Penodi tri Chomisiynydd newydd i Fwrdd y Comisiwn Etholiadol
Diweddariad aelod o'r Bwrdd
Mae tri Chomisiynydd newydd wedi'u henwebu gan bleidiau gwleidyddol wedi'u cymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin i fod ar Fwrdd y Comisiwn Etholiadol. Bydd y Comisiynwyr newydd yn dod yn lle unigolion y mae eu tymor wedi dod i ben.
- Mae'r Arglwydd Gilbert o Banteg, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Cyfathrebu Tŷ'r Arglwyddi, wedi'i gymeradwyo fel Comisiynydd enwebwyd gan y Blaid Geidwadol. Mae'n dod yn lle Arglwydd Horam o'r blaid Geidwadol.
- Mae Joan Walley, cyn AS Llafur dros Ogledd Stoke on Trent, wedi'i chymeradwyo fel Comisiynydd enwebwyd gan y Blaid Lafur. Mae hi'n dod yn lle Bridget Prentice, cyn AS Llafur a gweinidog Llywodraeth y DU.
- Mae Alastair Ross, cyn aelod y DUP o Gynulliad Gogledd Iwerddon nes 2017, wedi ei gymeradwyo fel Comisiynydd dros y pleidiau bach. Mae'n dod yn lle David Howarth, cyn AS y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae'r broses ddewis ar gyfer Comisiynwyr yn cael ei gynnal gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cynnig i benodi aelod o Fwrdd y Comisiwn yn destun ymgynghoriad gydag arweinwyr pob plaid gofrestredig sydd a dau neu fwy o ASau yn Nhŷ'r Cyffredin. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, ac o ganlyniad mae Senedd y DU wedi cymeradwyo'r cynnig i benodi'r Arglwydd Gilbert o Banteg, Joan Walley ac Alastair Ross. Bydd y penodiadau nawr yn cael eu cyflwyno i gael cydsyniad brenhinol gan y Frenhines.
Dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Rwy wrth fy modd i groesawu ein Comisiynwyr newydd, fydd yn dod â chyfoeth o brofiad o'r system etholiadol i'n trafodaethau, o sefyll mewn etholiad i wasanaethu mewn pleidiau gwleidyddol, ac ymgyrchu. Bydd hyn yn werthfawr wrth i'r Comisiwn barhau ei waith i ddiogelu buddion pleidleiswyr trwy sicrhau etholiadau rhydd a theg, rheoleiddio cyllid gwleidyddol a hyrwyddo gwell tryloywder yn ein bywyd democrataidd.
Dywedodd yr Arglwydd Gilbert o Banteg:
Wedi gweithio ym myd gwleidyddiaeth am 30 mlynedd, mae gennyf barch enfawr at y gwasanaeth cyhoeddus gwych mae gwleidyddion etholedig ac yn arbennig gwirfoddolwyr yn ein pleidiau gwleidyddol. Dylid gwerthfawrogi gwasanaeth cyhoeddus a byddaf yn bencampwr rhain, o bob cefndir gwleidyddol, sy'n camu 'mlaen ac yn brwydro dros yr hyn
maent yn credu ynddo. Rwyf wrth fy modd ac mae'n fraint cael fy mhenodi i fwrdd y Comisiwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd gomisiynwyr yn y rôl hanfodol yma yn ein democratiaeth.
Dywedodd Joan Walley:
Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi i fod yn gomisiynydd enwebedig ar yr adeg hanfodol yma. Mae ein democratiaeth seneddol yn werthfawr a dylai bara i fod felly i genedlaethau'r dyfodol. Edrychaf ymlaen at y cyfrifoldeb newydd yma a'r heriau sydd o'n blaenau.
Dywedodd Alastair Ross:
Rwy'n edrych ymlaen at gymryd y swydd a gweithio'n gadarnhaol gyda chydweithwyr ar adeg sydd mor bwysig a diddorol ar gyfer y Comisiwn Etholiadol. Mae'r dirwedd etholiadol yn newid o hyd; mae newid technolegol yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer ymgyrchu ac ymgysylltu, yn ogystal â chyflwyno heriau newydd i ddiogelu hygrededd y broses etholiadol, a sicrhau hyder y cyhoedd yn ein democratiaeth.
Mae Bwrdd y Comisiwn yn cynnwys:
- Cadeirydd;
- Pedwar Comisiynydd wedi'u henwebu gan bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn Nhŷ'r Cyffredin;
- Tri Chomisiynydd yn cynrychioli Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban; a
- Dau Gomisiynydd arall.
Mae gofyn bod aelodau Bwrdd y Comisiwn yn datgan unrhyw fuddion allai fod yn gwrthdaro gyda'u rôl yn y Comisiwn, ac mae'n rhaid iddynt hefyd ddilyn ein Cod Ymddygiad.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Caiff y broses dewis Comisiynwyr ei gynnal gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol ac mae wedi'i osod mewn cyfraith (Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000). Mae adran 5 Deddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009, wnaeth osod adran newydd 3A i PPERA, yn darparu ar gyfer cynnig pedwar person o'r Comisiynwyr Etholiadol gan arweinydd cofrestredig plaid gymwys i'w hystyried i'w penodi. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar y broses benodi ar 15 Tachwedd, sy'n cynnwys CV y tri Chomisiynydd newydd.
- Mae mwy o wybodaeth am Fwrdd y Comisiwn Etholiadol ar gael ar ein gwefan