Os byddwch chi neu unrhyw ymgyrchydd arall yn mynd i wariant ar y cyd mewn ymgyrch ar y cyd, yna bydd y gwariant a reoleiddir gan bob ymgyrchydd yn cyfrif tuag at gyfanswm y gwariant a reoleiddir ar gyfer y ddau ymgyrchydd.
Mae hyn er mwyn atal ymgyrchwyr rhag cyfuno eu cyfyngiadau gwario er mwyn osgoi'r rheolau.
Beth a olygwn gan wariant ar y cyd
Rydym yn cydnabod y gall ymgyrchwyr fod wedi dod ynghyd i ymgyrchu mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac y gall y rhain newid yn ystod ymgyrch.
O dan gyfraith etholiadol, ystyr gwariant ar y cyd yw gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir lle mae cynllun cyffredin neu drefniant rhwng un neu fwy o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Ni allwch fynd i wariant ar y cyd os nad ydych yn bwriadu gwario arian – er enghraifft os bydd gwaith yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr.
Mae'n annhebygol y byddwch yn mynd i wariant os ydych yn:
ymgyrchu dros yr un mater heb gynllun neu drefniant cyffredin
siarad mewn digwyddiad ymgyrchydd arall heb fod yn rhan ohono mewn unrhyw ffordd arall
cynnal trafodaethau anffurfiol gydag ymgyrchwr arall, neu'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch gilydd, mewn ffordd nad yw'n cynnwys gwneud penderfyniadau neu gydgysylltu eich cynlluniau
cymeradwyo ymgyrch arall heb ymwneud â hi'n fwy na hynny – er enghraifft os ydych yn:
llofnodi llythyr a ysgrifennwyd gan ymgyrchydd arall
ychwanegu eich brand at ymgyrch arall
cyhoeddi eich cefnogaeth dros ymgyrch arall
Rydych yn debygol o fynd i wariant ar y cyd:
os oes gennych ymgyrchoedd hysbysebu, taflenni neu ddigwyddiadau ar y cyd
os ydych yn cydgysylltu eich gweithgarwch ymgyrch a reoleiddir ag ymgyrchydd arall – er enghraifft, os ydych yn cytuno y dylai'r ddau ohonoch gwmpasu ardaloedd, dadleuon neu bleidleiswyr penodol
os gall ymgyrchydd arall gymeradwyo eich taflenni, gwefannau, neu weithgarwch ymgyrchu arall, neu os oes ganddo ddylanwad sylweddol drostynt
I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau ymgyrchu ar y cyd, gweler