Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Ble i ddechrau
Costau staff a gorbeinion eraill
Bydd angen i chi gynnwys costau staff, yn ogystal â gorbeinion eraill, lle maent yn ymwneud â'ch gweithgareddau a reoleiddir.
Ni fydd costau staff sy'n gysylltiedig â gweithgareddau cyffredinol eich sefydliad, nad ydynt yn ymwneud ag ymgyrchu, yn cyfrif fel gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Os oes gennych aelod o staff sy'n gweithio ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ogystal â gwaith arall eich sefydliad, bydd angen i chi gyfrif cyfran o gyflog yr aelod o staff sy'n adlewyrchu'r amser a dreuliwyd yn gweithio ar y gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Os oes gan eich sefydliad ffordd sefydledig o bennu'r costau hyn eisoes, gallwch benderfynu cyfrifo'r costau staff yr eir iddynt mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn yr un ffordd.
Ym mhob achos, dylech lunio asesiad gonest a rhesymol o'r swm rydych wedi'i wario, yn seiliedig ar y ffeithiau. Dylech allu esbonio beth mae'r asesiad yn seiliedig arno.
Enghreifftiau o gyfrifo costau staff a gorbeinion eraill:
Enghraifft 1
Mae aelod o'r staff yn amcangyfrif ei fod yn treulio hanner ei amser yn gweithio ar weithgarwch ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Rydych yn ystyried hanner yr hyn rydych yn ei dalu'r aelod o staff dan sylw yn ystod y cyfnod a reoleiddir fel gwariant a reoleiddir.
.
Eg2 staff costs - Welsh
Enghraifft 2
Rydych yn cynllunio ymgyrch ar-lein a fydd yn bodloni'r prawf diben a'r prawf cyhoeddus.
O'ch gwaith cyllidebu a'ch gweithgareddau cynllunio'r tîm, rydych wedi amcangyfrif ymlaen llaw y bydd eich tîm Ymgyrchoedd yn treulio 20% o'i amser yn gweithio arno am dri mis o'r cyfnod a reoleiddir.
Os bydd yr amcangyfrif hwn yn gywir, rydych yn cyfrif 20% o gostau'r staff ar gyfer y tîm Ymgyrchoedd am dri mis tuag at wariant yr ymgyrch ar-lein.
Eg 3 staff costs - Welsh
Enghraifft 3
Wrth gyflawni ymgyrch ganfasio, mae eich biliau ffôn yn codi.
Mae'r cynnydd o ran costau ffôn yn cyfrif tuag at eich gwariant a reoleiddir ar gyfer eich ymgyrch.
Gallech amcangyfrif y cynnydd hwn drwy edrych ar eich bil ffôn ar yr un adeg y llynedd, a chyfrifo'r arian ychwanegol rydych wedi'i wario eleni.