Ymateb y Comisiwn Etholiadol i'r ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion

Overview

Mae'r ymateb hwn yn nodi ein barn ar ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hawliau pleidleisio i garcharorion. Rydym yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn fel rhan o'n rôl statudol i barhau i adolygu cyfraith etholiadol ac argymell newidiadau os credwn fod angen eu cyflwyno.

Nid oes gennym farn ynghylch p'un a ddylai fod gan garcharorion hawl i bleidleisio ai peidio. Mater polisi cyfansoddiadol yw hwn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol fod yn gyfrifol am benderfynu yn ei gylch. Felly, mae ein hymateb yn canolbwyntio ar y goblygiadau ymarferol petai carcharorion yng Nghymru yn cael yr hawl i bleidleisio.

Dylai unrhyw ddeddfwriaeth ddod i rym chwe mis cyn i'r canfas blynyddol ddechrau fan bellaf. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynllunio'r newidiadau a'u rhoi ar waith, ar gyfer y canfas ac ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.