Ymateb y Comisiwn Etholiadol i'r ddogfen ymgynghori 'Creu Senedd i Gymru'
Cyflwyniad
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'r Comisiwn yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch;
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau;
- defnyddio ei arbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
Mae'r ymateb hwn yn nodi barn y Comisiwn Etholiadol am ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad yn dilyn argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a diwygiadau eraill i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad er mwyn creu deddfwrfa fwy hygyrch ac effeithiol.
Ym mis Ebrill 2017 a mis Mai 2017 gwnaethom ymateb i gwestiynau'r Panel Arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, ac mae ein hymateb yma yn adeiladu ar hyn.
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn yng nghyd-destun agenda diwygio etholiadol ehangach yng Nghymru, gyda newidiadau hefyd wedi cael eu cynnig yn ddiweddar i etholiadau llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru. Disgwyliwn y bydd Comisiwn y Cynulliad yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddiwygiadau i drefniadau etholiadol y Cynulliad eu gwneud ar wahân, ond eu bod yn ystyried y cyd-destun ehangach hwn.
Ers y llynedd rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu ei syniadau am ddiwygio etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac roeddem yn falch o ymateb i'r Ymgynghoriad - Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru a gynhaliwyd yn 2017 ar y pwnc hwn.
Gwnaethom gyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad hwn ar 9 Hydref 2017. Rydym wedi dangos ein parodrwydd i gyfrannu'n llawn at yr agenda moderneiddio a diwygio yng Nghymru a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar y gwaith pwysig hwn.
Hoffem hefyd weithio yn yr un ffordd gyda Chomisiwn y Cynulliad wrth iddo ddatblygu ei syniadau yntau am drefniadau etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ein ffocws yw sicrhau bod digon o adnoddau ar gael ar gyfer unrhyw newidiadau a wneir i addasu a diwygio trefniadau etholiadol er mwyn sicrhau y gellir eu gweithredu er budd gorau pleidleiswyr.
Rydym yn parhau i argymell y dylai pob deddfwriaeth fod yn ei lle o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y daw'n ofynnol ei rhoi ar waith neu y daw'n ofynnol i ymgyrchwyr, Swyddogion Canlyniadau neu Swyddogion Cofrestru Etholiadol gydymffurfio â hi.
Mae rhai agweddau ar yr ymgynghoriad hwn sydd y tu hwnt i gylch gwaith y Comisiwn Etholiadol ac, os felly, nid ydym wedi gwneud sylwadau wrth ymateb.
Ceir meysydd eraill hefyd nad aethpwyd i'r afael â nhw yn yr ymgynghoriad hwn yr hoffem i Gomisiwn y Cynulliad eu hystyried fel rhan o'i broses o ddiwygio etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym wedi nodi'r rhain mewn atodiad i'n hymateb.
Faint o Aelodau sydd eu hangen ar y Cynulliad?
Cwestiwn 1: Mae'r Panel Arbenigol wedi dod i'r casgliad bod angen rhwng 80 a 90 Aelod ar y Cynulliad i gyflawni ei rôl yn effeithiol. Ydych chi'n cytuno? Rhowch resymau am eich ateb.
Cwestiwn 2: A fyddai newid nifer yr Aelodau Cynulliad yn achosi i) costau, neu ii) manteision, i chi neu i’ch sefydliad? Os felly, beth fyddai'r costau neu'r manteision hynny?
Mae penderfynu ar nifer yr aelodau sydd ei hangen ar gyfer y Cynulliad er mwyn iddo wneud ei waith yn effeithiol yn fater cyfansoddiadol pwysig, a mater i'r Llywodraeth a'r Cynulliad, nid y Comisiwn Etholiadol, ydyw.
Sut y dylid ethol Aelodau'r Cynulliad?
Cwestiwn 3: Mae'r Panel Arbenigol wedi amlinellu tair system etholiadol bosibl a allai weithredu'n effeithiol yng Nghymru i ethol Cynulliad, sydd, fan lleiaf, yn cynnwys 80 Aelod. Pa un o'r systemau hyn fyddai fwyaf priodol ar gyfer ethol Aelodau'r Cynulliad a pham?
Mae penderfynu pa system bleidleisio y dylid ei defnyddio ar gyfer etholiadau gwahanol yn fater cyfansoddiadol pwysig, a mater i Lywodraethau a Seneddau, nid y Comisiwn Etholiadol, ydyw.
Ein rôl ni yw sicrhau bod pleidleiswyr yn deall y system etholiadol a ddefnyddir fel eu bod yn gallu bwrw eu pleidlais yn y ffordd a fwriadwyd a bod gwaith cynllunio gweinyddol priodol yn cael ei wneud gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol.
Ym mis Hydref gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sef "Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol", ar faterion yn ymwneud â chyflwyno gwahanol systemau etholiadol mewn etholiadau llywodraeth leol.
Fel y nodwyd yn ein hymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, gallai effaith system etholiadol newydd ar etholwyr yng Nghymru fod yn sylweddol a gallai arwain at risg wirioneddol o ddryswch ymysg pleidleiswyr, yn enwedig mewn perthynas â deall sut i fwrw eu pleidlais. Os caiff y system ei newid, rhaid cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd effeithiol cyn etholiad y Cynulliad.
Dylai Comisiwn y Cynulliad hefyd ystyried sut y bydd Swyddogion Canlyniadau a'u staff yn gallu cynllunio'n effeithiol ar gyfer unrhyw newid etholiadol a darparu adnoddau ar ei gyfer.
Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i weithio gyda'r gymuned etholiadol yng Nghymru wrth weithredu unrhyw system etholiadol newydd er mwyn sicrhau yr eir ati i drefnu a rheoli etholiadau yng Nghymru mewn ffordd gyson drwy Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Y Bwrdd hwn ddylai fod yn gyfrifol am gynllunio a rheoli newid etholiadol mawr ledled Cymru yn effeithiol. Argymhellwn unwaith eto y dylai pob deddfwriaeth fod yn ei lle o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y daw'n ofynnol ei rhoi ar waith neu y daw'n ofynnol i ymgyrchwyr, Swyddogion Canlyniadau neu Swyddogion Cofrestru Etholiadol gydymffurfio â hi.
Yn ogystal â hyn, byddai angen i'r Comisiwn ystyried sut mae'n cefnogi'r etholiad a'r adnoddau y byddai eu hangen arnom er mwyn gwneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n debygol y byddai gweithgarwch yn cynnwys:
- Rhoi cyngor ac arweiniad i Swyddogion Canlyniadau a'u staff
- Rhoi cyngor a hyfforddiant i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid
- Trefnu ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd genedlaethol cyn etholiad gan sicrhau bod adnoddau priodol ar gael.
Cwestiwn 4: Ydych chi'n cytuno ag argymhelliad y Panel Arbenigol y dylid, wrth newid y system etholiadol, fanteisio ar y cyfle i roi anogaeth i ethol Cynulliad sy'n adlewyrchu'n well natur amrywiol cymdeithas yng Nghymru?
Cwestiwn 5: Os ydych chi'n cytuno â chwestiwn 4, ydych chi'n credu y dylid gwneud hyn trwy gyfrwng deddfwriaeth, fel cwotâu rhywedd ffurfiol, neu drwy gyfrwng dulliau llai ffurfiol, fel mesurau gwirfoddol gan bleidiau gwleidyddol? Rhowch resymau am eich ateb.
Os gwneir unrhyw newidiadau er mwyn annog Cynulliad sy'n adlewyrchu'n well natur amrywiol cymdeithas yng Nghymru, byddai'r Comisiwn am helpu a chefnogi Swyddogion Canlyniadau wrth gyflwyno'r fath drefniadau, a byddai am roi arweiniad iddynt er mwyn eu cynorthwyo.
Cwestiwn 6: Ydych chi’n cytuno y dylai pobl fod yn gallu sefyll i gael eu hethol i'r Cynulliad ar sail rhannu swydd?
Cwestiwn 7: Beth, os o gwbl, fyddai'r manteision neu'r risgiau a fyddai'n deillio o ganiatáu i bobl sefyll etholiad ar sail trefniadau rhannu swydd, yn eich barn chi?
Gan nad yw deddfwriaeth gyfredol yn caniatáu i ddau neu fwy o ymgeiswyr gael eu cyflwyno ar gyfer un sedd, byddai angen i'r Cynulliad gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol er mwyn caniatáu i ymgeiswyr rhannu swydd sefyll a chael eu hethol mewn unrhyw etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol.
Petai'r gyfraith yn cael ei diwygio er mwyn caniatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholiad ar sail rhannu swydd, byddai angen i'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â'r ffurf ar bapurau enwebu a'r papur pleidleisio gael ei diwygio, a byddai hefyd angen mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion technegol. Byddai hyn, er enghraifft, yn cynnwys beth fyddai'n digwydd petai un aelod etholedig mewn partneriaeth rhannu swydd yn penderfynu sefyll i lawr
Cwestiwn 8: Pe byddai'r Cynulliad yn mabwysiadu naill ai'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu'r system Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Hyblyg, a ddylai Aelodau'r Cynulliad gael eu hethol ar sail:
-
20 etholaeth sy'n seiliedig ar baru 40 etholaeth bresennol y Cynulliad
-
17 etholaeth sy'n seiliedig ar y 22 ardal awdurdodau lleol presennol
Fel y nodwyd gennym yn flaenorol yn yr ymateb hwn (C3) ac yn ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sef "Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol", mae penderfynu pa system bleidleisio y dylid ei defnyddio ar gyfer etholiadau gwahanol a'r sail ar gyfer ethol Aelodau'r Cynulliad yn faterion cyfansoddiadol pwysig, ac yn faterion i Lywodraethau a Seneddau.
Cwestiwn 9: A fyddai newid system etholiadol y Cynulliad yn achosi i) costau neu ii) fanteision i chi neu i'ch sefydliad? Os felly, beth fyddai'r costau neu'r manteision hynny?
Cyn unrhyw etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddai'r Comisiwn yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog pobl Cymru i gofrestru i bleidleisio.
Petai'r system etholiadol i ethol Aelodau'r Cynulliad yn newid, yna byddai angen trefnu ymgyrch ar wahân a fyddai'n egluro hyn i bleidleiswyr, ynghyd â sut y gallant bleidleisio yn yr etholiad. Byddai angen arian ychwanegol er mwyn gwneud hyn.
Gan adeiladu ar ein profiad o gynnal ymgyrch debyg yn yr Alban, lle rhoddwyd gwybod i bleidleiswyr am STV, mae'n debygol y byddai'r ymgyrch hon yn cynnwys dosbarthu llyfryn gwybodaeth i bob cartref yng Nghymru am y system etholiadol, yn ogystal â hysbysebion ychwanegol. Fel rheol, mae ymgyrch cofrestru pleidleiswyr yng Nghymru yn costio tua £800,000. Mae hyn o gymharu â thua £1.1 miliwn am ymgyrch cofrestru pleidleiswyr yn yr Alban. Mae hyn yn seiliedig ar ein profiad o 2016.
Cyn yr etholiadau cyngor yn yr Alban yn 2017, cynhaliodd y Comisiwn ddwy ymgyrch – un i annog pobl i gofrestru i bleidleisio ac un i addysgu pobl am sut i bleidleisio o dan system STV. Costiodd y ddwy ymgyrch hyn tua £1.2 miliwn a ariannwyd gan Lywodraeth yr Alban.
Yn ogystal â hyn, byddai angen i'r Comisiwn ystyried sut mae'n cefnogi'r broses o weinyddu system etholiadol newydd. Er enghraifft:
- Rhoi cyngor ac arweiniad i Swyddogion Canlyniadau a'u staff
- Rhoi cyngor a hyfforddiant i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid
Pwy ddylai gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad?
Cwestiwn 10: Dylai'r un bobl gael caniatâd i bleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn etholiadau llywodraeth leol Cymru.
Cwestiwn 11: Beth fyddai'r goblygiadau pe bai gwahaniaethau rhwng y sawl a allai bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad a'r sawl a allai bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol Cymru?
Petai gwahaniaethau yn cael eu cyflwyno rhwng etholfreintiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywodraeth leol gallai hyn beri dryswch i bleidleiswyr, yn ogystal ag arwain at gryn heriau gweinyddol a gofyn am waith ychwanegol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Ym marn y Comisiwn, dylid gwneud unrhyw newidiadau i'r etholfraint yn glir chwe mis cyn y disgwylir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau unrhyw weithgarwch canfasio blynyddol a drefnir er mwyn galluogi pob un sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio i gymryd y camau angenrheidiol i gofrestru'n llwyddiannus a chymryd rhan yn yr etholiadau. Byddai angen sicrhau bod adnoddau digonol ar gael ar gyfer hyn oll.
Effaith etholfreintiau amrywiol
Cofrestr Etholiadol
Ar hyn o bryd, mae gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddyletswydd i gadw sawl cofrestr etholiadol:
- cofrestr o etholwyr seneddol
- cofrestr o etholwyr llywodraeth leol
- cofrestr o ddinasyddion perthnasol o'r Undeb Ewropeaidd sydd â'r hawl i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop;
- a chofrestr o gymheiriaid sy'n byw y tu allan i'r DU sydd wedi gwneud datganiad i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop
Petai gwahaniaeth rhwng y sawl a allai bleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r sawl a allai bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, gallai fod angen creu cofrestri ychwanegol.
Dryswch ymhlith pleidleiswyr
Gallai cyflwyno etholfreintiau gwahanol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol beri rhywfaint o ddryswch i bleidleiswyr, oherwydd gallent fod yn ansicr ynghylch pa etholiadau y gallent bleidleisio ynddynt.
Gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd
Cyn unrhyw etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r Comisiwn yn disgwyl cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog pobl Cymru i gofrestru i bleidleisio.
Petai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r etholfraint, byddai angen i'r ymgyrch hon gynnwys gweithgarwch penodol er mwyn hysbysu'r rheini oedd newydd gael etholfraint o'r newidiadau, eu bod bellach yn cael pleidleisio a sut y gallent gofrestru er mwyn eu galluogi i bleidleisio.
Cofrestru awtomatig
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried newid yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol a hefyd gyflwyno system cofrestru awtomatig ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol. Un o'r newidiadau arfaethedig i'r etholfraint yw caniatáu i wladolion nad ydynt yn perthyn i'r DU ac sy'n byw yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Felly, gan na fyddai cenedligrwydd yn faen prawf ar gyfer cofrestru ar gyfer etholiadau lleol, efallai nas nodir fel rhan o'r broses cofrestru awtomatig. Petai'r etholfraint yn wahanol i etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a bod cenedligrwydd yn pennu p'un a yw rhywun yn gymwys i bleidleisio, efallai na fydd y data hyn ar gael o'r gofrestr llywodraeth leol.
Argymhellwn y dylai'r cofrestri a'r broses gofrestru ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac etholiadau Llywodraeth Leol barhau i fod yn gydnaws. Felly, awgrymwn y dylai Comisiwn y Cynulliad weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddiwygiadau i drefniadau etholiadol y Cynulliad eu gwneud ar wahân, ond eu bod yn ystyried ei chynlluniau.
Ar ba oed y dylid cael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad?
Cwestiwn 12: Ar ba oed y dylid cael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad 16 neu 18?
Nid yw'r Comisiwn yn arddel barn ar ba oed y dylid cael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yn hytrach, mae ein hymateb yn canolbwyntio ar y goblygiadau ymarferol y byddai angen eu hystyried petai newid o'r fath yn cael ei gyflwyno.
Ym marn y Comisiwn, dylid gwneud unrhyw newidiadau i'r etholfraint yn glir chwe mis cyn y disgwylir i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau unrhyw weithgarwch canfasio blynyddol a drefnir er mwyn galluogi pob un sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio i gymryd y camau angenrheidiol i gofrestru'n llwyddiannus a chymryd rhan yn yr etholiadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar p'un a ddylid gostwng yr oedran pan geir yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i 16, ac mae wrthi'n ystyried hynny ar hyn o bryd. Awgrymwn y dylai Comisiwn y Cynulliad weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddiwygiadau i drefniadau etholiadol y Cynulliad eu gwneud ar wahân, ond eu bod yn ystyried ei chynlluniau.
Gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd
Cyn unrhyw etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r Comisiwn yn disgwyl cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog pobl Cymru i gofrestru i bleidleisio. Petai'r oedran pleidleisio yn cael ei ostwng, byddai'r Comisiwn yn cynnal gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd penodol gan dargedu pobl ifanc 16 a 17 oed a'u hysbysu eu bod yn gymwys i bleidleisio a sut y gallant gofrestru i bleidleisio. Byddai hyn yn debygol o ofyn am ddwy ymgyrch – un ynghylch y canfas cyntaf cyn gwneud unrhyw newid petai newidiadau yn cael eu cyflwyno ac un ynghylch yr etholiad ei hun.
Cafodd pobl ifanc 16 a 17 oed yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 2014, ac maent wedi cael pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac yn etholiadau Senedd yr Alban ers mis Mai 2016.
Mae'r Comisiwn wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a phartneriaid eraill, fel Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Aseswyr yr Alban, Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban, Education Scotland, School Leaders Scotland a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yr Alban, i gynnal gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd yn anelu at bobl ifanc 16 a 17 oed.
Lluniwyd pecyn briffio llythrennedd gwleidyddol gennym hefyd a oedd yn cynnig arweiniad a ffynonellau gwybodaeth i ysgolion, colegau, prifysgolion a phob sefydliad arall a oedd yn awyddus i feithrin llythrennedd gwleidyddol ymhlith pobl ifanc.
Byddem am ddatblygu'r dull gweithredu hwn yng Nghymru pe byddai'r oedran pleidleisio yn cael ei ostwng. Mae ein profiad yn yr Alban yn egluro ei bod yn bwysig ymgysylltu â phobl ifanc 16 a 17 oed a chynnal gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd penodol. Byddem yn ceisio gweithio gyda phartneriaid addysgol a chynghorau yng Nghymru er mwyn nodi cyfleoedd i gefnogi llythrennedd gwleidyddol parhaus mewn ysgolion ac annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio.
Cyrhaeddwyr
Ar hyn o bryd, caiff pobl 18 oed a throsodd yr hawl i bleidleisio. Mae hyn yn golygu y gall pobl ifanc 17 oed a rhai sy'n 16 oed gael eu cynnwys ar y gofrestr fel cyrhaeddwyr os byddant yn troi'n 18 tra bo'r gofrestr honno mewn grym.
Os caiff yr oedran pleidleisio ei ostwng i 16, bydd y gofrestr yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed fel etholwyr llawn. Hefyd, byddai pobl ifanc 15 oed a rhai sy'n 14 oed yn gallu cael eu cynnwys ar y gofrestr fel cyrhaeddwyr.
Os caiff y newid hwn ei wneud, efallai yr hoffech ystyried yr hyn sydd ar waith yn yr Alban, lle na ellir cynnwys unrhyw wybodaeth am y rheini o dan 16 oed ar unrhyw fersiwn o'r gofrestr a gaiff ei chyhoeddi neu ei rhyddhau fel arall, ac eithrio o dan amgylchiadau cyfyngedig, er enghraifft, fel rhan o ymchwiliad troseddol neu mewn perthynas â gweinyddu etholiad.
Cwestiwn 13: A fyddai gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn achosi i) costau neu ii) manteision i chi neu i’ch sefydliad? Os felly, beth fyddai'r costau neu'r manteision hynny?
Cwestiwn 14: A oes unrhyw faterion, manteision neu risgiau eraill yr hoffech i ni eu hystyried mewn perthynas â newid yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad? Rhowch resymau am eich ateb.
Fel y nodwyd yn ein hymateb i'r Panel Arbenigol ym mis Mai 2017, byddai'r costau oedd ynghlwm wrth ostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn eang. Fel canllaw, mae'r wybodaeth ganlynol yn amlinellu'r costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith ychwanegol sy'n rhan o'r broses o roi etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn yr Alban.
O'r memorandwm ariannol a gyhoeddwyd gyda Bil Etholiadau'r Alban (Gostwng oedran pleidleisio) 2015, disgwyliwyd y byddai cyfanswm y costau i Lywodraeth yr Alban rhwng £1,115,000 a £1,365,000, ar draws blynyddoedd ariannol 2015/16 a 2016/17.
Mewn gwirionedd, gwariodd y Comisiwn £55,000 ar brofion gyda defnyddwyr ac ar ddatblygu a dylunio'r ffurflenni a £124k yn cyflawni gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd cyn y refferendwm.
A ddylai pobl sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru nad ydynt yn wladolion y DU gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad?
Cwestiwn 15: I ba raddau yr ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad a ganlyn: Dylai pob un sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru, ni waeth beth yw ei genedligrwydd na’i ddinasyddiaeth, gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad.
Cwestiwn 16: A oes unrhyw faterion, risgiau neu fanteision eraill yr hoffech i ni eu hystyried mewn perthynas â newid hawliau pobl sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru, ond nad ydynt yn wladolion y DU, bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad? Rhowch resymau am eich ateb.
Nid yw'r Comisiwn yn arddel barn ar ba oed y dylid cael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yn hytrach, mae ein hymateb yn canolbwyntio ar y goblygiadau ymarferol y byddai angen eu hystyried petai newid o'r fath yn cael ei gyflwyno.
Gofyniad cenedligrwydd
Mae cenedligrwydd unigolyn yn penderfynu pa etholiadau yn y DU, os o gwbl, y caiff gofrestru i bleidleisio ynddynt. Ar hyn o bryd, os bydd ymgeisydd yn ansicr am unrhyw agwedd ar ei genedligrwydd caiff ei gynghori i gysylltu â'r Swyddfa Gartref. Hefyd, caiff Swyddogion Cofrestru Etholiadol ofyn i ymgeisydd am dystiolaeth ddogfennol yn cadarnhau ei genedligrwydd. Os bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol yn amau p'un a yw ymgeisydd neu etholwr yn byw yma'n gyfreithlon ai peidio, gall ofyn am wirio statws mewnfudo unigolyn yn erbyn cofnodion y Swyddfa Gartref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar newid yr etholfraint er mwyn caniatáu i wladolion nad ydynt yn perthyn i'r DU ac sy'n byw yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, ac mae wrthi'n ystyried hynny ar hyn o bryd. Os na chaiff yr un newidiadau eu gwneud i etholfraint y Cynulliad Cenedlaethol, bydd yn golygu bod gwahaniaeth rhwng pwy allai bleidleisio yn y ddwy set o etholiadau.
Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gadw cofrestr ychwanegol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn llunio canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn iddynt gadw'r cofrestri etholiadol. Byddai'r canllawiau hyn yn cael eu diweddaru petai unrhyw newidiadau i'r etholfraint.
Pa benderfyniad bynnag a wneir, bydd angen diweddaru'r holl wybodaeth a'r canllawiau a roddir i ymgeiswyr a'u cyfleu'n glir iddynt.
Gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd
Os byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu gweithredu ar yr awgrymiadau hyn, byddem yn disgwyl gwneud gwaith er mwyn sicrhau
ymwybyddiaeth gyhoeddus effeithiol ymysg y grwpiau hyn fel eu bod yn ymwybodol y gallant gofrestru i bleidleisio a sut i wneud hynny. Fel y nodwyd yn gynharach, byddai hyn yn gofyn am ddwy ymgyrch – un ynghylch y canfas cyntaf cyn gwneud unrhyw newid ac un ynghylch yr etholiad ei hun.
A ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad?
Cwestiwn 17: I ba raddau yr ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad a ganlyn: Dylai carcharorion a ryddhawyd ar drwydded dros dro neu dan gyrffyw lle maent yn cael eu cyfyngu i'r cartref gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad, yn unol â bwriad Llywodraeth y DU ar gyfer etholiadau'r DU.
Cwestiwn 18: A oes unrhyw faterion, risgiau neu fanteision eraill yr hoffech i ni eu hystyried mewn perthynas â newid hawliau carcharorion i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad? Rhowch resymau am eich ateb.
Nid ydym yn mynegi barn ar bu'n a ddylai carcharorion fod yn gymwys i bleidleisio ai peidio, na ph'un a ddylid cyfyngu'r etholfraint i rai carcharorion sy'n bwrw dedfryd o hyd penodol.
Os penderfynir caniatáu i garcharorion yng Nghymru bleidleisio yna byddem yn disgwyl cael ein holi ymhellach ynghylch sut y byddai hyn yn cael ei weithredu. Ymysg rhai o'r materion y byddai angen eu hystyried mae:
- y meini prawf cymhwysedd i garcharorion gofrestru, o ystyried mai preswylio yw un o'r prif feini prawf ar gyfer cofrestru. Er enghraifft, os bydd carcharorion yn cofrestru i bleidleisio yng nghyfeiriad y carchar, yna byddai hyn yn golygu y byddai carcharorion sydd wedi'u cofrestru yn cael effaith anghymesur ar yr etholaeth yn y ward y lleolir y carchar. O ystyried mai dim ond o ganlyniad i'w dedfryd y mae carcharorion yn bresennol yng nghyfeiriad y carchar, opsiwn arall fyddai i garcharorion gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad blaenorol neu gyfeiriad bwriadedig.
- sut yr effeithid ar bleidleiswyr o Gymru sydd wedi'u carcharu mewn carchardai yn Lloegr.
- y dull y byddai carcharorion yn bwrw eu pleidlais. Byddai'n anodd iawn trefnu gorsafoedd pleidleisio mewn carchardai yn logistaidd, er enghraifft sicrhau bod pob carcharor yn gallu cael y papur pleidleisio cywir ar gyfer ei gyfeiriad cofrestredig. Gall fod yn haws cyfyngu carcharorion i system bleidleisio absennol.
- yr hawl i bob carcharor bleidleisio'n gyfrinachol ni waeth sut maent yn bwrw eu pleidlais.
- yr hawl i bleidleisio drwy ddirprwy heb fod angen ardystio eu cais (fel sy'n wir ar gyfer pleidleiswyr tramor a phleidleiswyr sy'n aelodau o'r lluoedd arfog). Gan eu bod yn y carchar, mae gan y pleidleiswyr reswm digonol dros beidio â gallu mynd i'w gorsaf bleidleisio.
- rhaglen ymwybyddiaeth i dynnu sylw at y broses er mwyn galluogi carcharorion i gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidlais.
- sut y gallai carcharorion gael gwybodaeth am bolisïau ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr eraill.
Pwy ddylai fod yn gymwys i fod yn Aelod Cynulliad?
Cwestiwn 19: A ddylai deddfwriaeth i ddiwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad gynnwys darpariaeth i weithredu argymhellion Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad mewn perthynas ag anghymhwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad?
A oes unrhyw newidiadau eraill y dylid eu gwneud i'r trefniadau anghymhwyso?
Yn ein hadroddiad Standing for Election, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, rydym yn argymell y dylid newid y gyfraith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn gwhaniaethu'n amlwg rhwng swyddfeydd neu gyflogaeth a fyddai'n atal rhywun rhag sefyll etholiad, a'r rhai a fyddai'n atal rhywun rhag dal swydd pe byddai'n cael ei ethol.
Yn yr adroddiad hwn, gwnaethom nodi fframwaith o gwestiynau a all fod yn ddefnyddiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfeirio ato os bydd yn penderfynu adolygu ei rheolau ei hun ar anghymhwyso (er mai mater i'r Cynulliad fyddai penderfynu sut i gymhwyso'r rhain wrth adolygu'r gyfraith). Y rhain yw:
- Yn gyntaf, a oes gwrthdaro buddiannau gwirioneddol rhwng y swydd benodedig a'r swydd etholedig? Os felly, byddai'n rhaid i ddeiliad y swydd ymddiswyddo cyn dechrau swydd etholedig.
- Yn ail, a oes angen i ddeiliad y swydd fod wedi ymddiswyddo a gweithio ei gyfnod o rybudd drwy enwebiad neu etholiad, er enghraifft:
- A yw rôl deiliad y swydd yn gofyn am fod yn ddiduedd yn wleidyddol yn ystod yr ymgyrch etholiadol?
- A oes gan ddeiliad y swydd fynediad i wybodaeth freintiedig a fyddai'n rhoi mantais iddo dros ymgeiswyr eraill?
- A allai deiliad y swydd gael gormod o ddylanwad dros etholwyr drwy rinwedd ei rôl?
- A yw deiliad y swydd ynghlwm wrth weinyddu'r etholiad?
Byddai lleihau'r cyfyngiadau ar ddarpar ymgeiswyr hefyd yn cynyddu'r dewis i bleidleiswyr.
A ddylid symleiddio'r gyfraith sy'n ymwneud â gweinyddu etholiadau?
Cwestiwn 20: A ddylai deddfwriaeth i ddiwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad gynnwys darpariaeth i weithredu'r canlynol? Rhowch resymau am eich ateb.
Cwestiwn 20 (i): Argymhellion y Comisiwn Etholiadol y dylai costau sy'n ymwneud â chyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, ac fel arall, beidio â chyfrif tuag at y terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad, fel yn achos ymgyrchwyr nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid?
Yn ein hadroddiad ar etholiadau 2016 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gwnaethom argymell y canlynol:
Dylai Llywodraethau sydd â chymhwysedd deddfwriaethol dros etholiadau yn y DU ddiwygio'r diffiniadau o wariant ymgeiswyr neu bleidiau gwleidyddol fel bod treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i anabledd unigol yn cael eu heithrio (fel y nodwyd yn ddiweddar yn rheolau diwygiedig PPERA ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau).
Gan fod rheolau PPERA ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau bellach yn eithrio'r costau sy'n gysylltiedig â chyfieithu o'r Gymraeg i Saesneg ac fel arall, argymhellwn y dylai'r Llywodraeth berthnasol gyflwyno darpariaethau cyfreithiol cyfatebol i'r rheolau etholiadau sy'n ymwneud â gwariant gan ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol
Mae'r Comisiwn yn dal i gefnogi'r farn y dylai costau sy'n ymwneud â chyfieithu deunydd ymgyrchu o'r Gymraeg i'r Saesneg, ac fel arall, gael eu heithrio o derfynau gwariant pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr mewn etholiadau, gan gynnwys y rheini i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chroesawn y cynnig fel y'i hamlinellir yn yr ymgynghoriad hwn. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae'r eithriad hwn eisoes yn bodoli ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, a thrwy eithrio'r costau hyn o derfynau gwariant pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr byddai'n sicrhau bod pob rhwystr yn cael ei ddileu rhag sicrhau bod ymgyrchu yn ystod etholiadau'r Cynulliad yn cynnwys pob un o ieithoedd swyddogol Cymru.
Efallai yr hoffai Comisiwn y Cynulliad ystyried beth yw'r costau hyn - ai costau cyfieithu yn unig ydynt neu a ydynt yn cynnwys meysydd eraill o ddeunydd ymgyrchu y mae cynnwys dwy iaith yn effeithio arnynt, er enghraifft, costau dylunio neu argraffu ychwanegol o ganlyniad i ddarparu deunydd dwyieithog.
Wrth ystyried y drafftio, efallai yr hoffai Comisiwn y Cynulliad hefyd ystyried defnyddio geiriad o'r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, a ddefnyddiwyd mewn tri etholiad yng Nghymru: Mae'r geiriad hwn yn eithrio “expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from English into Welsh or from Welsh into English”. (Atodlen 8A i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000).
Efallai yr hoffai Comisiwn y Cynulliad hefyd ystyried p'un a ddylai costau sydd ynghlwm wrth ddarparu deunydd dwyieithog gael eu heithrio o'r terfynau gwariant a'r gofynion adrodd, neu p'un a ddylid parhau i gynnwys gofyniad adrodd ar gyfer costau o'r fath. Bydd hyn yn dibynnu'n rhannol ar amcanion polisi a nodau cyffredinol creu eithriad. Byddai cadw gofyniad i adrodd ar unrhyw gostau sydd ynghlwm wrth gyfieithu yn sicrhau tryloywder ynghylch lefelau gwariant ar gostau o'r fath. Byddai'n galluogi monitro lefelau gwariant a gwelededd parhaus yr hyn mae ymgyrchwyr yn i wario ar ddarparu deunydd dwyieithog. Cymerir y fath gamau ar gyfer eitemau sydd wedi'u heithrio o derfynau gwariant etholiadol, fel treuliau personol ymgeiswyr.
I'r gwrthwyneb, efallai y byddai'n well gan Gomisiwn y Cynulliad gymryd camau lle rhoddir y gorau i reoleiddio neu gofnodi costau mewn unrhyw ffordd, drwy fod wedi'u heithrio o derfynau gwariant a gofynion adrodd. Gwneir hyn mewn cyfraith etholiadol ar gyfer nifer o eithriadau ac esemptiadau.
Sefydlodd y Comisiwn y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg yn dilyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau o bob cwr o Gymru. Gallai'r grŵp hwn fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol drwy gynnig cyfle i drafod syniadau a chynigion ynghylch y Gymraeg a'i defnydd mewn etholiadau.
Byddai'r Comisiwn Etholiadol yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad ac ystyried goblygiadau ymarferol yr eithriad, fel ei fod ar waith erbyn etholiad nesaf y Cynulliad y disgwylir ei gynnal yn 2021.
Cwestiwn 20 (ii): Argymhellion y Comisiwn Etholiadol y dylai costau sy'n ymwneud ag anabledd unigolyn beidio â chyfrif tuag at y terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad, fel yn achos ymgyrchwyr nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid.
Fel yr uchod, rydym yn falch bod y Cynulliad yn ystyried gweithredu ein hargymhelliad i ddiwygio'r diffiniadau o wariant pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr, fel y caiff treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i anabledd unigolyn eu heithrio, a byddem yn croesawu'r cyfle i gael trafodaethau pellach â swyddogion y Cynulliad ynghylch goblygiadau ymarferol yr argymhelliad hwn.
Ymgeiswyr
Mae costau y gellir eu priodoli'n rhesymol i anabledd ymgeisydd eisoes wedi'u heithrio'n benodol o derfyn gwariant ymgeiswyr yn etholiadau Senedd yr Alban, ac etholiadau cyngor yn yr Alban. Mae deddfwriaeth y ddau etholiad hyn wedi'u drafftio mewn ffyrdd gwahanol, ac efallai yr hoffai Comisiwn y Cynulliad ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd am oblygiadau ymarferol pob dull o ddrafftio wrth ystyried y geiriad deddfwriaethol yr hoffai ei fabwysiadu. Dylai Comisiwn y Cynulliad hefyd ystyried y goblygiadau i ymgeiswyr rhestrau rhanbarthol os bydd treuliau y gellir eu priodoli'n
rhesymol i anabledd ymgeisydd wedi'u heithrio o derfyn gwariant ymgeiswyr etholaethol ac ymgeiswyr rhestrau rhanbarthol annibynnol. Gellid cyflawni'r nod hwn drwy hefyd eithrio'r treuliau hyn o derfyn gwariant pleidiau gwleidyddol, gan fod ymgeiswyr rhestrau rhanbarthol yn destun rheolau gwario pleidiau gwleidyddol.
Pleidiau gwleidyddol
Mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli'r cyfrifoldeb am wariant pleidiau gwleidyddol ac felly yn rhoi'r cyfle i Gomisiwn y Cynulliad gysoni'r rheolau ar gyfer pob math o ymgeisydd yn etholiadau'r Cynulliad, yn ogystal ag eithrio treuliau sy'n gysylltiedig ag anabledd o derfyn gwariant pleidiau gwleidyddol.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw etholiadau yn y DU lle mae treuliau sy'n gysylltiedig ag anabledd wedi'u heithrio o derfyn gwariant pleidiau gwleidyddol. Wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth, efallai yr hoffai Comisiwn y Cynulliad ddefnyddio gwersi o eithrio treuliau sy'n gysylltiedig ag anabledd ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau. Mae'r geiriad hwn yn cwmpasu'r costau sy'n gysylltiedig ag anabledd ymgeisydd, a hefyd y sawl a gaiff ddeunydd ymgyrchu, felly mae'r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at dreuliau y gellir eu priodoli'n rhesymol i anabledd "unigolyn", yn wahanol i'r ddeddfwriaeth ar gyfer ymgeiswyr sy'n cyfeirio at anabledd "ymgeisydd".
Ystyriaethau
Dylai Comisiwn y Cynulliad ystyried y canlynol wrth benderfynu ar ddrafft terfynol y ddeddfwriaeth:
- Y lefel o dryloywder y dylid ei chynnig i bleidleiswyr o ran yr arian a gaiff ei wario gan ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol, yn erbyn y lefel o breifatrwydd y dylid ei sicrhau o ran treuliau sy'n gysylltiedig ag anabledd ymgeisydd. Mae'r rheolau tryloywder yn helpu i leihau'r risg o dorri'r rheolau gwario, ond mae lefelau priodol o breifatrwydd personol hefyd yn ystyriaeth bwysig.
- P'un a ddylid defnyddio geiriad sydd eisoes wedi'i brofi (er enghraifft y geiriad a ddefnyddir mewn deddfwriaeth ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau Senedd yr Alban1 ac etholiadau llywodraeth leol2 , neu'r eithriad ar gyfer Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau3 ), neu p'un a ddylid creu geiriad newydd ar gyfer eithriad,
- Sut y dylai 'anabledd' a 'threuliau rhesymol' gael eu diffinio mewn deddfwriaeth.
- P'un a ddylai'r eithriad fod yn benodol gymwys i gostau rhesymol sy'n gysylltiedig ag anabledd ymgyrchydd neu bleidleisiwr, neu p'un a fyddai'n well drafftio eithriadau ar wahân yn ymwneud â chostau yr eir iddynt o ganlyniad i anabledd ymgeisydd, ac â'r costau yr eir iddynt wrth lunio deunyddiau ymgyrchu neu wrth sicrhau bod digwyddiadau yn hygyrch i bleidleiswyr. Er enghraifft, petai'r rheolau gwario yn cynnwys eithriad penodol a gofyniad adrodd ar gyfer costau darparu ymgyrchoedd hygyrch i bleidleiswyr, gallai annog ymgyrchwyr i ddarparu taflenni ymgyrchu neu ddigwyddiadau hygyrch ac ati.
Cronfeydd Mynediad i Swydd Etholedig a mesurau eraill i hyrwyddo mwy o gyfranogiad democrataidd gan bobl anabl
Er bod creu eithriadau cyfreithiol yn y gyfraith ar gyfer costau sy'n ymwneud ag anabledd yn gam pwysig wrth annog mwy o gyfranogiad democrataidd gan bobl anabl, dylai Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru ystyried mesurau ychwanegol er mwyn hyrwyddo mwy o gyfranogiad democrataidd gan bobl anabl.
Er enghraifft, cafodd "Cronfeydd Mynediad i Swydd Etholedig" eu sefydlu gan Lywodraeth y DU yn 2013 a Llywodraeth yr Alban yn 2016, a phenodwyd cyrff annibynnol i ddyrannu cyllid i nifer o ddarpar ymgeiswyr. Bwriadwyd i'r Cronfeydd dalu costau ychwanegol yn ymwneud â cheisio swydd etholedig ac yn deillio o anabledd darpar ymgeisydd. Ynghyd a'r Cronfeydd cafwyd mentrau eraill er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl anabl ymwneud â gwleidyddiaeth.
Wrth ystyried sefydlu Cronfa o'r fath yng Nghymru, byddai angen ystyried sut y byddai cymorth ariannol tuag at gostau yn ymwneud ag anabledd ymgeisydd yn cael ei gwmpasu gan reolau gwariant a rhoddion etholiadol, a ph'un a ddylai unrhyw eithriadau cyfreithiol gael eu datblygu, fel yn achos Cronfeydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban.
Cwestiwn 20 (iii): Argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â chynnal a gweinyddu etholiadau.
Rydym yn cefnogi argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn gryf o ran symleiddio, rhesymoli a chyfuno cyfraith etholiadol. Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith eisoes wedi cael eu cefnogi gan y mwyafrif helaeth o randdeiliaid etholiadol.
Byddai cyfraith etholiadol gliriach a mwy cyfredol, sydd wedi'i threfnu'n well, ac sy'n addas at y diben o ran yr etholiadau a gynhelir heddiw o fudd i bawb sydd ynghlwm wrth y broses etholiadol. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (sy'n llunio'r ddeddfwriaeth berthnasol), Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau (a'u staff), ymgeiswyr, ymgyrchwyr a phleidleiswyr.
O 1 Ebrill, gwnaeth cymhwysedd deddfwriaethol i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith o ran etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac etholiadau llywodraeth leol a refferenda yng Nghymru drosglwyddo i'r Cynulliad. Yn ein hadroddiad ar etholiadau llywodraeth leol yn 2017, gwnaethom alw am i argymhellion Comisiwn y Gyfraith gael eu rhoi ar waith yng Nghymru pan gaiff y
pwerau hyn eu datganoli. O ystyried buddiannau diwygiadau, a'r risgiau ynghlwm
wrth barhau i gynnal etholiadau o dan y gyfraith bresennol, credwn y dylai'r
argymhellion hyn gael eu gweithredu cyn gynted a phosibl.
Dim ond drwy ddeddfwriaeth sylfaenol (h.y. drwy Ddeddf y Cynulliad) y gall rhai o argymhellion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad gael eu gweithredu. Gall argymhellion eraill gael eu rhoi ar waith gan Weinidogion Cymru gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud isddeddfwriaeth ynghylch etholiadau'r Cynulliad o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i disodlwyd gan adran 5 o Ddeddf Cymru 2017). Yn ein barn ni, mae'r cyfuniad hwn o bwerau llunio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn
debygol o fod yn ddigonol i'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru, fel sy'n berthnasol, weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith sy'n berthnasol i etholiadau'r Cynulliad, heb fod angen y ddarpariaeth alluogi a awgrymir ar dudalen 43 o'r ddogfen ymgynghori.
Byddem yn fwy na pharod i helpu i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.
A ddylai'r Cynulliad fod â hyblygrwydd i benderfynu ar ei drefniadau mewnol?
Cwestiwn 21: A ddylid diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori hon, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Cynulliad benderfynu ar ei arferion a'i drefniadau gwaith ei hun drwy gyfrwng ei weithdrefnau mewnol yn hytrach na thrwy gyfrwng deddfwriaeth?
Nid yw'r Comisiwn yn arddel unrhyw farn ar y mater hwn.
Pa effaith allai'r cynigion hyn eu cael[sic]?
Cwestiwn 22: A ddylid diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori hon, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Cynulliad benderfynu ar ei arferion a'i drefniadau gwaith ei hun drwy gyfrwng ei weithdrefnau mewnol yn hytrach na thrwy gyfrwng deddfwriaeth?
Cwestiwn 23: A fyddai unrhyw rai o'r cynigion yn y papur hwn yn achosi i) costau neu ii) fanteision i chi neu i'ch sefydliad nad ydych wedi cyfeirio atynt eisoes yn eich ymateb i'r ymgynghoriad hwn? Os felly, beth fyddai'r costau neu'r manteision hynny?
Gweler yr ymatebion blaenorol.
Atodiad
Cofrestru Etholiadol
Yn ein hadroddiad ar etholiad cyffredinol Senedd y DU a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2017 gwnaethom amlinellu ein barn ar ddiwygio'r broses cofrestru etholiadol.
Gwnaethom ddweud ein bod am weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled y DU
- er mwyn ystyried opsiynau i alluogi pobl i wneud cais i gofrestru i bleidleisio wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein eraill gan gynnwys, er enghraifft, wrth wneud cais am drwydded yrru neu basbort neu wrth gyflwyno ffurflenni treth.
- gwella cyfleoedd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gafael ar ddata oddi wrth ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill – yn enwedig lle caiff y data hynny eu cadw gan ddarparwyr cenedlaethol yn hytrach na darparwyr lleol – er mwyn eu galluogi i dargedu eu gweithgareddau gydag etholwyr newydd neu'r sawl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar.
- archwilio sut y gallai dull mwy integredig o gofrestru pleidleiswyr gynnwys mwy o ddefnydd o gofrestru uniongyrchol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol, neu brosesau cofrestru mwy awtomatig (er enghraifft, cofrestru pobl ifanc yn uniongyrchol wrth iddynt gael rhif yswiriant gwladol).
Gwella a moderneiddio'r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer etholiadau
Fel rhan o'n gwaith yn adolygu cyfraith etholiadol yn barhaus, mae'r Comisiwn wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch gwella a moderneiddio'r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer etholiadau. Yn dilyn datganoli pwerau yn Neddf Cymru 2017, cynghorwn y dylai Comisiwn y Cynulliad ystyried y newidiadau canlynol wrth ddeddfu ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.
Tryloywder ymgyrchu ar-lein
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd twf yn y defnydd o dechnegau ymgyrchu digidol ac ar-lein mewn etholiadau, gan gynnwys ffyrdd mwyfwy soffistigedig o ddefnyddio data, negeseuon mwy personol sydd wedi'u targedu, a gallu ymgyrchwyr i gyrraedd mwy o bleidleiswyr, am lai o gost nag erioed.
Gall pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eraill benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r technegau ymgyrchu sydd ar gael iddynt ac ni ddylai'r rheolau ar ymgyrchu atal ymgyrchu cyfreithlon a ganiateir. Fodd bynnag, ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn ac y cynhelir tryloywder priodol o wariant ar ymgyrchu er mwyn sicrhau hyder pleidleiswyr yn y rheolau cyllid gwleidyddol.
Er bod gwariant ar ymgyrchu ar-lein yn destun rheoleiddio yn yr un modd â dulliau ymgyrchu mwy traddodiadol eraill, mae'n cyflwyno rhai heriau rheoleiddio penodol. Rydym am sicrhau bod y gyfraith etholiadol yn adlewyrchu'n briodol newidiadau mewn technegau ymgyrchu, ac rydym wedi gwneud sawl argymhelliad ar gyfer gwelliannau ar ôl etholiadau blaenorol.
Argymhellwn y gwelliannau canlynol i'r rheolau presennol ar ymgyrchu yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Argraffnodau ar ddeunydd digidol
Dylai fod yn ofynnol i ddeunydd ymgyrchu ar-lein a gynhyrchir gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau – fel y deunydd argraffedig cyfatebol – gynnwys argraffnod sy'n dweud pwy sydd wedi'i gyhoeddi. Byddai hyn yn galluogi pleidleiswyr i nodi pwy sy'n gwario arian er mwyn ceisio dylanwadu arnynt mewn etholiadau. Cyflwynwyd darpariaeth o'r fath yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 2014, a byddem yn croesawu'r cyfle i drafod sut y gellid cyflwyno darpariaeth debyg ar gyfer etholiadau'r Cynulliad gyda Chomisiwn y Cynulliad.
Adrodd ar ymgyrchu digidol a mathau eraill o ymgyrchu
Rhaid i bleidiau, ymgeiswyr ac ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau'r Cynulliad adrodd ar eu gwariant gan ddefnyddio categorïau rhagnodedig. Nid yw'r broses adrodd yn erbyn y categorïau hyn yn ddigon manwl i greu darlun cynrychioliadol o'r hyn a gaiff ei wario ar ymgyrchu digidol mewn gwirionedd. Dylai fod gan bleidleiswyr hawl i ddisgwyl yr un tryloywder ynghylch gwariant gan ymgyrchwyr mewn etholiadau, ni waeth a yw'r gwariant yn ymwneud â hysbysebu ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol neu fathau mwy cyfarwydd eraill o hysbysebion gwleidyddol fel taflenni a bilfyrddau. Felly, dylid gwella'r rheolau drwy sicrhau bod ymgyrchwyr yn rhoi dadansoddiad manylach o wariant, gan gynnwys ar fathau gwahanol o hysbysebion, megis deunydd hyrwyddo ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Codau ymarfer
O dan PPERA, caiff y Comisiwn Etholiadol baratoi Cod statudol ar dreuliau cymwys pleidiau gwleidyddol, ac o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 caiff lunio Cod statudol ar dreuliau etholiadol ymgeiswyr. Rhaid i'r Cod gael ei gymeradwyo gan y Senedd.
Mae gennym ddiddordeb yn y posibilrwydd o lunio Codau ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Deallwn fod angen i'r pŵer i'r Comisiwn Etholiadol baratoi Codau ar gyfer etholiadau'r Cynulliad gael ei egluro o hyd fel rhan o'r broses o roi Deddf Cymru 2017 ar waith, ynghyd a'r broses gysylltiedig o drosglwyddo pwerau.
Drwy greu cod ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr, byddai modd inni fynd i'r afael a meysydd o gyfraith etholiadol lle mae'r gyfraith yn caniatáu rhoi cyfrif am wariant etholiadol mewn mwy nag un ffordd ar hyn o bryd. Bydd canlyniadau'r cod yn gwella tryloywder a gorfodadwyedd y gyfraith, a byddai'n arwain at fwy o hyder ymhlith y cyhoedd yn y rheolau ar wariant etholiadol.
Gwariant ar amser staff ar gyfer pleidiau gwleidyddol
Nid yw'r rheolau gwariant etholiadol yn rhoi tryloywder a therfynau digonol ar yr arian mae pleidiau gwleidyddol yn ei wario ar staffio eu hymgyrchoedd etholiadol. Mae'r arian sy'n cael ei wario ar weithgarwch megis cynhyrchu deunydd ymgyrchu neu ymchwil i'r farchnad yn cael ei reoleiddio. Ond mae llawer o gostau staffio pleidiau wedi'u heithrio rhag y rheolau, pan fo costau staffio ymgeiswyr ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wedi'u cynnwys. Rydym wedi argymell y dylid ymdrin â'r anghysondeb hwn er lles tryloywder a sicrhau bod gwariant etholiadol perthnasol yn cael ei reoli gan derfynau gwariant.
Cynyddu pwerau rheoleiddio a gosod sancsiynau'r Comisiwn
Ers 2010 bu gennym bwerau ymchwilio a gosod sancsiynau yn ymwneud â'r rhan fwyaf o'r rhwymedigaethau a nodir yn PPERA ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Cyflwynodd y pwerau sancsiynau sifil becyn cymorth o fesurau y gellid ei ddefnyddio i fynd i'r afael a diffyg cydymffurfiaeth, ac erlyniad troseddol oedd yr unig opsiwn ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg
cydymffurfiaeth o hyd. Mae ein sancsiynau'n cynnwys hysbysiadau cydymffurfio, cosbau ariannol penodedig o £200 a chosbau ariannol amrywiol hyd at uchafswm o £20,000. Gellid dadlau o blaid adolygu'r cap presennol a'i gynyddu'n sylweddol, fel y gallwn osod sancsiynau sy'n gymesur a'r symiau o arian y mae ymgyrchwyr mawr yn eu codi ac yn eu gwario ar etholiadau.
Er bod y Comisiwn yn gyfrifol am orfodi'r rheolau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, ar hyn o bryd, yr heddlu ac awdurdodau erlyn sy'n gyfrifol am orfodi'r rheolau ar gyfer ymgeiswyr ac ymchwilio i achosion o'u torri. Rydym wedi argymell y dylai ein pwerau ymchwilio a gosod sancsiynau gael eu hymestyn i droseddau sy'n ymwneud a gwariant ymgeiswyr a rhoddion yn etholiadau'r Cynulliad. Byddai'r newid hwn yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau ac yn atgyfnerthu ymddiriedaeth y pleidleiswyr yn y system reoleiddio. Byddai hyn hefyd yn sicrhau bod pleidiau ac ymgeiswyr yn destun yr un sancsiynau os nad ydynt yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.
Cofrestru enwau a disgrifiadau pleidiau i'w defnyddio ar bapurau pleidleisio
Rydym yn parhau i argymell, lle y bo ymgeisydd yn cynrychioli plaid wleidyddol ar bapur pleidleisio, y dylai fod yn glir i bleidleiswyr pa blaid y mae'r ymgeiswyr yn ei chynrychioli. Mae'r darpariaethau cyfreithiol ar gyfer cofrestru disgrifiadau pleidiau yn peri risg y caiff pleidleiswyr eu drysu ac yn cyfyngu ar gyfranogiad pleidiau gwleidyddol. Byddem yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad er mwyn diwygio'r darpariaethau ar gyfer enwau a disgrifiadau pleidiau.
Tryloywder a hygyrchedd gwariant ymgeiswyr
Er mwyn gwneud ffurflenni gwariant ymgeiswyr yn fwy tryloyw a hygyrch, rydym wedi argymell yn y gorffennol y dylai fod yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau gyhoeddi ffurflenni gwariant ar-lein yn ogystal â thrwy'r dulliau presennol o archwilio gan y cyhoedd. Tynnwn sylw at adolygiad Comisiwn y Gyfraith o Gyfraith Etholiadol sy'n cynnig dull o roi'r newid hwn ar waith drwy ddeddfwriaeth (yn argymhelliad 12-5).
Hygyrchedd etholiadau
Ni ddylai fod unrhyw rwystrau i bleidleisio ar gyfer pobl ag anableddau a dylai fod gan bawb hawl i bleidleisio ar eu pen eu hunain ac yn gyfrinachol.
Yn dilyn etholiad Senedd y DU ym mis Mehefin 2017, gofynnodd y Comisiwn Etholiadol i bleidleiswyr ag anableddau am eu profiadau o bleidleisio yn yr etholiad a gofynnodd iddynt beth y byddent am ei weld yn newid er mwyn ei gwneud yn haws i gofrestru i bleidleisio ac i bleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol. Roedd ein hadroddiad ar y canfyddiadau hyn, Etholiadau i Bawb4
, yn cynnwys yr argymhellion
canlynol ar gyfer llywodraethau er mwyn gwneud etholiadau yn fwy hygyrch yn seiliedig ar brofiadau pleidleiswyr ag anableddau:
- Newidiadau i ffurflenni etholiadol: Dywedodd llawer o bobl ag anableddau dysgu wrthym fod ffurflenni etholiadol – gan gynnwys ffurflenni cofrestru, cardiau pleidleisio a phecynnau Pleidleisio drwy’r post – yn ddryslyd ac yn llawn jargon. Dywedodd pobl eraill ag anableddau eu bod yn ei chael hi'n anodd darllen ffurflenni nad oeddent mewn print bras neu lle'r oedd testun du ar gefndir gwyn. Byddai'r Comisiwn yn cefnogi adolygiad o ffurflenni etholiadol statudol er mwyn sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl.
- Ehangu'r ystod o bobl a all gynorthwyo pleidleiswyr ag anableddau pan fyddant yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio: Dywedodd rhai pobl ag anableddau wrthym fod y rheolau o ran pwy all eu cynorthwyo yn rhy gyfyngedig ac yn gallu ei gwneud yn anodd iddynt ddod o hyd i rywun i'w cynorthwyo. Mae'r Comisiwn o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r ddeddfwriaeth er mwyn
cynnig mwy o ddewis i bobl ag anableddau o ran pwy sy'n eu cynorthwyo. - Mwy o hyblygrwydd a dewis o ran dulliau o bleidleisio: Awgrymodd y sawl a ymatebodd i'n harolwg y dylai fod ystod ehangach o ddulliau o bleidleisio er mwyn sicrhau bod pobl ag anableddau yn gallu dewis ffordd o bleidleisio sy'n diwallu eu hanghenion. Byddai hyn yn cynnwys pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio symudol mewn ysbytai, cartrefi nyrsio, cartrefi gofal neu'r rhai a leolir mewn ardaloedd anghysbell.
Yn ogystal â'r argymhellion ar gyfer llywodraethau, tanlinellodd pobl ag anableddau y meysydd canlynol fel rhai i'w gwella hefyd:
- Gwybodaeth wedi'i darparu gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr: Codwyd pryderon am ddiffyg deunyddiau ymgyrchu a maniffestos hygyrch, yn enwedig mewn fformat hawdd ei ddarllen. Galwodd ymatebwyr ar i bleidiau gwleidyddol sicrhau bod eu maniffestos hygyrch ar gael ar yr un pryd â'u maniffestos eraill ac mewn da bryd er mwyn i bobl allu eu darllen cyn iddynt bleidleisio.
- Rôl gweinyddwyr etholiadol: Dywedodd pleidleiswyr ag anableddau wrthym fod angen gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith staff etholiadol a staff gorsafoedd pleidleisio o'r cymorth sydd ar gael i bobl bleidleisio'n annibynnol. Mae hyn yn cynnwys argaeledd fersiynau hygyrch o ffurflenni etholiadol a chymhorthion pleidleisio, fel templed pleidleisio cyffyrddadwy.
- Rôl gofalwyr a gweithwyr cymorth: Dywedodd pleidleiswyr ag anableddau wrthym fod angen gwell gwybodaeth mewn gwasanaethau gofal er mwyn addysgu gweithwyr cymorth am hawliau pleidleisio pobl anabl a sut y gallant gael cymorth i bleidleisio.
Bydd y Comisiwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau anabledd a'r gymuned etholiadol yn ehangach er mwyn gwella hygyrchedd y broses cofrestru etholiadol ac etholiadau. Mewn ymgynghoriad a grwpiau hygyrchedd, byddwn hefyd yn adolygu'r canllawiau ar hygyrchedd a roddir i Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u staff.
- 1. Gorchymyn Senedd yr Alban Etholiadau etc.) 2015 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Gorchymyn Etholiadau Llywodraeth Leol yr Alban (Diwygio) (Rhif 2) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 8A i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Y Comisiwn Etholiadol, Etholiadau i Bawb, Tachwedd 2017 ↩ Back to content at footnote 4