Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Ddatganiad Polisi a Strategaeth drafft ar gyfer y Comisiwn Etholiadol
Overview
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 bŵer newydd i Lywodraeth y DU roi strategaeth a datganiad polisi ar waith ar gyfer y Comisiwn Etholiadol. Gall y datganiad gynnwys canllawiau Llywodraeth y DU y mae’n ofynnol i’r Comisiwn eu hystyried wrth gyflawni ei swyddogaethau.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi strategaeth ddrafft a datganiad polisi ac mae’n ymgynghori ar ei gynnwys gyda thri ymgynghorai statudol: Y Comisiwn Etholiadol, Pwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol, a Phwyllgor Dethol Lefelu, Tai a Chymunedau Senedd y DU.
Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi yr ymateb isod i’r ymgynghoriad gan amlinellu ei farn.
Annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff statudol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system etholiadol a sicrhau ei huniondeb.
Fel rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol y DU a'r corff sy'n goruchwylio etholiadau rhydd a theg, mae'n rhaid i'r ffordd y mae'r Comisiwn yn gweithio, a'i benderfyniadau, aros yn annibynnol, ac mae'n rhaid i'w annibyniaeth fod yn glir i bleidleiswyr ac ymgyrchwyr. Mae hyn yn sail i degwch ac ymddiriedaeth yn y system etholiadol, yn ogystal â hyder cyhoeddus a thrawsbleidiol yng ngwaith y Comisiwn. Er mwyn cynnal hyder a chyfreithlondeb yn ein system etholiadol, mae'n hanfodol bod comisiwn etholiadol yn parhau i fod yn annibynnol ar lywodraethau ac yn gweithio gydag uniondeb ac mewn ffordd ddiduedd i gyflawni ei ddyletswyddau. Mae cyflwyno mecanwaith fel datganiad polisi a strategaeth – y gall llywodraeth ei ddefnyddio i lywio gwaith comisiwn etholiadol – yn anghyson â'r rôl honno.
Wrth i Senedd y DU ystyried y Bil Etholiadau, cafwyd datganiadau clir gan seneddwyr o bob plaid wleidyddol bod annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol yn hanfodol i ddemocratiaeth iach. Roedd Gweinidogion wedi datgan yn glir hefyd wrth i'r Bil gael ei basio, ac i'r Comisiwn ers i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol, eu bod yn gwerthfawrogi annibyniaeth y Comisiwn ac yn awyddus i'w diogelu. Mae rhan agoriadol y datganiad drafft yn disgrifio'r Comisiwn fel y corff rheoleiddio annibynnol. Mae'n mynd ymlaen i ddweud “this statement does not seek to interfere with the governance of the Commission and the Commission remains operationally independent.”
Ysgrifennodd aelodau o Fwrdd y Comisiwn at yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Chwefror 2022 i amlinellu eu pryderon am y pwerau arfaethedig a nodwyd yn y Bil Etholiadau (y Ddeddf Etholiadau bellach), a dyma farn gadarn y Comisiwn o hyd.
Atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol
Mae'r Comisiwn yn gwerthfawrogi trefniadau i graffu ar ei waith ac yn croesawu ac yn ymgysylltu â'r llwybrau a'r prosesau sydd eisoes ar gael i Senedd y DU a deddfwrfeydd eraill ei ddwyn i gyfrif. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu'n aml â phwyllgorau dethol a phwyllgorau biliau cyhoeddus drwy sesiynau tystiolaeth ar lafar a thystiolaeth ysgrifenedig, yn ogystal â gwaith craffu rheolaidd gan Bwyllgor trawsbleidiol y Llefarydd ar faterion ariannol a gwaith cynllunio busnes y Comisiwn Etholiadol.
Nawr bod y Ddeddf Etholiadau yn gyfraith, bydd unrhyw ddatganiad polisi a strategaeth a gaiff ei ddrafftio gan Lywodraeth y DU a'i ddynodi o dan y Ddeddf yn ffurfio rhan o'r broses atebolrwydd honno i Senedd y DU, yn enwedig drwy Bwyllgor y Llefarydd. Unwaith y caiff datganiad polisi a strategaeth ei gymeradwyo gan Senedd y DU, bydd dyletswydd ar y Comisiwn i roi sylw iddo wrth wneud ei waith, a bydd yn sicrhau y caiff y ddyletswydd hon ei chyflawni.
Bydd y Comisiwn yn parhau i weithio mewn ffordd annibynnol a diduedd er mwyn helpu i gynnal hyder y cyhoedd mewn etholiadau ledled y DU. Wrth wneud penderfyniadau annibynnol am sut i gyflawni ei rolau a'i swyddogaethau pwysig – gan gynnwys rhwymedigaethau statudol nad ydynt wedi'u crybwyll yn y datganiad – bydd y Comisiwn yn parhau i gydbwyso anghenion, safbwyntiau a buddiannau holl aelodau'r gymuned etholiadol. Mae'r rhain yn cynnwys pob un o seneddau a llywodraethau'r DU, yn ogystal â gweinyddwyr etholiadau, y gymuned a reoleiddir sy'n cynnwys pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, a phleidleiswyr eu hunain.
Bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad blynyddol i Bwyllgor y Llefarydd ar y modd y mae wedi rhoi sylw i'r datganiad. Bydd y Comisiwn yn atebol o hyd i Senedd Cymru a Senedd yr Alban am ei waith mewn perthynas ag etholiadau yng Nghymru a'r Alban, gan gynnwys gwaith a gaiff ei ariannu'n uniongyrchol gan Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Dull gweithredu'r Comisiwn mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn
Mae gan y Comisiwn gyfrifoldebau sy'n berthnasol i'r DU gyfan, yn ogystal â chyfrifoldebau gwahanol pwysig ym mhob un o bedair rhan y DU. Mae'n atebol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban a chaiff ei ariannu ganddynt yn unigol. Caiff ei waith ei gyfeirio er mwyn diwallu anghenion ystod eang o randdeiliaid.
Yn gynharach eleni, amlinellodd y Comisiwn ei gynigion ar gyfer cyflawni'r cyfrifoldebau hyn yn ei Gynllun Corfforaethol pum mlynedd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2027, gan gynnwys cynllun ar wahân sy'n ymdrin â gweithgareddau'r Comisiwn yng Nghymru. Mae'r cynlluniau hyn yn deillio o waith ymgysylltu eang â'r gymuned etholiadol, ac maent wedi'u hystyried a'u cymeradwyo gan bob un o'r tair senedd y mae'r Comisiwn yn atebol iddynt.
Mae cynlluniau'r Comisiwn yn nodi sut y bydd yn cyflawni pum amcan strategol:
- Systemau cofrestru a phleidleisio hawdd eu defnyddio
- Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio â'r rheolau
- Gwasanaethau etholiadol lleol cadarn
- Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
- System etholiadol fodern a chynaliadwy
Mae ymateb y Comisiwn isod, felly, yn canolbwyntio ar y mannau hynny lle mae'r canllawiau a nodir yn y datganiad polisi a strategaeth drafft yn wahanol i'r cynlluniau annibynnol, cytbwys a chytûn hyn y mae'r seneddau priodol eisoes wedi eu hystyried a'u cymeradwyo. Mae'n gwneud sylwadau ar y modd y mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio'r pŵer deddfwriaethol newydd hwn; yn tynnu sylw at rai meysydd y mae angen eu diwygio; ac yn nodi problemau o ran ymarferoldeb y datganiad drafft.
Ni fu'n ofynnol eto i'r Comisiwn roi sylw i ddatganiad polisi a strategaeth. Unwaith y caiff datganiad terfynol ei gymeradwyo gan Senedd y DU a'i ddynodi, bydd y Comisiwn yn ei ystyried a'r effaith y dylai'r datganiad ei chael ar gynlluniau presennol a chymeradwy'r Comisiwn.
Mae'r ymateb hwn yn canolbwyntio ar gynnwys y datganiad drafft yn benodol. Fodd bynnag, byddai'r Comisiwn yn croesawu'r cyfle i drafod y ffordd orau o wneud gwelliannau ehangach i'r system ddemocrataidd â Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae paragraff 13 yn cyfeirio at fynd i'r afael ag ymyrraeth o dramor yn etholiadau'r DU. Mae'r Comisiwn wedi argymell newidiadau i'r gyfraith (a gafodd eu hadleisio gan argymhellion gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus) a fyddai'n arwain at welliannau sylweddol yn y maes hwn, ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar hyn er mwyn cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau'r fframwaith rheoleiddio. Yn yr un modd, mae paragraff 25 yn cyfeirio at eglurder o ran y gyfraith. Ers 2016, mae comisiynau'r gyfraith wedi argymell newidiadau er mwyn rhoi eglurder o ran y gyfraith. Mae'r rhain wedi cael eu croesawu a'u cefnogi'n eang. Byddai'r Comisiwn yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynigion ymarferol ar gyfer moderneiddio a symleiddio deddfwriaeth a fyddai'n rhoi eglurder lle bo mawr ei angen. Ym marn y Comisiwn, y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn a rhai eraill yw drwy gydweithio yn hytrach na thrwy ddatganiad polisi a strategaeth.
Ymateb y Comisiwn i'r Datganiad Polisi a Stratgaeth drafft
Gan mai dyma'r datganiad polisi a strategaeth drafft cyntaf i'w ystyried gan Senedd y DU er mwyn ei gymeradwyo, mae'n hynod o bwysig sicrhau ei fod yn hollol glir, fel y gall y Comisiwn roi cyfrif amdano wrth adrodd yn ôl i'r Senedd ar y modd y mae wedi rhoi sylw iddo. Mae nifer o agweddau ar ddull gweithredu Llywodraeth y DU a all beri problemau os cânt eu cynnwys yn y datganiad terfynol.
Pennu blaenoriaethau'r Comisiwn
Mae'n ymddangos bod y datganiad mewn rhai mannau – paragraffau 4 a 5 yn benodol – yn ceisio disodli blaenoriaethau'r Comisiwn y cytunwyd arnynt yn annibynnol â gofyniad i roi sylw i farn Llywodraeth y DU ar beth ddylai'r blaenoriaethau hynny fod a'r adnoddau y dylid eu dyrannu iddynt.
Mae rhan gyntaf y datganiad drafft yn ceisio nodi “the Government’s view of the Electoral Commission’s priorities and functions that support the Government’s priorities in relation to elections, referendums and other matters in respect of which the Commission has functions”. Mae'r geiriad hwn yn wahanol i'r disgrifiad o gwmpas y datganiad yn adran newydd 4A o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Mae hwn yn darparu y caiff datganiad nodi'n gyntaf flaenoriaethau strategol a blaenoriaethau polisi'r Llywodraeth mewn perthynas ag etholiadau, refferenda a materion eraill y mae gan y Comisiwn swyddogaethau yn eu cylch; ac yn ail rolau a chyfrifoldebau'r Comisiwn i alluogi Llywodraeth y DU i gyflawni'r blaenoriaethau hynny.
Bydd yn bwysig deall sut mae'r geiriad hwn yn y datganiad yn gyson â geiriad y Ddeddf. Bydd hyn yn arbennig o bwysig er mwyn i Senedd y DU graffu'n briodol ar y datganiad.
Yn ogystal, er bod y datganiad yn nodi “this is not an exhaustive list of all the Commission’s duties and responsibilities and does not suggest that the Commission should cease to carry out any of its other statutory duties”, mae'n datgan yn glir y dylai rhai o'r cyfrifoldebau y mae Senedd y DU wedi deddfu eu rhoi i'r Comisiwn gael eu hystyried yn llai o flaenoriaeth. Mae'n dweud yn benodol ym mharagraff 3 mai barn Llywodraeth y DU yw “these priority functions should be the focus of the Electoral Commission’s work and allocation of resources”.
Commission's priorities summary
Dylai Llywodraeth y DU egluro sut mae ei datganiadau ar bennu blaenoriaethau yn gyson ag annibyniaeth y Comisiwn a'r Ddeddf. Yn benodol, dylid nodi'n glir na ddylai'r Comisiwn gael ei lesteirio wrth gyflawni'r dyletswyddau statudol hynny nad ydynt wedi'u cynnwys yn y datganiad a bod rhyddid gan y Comisiwn o hyd i flaenoriaethu a dyrannu adnoddau i'r swyddogaethau eraill hynny yn unol â'i gynlluniau y cytunwyd arnynt yn annibynnol.
Cyflawni blaenoriaethau gweithredol Llywodraeth y DU
Cyflawni blaenoriaethau gweithredol Llywodraeth y DU
O dan y pennawd “Executive priorities in relation to elections as approved by Parliament” mae Adran 2 o'r datganiad drafft yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth y DU mewn perthynas ag etholiadau, gan gynnwys cyfeiriad at faniffesto etholiad cyffredinol 2019 y Blaid Geidwadol (paragraff 7). Mae hyn yn cynnwys canllawiau y dylai'r Comisiwn “support the Government’s delivery of legitimate executive priorities in relation to elections during this Parliament, including changes brought by the Elections Act 2022 and as listed below” (paragraff 8).
Bydd y Comisiwn yn parhau i gyflawni'r swyddogaethau a'r cyfrifoldebau statudol a roddwyd iddo gan Senedd y DU, gan gynnwys newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022, a bydd y Comisiwn yn ymateb i unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth a gymeradwywyd gan Senedd y DU ac yn eu hadlewyrchu. Fel y rheoleiddiwr statudol, bydd y Comisiwn hefyd yn parhau i roi cyngor annibynnol i Lywodraeth a Senedd y DU ar oblygiadau cynigion i newid polisi neu ddeddfwriaeth, gan ddefnyddio profiad ac arbenigedd perthnasol.
Fodd bynnag, mae'r rhan hon o'r datganiad yn golygu y byddai gofyniad cyfreithiol ar y Comisiwn i roi sylw i helpu i weithredu polisïau nad ydynt wedi cael eu cymeradwyo eto gan Senedd y DU.Ni fyddai'n briodol i reoleiddiwr annibynnol gael cyfrifoldeb mor uniongyrchol am gyflawni blaenoriaethau polisi Llywodraeth y DU, gan gynnwys ymrwymiadau maniffesto neu gynigion polisi eraill nad ydynt o bosibl wedi cael eu hystyried na'u cymeradwyo eto gan Senedd y DU.
Delivery of gov policies summary
Dylid diwygio'r datganiad polisi a strategaeth i nodi'n glir na fydd yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol roi sylw i helpu i weithredu polisïau nad ydynt wedi cael eu cymeradwyo eto gan Senedd y DU.
Ailddatgan swyddogaethau a dyletswyddau presennol y Comisiwn
Ailddatgan swyddogaethau a dyletswyddau presennol y Comisiwn
Bydd yn ofynnol i'r Comisiwn ystyried unrhyw beth a gaiff ei gynnwys yn y datganiad polisi a strategaeth drafft a gymeradwyir gan Senedd y DU a bod yn atebol nid yn unig i'r Senedd ond drwy'r llysoedd hefyd o bosibl. Mae'n rhaid cymryd gofal i beidio â chreu unrhyw ansicrwydd neu ddryswch diangen ynghylch swyddogaethau a dyletswyddau'r Comisiwn, drwy eu hailddatgan a'u geirio mewn ffordd wahanol ac estynedig. Mae hyn yn peri dryswch i randdeiliaid a'r cyhoedd, a bydd hefyd yn cynyddu'r posibilrwydd o her gyfreithiol ynghylch natur swyddogaethau a rhwymedigaethau'r Comisiwn o dan y datganiad; gellir manteisio ar unrhyw wahaniaethau yn y disgrifiad i danseilio neu herio penderfyniadau'r Comisiwn.
At hynny, mewn rhai rhannau o'r datganiad rhoddir enghreifftiau i ddangos pwynt cyffredinol ond mae dyletswydd y Comisiwn yn ymestyn i'w holl weithgareddau. Er enghraifft, mae paragraff 18 yn cyfeirio at ymatebolrwydd i'r cyhoedd a budd y cyhoedd sy'n ganolog i bob rhan o'r cynlluniau presennol y cytunwyd arnynt, ond mae'r unig enghraifft a roddir yn y datganiad yn cyfeirio at gymorth i Swyddogion Canlyniadau. Yn yr un modd, mae paragraff 19 yn cyfeirio at werth am arian sydd hefyd yn elfen graidd o ddyletswyddau cyfreithiol a chynlluniau presennol y Comisiwn, ond mae'r unig enghraifft a roddir yn y datganiad yn ymwneud â defnyddio pwerau o dan adran 10 PPERA. Nid yw'n glir pam y tynnwyd sylw at yr enghreifftiau unigol hyn o gofio bod y Comisiwn yn ceisio gweithio mewn ffordd gyson ym mhob un o'i swyddogaethau yn y meysydd hyn a rhai eraill.
Summary: Restatement of the Commission’s existing functions and duties
Dylid diwygio'r datganiad polisi a strategaeth i adlewyrchu geiriad cyfrifoldebau'r Comisiwn yn gywir, fel y'u deddfwyd gan Senedd y DU, er mwyn osgoi achosi dryswch diangen i randdeiliaid a'r risg o her gyfreithiol.
Rôl y Comisiwn ledled y Deyrnas Unedig
Rôl y Comisiwn ledled y Deyrnas Unedig
Mae'r datganiad drafft yn cyfeirio at gyfrifoldebau'r Comisiwn ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ar ei ffurf bresennol, byddai'n ofynnol i'r Comisiwn ystyried “the importance of acting for all parts of the UK equally” (paragraff 23).
Mae cynlluniau corfforaethol cymeradwy a chyhoeddedig y Comisiwn yn nodi'n glir sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau statudol a'i flaenoriaethau ym mhob rhan o'r DU, a ledled y DU gyfan. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldebau a gyflawnir yn y gwledydd datganoledig gydag atebolrwydd i Senedd y DU, yn ogystal â'r gweithgareddau hynny y mae'r seneddau datganoledig yn ariannu'r Comisiwn i'w cyflawni ac y mae'r Comisiwn yn uniongyrchol atebol i'r seneddau datganoledig amdanynt. Mae'n aneglur beth fyddai gweithredu'n gyfartal ar gyfer pob rhan o'r DU yn ei olygu yn ymarferol, sut mae hyn yn cysylltu â'r cyfrifoldebau mewn rhannau eraill o'r DU ac i ddeddfwrfeydd eraill, sut y gellid asesu hyn a beth y bwriedir ei gyflawni yn benodol. Mae rhaglen waith y Comisiwn yn amrywio yn dibynnu ar y digwyddiadau pleidleisio arfaethedig a'r digwyddiadau pleidleisio annisgwyl a gynhelir, yn ogystal ag anghenion rhanddeiliaid a blaenoriaethau'r llywodraethau perthnasol.
Hefyd, tra bod gwaith ar ddigwyddiadau pleidleisio penodol a blaenoriaethau polisi llywodraethol yn cael ei ariannu gan y seneddau perthnasol, caiff rhai agweddau trawsbynciol ar waith y Comisiwn eu hariannu gan y tair senedd, ar sail fformiwla y cytunwyd arni ar y cyd. Mae hyn, felly, yn creu risg bod canllawiau Llywodraeth y DU drwy'r datganiad hwn yn effeithio ar waith a wneir ar ran y deddfwrfeydd eraill y mae'r Comisiwn yn atebol iddynt. Ar hyn o bryd, nid yw'r datganiad drafft yn cydnabod y cymhlethdod hwn.
Summary: The Commission’s role across the United Kingdom
Dylid diwygio'r datganiad polisi a strategaeth i sicrhau bod diben a bwriad y gofynion sy'n ymwneud â phob rhan o'r DU yn glir i Senedd y DU, deddfwrfeydd datganoledig, a'r Comisiwn.
Egwyddorion amhleidioldeb a didueddrwydd
Egwyddorion amhleidioldeb a didueddrwydd
Mae'r datganiad drafft yn cynnwys esboniad o farn Llywodraeth y DU ar yr egwyddorion craidd y dylai'r Comisiwn roi blaenoriaeth iddynt wrth gyflawni ei swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys canllawiau y dylai'r Comisiwn “uphold and demonstrate the principle of political impartiality by ensuring that the Commission and its staff communicate and treat all operations, decisions, regulated entities and political matters neutrally and impartially” (paragraff 16).
Mae cynlluniau corfforaethol cymeradwy presennol y Comisiwn yn nodi'n glir ei farn a'i ddealltwriaeth o bwysigrwydd gweithio gydag uniondeb ac mewn ffordd ddiduedd, gan gynnwys gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth, a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny. Fel corff arbenigol, rydym yn seilio ein safbwyntiau polisi a'n hargymhellion ar waith dadansoddi annibynnol a diduedd.
Mae'n aneglur beth arall y disgwylir i'r Comisiwn ei wneud er mwyn gweithio mewn ffordd ‘amhleidiol’ yn ogystal â ‘diduedd’. Mae'n aneglur hefyd sut y gellid ystyried bod ‘amhleidioldeb’ yn gyson â swyddogaethau'r Comisiwn, gan gynnwys, er enghraifft, ei rôl yn cynghori llywodraethau a seneddau ar newidiadau i wella'r broses ddemocrataidd.
The principles of neutrality and impartiality
Dylid diwygio'r datganiad polisi a strategaeth er mwyn sicrhau bod y geiriad ar amhleidioldeb yn gyson â rôl gyfreithiol bresennol y Comisiwn.
Gorfodi
Gorfodi
Mae'r datganiad drafft yn cynnwys sawl cyfeiriad at orfodi cymesur gan gynnwys:
- “the need to avoid disproportionate sanctions against genuine mistakes where reasonable steps have been taken to comply with the new digital imprint regime” (paragraff 14)
- “the need for the Commission to balance the impact of its enforcement policy on providing an effective deterrent for deliberate breaches of electoral law and not unduly discouraging participation in public life” (paragraff 20a)
- “The Commission should be sensitive and proportionate to the voluntary nature of much of political parties’ infrastructure” (paragraff 20a)
- “best practice from other regulators (such as the ‘Macrory principles’), including where appropriate the use of requests for improvements before resorting to fines and the need to conduct investigations in a timely manner” (paragraff 20b)
Yn ôl y gyfraith, mae eisoes yn ofynnol i'r Comisiwn baratoi a chyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio ei bwerau i ymchwilio i droseddau ac achosion posibl o dorri PPERA a chyflwyno cosbau. Mae'r Comisiwn wedi ymgynghori ar y canllawiau hyn a'u cyhoeddi yn ei Bolisi Gorfodi. Mae'r polisi hwn yn nodi, yn glir ac yn gyhoeddus, ddull gorfodi'r Comisiwn, sydd eisoes yn ymdrin â chymesuredd ac atal, gan gynnwys y bydd y Comisiwn yn:
- Rheoleiddio mewn ffordd sy'n effeithiol, yn gymesur ac yn deg.
- Defnyddio cyngor a chanllawiau mewn ffordd ragweithiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a bod y rhai y mae'n eu rheoleiddio yn deall eu gofynion rheoliadol yn glir.
- Ymgymryd â gwaith goruchwylio er mwyn sicrhau bod sefydliadau ac unigolion a reoleiddir yn bodloni eu gofynion cyfreithiol.
- Cymryd camau gorfodi, gan gynnwys defnyddio pwerau ymchwilio a chosbau, pan fydd yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn cyflawni ei nodau a'i amcanion gorfodi.
- Ystyried ffeithiau pob sefyllfa.
Gall cynnwys canllawiau penodol ar sut y dylai'r Comisiwn sicrhau ei fod yn gorfodi'r gyfraith mewn ffordd gymesur, a'r ffactorau y dylai eu hystyried wrth ymchwilio i droseddau posibl, beryglu dyletswydd y Comisiwn i wneud penderfyniadau ar gamau gorfodi yn unol â'i bolisi gorfodi.
Hefyd, mae eisoes yn bosibl i unrhyw un herio penderfyniad gorfodi os nad ydynt yn fodlon bod y Comisiwn wedi gweithio mewn ffordd gymesur neu'n gyson â'r polisi statudol cyhoeddedig hwn. Drwy gynnwys ffactorau penodol yn y datganiad, gallai fod risg uwch o her gyfreithiol i benderfyniadau gweithredol ynghylch ymchwiliadau a gorfodi. Gellid ystyried bod set arall o safonau yn cael ei sefydlu a all danseilio polisi gorfodi statudol y Comisiwn. Gall hyn hefyd greu ansicrwydd cyfreithiol ynghylch cymhwyso gofynion rheoliadol i'r gymuned a reoleiddir ac effeithio ar hyder pleidleiswyr yn y system etholiadol.
Enforcement summary
Dylid diwygio'r datganiad polisi a strategaeth er mwyn hepgor pwyntiau canllaw ar weithredu cyfrifoldebau gorfodi'r Comisiwn, sy'n bygwth tanseilio ei bolisi gorfodi statudol cymeradwy.
Canllawiau
Canllawiau
Mae'r datganiad drafft yn cynnwys sawl cyfeiriad at ganllawiau a safonau perfformiad a gaiff eu datblygu a'u cyhoeddi gan y Comisiwn er mwyn helpu ymgyrchwyr, Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gydymffurfio â'r gyfraith:
- “In particular, the Commission should support Returning Officers in ensuring the secrecy of the ballot inside polling stations, by making it clear in both advice and guidance that any breach of the secrecy laws or attempt to influence someone’s vote while in the polling booth is an offence.” (paragraff 5a)
- “In particular, with regards to guidance on qualifying expenses in Part 1 of Schedule 8A of PPERA, the Commission should include clear and comprehensive guidance about the test of who should count as “the public at large or any section of the public”.” (paragraff 13b)
- “The Commission should also support compliance with the regime and recognise the importance of protecting free speech by individuals when producing the statutory guidance for the digital imprint regime.” (paragraff 14)
- “For example, the Commission must have regard to the importance of accurate and prompt election results through supporting Returning Officers’ conduct of counts and setting adequate performance standards for Great Britain.” (paragraff 18)
- “the Commission should provide guidance that sets out the rules as simply as possible and offers practical advice, with illustrative examples, of how to comply with the rules, as legislated by Parliament” (paragraff 24)
Mae canllawiau a gyhoeddir gan y Comisiwn yn adlewyrchu'r prosesau a'r gofynion a nodir mewn deddfwriaeth sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Senedd y DU. Mae'r Comisiwn yn nodi lle y caiff gofynion statudol neu droseddau eu hamlinellu mewn deddfwriaeth, ac yn nodi'n glir os yw'n awgrymu arferion gorau sy'n rhagori ar unrhyw ofynion sylfaenol a nodir mewn deddfwriaeth.
Mae'r pwyntiau ymarfer hyn a nodir yn y datganiad eisoes wedi'u cynnwys yng nghynlluniau corfforaethol cytûn a chanllawiau presennol y Comisiwn. Mae'r Comisiwn yn adolygu ac yn diweddaru ei gyngor, ei ganllawiau a'i safonau perfformiad yn gyson, gan gynnwys ymgynghori ag ymgyrchwyr neu weinyddwyr etholiadau i sicrhau ei fod yn deall ac yn diwallu eu hanghenion. Er y gall y Comisiwn roi enghreifftiau lle bo hynny'n bosibl ac yn debygol o fod yn ddefnyddiol i ymgyrchwyr neu weinyddwyr etholiadau, efallai na fydd hyn yn briodol nac yn bosibl ym mhob achos, er enghraifft, ar gyfer digwyddiadau pleidleisio annisgwyl neu mewn perthynas â dulliau ymgyrchu newydd.
Summary: Guidance
Dylid diwygio'r datganiad polisi a strategaeth i hepgor pwyntiau'n ymwneud â chynnwys neu fformat canllawiau neu safonau perfformiad y Comisiwn.
Cyfrifoldebau sefydliadau eraill
Cyfrifoldebau sefydliadau eraill
Mae'r datganiad drafft yn cynnwys sawl cyfeiriad at sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldebau statudol am gynnal etholiadau neu orfodi'r gyfraith, er enghraifft:
- “The Commission should support this work and candidates facing intimidatory or abusive behaviour by updating guidance in the ‘Joint Guidance on Intimidation for Candidates’ jointly produced with the National Police Chiefs Council, Crown Prosecution Service and the College of Policing.” (paragraff 11)
- “Where decisions are taken by the prosecuting bodies not to take forward prosecutions, and where the Commission is aware of a decision not to prosecute and it is appropriate to do so, the Commission should ensure the record is clear that individuals or organisations do not remain under criminal investigation.” (paragraff 21)
Byddai'n ofynnol i'r Comisiwn ddangos sut y mae wedi rhoi sylw i'r datganiad, ond ni fydd ganddo bwerau i roi cyfarwyddyd i sefydliadau eraill er mwyn sicrhau eu bod hwythau hefyd yn dilyn y pwyntiau canllaw penodol hyn. Er enghraifft, ni all y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Coleg Plismona ddiweddaru eu canllawiau, ond eto i gyd byddai'n atebol drwy'r datganiad polisi a strategaeth am sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru. Mewn meysydd lle mae eisoes yn gweithio i gefnogi'r heddlu, bydd y Comisiwn yn parhau i wneud hynny ond gan na all geisio llywio blaenoriaethau'r heddlu, nid yw'n glir beth arall y mae'r datganiad yn disgwyl iddo ei wneud.
Yn yr un modd, nid yw'n ofynnol i'r heddlu nac awdurdodau erlyn hysbysu'r Comisiwn os ydynt wedi penderfynu peidio ag erlyn. Hyd yn oed pe byddai hynny'n arfer cyffredin, ni fyddai'n briodol i'r Comisiwn weithredu fel llefarydd ar ran awdurdod gorfodi neu erlyn arall drwy gyfathrebu eu penderfyniadau.
Other organisations summary
Dylid diwygio'r datganiad polisi a strategaeth i sicrhau nad yw'r Comisiwn yn cael cyfrifoldeb amhriodol dros gamau gweithredu neu benderfyniadau cyrff eraill. Dylai Llywodraeth y DU sicrhau hefyd bod unrhyw gyrff eraill y cyfeirir atynt yn y datganiad polisi a strategaeth yn fodlon bod eu rolau a'u pwerau yn cael eu cynrychioli'n gywir.