Mae'r rheolau ond yn berthnasol yn y cyfnod cyn etholiadau penodol. Gelwir hyn yn 'gyfnod a reoleiddir'. Os byddwch yn gwario dros drothwy ar weithgarwch a reoleiddir mewn rhan benodol o'r DU yn ystod y cyfnod hwn, mae'n rhaid i chi gofrestru â ni.
Os yw cyfanswm eich gwariant a reoleiddir yn aros islaw'r trothwyon hyn ym mhob rhan o'r DU, nid oes angen i chi gofrestru.
Rhan o'r DU
Trothwy cofrestru
Lloegr
£20,000
Yr Alban
£10,000
Cymru
£10,000
Gogledd Iwerddon
£10,000
Os bydd eich gwariant a reoleiddir yn mynd y tu hwnt i un o'r trothwyon hyn, yna bydd rheolau'n berthnasol i wariant, rhoddion ac adrodd, a bydd yn rhaid i chi gofrestru â ni. Mae'n drosedd gwario mwy na'r trothwy heb fod wedi cofrestru yn gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru â ni, gweler
Yn ogystal â hyn, cysylltwch â'n timau cynghori sydd bob amser yn hapus i roi cyngor penodol i chi ar yr angen i gofrestru.
Attributing your spending to the different parts of the UK - Welsh
Mae gan y pedair rhan o'r DU ei throthwy cofrestru neilltuol ei hun. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi briodoli eich gwariant a reoleiddir i'r rhan berthnasol o'r DU. Er enghraifft, os cynhelir eich ymgyrch yn yr Alban yn unig, yna dylid priodoli eich holl wariant i'r Alban.
Os cynhelir eich ymgyrch mewn mwy nag un rhan o'r DU, dylid priodoli cyfran berthnasol o'r gwariant i bob rhan.
Mae'n rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig briodoli eu gwariant yn unol â'r nifer o etholaethau San Steffan ym mhob rhan o'r DU. Mae'n bosibl y bydd ymgyrchwyr sydd heb gofrestru am briodoli eu gwariant yn yr un modd.
I gaeth rhagor o wybodaeth am y rheolau priodoli, gweler