump (39%) eu bod wedi cael eu cam-drin gan ymgeiswyr eraill, a chafodd 15% eu bygwth neu eu cam-drin gan ymgyrchwyr neu wirfoddolwyr.
- Gwelodd 16% achosion o fygwth neu fygylu tuag at y rhai a oedd yn ymgyrchu ar eu rhan.
- O blith y rheini a brofodd neu a welodd achos o gam-drin, dywedodd 15% eu bod wedi rhoi gwybod amdano i'r heddlu, a dywedodd bron un rhan o bump (17%) o'r rheini a brofodd achosion o fygwth neu gam-drin y byddai'r profiad yn eu gwneud yn llai tebygol o sefyll yn y dyfodol.
Cawsom wybodaeth gan bedwar Pwynt Cyswllt Unigol yr Heddlu (SPOC) yng Nghymru ynghylch materion a brofwyd yn ystod cyfnod yr etholiad hefyd. Nodwyd bod ymddygiad rhai ymgeiswyr yn wael, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Pwyntiau Cyswllt Unigol yr Heddlu wedi cynnig eu bod nhw, ar ran heddluoedd Cymru, yn creu canllawiau i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr ar ddisgwyliadau ynghylch ymddygiad yn ystod cyfnod etholiad, ac y dylid rhoi'r canllawiau hyn i bob ymgeisydd fel rhan o'r broses enwebu. Byddai'r canllawiau newydd hyn yn cael eu darparu ochr yn ochr â'r adnoddau sydd eisoes ar gael ar wefan y Coleg Plismona mewn perthynas ag ymgeiswyr, a'r Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr. Byddwn yn gweithio gyda'r heddluoedd perthnasol a Phwyntiau Cyswllt Unigol yr Heddlu i ddatblygu a chefnogi'r deunydd hwn.
Rydym yn cytuno â'r camau arfaethedig a nodir yn y Papur Gwyn, yn enwedig mewn perthynas â'r angen i gasglu rhagor o wybodaeth gan ymgeiswyr yn dilyn etholiadau a'r posibilrwydd o waith cyfathrebu yn y dyfodol ar leihau achosion o gam-drin ymgeiswyr. Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, yr heddlu a'r gymuned etholiadol ehangach ar y materion hyn.
Part 55
55
55. Os ceisir cael eithriad o derfynau gwario ymgeiswyr ar gyfer gwariant sy’n gysylltiedig â diogelwch, pa weithgareddau y dylid eu cynnwys yn yr eithriad hwnnw?
Byddem yn cefnogi eithriad o derfynau gwariant ymgeiswyr ar gyfer gwariant sy’n gysylltiedig â diogelwch. Byddai hyn yn helpu i hwyluso hygyrchedd a chynhwysiant yn y broses ddemocrataidd, yn enwedig o ystyried cyfran nodedig yr ymgeiswyr a ddywedodd wrthym eu bod wedi profi rhyw fath o achos o gam-drin neu fygylu yn etholiadau lleol 2022.
Byddai angen i'r gyfraith nodi'n glir pa fathau o wariant neu weithgarwch sy'n gysylltiedig â diogelwch a fyddai wedi'u heithrio o derfynau gwariant ymgeiswyr, a byddai angen ystyried ffyrdd o sicrhau bod ymgeiswyr yn deall hyn yn glir. Hefyd, byddai angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw eithriadau yn ddigonol i sicrhau diogelwch ymgeiswyr ond na fyddai modd eithrio costau ymgyrchu gwirioneddol.
Mae'r eithriad hwn eisoes wedi'i gyflwyno ar gyfer etholiadau datganoledig yn yr Alban, a gallai hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol i Lywodraeth Cymru wrth iddi ystyried datblygu'r cynigion hyn ymhellach.
Part 56
56
56. A fydd yr ychwanegiad a gynigir i’r geiriad safonol ar y ffurflen Datganiad am y Sawl a Enwebwyd yn cael yr effaith a ddymunir sef i leihau achosion o gam-drin, neu a fyddai mesurau gwahanol yn fwy effeithiol?
Nid oes gennym farn ynghylch a fyddai cynnwys disgrifiad safonol o'r cymwysterau daearyddol ar gyfer sefyll fel ymgeisydd ar y Datganiad ynghylch y Personau a Enwebwyd yn cael effaith ar leihau achosion o gam-drin. Byddai'n ddefnyddiol gweld rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru ar y rhesymeg y tu ôl i'r newid hwn.
Part 57
57
57. Pa gamau eraill fyddai’n cyfrannu at leihau achosion o gam-drin ymgeiswyr?
Nid oes gennym unrhyw argymhellion pellach y tu hwnt i'r hyn sydd eisoes wedi'i nodi mewn ymateb i'r cwestiynau blaenorol.
Fodd bynnag, rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro'r mater hwn a mynd i'r afael ag ef. Dylai unrhyw gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar yr egwyddorion tegwch a chyfranogiad a nodir yn fframwaith diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru.
Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, yr heddlu a'r gymuned etholiadol ehangach i feithrin dealltwriaeth o'r hyn sy'n sbarduno achosion o gam-drin a bygylu ymgeiswyr a datblygu ymatebion effeithiol i amddiffyn ymgeiswyr ac ymgyrchwyr mewn etholiadau yn y dyfodol.
Part 58, 59, and 60
58, 59, 60
58. A ddylai Gweinidogion Cymru ddeddfu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i sefydlu a chynnal ‘Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig’?
59. A ddylai’r Gronfa hon fod ar gael i gefnogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar gyfer pob is-etholiad ac etholiad cyffredin datganoledig yng Nghymru?
60. Os ydych chi’n cytuno y dylai’r Gronfa fod yn ofyniad a nodir mewn deddfwriaeth sylfaenol, beth ddylai’r paramedrau fod ar gyfer gweithredu’r Gronfa?
Croesawyd y penderfyniad i dreialu'r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn etholiadau 2021 a 2022 ac rydym yn cefnogi'r bwriad i sefydlu'r gronfa yn barhaol.
Rydym yn cefnogi cynlluniau i estyn cylch gwaith y gronfa mewn egwyddor er mwyn cynnwys grwpiau ehangach nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol cael rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru o ran beth y byddai hyn yn ei olygu a sut y byddai'n sicrhau bod y gronfa'n cael ei hariannu'n ddigonol i gefnogi rhagor o ymgeiswyr o bosibl.
Yn ogystal â'r ystyriaethau uchod, awgryma ein harolwg o ymgeiswyr yn dilyn etholiadau lleol 2022 y gellir gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, oherwydd awgrymodd llai nag un rhan o dair o'r ymatebwyr (29%) eu bod yn gwybod amdani. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau priodol i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gronfa cyn yr etholiadau nesaf sydd wedi'u trefnu yn 2026 a 2027.
Part 61, 62, 63, 64
61, 62, 63, 64
61. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid diddymu’r gofyniad i osod cwestiynau Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol mewn rheoliadau?
61a. Os ydych chi’n Cytuno’n Gryf neu’n Cytuno, a ddylai’r arolwg gael ei ddiweddaru drwy broses adolygu ffurfiol sy’n cynnwys partneriaid allweddol?
62. Ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodau lleol gael hyblygrwydd i ofyn cwestiynau am fesurau lleol i ehangu cyfranogiad?
63. Ydych chi’n cytuno y dylid cynnwys cwestiynau yn yr arolwg am brofiadau ymgeiswyr o gam-drin ac aflonyddu (gweler yr adran ar “mesurau eraill rydym yn eu cymryd i sicrhau diogelwch ymgeiswyr”)?
64. Ydych chi’n credu y dylai Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r set lawn o gwestiynau neu dim ond y cwestiynau craidd ar gyfer Cymru?
Nid oes gennym farn gref am y manylion o ran sut y dylid datblygu'r Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol. Fodd bynnag, rydym yn cytuno y gallai cynnwys cwestiynau am brofiadau ymgeiswyr o gam-drin ac aflonyddu helpu i feithrin dealltwriaeth well o faterion sy'n ymwneud â diogelwch ymgeiswyr yng Nghymru, a byddem yn croesawu hyn.
Moderneiddio etholiadau Cymru
65
65. Beth yw eich barn am effaith cadw at yr amser adnewyddu presennol o 5 mlynedd yng ngoleuni newidiadau Deddf Etholiadau 2022?
Rydym yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru fod risg y gallai gwahaniaethau o ran cyfnodau adnewyddu pleidleisiau absennol rhwng etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl beri dryswch i bleidleiswyr a chymhlethdod i weinyddwyr etholiadau. Byddai angen i bleidleiswyr ymateb i ddwy broses adnewyddu/ailymgeisio ar wahân er mwyn cadw eu statws pleidleisio absennol ar gyfer etholiadau datganoledig a rhai a gadwyd yn ôl, a byddai gan weinyddwyr etholiadau ddwy set ar wahân o brosesau i'w dilyn a'u cwblhau.
Os nad oes gan Lywodraeth Cymru bryderon polisi sylweddol ynghylch newid i gyfnodau adnewyddu tair blynedd, byddem yn argymell yn gryf y byddai'n synhwyrol cymryd camau i gysoni'r rheolau ar gyfer etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl er budd pennaf pleidleiswyr.
Os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cadw'r cyfnod adnewyddu pum mlynedd presennol ar gyfer etholiadau datganoledig, byddai risg sylweddol o ddifreinio pleidleiswyr, y gallent dybio'n anghywir fod trefniant pleidleisio absennol ar waith ganddynt. Byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried a oes unrhyw newidiadau eraill y gellid eu gwneud i liniaru'r risg hon yn ymarferol, symleiddio'r camau sy'n ofynnol gan bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadau, a sicrhau prosesau cyfathrebu clir er mwyn cefnogi dealltwriaeth pleidleiswyr o'r broses a'i chanlyniadau.
Part 66
66
66. Hoffech chi weld pleidleisio ymlaen llaw a/neu bleidleisio mewn amryw o leoliadau yn cael ei gynnig mewn etholiadau datganoledig ledled Cymru?
Fel y noda'r papur gwyn, gwnaethom gynnal gwerthusiad o'r pedwar cynllun peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw a gynhaliwyd yn ystod etholiadau lleol 2022 yng Nghymru. Canfuwyd bod Swyddogion Canlyniadau wedi cynnal y cynlluniau peilot yn effeithiol a bod y rheini a ddefnyddiodd yr opsiwn i bleidleisio ymlaen llaw wedi'i groesawu.
Noda'r papur gwyn nad oedd modd i ni farnu, o dystiolaeth y cynlluniau peilot, pa effaith y byddai pleidleisio ymlaen llaw yn ei chael ar y niferoedd sy'n pleidleisio dros amser. Hefyd, nododd ein hadroddiad nifer o ystyriaethau y byddai angen ymdrin â nhw pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r opsiwn i bleidleisio ymlaen llaw yn ehangach.
Fel rydym wedi'i nodi mewn ymateb i gwestiynau cynharach, byddwn yn ymgymryd â sawl astudiaeth ddichonoldeb yn 2023 ar amrywiaeth o opsiynau pleidleisio hyblyg gwahanol. Mae'n bosibl y bydd canfyddiadau'r rhain, unwaith y byddant ar gael, yn helpu i gefnogi a llywio rhaglen diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru.
Part 67, 68
67, 68
67. Ydych chi’n cefnogi cyflwyno system ar-lein i bleidleisio absennol yng Nghymru? Os ydych, beth hoffech ei weld?
68a. Ydych chi’n meddwl y byddai system o’r fath yn helpu i leihau nifer y pleidleisiau drwy’r post a wrthodir oherwydd gwallau ar y Datganiad Pleidlais drwy'r Post, ac yn helpu i fagu hyder y cyhoedd yn y system bleidleisio drwy’r post?
68b. A fyddai modd defnyddio system heb fod yn awtomatig i wneud hyn?
Pan basiwyd y Ddeddf Etholiadau, gwnaethom fynegi ein safbwynt y byddai system i wneud cais am bleidlais absennol ar-lein yn gwella hygyrchedd drwy ei gwneud yn haws i bobl wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Gwnaethom nodi hefyd y byddai hyn yn debygol o arwain at wella effeithlonrwydd i weinyddwyr – er enghraifft, drwy leihau'r amser a gymerir i brosesu ceisiadau.
Rydym yn barod i roi cyngor i Lywodraeth Cymru wrth iddi ystyried y camau nesaf posibl yn y maes hwn. Mae'n bosibl y bydd gwersi defnyddiol i Lywodraeth Cymru o'r broses o ddatblygu'r system gwneud cais ar-lein ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl. Rydym ar ddeall bod disgwyl i'r system hon gael ei rhoi ar waith yn 2023.
Fodd bynnag, byddai angen cynllunio a threfnu'r broses o roi unrhyw system i wneud cais am bleidlais absennol ar-lein yn effeithiol a sicrhau adnoddau digonol ar ei chyfer. Byddai angen ystyried y seilwaith digidol gofynnol yn ofalus; y prosesau y bydd angen i weinyddwyr etholiadau eu datblygu a'u dilyn; sicrhau bod pleidleiswyr yn deall sut i ddefnyddio'r system; a sicrhau bod y system yn gallu dosbarthu pleidleisiau post mewn pryd fel bod pawb sydd wedi gwneud cais am un yn gallu derbyn y bleidlais bost, ei chwblhau a'i dychwelyd mewn pryd iddi gael ei chyfrif.
Part 69, 70
69, 70
69. A fyddai cyflwyno system olrhain pleidleisiau drwy'r post, fel yr un a ddisgrifir uchod, yn creu baich gweinyddol sylweddol ar dimau etholiadol awdurdodau lleol?
70. Ydych chi’n cefnogi cyflwyno system e-dracio pleidleisiau drwy'r post yng Nghymru?
Heb weld cynigion manwl, nid oes modd asesu'r effaith debygol y byddai system o'r fath yn ei chael ar weinyddwyr etholiadau yng Nghymru. Mae'n rhaid bod modd cyflawni unrhyw newidiadau yn realistig a chynnal diogelwch ac uniondeb y system. Byddai angen ystyried yn ofalus sut mae sicrhau bod digon o amser i system olrhain pleidleisiau post gael ei rhoi ar waith yn effeithiol, heb beryglu gallu gweinyddwyr etholiadau i gynnal etholiadau yn dda.
Part 71, 72
71, 72
71. Ydych chi’n cefnogi cyflwyno a defnyddio Cofrestrau Digidol yn ehangach ar gyfer etholiadau nad ydynt yn cael eu cadw yn ôl yng Nghymru? Beth yw manteision neu anfanteision gwneud hyn?
72. A oes rhwystrau posibl rhag cyflwyno Cofrestrau Digidol yn ehangach?
Credwn y bydd cofrestrau canolog a/neu ddigidol yn ofynnol i gefnogi camau i foderneiddio'r system etholiadol ymhellach, ac y gallai gwneud mwy o ddefnydd ohonynt arwain at fanteision i etholiadau datganoledig yng Nghymru.
Fel y noda'r papur gwyn, defnyddiwyd cofrestrau digidol yn llwyddiannus mewn gorsafoedd pleidleisio fel rhan o'r cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw ym mis Mai 2022. Fe'u defnyddiwyd mewn rhai awdurdodau lleol yn ystod etholiad y Senedd yn 2021 ac yn etholiadau lleol 2022 yn fwy cyffredinol hefyd. Nododd ein gwerthusiad o'r cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw fod defnyddio cofrestrau digidol yn golygu bod modd nodi bod pobl wedi pleidleisio, ac i gofrestrau ar gyfer unrhyw un o ardaloedd yr awdurdod lleol gael eu cyrchu drwy un ddyfais. Yn y cynlluniau peilot hynny ag un ganolfan pleidleisio ymlaen llaw ganolog, roedd defnyddio cofrestrau digidol yn osgoi'r angen am ddal copïau papur mwy o faint o'r gofrestr lawn ym mhob canolfan ac yn golygu bod modd dod o hyd i bleidleiswyr yn gyflym ar y gofrestr pan ddaethant i gasglu papur pleidleisio.
Mae rhwystrau posibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu hystyried yn cynnwys materion cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, risgiau yn ymwneud â seiberddiogelwch a chostau tebygol. Hefyd, bydd angen ystyried i ba raddau y gellir defnyddio'r system a ddefnyddiwyd yn y cynlluniau peilot ar raddfa fwy ledled Cymru, a chapasiti a gallu'r farchnad gyflenwi i gefnogi proses gyflwyno ehangach.
Yn ogystal, awgrymodd adborth gan Swyddogion Canlyniadau a'u timau yn dilyn y cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw y gallent o bosibl fod wedi cael eu cyflwyno heb ddefnyddio cofrestrau digidol. Bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried y rhesymau dros hyn.
Fel rhan o'i flaenraglen waith, mae BCEC yn bwriadu sefydlu is-grŵp i ystyried materion sy'n ymwneud â digideiddio prosesau etholiadol. Mae'n bosibl y bydd hyn o fudd i Lywodraeth Cymru wrth iddi ystyried y defnydd ehangach o gofrestrau digidol ledled Cymru.
Cwestiynau pellach
83, 84, 85, 86
83. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r ffordd o asesu effeithiau’r cynigion a nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig drafft? Oes gennych chi unrhyw sylwadau?
84. I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â'r ffordd o asesu costau a manteision y cynigion deddfwriaethol a nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft?
85. A oes meysydd eraill y dylid eu hystyried wrth i ni ddatblygu mwy ar yr Asesiad Effaith Integredig a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol?
86. Nodwch unrhyw ffynonellau data a gwybodaeth eraill y dylem eu hystyried yn yr Asesiad Effaith Integredig a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Nid oes gennym sylwadau na phryderon sylweddol mewn perthynas â'r naill asesiad effaith na'r llall. Fel y noda'r Asesiad Effaith Integredig, mae llawer o gynigion Llywodraeth Cymru ar gam cynnar ac nid yw'n bosibl cynnal asesiadau cost a budd manylach eto. Ar y cyfan, rydym yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o feysydd cost a budd posibl yr opsiynau polisi amrywiol a nodir yn y papur gwyn.
Mae'r Asesiad Effaith Integredig drafft yn cydnabod y costau gweinyddol a chydymffurfio tebygol, yn enwedig i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, o ganlyniad i'r diwygiadau arfaethedig. Mae hefyd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu unrhyw gostau ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n deillio o ddeddfwriaeth newydd a ddatblygir o'r papur gwyn. Fel y nodwyd gennym mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, mae'n rhaid i sicrhau y bydd gwasanaethau etholiadol lleol yn gallu rhoi unrhyw ddiwygiadau ar waith yn realistig fod yn ystyriaeth allweddol wrth symud ymlaen, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu costau ychwanegol.
Mae'n bosibl hefyd y bydd costau gweithredu a chymorth ychwanegol i'r Comisiwn Etholiadol o ganlyniad i'r diwygiadau hyn, ond mae'n anodd asesu hyn nes y bydd rhagor o fanylion ar gael am gynlluniau penodol Llywodraeth Cymru.
Part 87, 88
87, 88
87. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai ein cynigion ar ddiwygio etholiadol yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar yfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?
88. Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gellid llunio neu newid y polisi arfaethedig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Rydym yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru, a nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig drafft, ei bod yn debygol y byddai'r cynigion i gyflwyno gofynion ynghylch y Gymraeg i Swyddogion Canlyniadau yn cael effaith ar gyfranogiad siaradwyr Cymraeg mewn etholiadau.
Mae nifer o gynigion na fyddent o reidrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg ond a allai gael effaith negyddol os na chânt eu datblygu'n ofalus. Mae'r system i wneud cais am bleidlais absennol ar-lein, y system olrhain pleidleisiau post a'r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein oll yn enghreifftiau o wasanaethau a systemau cyhoeddus y byddai angen iddynt fod ar gael yn ddwyieithog.
Bydd angen rhoi sylw penodol i'r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein a gynigiwyd. Os defnyddir y llwyfan hwn i letya datganiadau ymgeiswyr yn ystod etholiadau, bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gellid annog ymgeiswyr i ddarparu eu datganiad yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ar gyfer pedair ardal yr heddlu yng Nghymru yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2021, dim ond rhai o ddatganiadau'r ymgeiswyr oedd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan choosemypcc.org.uk.
Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried gwaith Grŵp Cynghori’r Gymraeg hyd yma a sut y bydd unrhyw Fwrdd Rheoli Etholiadol newydd yn hwyluso trafodaethau pwysig am faterion etholiadol yn ymwneud â'r Gymraeg.
Part 89
89
89. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, mae croeso i chi ddweud wrthym isod.
Defnyddio disgrifiadau ar y cyd ar y papur pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol
Yn etholiadau llywodraeth leol 2022, caniataodd deddfwriaeth newydd i ddwy blaid ddefnyddio disgrifiad ar y cyd ar y papur pleidleisio. Roedd yn rhaid i hyn gynnwys enwau cofrestredig llawn y ddwy blaid dan sylw. Mae'r gyfraith ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau eraill ledled y DU yn wahanol a gellir defnyddio disgrifiadau ar y cyd sydd wedi'u cofrestru â'r Comisiwn Etholiadol ac sy'n nodi'r pleidiau dan sylw, ond nad ydynt o reidrwydd yn cynnwys enwau cofrestredig llawn y pleidiau.
Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu hyn cyn etholiadau lleol 2027 er mwyn sicrhau bod y rheolau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn gyson â'r sefyllfa bresennol ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau eraill yn y DU.
Estyn y gofyniad cyfrinachedd i bleidleiswyr post
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn estyn y gofyniad i gynnal cyfrinachedd pleidleisio i bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy mewn etholiadau a gadwyd yn ôl. Gwnaethom nodi pan basiwyd y Ddeddf Etholiadau y gallai'r newid hwn helpu i atal achosion o ddylanwadu'n ormodol ar bleidleiswyr post neu eu bygylu ac y byddai'n helpu i erlyn achosion pan fydd hyn yn digwydd. Cafwyd cefnogaeth eang i'r gofyniad hwn gan ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadau a'r heddlu, ac fe'i hargymhellwyd gan Gomisiynau'r Gyfraith y DU a gan yr Arglwydd Pickles yn ei adolygiad o dwyll etholiadol yn 2016 hefyd.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno darpariaethau tebyg, a byddem yn croesawu cyfle i drafod hyn ymhellach.
Gwahardd ymgyrchwyr rhag ymdrin â phleidleisiau post
Ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl, mae'r Ddeddf Etholiadau yn gwahardd pleidiau ac ymgyrchwyr rhag ymdrin â phleidleisiau post a gwblhawyd ac amlenni pleidleisiau post. Gallai'r newid hwn wella ymddiriedaeth pleidleiswyr ac ymdrin â phryderon ynghylch y posibilrwydd o weithgarwch amhriodol pan gaiff pecynnau pleidleisio drwy'r post eu trin.
Mae hyn yn ffurfioli rhan allweddol o'r dull gweithredu ‘arfer orau’ sydd wedi'i nodi yn ein canllawiau a'n Cod Ymddygiad gwirfoddol i ymgyrchwyr ers dros 15 mlynedd. Datblygwyd y Cod a chytunwyd arno gyda phleidiau gwleidyddol, ond nid yw pob ymgyrchydd yn ymwybodol ohono nac yn cydymffurfio ag ef.
Byddem yn croesawu trafodaeth â Llywodraeth Cymru ynghylch a fyddai modd cyflwyno darpariaethau tebyg ar gyfer etholiadau datganoledig.
- 1. Safodd dros 3,000 o ymgeiswyr etholiad ledled Cymru yn 2022. Cafodd ein harolwg 162 o ymatebion o bob un o'r 22 o awdurdodau lleol, ac atebodd 143 o'r ymatebwyr y cwestiwn am gam-drin. Gofynnwyd i'r ymgeiswyr: “Ar raddfa o 1-5, lle mae 1 yn golygu dim problem o gwbl a 5 yn golygu problem ddifrifol, faint o broblem gawsoch chi gydag achosion o fygwth, cam-drin neu fygylu yn yr etholiad hwn, os o gwbl?” Ystyriwyd bod ymatebwyr a roddodd sgôr o 2 neu uwch wedi profi achos o fygwth, cam-drin neu fygylu. Ystyriwyd bod ymatebwyr a roddodd sgôr o 4 neu uwch wedi profi problem ddifrifol. ↩ Back to content at footnote 1