Nifer mwyaf erioed o etholwyr etholiad cyffredinol Senedd y Du 2017, ond angen moderneiddio'r system gofrestru ar frys
Ffeithiau a ffigurau cyffredinol yr etholiad
Gwelodd etholiad cyffredinol Senedd y DU ym mis Mehefin y nifer fwyaf o bobl ar gofrestrau etholiadol ar gyfer etholiad ledled y DU, gydag amcangyfrif o 46.8 miliwn o bobl wedi cofrestru i bleidleisio, yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r ffigwr oddeutu 500,000 yn fwy o etholwyr nag ar gyfer yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2015.
Mae'r adroddiad yn canfod fod cofrestru etholiadol ar-lein wedi trawsnewid mynediad i etholiadau ym Mhrydain Fawr. Mae hyn ynghyd ag ymgyrchoedd i annog cofrestru yn y cyfnod cyn etholiadau diweddar, wedi'i anelu'n benodol at grwpiau tan gofrestredig, wedi golygu'r nifer fwyaf erioed ar gofrestrau etholiadol. Ond mae'r adroddiad hefyd yn dadlau bod angen moderneiddio pellach ar frys i wella'r gwasanaeth i bleidleiswyr, ac i leihau'r baich ar awdurdodau lleol, yn enwedig gan y nifer fawr o geisiadau cofrestru dyblyg. Mae'r Comisiwn yn awyddus i weithio gyda Llywodraethau'r DU i ddatblygu cynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod y broses gofrestru yn fwy cysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill, ac yn gyfan gwbl addas i bwrpas yn y byd sydd ohoni.
Dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r nifer o bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn dangos traddodiad cryf y DU o ymgysylltiad democrataidd, ac mae'n dangos y gwaith caled sydd wedi'i wneud gan bawb. Fodd bynnag, os ydym am gadw i fyny gydag arferion men byd digidol, ma'n rhaid i'r system gofrestru etholiadol barhau i esblygu, ac ystyried datrysiadau arloesol megis proses gofrestru uniongyrchol neu awtomatig. Mae'r potensial yma i wneud gwelliannau sylweddol i gywirdeb a chyfanrwydd cofrestrau etholiadol yn ogystal ag effeithlonrwydd ar gyfer awdurdodau lleol a phwrs y wlad.
Mae argymhellion penodol y Comisiwn yn cynnwys:
- Mae angen cymryd camau brys i leihau graddfa ac effaith gweinyddol ceisiadau cofrestru dyblyg ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol cyn etholiadau'r dyfodol. Mae'r Comisiwn am weithio gyda Llywodraethau'r DU i ymgorffori gwiriadau awtomatig i'r gwasanaeth ceisiadau ar-lein i amlygu os oes person eisoes wedi gwneud cais.
- Dylai cofrestrau etholiadol fod yn fwy cysylltiedig gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, i wneud cofrestru i bleidleisio'n symlach i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Dylai hyn gynnwys integreiddio ceisiadau i drafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill, a defnyddio data cenedlaethol y well i nodi etholwyr newydd neu'r rhain sy'n symud cartref.
- Dylid estyn cofrestru etholiadol ar-lein i Ogledd Iwerddon cyn gynted â phosibl.
- Dylid archwilio dulliau cofrestru awtomatig ymhellach, gan dynnu ar fewnwelediad gan wledydd eraill tebyg.
Mae prif ganfyddiadau'r adroddiad yn cynnwys:
- Gwnaed dros 2.9 miliwn o geisiadau i gofrestru i bleidleisio ledled y DU rhwng cyhoeddi'r etholiad ar 18 Ebrill a'r dyddiad cau ceisiadau i gofrestru ar 22 Ebrill, gan gynnwys 612,000 ar 22 Mai.
- O'r rhain, gwnaed 96% drwy'r porthol ar-lein www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
- Roedd 69% o geisiadau gan bob o dan 34, 8% gan rheiny dros 55.
- Mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn dweud bod y nifer o geisiadau dyblyg - o bobl oedd eisoes ar y gofrestr etholiadol - yn uchel, gydag amcangyfrifon yn amrywio'n fawr o 30% i 70%.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Mwy o wybodaeth
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae gan y Comisiwn Etholiadol gyfrifoldebau a swyddogaethau penodol mewn perthynas â darparu a rheoleiddio refferenda a gynhelir yn unol â PPERA, sy'n berthnasol i unrhyw Fil refferendwm sy'n dod o flaen Senedd y DU, heblaw y nodir yn benodol fel arall.
- Dyma'r cyntaf o adroddiadau statudol y Comisiwn Etholiadol ar etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiadau pellach ar hygyrchedd, barn y cyhoedd, gweinyddiaeth y bleidlais a rheoleiddio cyllid gwleidyddol y ddiweddarach eleni.
- I godi ymwybyddiaeth o etholiad cyffredinol Senedd y DU a sut i gymryd rhan, fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol gynnal ymgyrch cofrestru pleidleiswyr cyn etholiadau ar 4 Mai ac 8 Mehefin. Roedd hyn yn cynnwys hysbysebu ar y teledu, radio ac yn ddigidol.