Penodi Prif Weithredwr Newydd y Comisiwn Etholiadol
Diweddariad aelod o'r Bwrdd
Mae Bob Posner wedi cael ei benodi'n Brif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol, yn dilyn proses recriwtio agored.
Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn oedd Bob gynt, ac roedd wedi gwasanaethu fel prif weithredwr dros dro ers mis Ionawr, yn dilyn ymadawiad Prif Weithredwr blaenorol y Comisiwn, Claire Bassett. Mae'n dechrau yn ei swydd ar unwaith.
Dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Bob i'r swydd hon ar ôl proses recriwtio agored a chystadleuol. Mae Bob yn meddu ar wybodaeth ddwys am waith y Comisiwn ac ymrwymiad clir i wasanaethu buddiannau pleidleiswyr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol y DU a'n prosesau democrataidd wedi wynebu amrywiaeth ddigynsail o heriau cymhleth. Mae Bob yn cynnig sefydlogrwydd a pharhad gwerthfawr yn y cyfnod hwn o ansicrwydd ond, yn bwysicaf oll, mae ganddo uchelgais clir ar gyfer llwyddiant hirdymor y Comisiwn wrth gyflawni ei gynlluniau a'i flaenoriaethau. Mae'r Bwrdd a minnau'n edrych ymlaen at barhau â'n gwaith gydag ef i'r perwyl hwn.
Dywedodd Bob Posner:
Mae'n fraint ac yn gyfrifoldeb bod yn Brif Weithredwr corff sy'n rhan annatod o ddemocratiaeth yn y DU. Rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod y Comisiwn Etholiadol yn cyflawni ei ddyletswyddau pwysig ac yn cydweithio ag eraill i ddatblygu cynlluniau sy'n cynnal ac yn atgyfnerthu etholiadau rhydd a theg, gyda thryloywder o ran cyllid gwleidyddol.
Ymunodd Bob â'r Comisiwn Etholiadol yn 2007 ac mae ganddo brofiad helaeth dros flynyddoedd lawer ym maes cydymffurfiaeth reoliadol a chynghori ar gyfraith gyhoeddus. Mae'n fargyfreithiwr, roedd yn swyddog canlyniadau mewn nifer o etholiadau tra oedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr mewn llywodraeth leol, mae ganddo radd Meistr mewn rheoli busnes ac mae'n un o gyd-olygyddion Schofield's Election Law.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Gadawodd Claire Bassett y Comisiwn ddiwedd 2018 ar ôl cael ei phenodi i'r Adran Masnach Rhyngwladol fel Darpar Brif Weithredwr yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach newydd. Mae rhagor o fanylion am y cyhoeddiad hwnnw ar gael yn y datganiad i'r cyfryngau cysylltiedig.
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.